Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2016

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 48 (Cy. 20)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2016

Gwnaed

19 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Ionawr 2016

Yn dod i rym

1 Awst 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2):

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2016.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Awst 2016.

Cymhwyso

2.  Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2016/2017.

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu” (“the Outstanding Liability”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 7;

ystyr “benthyciad at gostau byw” (“loan for living costs”) yw benthyciad a geir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2016/2017 o dan reoliadau a wneir yn unol ag adran 22 o Ddeddf 1998(3);

ystyr “y benthyciwr” (“the borrower”) yw person sydd wedi cael benthyciad at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2016/2017;

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Medi, 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Gorffennaf yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr, ar neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf, neu ar neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst, yn y drefn honno;

ystyr “Blwyddyn Academaidd 2016/2017” (“A”) yw blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2016 ond cyn 1 Medi 2017;

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Gwerthu Benthyciadau Myfyrwyr 2008(4);

ystyr “y Dyddiad Ad-dalu” (“the Repayment Date”) yw’r diwrnod ar ôl y dyddiad y bernir bod ad-daliad cyntaf y benthyciwr ar ei fenthyciad wedi cael ei dderbyn naill ai gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu gan Weinidogion Cymru, pa un bynnag y bernir iddo ei dderbyn gyntaf (yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998(5));

mae i “y Dyddiad Bodloni” (“the Satisfaction Date”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 9;

mae “Gweinidogion Cymru” (“Welsh Ministers”) yn cynnwys unrhyw berson y mae Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi dirprwyo eu swyddogaethau iddo o dan adran 23 o Ddeddf 1998(6) neu unrhyw berson y maent wedi trosglwyddo eu hawliau iddo o dan adran 9 o Ddeddf 2008; ac

mae i “y Swm Penodedig” (“the Specified Amount”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 6.

Y cymhwyster ar gyfer dileu

4.  Mae benthyciwr yn gymwys i gael y Swm Penodedig o’i Atebolrwydd sydd heb ei Dalu wedi ei ddileu yn yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 5 (“yr Amgylchiadau”).

Yr Amgylchiadau

5.  Yr Amgylchiadau at ddibenion rheoliad 4 yw—

(a)bod y benthyciwr wedi cael benthyciad at gostau byw; a

(b)bod Gweinidogion Cymru o’r farn, o ran y benthyciwr, ar y Dyddiad Ad-dalu—

(i)nad yw wedi torri unrhyw rwymedigaeth a geir mewn unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad myfyriwr neu mewn unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(ii)nad oes ganddo gosbau, costau, treuliau neu ffioedd sydd heb eu talu mewn perthynas ag unrhyw fenthyciad o’r fath yn unol ag unrhyw gytundeb neu reoliadau o’r fath; a

(iii)nad yw wedi cael unrhyw o’i atebolrwydd i dalu mewn cysylltiad â benthyciad a gafwyd gan Weinidogion Cymru wedi ei ddileu o dan ddarpariaethau Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2010(7), Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2011(8), Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2012(9), Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2013(10), Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2014(11), neu Reoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2015(12).

Y Swm Penodedig

6.  Y Swm Penodedig ar gyfer dileu y mae rheoliad 4 yn cyfeirio ato yw’r swm lleiaf o’r canlynol—

(a)£1,500;

(b)yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu.

Yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw’r cyfanswm y bernir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Ad-dalu mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni ar y benthyciad hwnnw, nac unrhyw gosbau, costau, treuliau neu ffioedd yr aed iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o’r fath.

(2At ddibenion rheoliad 9, yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw’r cyfanswm y bernir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Bodloni mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni ar y benthyciad hwnnw, nac unrhyw gosbau, costau, treuliau neu ffioedd yr aed iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o’r fath.

(3At ddibenion cyfrifo’r Atebolrwydd sydd heb ei Dalu ym mharagraffau (1) a (2), cyfrifir y swm y bernir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr yn unol â rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 22 o Ddeddf 1998(13).

Dileu

8.  Yn yr Amgylchiadau yn rheoliad 5, rhaid i Weinidogion Cymru ddileu’r Swm Penodedig gydag effaith o’r Dyddiad Ad-dalu.

9.  Os oes unrhyw un neu ragor o’r Amgylchiadau yn rheoliad 5(b) heb ei fodloni neu eu bodloni ar y Dyddiad Ad-dalu, ond ei fod yn cael ei fodloni neu eu bod yn cael eu bodloni ar ddyddiad diweddarach, caiff Gweinidogion Cymru ddileu’r Swm Penodedig gydag effaith o’r dyddiad y cafodd yr Amgylchiadau eu bodloni yn eu barn hwy (“y Dyddiad Bodloni”).

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

19 Ionawr 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn llywodraethu atebolrwydd dros fenthyciad myfyrwyr sydd gan fyfyrwyr sy’n cael benthyciadau at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd 2016/2017.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dileu hyd at £1,500 o atebolrwydd pob benthyciwr am fenthyciad at gostau byw mewn amgylchiadau penodol, gydag effaith o’r diwrnod ar ôl y dyddiad y bernir bod ei ad-daliad cyntaf ar ei fenthyciad wedi ei dderbyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan adran 146 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21) ac Atodlen 11 iddi, adran 722 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1) ac Atodlen 6 iddi, adran 147 o Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14), adrannau 42 a 43 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8) ac Atodlen 7 iddi, adran 257 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 76 o Ddeddf Addysg 2011 (p. 21), a pharagraff 6 o’r Atodlen i Orchymyn Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Gweithgareddau a Reoleiddir) (Diwygio) (Rhif 2) 2013/1881. Mae’r diwygiadau a wnaed gan Ddeddf Addysg 2011 yn gymwys mewn perthynas â myfyriwr sy’n dechrau cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2012, ac eithrio mewn amgylchiadau a ragnodir.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5)) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8) ac O.S. 2005/1833 (Cy. 149) (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2006/1660 (Cy. 159)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 iddi.

(3)

Mae Gweinidogion Cymru yn talu benthyciadau at gostau byw mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2016/2017 yn unol â Rhan 6 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/54) (Cy. 5).

(5)

Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn, penderfynir ar y dyddiad y bernir bod ad-daliad benthyciwr wedi ei dderbyn yn unol â rheoliad 17 o Reoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (O.S. 2009/470) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2010/661, O.S. 2010/1010, O.S. 2011/784, O.S. 2012/836, O.S. 2012/1309, O.S. 2013/388, O.S. 2013/591, O.S. 2013/607, O.S. 2013/1881 ac O.S. 2014/651.

(6)

Diwygiwyd adran 23 gan adran 146 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), O.S. 2002/808 ac O.S. 2010/1158.

(13)

Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn penderfynir ar y swm y bernir bod benthyciwr wedi ei ad-dalu ac felly’r swm y bernir ei fod yn dal yn daladwy yn unol â Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (O.S. 2009/470), fel y’i diwygiwyd. Gweler yn benodol reoliadau 17, 29, 44 a 76.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill