Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 2

ATODLEN 1Cyfraith Bwyd Anifeiliaid Benodedig

Rhan IV o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970, i’r graddau y mae’n ymwneud â phorthiant ar gyfer anifeiliaid
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(1), i’r graddau y maent yn ymwneud â bwyd anifeiliaid
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnyddio) (Cymru) 2016(2)
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi (Cymru) 2016
Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid
Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig(3), i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid
Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maethiad anifeiliaid(4)
Rheoliad 882/2004, i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid
Rheoliad 183/2005
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y cynnydd yn lefel rheolaethau swyddogol ar fewnforion o fwyd anifeiliaid penodol a bwydydd penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid ac sy’n diwygio Penderfyniad 2006/504/EC, i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid
Rheoliad 767/2009

Rheoliad 5

ATODLEN 2Darpariaethau Penodedig o Reoliad 183/2005

Tabl 1

Darpariaeth benodedigCrynodeb o’r pwnc
Erthygl 9(2)Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid gofrestru unrhyw sefydliad sydd o dan eu rheolaeth gyda’r awdurdod cymwys, a chyflenwi gwybodaeth berthnasol a’i diweddaru’n gyson
Erthygl 11Gwahardd gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid rhag gweithredu heb gofrestru neu, os yw’n ofynnol, heb gymeradwyaeth
Erthygl 23(1), fel y’i darllenir ynghyd ag Erthygl 24 (mesurau interim)Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid sy’n mewnforio bwyd anifeiliaid o drydydd gwledydd gydymffurfio ag amodau penodol ynglŷn â tharddiad y bwyd anifeiliaid, a diogelwch y bwyd anifeiliaid ei hunan
Erthygl 25Gofyniad bod rhaid i fwyd anifeiliaid a gynhyrchir i’w allforio i drydydd gwledydd, gan gynnwys bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, fodloni darpariaethau Erthygl 12 o Reoliad 178/2002

Tabl 2

Darpariaeth benodedigCrynodeb o’r pwnc
Erthygl 5(1), fel y’i darllenir ynghyd ag Atodiad IGofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid sy’n cymryd rhan mewn cynhyrchu sylfaenol a gweithgareddau cysylltiedig penodedig gydymffurfio â’r darpariaethau perthnasol yn Atodiad I
Erthygl 5(2), fel y’i darllenir ynghyd ag Atodiad IIGofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid ac eithrio rhai sy’n cymryd rhan mewn cynhyrchu sylfaenol a gweithgareddau cysylltiedig penodedig gydymffurfio â’r darpariaethau perthnasol yn Atodiad II
Erthygl 5(3)Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid gydymffurfio â meini prawf microbiolegol penodedig a chyrraedd targedau penodol
Erthygl 5(5), fel y’i darllenir ynghyd ag Atodiad IIIGofyniad bod rhaid i ffermwyr gydymffurfio â’r darpariaethau yn Atodiad III wrth fwydo anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd
Erthygl 5(6)Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid a ffermwyr gaffael a defnyddio bwyd anifeiliaid sy’n tarddu, yn unig, o sefydliadau cofrestredig neu sefydliadau a gymeradwywyd
Erthygl 6(1), fel y’i darllenir ynghyd ag Erthygl 6(2)Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid ac eithrio rhai sy’n cymryd rhan mewn cynhyrchu sylfaenol a gweithgareddau cysylltiedig sefydlu a chynnal gweithdrefnau ysgrifenedig sy’n seiliedig ar HACCP
Erthygl 6(3)Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid adolygu a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i’r gweithdrefnau HACCP pan addesir unrhyw gam yn eu gweithrediad
Erthygl 7(1)Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid ddarparu tystiolaeth i’r awdurdodau cymwys o gydymffurfiaeth ag Erthygl 6 a diweddaru eu dogfennaeth yn gyson
Erthygl 17(2)Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd anifeiliaid sy’n gweithredu fel masnachwyr yn unig ac nad ydynt yn cadw unrhyw gynhyrchion yn eu mangreoedd, ddarparu datganiad o gydymffurfiaeth i’r awdurdod cymwys

Rheoliad 13(4)

ATODLEN 3Ffioedd sy’n Daladwy am Gymeradwyaethau

Gweithgaredd sy’n ei gwneud yn ofynnol cymeradwyo’r sefydliadFfi (£)
Gweithgynhyrchu yn unig, neu weithgynhyrchu a rhoi ar y farchnad, sylweddau y cyfeirir atynt yn Erthygl 10(1)(a) neu (b) o Reoliad 183/2005, ac eithrio’r ychwanegion bwyd anifeiliaid a bennir yn rheoliad 2(4), neu rag-gymysgeddau o’r ychwanegion hynny451.00
Rhoi ar y farchnad sylweddau y cyfeirir atynt yn Erthygl 10(1)(a) neu (b) o Reoliad 183/2005, ac eithrio’r ychwanegion bwyd anifeiliaid a bennir yn rheoliad 2(4), neu rag-gymysgeddau o’r ychwanegion hynny226.00
Unrhyw rai o’r gweithgareddau y cyfeirir atynt ym Mhwynt 10 o’r Adran sydd â’r Pennawd “Facilities and Equipment” yn Atodiad II i Reoliad 183/2005451.00

Rheoliad 18

ATODLEN 4Ffurf Tystysgrif o Ddadansoddiad

Rheoliad 40

ATODLEN 5Dirymiadau

RheoliadauGraddau’r dirymiad
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3368) (Cy. 265)Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Sylweddau Annymunol Penodol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3256) (Cy. 296)Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3376) (Cy. 298)Rheoliad 51 ac Atodlen 7
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi a Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2287) (Cy. 199)Rheoliadau 4, 5, 6, 7, 21, 22, a 23 ac Atodlen 1
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) a Bwyd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2013 (O.S. 2013/3207) (Cy. 317)Y Rheoliadau cyfan
(3)

OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 298/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 97, 9.4.2008, t 64).

(4)

OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t 29. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 2015/2294 (OJ Rhif L 324, 10.12.2015, t 3).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill