Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 15

YR ATODLEN

1.  Cydsyniad o dan adran 2(3) o Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979(1) (rheoli gwaith sy’n effeithio ar henebion rhestredig).

2.  Cydsyniad o dan adran 178(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980(2) (cyfyngu ar osod rheiliau, trawstiau etc dros briffyrdd).

3.  Cydsyniad o dan adran 8(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (3) (awdurdodi gwaith: cydsyniad adeilad rhestredig).

4.  Cydsyniad o dan adran 74(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (4) (rheoli dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth).

5.  Cydsyniad o dan adran 4(1) o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990(5) (gofyniad am gydsyniad sylweddau peryglus).

6.  Cydsyniad o dan adran 13 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (6) (cais am gydsyniad sylweddau peryglus heb amod a osodwyd ar gydsyniad blaenorol ).

7.  Cydsyniad o dan adran 17 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (7) (dirymu cydsyniad sylweddau peryglus pan newidir rheolaeth tir).

8.  Caniatâd cynllunio o dan adran 57(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (caniatâd cynllunio yn ofynnol ar gyfer datblygiad) ac eithrio caniatâd cynllunio amlinellol(8).

9.  Awdurdodiad o dan adran 247(1) o Ddeddf 1990(9) (gorchymyn yn awdurdodi cau neu ailgyfeirio priffordd).

10.  Awdurdodiad o dan adran 248(2) o Ddeddf 1990(10) (gorchymyn yn awdurdodi cau neu ailgyfeirio priffordd sy’n croesi neu’n ymuno â llwybr priffordd newydd arfaethedig).

11.  Gorchymyn o dan adran 251(1) o Ddeddf 1990(11) (gorchymyn yn diddymu hawliau tramwy cyhoeddus dros dir a ddelir at ddibenion cynllunio).

12.  Cydsyniad y gofynnir amdano o dan adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006(12) (dadgofrestru a chyfnewid: ceisiadau).

13.  Cydsyniad sy’n ofynnol gan adran 38(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (gwahardd gwneud gwaith heb gydsyniad).

(1)

1979 p. 46. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (“Gorchymyn 1999”) ac Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno (“Atodlen 11”).

(2)

1980 p. 66. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn 1999, ac Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf 2006 a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.

(3)

1990 p. 9. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn 1999, ac Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf 2006 a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.

(4)

Diwygiwyd adran 74(1) gan adran 63 o Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (p. 24) a pharagraffau 7, 12(1) and (2) o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno.

(5)

1990 c.10. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn 1999, ac Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf 2006 a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11.

(6)

Diddymwyd adran 13(7) gan adrannau 144 a 162 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43), paragraff 6 o Ran I o Atodlen 13 a Rhan VII o Atodlen 16 i’r Ddeddf honno.

(7)

Mewnosodwyd 17(3) gan adran 79(4) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) and pharagraff 20 o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno.

(8)

Gweler adran 92(1) o Ddeddf 1990 ar gyfer y diffiniad o “outline planning permission” (“caniatâd cynllunio amlinellol”).

(9)

Diwygiwyd adran 247(1) gan erthygl 5(b) o O.S. 2006/1281. Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(10)

Gwnaed diwygiadau i adran 248(2) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(11)

Mae adran 251(1) yn cael effaith fel pe bai Awdurdod Parc Cenedlaethol yn awdurdod lleol at ddibenion Deddf 1990, yn rhinwedd adran 65 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) a pharagraff 2(3) o Atodlen 8 i’r Ddeddf honno.

(12)

2006 p. 26. Gweler adran 61(1) ar gyfer y diffiniad o “appropriate national authority”.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill