Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016.

(2Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Rhagfyr 2016.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “casein asid bwytadwy” (“edible acid casein”) yw cynnyrch llaeth a geir drwy wahanu, golchi a sychu tolch a gafwyd drwy ddefnyddio asid i waddodi llaeth sgim a/neu gynhyrchion eraill a geir o laeth ac sy’n cydymffurfio â’r safonau a nodir yn Atodlen 1;

ystyr “caseinad bwytadwy” (“edible caseinate”) yw cynnyrch llaeth a geir drwy effaith casein bwytadwy neu dolch colfran casein bwytadwy gyda chyfryngau niwtraleiddio, ac sydd wedyn yn cael ei sychu ac sy’n cydymffurfio â’r safonau a nodir yn Atodlen 2;

ystyr “casein cywair llaeth bwytadwy” (“edible rennet casein”) yw cynnyrch llaeth a geir drwy wahanu, golchi a sychu tolch llaeth sgim a/neu gynhyrchion eraill a geir o laeth; ceir y dolch drwy adwaith cywair llaeth neu ensymau tolchi eraill ac sy’n cydymffurfio â’r safonau a nodir yn Atodlen 3;

ystyr “cynnyrch casein” (“casein product”) yw casein asid bwytadwy, caseinad bwytadwy neu gasein cywair llaeth bwytadwy;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “FIC” (“FIC”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac sy’n diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004(1);

mae i “gweithredydd busnes bwyd” yr ystyr a roddir i “food business operator” yn Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor;

mae “gwerthu” (“sell”, “sale”) yn cynnwys meddu ar rywbeth i’w werthu a chynnig, dangos neu hysbysebu rhywbeth i’w werthu;

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008” (“Regulation (EC) No 1332/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor yn ymwneud ag ensymau bwyd ac sy’n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 83/417/EEC, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999, Cyfarwyddeb 2000/13/EC, Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC a Rheoliad (EC) Rhif 258/97(2).

Cwmpas

3.  Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i gaseinau a chaseinadau wedi eu bwriadu i’w gwerthu ar gyfer eu bwyta gan bobl.

Cyfyngu ar ddefnyddio caseinau a chaseinadau wrth baratoi bwyd

4.—(1Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio unrhyw gasein neu gaseinad wrth baratoi bwyd os nad yw’n cydymffurfio â’r safonau a nodir yn Atodlen 4.

(2Rhaid i berson sy’n marchnata caseinau neu gaseinadau nad ydynt yn cydymffurfio â pharagraff (1), at ddiben ac eithrio defnyddio’r caseinau neu gaseinadau wrth baratoi bwyd, ddangos yn benodol, neu awgrymu’n glir natur neu ansawdd y cynnyrch neu’r defnydd y bwriedir ei wneud ohono.

Cyfyngu cyffredinol ar farchnata cynhyrchion casein

5.—(1Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd â label sy’n cynnwys enw unrhyw gynnyrch casein, pa un a yw wedi ei gysylltu â’r pecyn neu’r cynhwysydd neu wedi ei argraffu arno ai peidio, oni chydymffurfir â’r gofynion a nodir ym mharagraff (4).

(2Ni chaiff unrhyw berson arddangos unrhyw docyn neu hysbysiad gydag unrhyw fwyd sy’n cael ei gynnig neu ei ddangos i’w werthu gan y person hwnnw, sy’n cynnwys enw unrhyw gynnyrch casein oni chydymffurfir â’r gofynion a nodir ym mharagraff (4).

(3Ni chaiff unrhyw berson gyhoeddi, na bod yn rhan o gyhoeddi, unrhyw hysbyseb am fwyd sy’n cynnwys enw cynnyrch casein oni chydymffurfir â’r gofynion a nodir ym mharagraff (4).

(4Y gofynion yw—

(a)bod y bwyd yn gynnyrch casein neu yn cynnwys cynnyrch casein; neu

(b)bod yr enw yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy’n dangos yn benodol neu’n awgrymu’n glir nad yw’r bwyd yn gynnyrch casein ac nad yw’n cynnwys cynnyrch casein.

Labelu cynhyrchion casein

6.—(1Heb leihau effaith darpariaethau FIC, ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw gynnyrch casein oni bai ei fod wedi ei farcio neu ei labelu â’r manylion a ganlyn—

(a)enw’r cynnyrch casein hwnnw fel y’i diffinnir yn rheoliad 2 ac, yn achos caseinadau bwytadwy, gan ddangos y cation neu gationau a restrir ym mharagraff 4 o Atodlen 2;

(b)yn achos cynhyrchion casein sy’n cael eu gwerthu fel cymysgeddau—

(i)y geiriau “mixture of” wedi eu dilyn gan enwau’r cynhyrchion casein sydd yn y cymysgedd, yn nhrefn ddisgynnol eu pwysau;

(ii)yn achos caseinadau bwytadwy, gan ddangos y cation neu gationau a restrir ym mharagraff 4 o Atodlen 2;

(iii)yn achos cymysgeddau sy’n cynnwys caseinadau bwytadwy, y cynnwys protein;

(c)pwysau net y cynnyrch casein, wedi ei fynegi mewn cilogramau neu gramau;

(d)enw neu enw busnes a chyfeiriad y gweithredydd busnes bwyd y marchnetir y cynnyrch o dan ei enw neu ei enw busnes, neu, os nad yw’r gweithredydd busnes bwyd hwnnw wedi ei sefydlu yn yr Undeb Ewropeaidd, enw neu enw busnes a chyfeiriad y sawl a’i mewnforiodd i farchnad yr Undeb Ewropeaidd;

(e)yn achos cynnyrch casein wedi ei fewnforio o wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, enw gwlad tarddiad y cynnyrch; ac

(f)lot adnabod y cynnyrch casein neu’r dyddiad cynhyrchu.

(2Rhaid i’r manylion y mae paragraff (1) yn eu gwneud yn ofynnol fod yn hawdd i’w gweld, yn glir i’w darllen, yn annileadwy ac wedi eu rhoi yn Saesneg, naill ai yn unig neu yn ogystal ag unrhyw iaith arall.

(3Caniateir rhoi’r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b)(iii), (c), (d) ac (e) mewn dogfen sy’n cyd-fynd â’r cynnyrch.

(4Heb leihau effaith darpariaethau FIC, pan fo cynnwys protein llaeth unrhyw gynnyrch casein dros y lleiafswm a nodir ar gyfer y cynnyrch hwnnw—

(a)yng nghofnod 2 o’r tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 1 mewn perthynas â chaseinau asid bwytadwy;

(b)yng nghofnod 2 o’r tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 2 mewn perthynas â chaseinadau bwytadwy; neu

(c)yng nghofnod 2 o’r tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 3 mewn perthynas â chasein cywair llaeth bwytadwy,

caiff person farcio’r ffaith ar becyn, label neu gynhwysydd y cynnyrch hwnnw.

(5Pan fo cynnyrch casein sydd wedi ei farcio neu ei labelu ag “edible acid casein” yn unol â pharagraff (1)(a) yn cael ei farcio neu ei labelu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, rhaid defnyddio’r geiriau “casein asid bwytadwy”.

(6Pan fo cynnyrch casein sydd wedi ei farcio neu ei labelu ag “edible caseinate” yn unol â pharagraff (1)(a) yn cael ei farcio neu ei labelu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, rhaid defnyddio’r geiriau “caseinad bwytadwy”.

(7Pan fo cynnyrch casein sydd wedi ei farcio neu ei labelu ag “edible rennet casein” yn unol â pharagraff (1)(a) yn cael ei farcio neu ei labelu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, rhaid defnyddio’r geiriau “casein cywair llaeth bwytadwy”.

(8Pan fo cynnyrch casein sydd wedi ei farcio neu ei labelu â “mixture of” yn unol â pharagraff (1)(b)(i) yn cael ei farcio neu ei labelu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, rhaid defnyddio’r geiriau “cymysgedd o” wedi eu dilyn gan enwau’r cynhyrchion casein sydd yn y cymysgedd, yn nhrefn ddisgynnol eu pwysau.

Gorfodi

7.  Dyletswydd awdurdod bwyd o fewn ei ardal ac awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth yw gorfodi’r Rheoliadau hyn.

Cymhwyso ac addasu darpariaethau’r Ddeddf

8.—(1Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 5 at ddibenion—

(a)galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau rheoliadau 4, 5, neu 6; a

(b)gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), yn drosedd.

(2Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 5 yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(3Nid yw paragraffau (1) a (2) yn lleihau effaith cymhwyso’r Ddeddf at y Rheoliadau hyn at ddibenion ac eithrio’r rhai a bennir ym mharagraff (1).

Dirymiadau

9.  Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau 1985(3);

(b)Rheoliadau Caseinau a Chaseinedau (Diwygio) 1989(4).

Rebecca Evans

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

20 Tachwedd 2016

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill