Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 255 (Cy. 89)

Amaethyddiaeth, Cymru

Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016

Gwnaed

1 Mawrth 2016

Yn dod i rym

1 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 2(1), 2(5), 16(1) a 17(1) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014(1) (“y Ddeddf”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn unol ag adran 2(6) o’r Ddeddf.

Mae drafft o’r Gorchymyn hwn wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 17(2) o’r Ddeddf.

Enwi a chychwyn

1.—(1)  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2016.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “aelod addysg annibynnol” (independent education member”) yw person sy’n meddu ar brofiad, gwybodaeth neu arbenigedd ym maes addysg;

ystyr “aelod amaethyddiaeth annibynnol” (“independent agriculture member”) yw person sy’n meddu ar brofiad, gwybodaeth neu arbenigedd ym maes amaethyddiaeth;

ystyr “aelodau annibynnol” (“independent members”) yw’r ddau aelod o’r Panel sy’n cynnwys yr aelod amaethyddiaeth annibynnol a’r aelod addysg annibynnol;

ystyr “aelodau cynrychioliadol” (“representative members”) yw’r pedwar aelod o’r Panel a ddetholir gan, ac o blith, aelodau’r sefydliadau a nodir yn erthygl 5(1)(d) i (f);

ystyr “Cod Ymarfer ar Benodiadau Cyhoeddus” (“Public Appointments Code of Practice”) yw’r Cod Ymarfer ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus a gyhoeddwyd ar 1 Ebrill 2012 gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, drwy gyflawni ei ddyletswyddau fel y’u nodwyd yn y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ar Benodiadau Cyhoeddus 2002 (fel y’i diwygir);

ystyr “y dyddiad sefydlu” (“the establishment day”) yw 1 Ebrill 2016;

ystyr “LANTRA” yw’r cwmni, neu unrhyw sefydliad sy’n ei olynu beth bynnag fo’i enw, sydd â’i gyfeiriad swyddfa gofrestredig yn Lantra House, Stoneleigh Park, Swydd Warwick, CV8 2LG ac sydd â’r rhif cofrestru cwmni 02823181 yng Nghymru a Lloegr;

ystyr “y Panel” (“the Panel”) yw’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru;

ystyr “UNITE” yw Unite yr Undeb sydd â’i swyddfa gofrestredig yn Unite House, 128 Theobald’s Road, Holborn, Llundain, WC1X 8TN ac sydd wedi ei chofnodi ar restr y Swyddog Ardystio yn unol ag adrannau 2 i 4 ac adrannau 123 i 125 o Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992(2) neu unrhyw sefydliad sy’n ei holynu beth bynnag fo’i enw.

Sefydlu’r Panel a’i swyddogaethau

3.—(1)  Ar y dyddiad sefydlu bydd y Panel yn cael ei sefydlu.

(2Swyddogaethau’r Panel yw—

(a)hybu gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth;

(b)llunio gorchmynion cyflogau amaethyddol ar ffurf ddrafft, ymgynghori ar y gorchmynion hynny a’u cyflwyno i Weinidogion Cymru i’w cymeradwyo; ac

(c)cynghori Gweinidogion Cymru ar unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â’r sector amaethyddol yng Nghymru sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

Cadeirydd y Panel

4.  Rhaid i berson i gadeirio’r Panel (“cadeirydd y Panel”) gael ei benodi gan Weinidogion Cymru yn unol â’r Cod Ymarfer ar Benodiadau Cyhoeddus.

Aelodaeth y Panel

5.—(1Mae’r Panel i gynnwys saith o aelodau, ac o blith y rheini—

(a)bydd un yn cadeirio’r Panel;

(b)bydd un yn aelod amaethyddiaeth annibynnol a benodir yn unol â pharagraff (3);

(c)bydd un yn aelod addysg annibynnol a benodir yn unol â pharagraff (3);

(d)bydd dau yn cael eu dethol gan, ac o blith, aelodau UNITE i gynrychioli buddiannau gweithwyr amaethyddol;

(e)bydd un yn cael ei ddethol gan, ac o blith, aelodau Undeb Amaethwyr Cymru neu unrhyw sefydliad sy’n ei holynu beth bynnag fo’i enw;

(f)bydd un yn cael ei ddethol gan, ac o blith, aelodau Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr neu unrhyw sefydliad sy’n ei holynu beth bynnag fo’i enw.

(2Rhaid i’r aelodau annibynnol gael eu penodi gan Weinidogion Cymru yn unol â’r Cod Ymarfer ar Benodiadau Cyhoeddus.

(3Wrth benodi cadeirydd y Panel neu aelod annibynnol, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ba mor ddymunol fyddai—

(a)penodi person sy’n meddu ar brofiad o fater, ac sydd wedi dangos gallu mewn mater, sydd yn berthnasol i arfer swyddogaethau’r Panel; a

(b)sicrhau bod amrywiaeth o sgiliau a phrofiad ar gael ymhlith aelodau’r Panel.

(4Bydd aelodau’r Panel a ddetholir o dan baragraffau (1)(e) a (f) yn cynrychioli buddiannau personau sy’n cyflogi gweithwyr amaethyddol.

Penodi’r aelodau cyntaf

6.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru benodi cadeirydd cyntaf y Panel a’r aelodau annibynnol cyntaf cyn y dyddiad sefydlu, a’r penodiadau hynny yn cymryd effaith ar y dyddiad sefydlu; ond ni fydd unrhyw benodiad yn cael ei drin fel penodiad annilys dim ond oherwydd methu â gwneud y penodiadau yn unol â’r erthygl hon.

(2(2) Rhaid i bob aelod cynrychioliadol cyntaf fod wedi ei ddethol gan y sefydliad priodol cyn y dyddiad sefydlu a rhaid i bob detholiad gymryd effaith ar y dyddiad sefydlu; ond ni chaniateir trin unrhyw ddetholiad fel detholiad annilys dim ond oherwydd methu â gwneud y penodiadau yn unol â’r erthygl hon.

Telerau penodi a dethol

7.—(1Bydd cadeirydd y Panel a’r aelodau annibynnol—

(a)yn dal y swyddi hynny am gyfnod o bedair blynedd o’r dyddiad y’u penodir gan Weinidogion Cymru; a

(b)ym mhob cyswllt arall yn dal ac yn gadael eu swyddi yn ddarostyngedig i’r Gorchymyn hwn ac yn unol â thelerau eu penodi.

(2Bydd yr aelodau cynrychioliadol—

(a)yn dal y swyddi hynny am gyfnod o bedair blynedd o’r dyddiad y’u detholir gan eu priod sefydliadau; a

(b)ym mhob cyswllt arall yn dal ac yn gadael eu swyddi yn ddarostyngedig i’r Gorchymyn hwn ac yn unol â thelerau eu penodi.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ddiswyddo unrhyw aelod o’r Panel, gan gynnwys cadeirydd y Panel, os ydynt wedi eu bodloni bod yr aelod o’r Panel—

(a)heb esgus rhesymol, heb gydymffurfio â’r telerau penodi neu’r telerau dethol; neu

(b)yn methu â chyflawni ei swyddogaethau neu’n an-ffit i gyflawni ei swyddogaethau neu fel arall yn anaddas i barhau yn aelod o’r Panel.

(4Mae diswyddo aelod o’r Panel gan Weinidogion Cymru yn cymryd effaith ar unwaith, oni nodir fel arall yn yr hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Weinidogion Cymru.

(5Bydd aelod o’r Panel, ar ôl peidio â dal ei swydd ar y Panel, yn gymwys i’w ail-benodi neu ei ail-ddethol yn ddarostyngedig i baragraff (6).

(6Ni chaiff person fod yn aelod o’r Panel—

(a)am gyfnod sy’n hwy nag wyth mlynedd, pa un a yw’r cyfnod hwnnw yn un parhaus ai peidio; neu

(b)os yw’r person hwnnw wedi ei ddiswyddo o fod yn aelod o’r Panel gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (3).

Ymddiswyddo

8.—(1Caiff cadeirydd y Panel, drwy roi o leiaf ddau fis o rybudd ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, ymddiswyddo o’r swydd honno, a bydd yn peidio â bod yn aelod o’r Panel pan ddaw’r cyfnod rhybudd hwnnw i ben.

(2Caiff unrhyw aelod o’r Panel, nad yw’n gadeirydd y Panel, drwy roi o leiaf ddau fis o rybudd ysgrifenedig i gadeirydd y Panel, ymddiswyddo o’r swydd honno, a bydd yn peidio â bod yn aelod o’r Panel pan ddaw’r cyfnod rhybudd hwnnw i ben.

(3Ar ôl cael rhybudd ymddiswyddo gan aelod annibynnol, rhaid i gadeirydd y Panel hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(4Pan fo cadeirydd y Panel yn ymddiswyddo, bydd cadeirydd dros dro yn cael ei ddethol gan, ac o blith, yr aelodau annibynnol, a bydd yntau yn dal ei swydd yn gadeirydd y Panel hyd nes y bydd cadeirydd newydd y Panel wedi ei benodi gan Weinidogion Cymru.

Swyddi gwag

9.  Pan fo swydd aelod o’r Panel yn wag, rhaid ei llenwi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)pan fo swydd cadeirydd y Panel neu swydd un o’r aelodau annibynnol a benodir gan Weinidogion Cymru yn wag, gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 4 neu 5,

(b)pan fo swydd un o’r aelodau cynrychioliadol yn wag, gan y sefydliad y mae swydd ei gynrychiolydd yn wag.

Cyfarfod cyntaf y Panel

10.  Rhaid i gyfarfod cyntaf y Panel gael ei gynnull gan gadeirydd y Panel cyn gynted ag y bo’n ymarferol, a dim hwyrach na 80 niwrnod ar ôl y dyddiad sefydlu.

Trafodion

11.—(1Caiff y Panel bennu ei weithdrefn ei hun yn ddarostyngedig i baragraff (2).

(2Mewn unrhyw gyfarfod o’r Panel, cworwm yw—

(a)cadeirydd y Panel;

(b)o leiaf un aelod annibynnol;

(c)o leiaf un o aelodau’r Panel a ddetholir yn unol ag erthygl 5(1)(d); a

(d)o leiaf un o aelodau’r Panel a ddetholir yn unol ag erthygl 5(1)(e) neu (f).

(3Er gwaethaf paragraff (2), mewn unrhyw gyfarfod lle nad yw cadeirydd y Panel yn bresennol, bydd cadeirydd dros dro yn cael ei ddethol gan, ac o blith, yr aelodau annibynnol sy’n bresennol. Bydd yntau’n gweithredu fel cadeirydd y Panel am gyfnod y cyfarfod, a bydd cworwm yn y cyfarfod.

(4Caiff y Panel bennu gweithdrefnau ei is-bwyllgorau neu awdurdodi ei is-bwyllgorau i bennu eu gweithdrefnau eu hunain (gan gynnwys cworwm).

(5Nid yw dilysrwydd unrhyw drafodion y Panel nac unrhyw is-bwyllgor wedi ei effeithio gan—

(a)unrhyw ddiffyg ym mhenodiad unrhyw aelod; neu

(b)unrhyw swydd wag yn aelodaeth y Panel neu is-bwyllgor.

Cyfarfodydd

12.—(1Caiff y Panel gyfarfod ar unrhyw adeg, ond rhaid iddo gyfarfod o leiaf deirgwaith ym mhob blwyddyn ariannol.

(2Rhaid i gadeirydd y Panel benderfynu pryd a lle y bydd unrhyw gyfarfod yn cael ei gynnal, a rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru am hynny.

(3Rhaid i holl aelodau’r Panel gael o leiaf un wythnos o rybudd o leoliad, amser ac agenda unrhyw gyfarfod.

(4Caiff aelod cynrychioliadol ddethol aelod arall o’i sefydliad i fynychu’r cyfarfod a phleidleisio yn ei le pan na fydd yn gallu mynychu cyfarfod o’r Panel am unrhyw reswm.

(5Rhaid cadw cofnodion o gyfarfodydd y Panel.

(6Rhaid cyflwyno cofnodion unrhyw gyfarfod o’r Panel i Weinidogion Cymru o fewn un mis calendr o gynnal y cyfarfod.

Is-bwyllgorau

13.—(1Caiff y Panel—

(a)sefydlu unrhyw is-bwyllgorau y bydd o dro i dro yn ystyried yn angenrheidiol neu’n ddymunol;

(b)cyfeirio i unrhyw is-bwyllgor y cyfryw faterion y bo o bryd i’w gilydd yn pennu; ac

(c)gofyn am gyngor gan unrhyw is-bwyllgor o’r fath er mwyn cynorthwyo’r Panel i arfer ei swyddogaethau.

(2Caiff y Panel benodi personau nad ydynt yn aelodau o’r Panel i fod yn aelodau o unrhyw is-bwyllgor, ar yr amod nad yw unrhyw is-bwyllgor o’r fath ond yn cynnwys personau nad ydynt yn aelodau o’r Panel.

(3Rhaid i’r Panel dalu i berson a benodir yn unol â pharagraff (3) unrhyw lwfansau a threuliau y bydd y Panel, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, yn penderfynu arnynt.

14.—(1Rhaid i’r Panel sefydlu is-bwyllgor parhaol, o’r enw “yr Is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant”, ddim hwyrach na chwe mis ar ôl y dyddiad sefydlu.

(2Swyddogaethau’r Is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant fydd cynghori’r Panel ar—

(a)datblygu sgiliau yn y sector amaethyddol;

(b)cyfleoedd hyfforddiant a all fod o gymorth o ran datblygu sgiliau yn y sector amaethyddol;

(c)cyfleoedd datblygu gyrfaol yn y sector amaethyddol;

(d)unrhyw faterion eraill sy’n deillio yn sgil, neu mewn cysylltiad ag is-baragraffau (a), (b) neu (c).

(3Rhaid i’r Is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant gynnwys o leiaf—

(a)yr aelodau annibynnol; a

(b)un aelod i’w ddethol gan, ac o blith, aelodau Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru; ac

(c)un aelod i’w ddethol gan gyfarwyddwr LANTRA yng Nghymru o blith staff y sefydliad hwnnw.

(4Caiff y Panel benodi unrhyw berson arall sy’n meddu ar arbenigedd, gwybodaeth neu ddealltwriaeth perthnasol o’r meysydd a nodir ym mharagraffau 2(a) i (c) uchod i fod yn aelod o’r Is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant.

(5Rhaid i’r Panel ymgynghori â’r Is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant cyn gwneud penderfyniad mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a nodir ym mharagraff (2) uchod.

Cyngor

15.—(1Caiff y Panel gael cyngor gan unrhyw sefydliad neu unigolyn.

(2Rhaid i gadeirydd y Panel ofyn am gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru cyn mynd i unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â chael y cyngor hwnnw.

Taliadau cydnabyddiaeth a lwfansau

16.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu taliadau cydnabyddiaeth i gadeirydd y Panel a’r aelodau annibynnol.

(2Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau costau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) i unrhyw aelod o’r Panel.

Blwyddyn ariannol

17.—(1Blwyddyn ariannol gyntaf y Panel yw’r cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad sefydlu ac sy’n dod i ben ar—

(a)31 Mawrth yn y flwyddyn ganlynol (os 1 Ebrill yw’r dyddiad sefydlu), neu

(b)31 Mawrth yn yr ail flwyddyn ganlynol (os nad 1 Ebrill yw’r dyddiad sefydlu).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (1), blwyddyn ariannol y Panel yw pob cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.

Adroddiad blynyddol

18.—(1Rhaid i’r Panel lunio adroddiad mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol (“adroddiad blynyddol”).

(2Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys y canlynol—

(a)crynodeb o’r camau a gymerwyd drwy arfer swyddogaethau’r Panel; a

(b)crynodeb o’r materion sy’n berthnasol i’r sector amaethyddol yng Nghymru.

(3Caiff adroddiad blynyddol hefyd gynnwys unrhyw fater arall y mae cadeirydd y Panel o’r farn ei fod yn briodol.

(4Rhaid cyflwyno adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru ddim hwyrach nag un mis calendr ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi yr adroddiad blynyddol mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol.

Rebecca Evans

Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

1 Mawrth 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn sefydlu’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (“y Panel”). Mae’r Panel yn gorff annibynnol sy’n cynghori Gweinidogion Cymru. Swyddogaethau’r Panel yw hybu gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth, llunio gorchmynion cyflogau amaethyddol ar ffurf ddrafft, ymgynghori ar y gorchmynion hynny a’u cyflwyno i Weinidogion Cymru, a chynghori Gweinidogion Cymru ar unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â’r sector amaethyddol yng Nghymru.

Mae erthygl 3 yn rhagnodi dyddiad sefydlu’r Panel.

Mae erthygl 4 yn nodi sut y bydd Gweinidogion Cymru yn penodi person i gadeirio’r Panel.

Mae erthygl 5 yn nodi y bydd gan y Panel saith o aelodau ac yn rhagnodi sut y’u penodir. Yn ogystal â’r cadeirydd, bydd dau o aelodau annibynnol a phedwar aelod arall. Bydd dau o’r pedwar aelod arall yn cael eu dethol o blith aelodau UNITE, a bydd y ddau aelod arall sy’n weddill yn cael eu dethol o blith aelodau Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr.

Mae erthygl 6 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru a’r sefydliadau a nodir yn erthygl 5 i benodi neu ddethol eu priod aelodau cyntaf o’r Panel cyn dyddiad sefydlu’r Panel.

Mae erthygl 7 yn darparu y bydd tymor swyddi aelodau’r Panel yn para am bedair blynedd ac yn esbonio sut y caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo unrhyw aelod o’r Panel. Ni chaiff unrhyw aelod o’r Panel ddal y swydd honno am gyfnod sy’n hwy na chyfanswm o wyth mlynedd.

Mae erthygl 8 yn pennu mai dim ond drwy roi o leiaf ddau fis o rybudd ysgrifenedig i Weinidogion Cymru y caiff cadeirydd y Panel ymddiswyddo. Caiff unrhyw aelod arall o’r Panel ymddiswyddo o’r Panel drwy roi o leiaf ddau fis o rybudd ysgrifenedig i gadeirydd y Panel.

Mae erthygl 9 yn rhagnodi pan fo unrhyw swydd aelod o’r Panel yn wag, fod rhaid llenwi’r swydd honno cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol drwy benodiad yn unol ag erthygl 5 gan naill ai Gweinidogion Cymru neu’r sefydliad perthnasol.

Mae erthygl 10 yn gosod dyletswydd ar gadeirydd y Panel i gynnull cyfarfod cyntaf y Panel cyn gynted ag y bo’n ymarferol, a dim hwyrach na 80 niwrnod ar ôl y dyddiad sefydlu.

Mae erthygl 11 yn ymdrin â thrafodion y Panel a’i is-bwyllgorau ac yn nodi cworwm y Panel. Caiff aelod arall o’r Panel weithredu fel cadeirydd os na fydd cadeirydd y Panel yn gallu mynychu cyfarfod.

Mae erthygl 12 yn gosod dyletswydd ar y Panel i gyfarfod o leiaf deirgwaith bob blwyddyn ariannol ac yn nodi sut y bydd aelodau yn cael eu hysbysu am gyfarfodydd sydd ar ddod, ynghyd â sut y dylid cadw cofnodion o unrhyw gyfarfod.

Mae erthygl 13 yn darparu i’r Panel y pŵer i greu is-bwyllgorau, cyfeirio materion i’r is-bwyllgorau hynny a gofyn am gyngor ganddynt.

Mae erthygl 14 yn gosod dyletswydd ar y Panel i sefydlu “Is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant” parhaol i gynghori’r panel ar, ymhlith pethau eraill, cyfleoedd datblygu sgiliau, hyfforddiant a datblygiad gyrfaol ar gyfer gweithwyr amaethyddol ac unrhyw faterion cysylltiedig eraill. Bydd Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru a’r sefydliad hyfforddiant sgiliau LANTRA ill dau yn dethol un cynrychiolydd yr un i eistedd fel aelodau o’r Is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant ynghyd â, fel nifer gofynnol lleiaf, yr aelodau annibynnol.

Mae erthygl 15 yn caniatáu i’r Panel gael cyngor gan unigolion neu sefydliadau er mwyn cynorthwyo’r Panel i arfer ei swyddogaethau, yn ddarostyngedig i ofyn am gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru os bydd unrhyw gostau’n gysylltiedig â chael y cyngor hwnnw.

Mae erthygl 16 yn galluogi Gweinidogion Cymru i dalu taliadau cydnabyddiaeth i gadeirydd y Panel a’r aelodau annibynnol. Caniateir talu lwfansau i unrhyw aelod o’r Panel mewn cysylltiad â chyflawni ei ddyletswyddau fel aelod o’r Panel, megis lwfans costau teithio a chynhaliaeth.

Mae erthygl 17 yn nodi blwyddyn ariannol gyntaf y Panel a phob blwyddyn ariannol ar ôl hynny.

Mae erthygl 18 yn gosod dyletswydd ar gadeirydd y Panel i lunio adroddiad blynyddol a fydd yn cynnwys crynodeb o waith y Panel yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol. Rhaid cyflwyno’r adroddiad i Weinidogion Cymru, ac yna bydd hwythau’n ei gyhoeddi.

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Gorchymyn hwn ar gael gan yr Adran Cyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill