Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 3Samplu a dadansoddi

Penodi dadansoddwyr amaethyddol, a’u cymwysterau

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i awdurdod gorfodi benodi un neu ragor o ddadansoddwyr amaethyddol mewn cysylltiad â’i ddyletswydd o dan reoliad 21 (dyletswydd i orfodi).

(2Bernir bod dadansoddwr amaethyddol sydd eisoes wedi ei benodi gan awdurdod gorfodi o dan adran 67(3)(b) o’r Ddeddf wedi ei benodi at ddibenion paragraff (1).

(3Rhaid i ddadansoddwr amaethyddol a benodir o dan baragraff (1) feddu’r cymwysterau a’r profiad ardystiedig a bennir ym mharagraff (4).

(4Y cymwysterau rhagnodedig ar gyfer dadansoddwr at ddibenion adran 67(5) o’r Ddeddf, i’r graddau y mae’r adran honno’n ymwneud â phorthiant i anifeiliaid, a’r cymwysterau gofynnol ar gyfer person sy’n dadansoddi bwyd anifeiliaid at ddibenion y Rheoliadau hyn yw’r canlynol—

(a)rhaid i’r dadansoddwr fod—

(i)yn Gemegydd Siartredig neu feddu Gradd Meistr mewn Dadansoddi Cemegol a ddyfarnwyd iddo gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, a

(ii)yn Gymrawd neu Aelod o’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol; a

(b)rhaid i brofiad ymarferol y dadansoddwr o archwilio bwyd anifeiliaid gael ei ardystio gan ddadansoddwr arall a benodwyd yn gyfreithlon o dan adran 67(3) o’r Ddeddf neu o dan y Rheoliadau hyn.

Gweithdrefn mewn perthynas â samplau ar gyfer eu dadansoddi

15.—(1Pan fo swyddog awdurdodedig yn cael sampl ac yn penderfynu y dylid ei dadansoddi at y diben o ganfod a oes, neu a fu, unrhyw doriad o gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig, rhaid i’r swyddog rannu’r sampl yn dair rhan, mor gyfartal o ran eu maint ag y bo modd, ac—

(a)peri bod pob rhan yn cael ei marcio, ei selio a’i chau yn y modd a ragnodir;

(b)anfon un rhan i’w dadansoddi at y dadansoddwr amaethyddol ar gyfer ardal yr awdurdod gorfodi sy’n awdurdodi’r swyddog awdurdodedig;

(c)anfon rhan arall at y person y samplwyd y deunydd yn ei fangre, neu at asiant y person hwnnw; a

(d)cadw a diogelu’r rhan sy’n weddill, fel sampl cyfeirio a seliwyd yn swyddogol.

(2Os nad yw’r person a weithgynhyrchodd unrhyw ddeunydd a samplwyd o dan y Rheoliadau hyn yn berson y dylid anfon rhan o’r sampl honno ato o dan baragraff (1), mae’r paragraff hwnnw’n cael effaith fel pe rhoddid, yn lle’r cyfeiriad at dair rhan, gyfeiriad at bedair rhan, a bod rhaid i’r swyddog awdurdodedig, o fewn pedwar diwrnod ar ddeg i’r diwrnod samplu, anfon y bedwaredd ran at y gweithgynhyrchydd, ac eithrio pan fo enw’r gweithgynhyrchydd, neu ei gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, yn anhysbys i’r swyddog, ac nad oes modd i’r swyddog, ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, ganfod yr wybodaeth honno.

(3Rhaid i’r rhan o’r sampl a anfonir at y dadansoddwr amaethyddol gael ei hanfon ynghyd â datganiad a lofnodwyd gan y swyddog awdurdodedig, yn cadarnhau bod y sampl wedi ei chymryd yn y modd a ragnodir.

(4Rhaid i’r dadansoddwr amaethyddol ddadansoddi’r rhan o’r sampl a anfonir o dan baragraff (1)(b), ac anfon tystysgrif o’r dadansoddiad at y swyddog awdurdodedig, a rhaid i’r swyddog anfon copi ohoni at—

(a)y person y samplwyd y deunydd yn ei fangre, neu at asiant y person hwnnw; a

(b)os anfonwyd rhan o’r sampl o dan baragraff (2), at y person yr anfonwyd y rhan honno ato.

(5Caiff unrhyw berson sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd y dadansoddwr amaethyddol gyflawni unrhyw ddadansoddiad y mae’n ofynnol ei wneud o dan baragraff (4).

(6Os yw’r dadansoddwr amaethyddol yr anfonwyd y sampl ato o dan baragraff (1)(b) yn penderfynu nad oes modd cyflawni dadansoddiad effeithiol o’r sampl ganddo nac o dan ei gyfarwyddyd, rhaid i’r dadansoddwr hwnnw anfon y sampl at y dadansoddwr amaethyddol ar gyfer ardal arall, ynghyd ag unrhyw ddogfennau a gafwyd gyda’r sampl, a bydd paragraff (4) wedyn yn gymwys fel pe bai’r sampl wedi ei hanfon yn wreiddiol at y dadansoddwr arall hwnnw.

Dadansoddiad eilaidd gan Gemegydd y Llywodraeth

16.—(1Pan fo rhan o sampl a anfonwyd o dan reoliad 15(1)(b) wedi ei dadansoddi ac—

(a)achos yn yr arfaeth neu wedi ei gychwyn yn erbyn person am drosedd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig; a

(b)yr erlyniad yn bwriadu cyflwyno tystiolaeth am ganlyniad y dadansoddiad o’r rhan honno o’r sampl,

mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys.

(2O ran y swyddog awdurdodedig—

(a)caiff, o’i ddewis ei hun;

(b)rhaid iddo, os gofynnir iddo gan yr erlynydd (os yw’n berson gwahanol i’r swyddog awdurdodedig); neu

(c)rhaid iddo (yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os gofynnir iddo gan y diffynnydd,

anfon y rhan o’r sampl a gadwyd at Gemegydd y Llywodraeth i’w dadansoddi.

(3Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi, yn y modd a ragnodir, y rhan o’r sampl a anfonir o dan baragraff (2) ac anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif o’r dadansoddiad, y mae’n rhaid iddi fod wedi ei llofnodi naill ai gan Gemegydd y Llywodraeth neu gan berson a awdurdodwyd ganddo.

(4Caiff unrhyw berson sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd Cemegydd y Llywodraeth gyflawni unrhyw ddadansoddiad y mae’n ofynnol ei wneud o dan baragraff (3).

(5Rhaid i’r swyddog awdurdodedig, yn union ar ôl iddo gael tystysgrif o ddadansoddiad Cemegydd y Llywodraeth, ddarparu copi ohoni i’r erlynydd (os yw’n berson gwahanol i’r swyddog awdurdodedig) ac i’r diffynnydd.

(6Pan wneir cais o dan baragraff (2)(c), caiff y swyddog awdurdodedig rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r diffynnydd, yn gofyn i’r diffynnydd dalu ffi, a bennir yn yr hysbysiad, mewn cysylltiad â’r swyddogaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), ac os nad yw’r ffi a bennir yn fwy na naill ai—

(a)y gost o gyflawni’r swyddogaethau hynny; neu

(b)y ffi briodol am gyflawni unrhyw swyddogaeth gyffelyb o dan adran 78 o’r Ddeddf,

caiff y swyddog awdurdodedig, os nad yw’r diffynnydd yn cytuno i dalu’r ffi, wrthod cydymffurfio â’r cais a wnaed o dan baragraff (2)(c).

(7Yn y rheoliad hwn—

mae “diffynnydd” (“defendant”) yn cynnwys darpar-ddiffynnydd; ac

ystyr “y ffi briodol” (“the appropriate fee”) yw pa bynnag ffi y caniateir ei phennu yn unol â darpariaethau adran 78(10) o’r Ddeddf.

Dulliau o anfon sampl derfynol

17.  Caniateir anfon sampl derfynol y mae’n ofynnol ei hanfon at berson yn unol ag—

(a)paragraff 8 o Atodiad I i Reoliad 152/2009;

(b)adran 77(1) neu (2) neu adran 78(1)(a), (2) neu (4) o’r Ddeddf; neu

(c)rheoliad 15(1), (2) neu (6) neu 16(2),

drwy unrhyw ddull addas sy’n cynnal cyfanrwydd y sampl cyn ei dadansoddi, neu drwy ei thraddodi â llaw.

Ffurf a statws tystysgrif o ddadansoddiad

18.—(1Rhaid i’r dystysgrif o ddadansoddiad o unrhyw fwyd anifeiliaid sydd i’w hanfon yn unol ag—

(a)adran 77(4) o’r Ddeddf; neu

(b)rheoliad 15(4) neu 16(3),

fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 4 a rhaid ei chwblhau yn unol â’r nodiadau yn yr Atodlen honno ac yn unol â pharagraffau 4 a 5 o Ran C o Atodiad II i Reoliad 152/2009.

(2Rhaid cymryd mewn unrhyw achos bod tystysgrif o ddadansoddiad, gan ddadansoddwr amaethyddol neu gan Gemegydd y Llywodraeth, yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir yn y dystysgrif—

(a)os cyflwynwyd copi ohoni i’r parti y’i rhoddir fel tystiolaeth yn ei erbyn ddim llai nag un diwrnod ar hugain cyn y gwrandawiad; a

(b)os nad yw’r parti y’i rhoddir fel tystiolaeth yn ei erbyn, cyn y seithfed diwrnod cyn y gwrandawiad, wedi cyflwyno i’r parti arall hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol fod y person a wnaeth y dadansoddiad yn bresennol.

(3Bernir bod unrhyw ddogfen, yr honnir ei bod yn dystysgrif o ddadansoddiad at ddibenion paragraff (2), yn dystysgrif o’r fath oni phrofir i’r gwrthwyneb.

Dadansoddiad ac eithrio yng nghwrs rheolaethau swyddogol

19.—(1Pan fo sampl o fwyd anifeiliaid i gael ei dadansoddi yn unol ag—

(a)adran 75(1) o’r Ddeddf (sampl a ddadansoddir ar gais y prynwr); neu

(b)adran 78(1) o’r Ddeddf (dadansoddi pellach gan Gemegydd y Llywodraeth) i’r graddau nad yw’r is-adran honno’n ymwneud â rheolaethau swyddogol,

rhaid dadansoddi yn y dull priodol, os oes un, a nodir yn Rheoliad 152/2009.

(2Mewn achos pan nad oes dull priodol o ddadansoddi yn Rheoliad 152/2009, rhaid cyflawni’r dadansoddiad yn y modd y cyfeirir ato yn Erthygl 11(1)(a) neu, fel y bo’n briodol, (b) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 fel y’i darllenir ynghyd â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y cynnydd yn lefel rheolaethau swyddogol ar fewnforion o fwyd anifeiliaid penodol a bwydydd penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid ac sy’n diwygio Penderfyniad 2006/504/EC(1).

Trosedd o lurgunio sampl

20.  Mae person sydd—

(a)yn llurgunio unrhyw ddeunydd er mwyn peri nad yw unrhyw sampl ohono, a gymerir neu a gyflwynir i’w dadansoddi o dan y Rheoliadau hyn, yn cynrychioli’n gywir y deunydd hwnnw; neu

(b)yn llurgunio neu’n ymyrryd ag unrhyw sampl a gymerwyd neu a gyflwynwyd i’w dadansoddi o dan y Rheoliadau hyn,

yn cyflawni trosedd.

(1)

OJ Rhif L 194, 25.7.2009, t 11. Diwygiwyd yr offeryn hwn ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 2016/24 (OJ Rhif L 8, 13.1.2016, t 1).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill