Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Gorchmynion gwahardd busnes bwyd anifeiliaid

28.—(1Os—

(a)collfernir gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid am drosedd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig; a

(b)bodlonir y llys, y collfernir y gweithredwr felly ganddo neu ger ei fron, fod yr amod ynglŷn â risg i iechyd wedi ei fodloni mewn cysylltiad â’r busnes bwyd anifeiliaid dan sylw,

rhaid i’r llys, drwy orchymyn, osod y gwaharddiad priodol.

(2Bodlonir yr amod ynglŷn â risg i iechyd mewn cysylltiad â busnes bwyd anifeiliaid os bydd unrhyw un o’r canlynol yn cynnwys risg o niwed i iechyd (gan gynnwys unrhyw amhariad, pa un ai yn barhaol neu dros dro), sef—

(a)y defnydd o unrhyw broses neu driniaeth at ddibenion y busnes;

(b)adeiladu unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes, neu’r defnydd o unrhyw offer at y dibenion hynny; neu

(c)ansawdd neu gyflwr unrhyw fangre neu offer a ddefnyddir at ddibenion y busnes,

ac, ystyr iechyd yw iechyd anifeiliaid neu, drwy fwyta cynhyrchion anifail o’r fath, iechyd dynol.

(3Y gwaharddiad priodol yw—

(a)mewn achos sy’n dod o fewn is-baragraff (a) o baragraff (2), gwaharddiad ar y defnydd o’r broses neu’r driniaeth at ddibenion y busnes;

(b)mewn achos sy’n dod o fewn is-baragraff (b) o’r paragraff hwnnw, gwaharddiad ar y defnydd o’r fangre neu’r offer at ddibenion y busnes neu unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid arall o’r un dosbarth neu ddisgrifiad; ac

(c)mewn achos sy’n dod o fewn is-baragraff (c) o’r paragraff hwnnw, gwaharddiad ar y defnydd o’r fangre neu’r offer at ddibenion unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid.

(4Os—

(a)collfernir gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid am drosedd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig; a

(b)bod y llys, y collfarnwyd y gweithredwr felly ganddo neu ger ei fron, o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny yn holl amgylchiadau’r achos,

caiff y llys, drwy orchymyn, osod gwaharddiad ar weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid rhag cymryd rhan mewn rheoli unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid, neu unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid o ddosbarth neu ddisgrifiad a bennir yn y gorchymyn.

(5Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn o dan baragraff (1) neu (4) (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid”), rhaid i’r awdurdod gorfodi—

(a)cyflwyno copi o’r gorchymyn i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid perthnasol; a

(b)yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (1), gosod copi o’r gorchymyn mewn man amlwg ar ba bynnag fangreoedd a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd anifeiliaid fel y cred yr awdurdod sy’n briodol,

a bydd unrhyw berson sy’n torri’r cyfryw orchymyn gan wybod ei fod yn gwneud hynny yn cyflawni trosedd.

(6Bydd gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid yn peidio â chael effaith—

(a)yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (1), pan ddyroddir tystysgrif gan yr awdurdod gorfodi i’r perwyl ei fod yn fodlon bod gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wedi cymryd camau digonol i sicrhau nad yw’r amod ynglŷn â risg i iechyd wedi ei fodloni bellach mewn cysylltiad â’r busnes bwyd anifeiliaid; a

(b)yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (4), pan roddir cyfarwyddyd i’r un perwyl gan y llys.

(7Rhaid i’r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif o dan is-baragraff (a) o baragraff (6) o fewn tri diwrnod ar ôl iddo gael ei fodloni fel y crybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw; a phan wneir cais am dystysgrif o’r fath gan weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid, rhaid i’r awdurdod—

(a)penderfynu, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a beth bynnag o fewn pedwar diwrnod ar ddeg, a yw wedi ei fodloni felly ai peidio; a

(b)os penderfyna nad yw wedi ei fodloni felly, hysbysu gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid o’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(8Rhaid i’r llys roi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (b) o baragraff (6) os cred y llys, wedi i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wneud cais, ei bod yn briodol gwneud hynny ar ôl rhoi sylw i holl amgylchiadau’r achos, gan gynnwys, yn benodol, ymddygiad gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid er pan wnaed y gorchymyn; ond ni chaniateir ystyried cais o’r fath os gwneir y cais—

(a)o fewn chwe mis ar ôl gwneud y gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid; neu

(b)o fewn tri mis ar ôl gwneud cais blaenorol am gyfarwyddyd o’r fath gan weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid.

(9Pan fo llys ynadon yn gwneud gorchymyn o dan reoliad 29(2) mewn cysylltiad ag unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid, bydd paragraff (1) yn gymwys fel pe bai gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wedi ei gollfarnu gan y llys am drosedd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig.

(10Pan fo cyflawni trosedd gan weithredwr busnes bwyd anifeiliaid yn arwain at gollfarnu person arall yn unol â rheoliad 35(1), bydd paragraff (4) yn gymwys mewn perthynas â’r person arall hwnnw fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid, a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad ym mharagraff (5) neu (8) at weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid yn unol â hynny.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill