- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
137.—(1) Pan yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth yr wybodaeth nas archwiliwyd ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, y bydd y cyfanswm sy’n debygol o fod yn daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn ariannol berthnasol yn fwy na’r cyfanswm sy’n debygol o gael ei dalu neu o fod yn daladwy i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn honno—
(a)os yw’r diffyg tebygol (“y diffyg nas archwiliwyd”) yn fwy na chyfanswm unrhyw symiau a dalwyd neu sy’n daladwy i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan reoliad 135(1) neu (2) (amcangyfrifon o ddiffygion) (“y cyfanswm rheoliad 135”), rhaid i Weinidogion Cymru dalu i’r rheolwr cynllun swm y diffyg nas archwiliwyd llai’r cyfanswm rheoliad 135;
(b)os yw’r diffyg nas archwiliwyd yn llai na’r cyfanswm rheoliad 135, nid yw swm y cyfanswm rheoliad 135 llai’r diffyg nas archwiliwyd yn daladwy o dan reoliad 135(1) neu (2), ac os talwyd y swm hwnnw eisoes, rhaid i’r rheolwr cynllun ad-dalu’r swm hwnnw i Weinidogion Cymru;
(c)os nad oedd unrhyw swm wedi ei dalu neu’n daladwy gan Weinidogion Cymru i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol o dan reoliad 135(1) neu (2), rhaid i Weinidogion Cymru dalu i’r rheolwr cynllun swm y diffyg nas archwiliwyd; a
(d)nid yw unrhyw swm yn daladwy, a dalwyd neu a oedd yn daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan reoliad 136(1) neu (2), ac os talwyd swm o’r fath eisoes, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu’r swm hwnnw i’r rheolwr cynllun.
(2) Pan yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth yr wybodaeth archwiliedig ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, fod y cyfanswm a dalwyd neu sy’n daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn berthnasol yn fwy na’r cyfanswm a dalwyd neu sy’n daladwy i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn honno—
(a)os yw’r gwahaniaeth rhwng y cyfansymiau hynny (“y diffyg archwiliedig”) yn fwy na chyfanswm unrhyw symiau a dalwyd (nad ydynt wedi eu had-dalu nac yn ad-daladwy) neu sy’n daladwy i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan baragraff (1)(a) neu (c) neu reoliad 135(1) neu (2) (“y cyfanswm nas archwiliwyd”), rhaid i Weinidogion Cymru dalu i’r rheolwr cynllun swm y diffyg archwiliedig llai’r cyfanswm nas archwiliwyd;
(b)os yw’r diffyg archwiliedig yn llai na’r cyfanswm nas archwiliwyd, nid yw swm y cyfanswm nas archwiliwyd llai’r diffyg archwiliedig yn daladwy o dan baragraffau (1)(a) neu (c) na rheoliad 135(1) neu (2), ac os talwyd y swm hwnnw eisoes, rhaid i’r rheolwr cynllun ei ad-dalu i Weinidogion Cymru;
(c)os nad oedd unrhyw swm wedi ei dalu neu’n daladwy gan Weinidogion Cymru i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol o dan baragraffau (1)(a) neu (c) neu reoliad 135(1) neu (2), rhaid i Weinidogion Cymru dalu i’r rheolwr cynllun swm y diffyg archwiliedig; a
(d)nid yw unrhyw swm yn daladwy, a dalwyd neu a oedd yn daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol o dan reoliad 136(1) neu (2) neu reoliad 138(1)(a) neu (c), ac os talwyd swm o’r fath eisoes, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu’r swm hwnnw i’r rheolwr cynllun.
(3) Pan yw’n ofynnol bod Gweinidogion Cymru, neu’r rheolwr cynllun, yn ôl fel y digwydd, yn gwneud taliad neu ad-daliad o dan baragraff (1), rhaid ei wneud cyn diwedd Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol berthnasol (“yr ail flwyddyn”) neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.
(4) Pan yw’n ofynnol bod Gweinidogion Cymru, neu’r rheolwr cynllun, yn ôl fel y digwydd, yn gwneud taliad neu ad-daliad o dan baragraff (2), rhaid ei wneud cyn diwedd Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn yr ail flwyddyn neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: