Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016

Mynd ymlaen i benderfynu

19.—(1Caiff Gweinidogion Cymru fynd ymlaen i benderfynu cais—

(a)os na fydd sylwadau ysgrifenedig wedi eu gwneud o fewn y terfynau amser perthnasol, ar ôl rhoi i’r ceisydd ac i’r awdurdod cynllunio lleol hysbysiad ysgrifenedig o’u bwriad i wneud hynny;

(b)os bydd deisyfiad wedi ei wneud am sylwadau pellach, ar ôl diwedd pa bynnag gyfnod a ganiatawyd ar gyfer darparu sylwadau pellach.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “terfynau amser perthnasol” (“relevant time limits”) yw’r terfynau amser a ragnodwyd gan reoliadau 15 a 18 neu gan unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd o dan reoliad 4.