Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016

Adroddiad

18.—(1Rhaid i’r person penodedig lunio adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, a rhaid i’r adroddiad gynnwys casgliadau’r person penodedig a’i argymhellion (neu resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion).

(2Mae paragraff (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn tueddu i anghytuno ag argymhelliad yn adroddiad y person penodedig oherwydd eu bod—

(a)yn cymryd safbwynt gwahanol i’r person penodedig ynglŷn ag unrhyw fater o ffaith a grybwyllir mewn casgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig, neu sy’n ymddangos iddynt yn faterol berthnasol i gasgliad a gyrhaeddir ganddo, neu

(b)wedi cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater newydd o ffaith (nad yw’n fater o bolisi).

(3Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chyrraedd penderfyniad sy’n groes i argymhelliad y person penodedig heb yn gyntaf—

(a)hysbysu’r ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau hynny a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig ynghylch eu hanghytundeb a’u rhesymau dros anghytuno; a

(b)cynnig cyfle iddynt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(4Rhaid i’r rhai sy’n gwneud sylwadau ysgrifenedig sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y cyfryw sylwadau o fewn pa bynnag gyfnod o amser a ddatgenir gan Weinidogion Cymru yn yr hysbysiad o dan baragraff (3).

(5Caiff Gweinidogion Cymru beri cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad os byddant wedi cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater newydd o ffaith, nad yw’n fater o bolisi.

(6Pan fo gwrandawiad neu ymchwiliad i gael ei gynnal, rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig, ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach yn eu cylch, at y diben o ystyried y cais ymhellach gan Weinidogion Cymru.

(7Mae rheoliad 15(2) i (6) yn gymwys i unrhyw dystiolaeth neu sylw ysgrifenedig a gyflwynir i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (4) o’r rheoliad hwn.