Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 38

ATODLEN 1Addasiadau pan roddir cyfarwyddyd diogelwch gwladol

Dehongli

1.  Rhaid darllen rheoliad 2 fel pe bai’r canlynol wedi eu mewnosod yn y mannau priodol—

ystyr “cyfarwyddyd diogelwch” (“security direction”) yw cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 321(3) o Ddeddf 1990 (materion yn ymwneud â diogelwch gwladol);;

ystyr “cynrychiolydd penodedig” (“appointed representative”) yw person a benodir o dan adran 321(5) neu (6) o Ddeddf 1990;;

ystyr “tystiolaeth gaeedig” (“closed evidence”) yw tystiolaeth sy’n destun cyfarwyddyd diogelwch;.

Gwybodaeth bellach

2.  Rhaid darllen rheoliad 15 fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (7)—

(7A) Nid yw paragraff (7) yn gymwys pan fo’r sylwadau a’r ymatebion ysgrifenedig a geir gan Weinidogion Cymru (“sylwadau pellach”) yn cynnwys neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig.

(7B) Pan fo sylwadau pellach yn cynnwys neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl eu cael, anfon y sylwadau pellach at y ceisydd ac unrhyw gynrychiolydd penodedig; a

(b)rhaid rhoi’r sylwadau pellach (ac eithrio’r dystiolaeth gaeedig) ar gael ym mha bynnag fodd a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

Arolygiadau safle

3.  Rhaid darllen rheoliad 16 fel a ganlyn—

(a)ar ddiwedd paragraff (2) mewnosoder “a rhaid iddynt hysbysu felly unrhyw gynrychiolydd penodedig”;

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Pan fo arolygiad safle yn cynnwys arolygu tystiolaeth gaeedig, caiff Gweinidogion Cymru arolygu’r tir yng nghwmni’r ceisydd ac unrhyw gynrychiolydd penodedig.

Cyfarfodydd cyn-ymchwiliad

4.  Rhaid darllen rheoliad 31(2) fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (b)—

(ba)unrhyw gynrychiolydd penodedig;.

Dyddiad a lleoliad yr ymchwiliad

5.  Rhaid darllen rheoliad 32(6) fel pe mewnosodwyd “, unrhyw gynrychiolydd penodedig” ar ôl “ceisydd” yn y ddau fan lle mae’n digwydd.

Absenoldeb, gohirio, etc.

6.  Rhaid darllen rheoliad 25(1) (fel y’i cymhwysir i ymchwiliadau gan reoliad 30(3)) fel pe mewnosodwyd “, unrhyw gynrychiolydd penodedig,” ar ôl “ceisydd”.

Gweithdrefn mewn ymchwiliad

7.  Rhaid darllen rheoliad 33 fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (2) ar ôl “awdurdod cynllunio lleol” mewnosoder “, unrhyw gynrychiolydd penodedig”;

(b)ym mharagraff (4) ar ôl “awdurdod cynllunio lleol” mewnosoder “, unrhyw gynrychiolydd penodedig”;

(c)ym mharagraff (6) ar ôl “ceisydd” mewnosoder “, unrhyw gynrychiolydd penodedig”;

(d)ar ddiwedd paragraff (12) mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (12A)”;

(e)ar ôl paragraff (12) mewnosoder—

(12A) Pan fo unrhyw sylw ysgrifenedig neu ddogfen arall (“gwybodaeth bellach”) yn cynnwys tystiolaeth gaeedig, rhaid i’r person penodedig—

(a)datgelu’r wybodaeth bellach i’r ceisydd ac i unrhyw gynrychiolydd penodedig;

(b)datgelu’r wybodaeth bellach ac eithrio unrhyw dystiolaeth gaeedig i’r awdurdod cynllunio lleol ac i bob person arall sy’n cymryd rhan yn yr ymchwiliad.

Gweithdrefn ar ôl ymchwiliad

8.  Rhaid darllen rheoliad 28 (fel y’i cymhwysir i ymchwiliadau gan reoliad 30(3)) fel a ganlyn—

(a)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Pan ystyriwyd tystiolaeth gaeedig yn yr ymchwiliad—

(a)rhaid i’r person penodedig a’r asesydd, pan fo un wedi ei benodi, nodi mewn rhan ar wahân o’u hadroddiadau (“y rhan gaeedig”) unrhyw ddisgrifiad o’r dystiolaeth honno ynghyd ag unrhyw gasgliadau neu argymhellion mewn perthynas â’r dystiolaeth honno; a

(b)pan fo asesydd wedi ei benodi, rhaid i’r person penodedig atodi’r rhan gaeedig o adroddiad yr asesydd wrth ran gaeedig adroddiad y person penodedig, a rhaid iddo ddatgan, yn rhan gaeedig yr adroddiad hwnnw, y lefel o gytundeb neu anghytundeb â rhan gaeedig adroddiad yr asesydd, a phan fo anghytundeb â’r asesydd, y rhesymau am yr anghytundeb hwnnw.;

(b)ym mharagraff (4) ar ôl “Mae paragraff (5) yn gymwys” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff (5A)”;

(c)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(5A) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymryd safbwynt gwahanol i’r person penodedig ar unrhyw fater o ffaith, a grybwyllir mewn casgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig, neu sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru yn faterol berthnasol i’r casgliad hwnnw, mewn perthynas â mater y rhoddwyd tystiolaeth gaeedig yn ei gylch, rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (5) gynnwys y rhesymau pam y mae Gweinidogion Cymru yn anghytuno, oni bai—

(a)bod yr hysbysiad wedi ei gyfeirio at berson nad yw’n gynrychiolydd penodedig nac yn unrhyw berson a bennir, nac o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd diogelwch; a

(b)byddai cynnwys y rhesymau yn datgelu unrhyw ran o’r dystiolaeth gaeedig.;

(d)ym mharagraff (8) ar ôl “ceisydd” mewnosoder “, y cynrychiolydd penodedig,”.

Gweithdrefn ar ôl dileu penderfyniad

9.  Rhaid darllen rheoliad 37 fel a ganlyn—

(a)ar ddechrau is-baragraff (a) o baragraff (1) mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (1A),”; a

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Pan fydd y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) yn cynnwys ystyried tystiolaeth gaeedig, rhaid i Weinidogion Cymru anfon y datganiad ysgrifenedig at neb ond y canlynol—

(a)unrhyw gynrychiolydd penodedig; a

(b)person a bennwyd, neu berson o unrhyw ddisgrifiad a bennwyd, yn y cyfarwyddyd diogelwch.

Peidio â datgelu tystiolaeth gaeedig

10.  Rhaid darllen Rhan 10 fel pe mewnosodwyd y canlynol ar ôl rheoliad 39

Peidio â datgelu tystiolaeth gaeedig

39A.  Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sydd i’w ystyried fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol nac yn caniatáu datgelu tystiolaeth gaeedig i berson ac eithrio—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)y cynrychiolydd penodedig; neu

(c)person a bennwyd, neu berson o unrhyw ddisgrifiad a bennwyd, yn y cyfarwyddyd diogelwch.

Rheoliad 42

ATODLEN 2Rheolaeth ar waith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig

1.—(1Mae Gorchymyn 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2Rhaid darllen erthygl 15 (derbyn ceisiadau), yn achos cydsyniad o dan adran 2 o Ddeddf 1979 (rheolaeth ar waith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig), fel pe bai’r cais yn dod gydag—

(a)un neu ragor o’r tystysgrifau a restrir ym mharagraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno(1) wedi eu llofnodi gan neu ar ran y ceisydd; a

(b)yr eitemau a restrir yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Henebion (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) 1981(2).

2.—(1Mae darpariaethau’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â rhoi cydsyniad o dan adran 2(3) o Ddeddf 1979 yn ddarostyngedig i’r addasiad canlynol.

(2Yn rheoliad 2 rhaid darllen y diffiniad o “person penodedig” fel “yw’r person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 3(2)(b) o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1979”.

Rheoliad 43

ATODLEN 3Gosod rheiliau, trawstiau etc. dros briffyrdd: addasu deddfwriaeth sylfaenol

1.  Rhaid darllen adran 178 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (cyfyngiad ar osod rheiliau, trawstiau etc. dros briffyrdd) fel a ganlyn—

(a)yn is-adran (1) rhaid darllen cyfeiriadau at “the highway authority for the highway” ac at “the highway authority” fel cyfeiriadau at “the Welsh Ministers”;

(b)hepgorer is-adrannau (2) a (3).

Rheoliad 44

ATODLEN 4Caniatâd adeilad rhestredig

RHAN 1Addasu deddfwriaeth sylfaenol

1.—(1Mae Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(3) (“y Ddeddf Adeiladau Rhestredig”) (“the Listed Buildings Act”) yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2Rhaid darllen adran 10 (gwneud ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig) fel a ganlyn—

(a)yn lle is-adran (1) rhodder “An application for listed building consent must be made to and dealt with by the Welsh Ministers”;

(b)yn is-adran (2)(c) yn lle “the authority” rhodder “the Welsh Ministers”.

(3Rhaid darllen adran 62 (dilysrwydd gorchmynion a phenderfyniadau penodol) fel a ganlyn—

(a)yn is-adran (2), ar ôl paragraff (a), mewnosoder y canlynol—

(aza)any decision on an application for listed building consent where that decision is made by the Welsh Ministers by virtue of section 62F(2) of the principal Act.;

(b)yn is-adrannau (1) a (3) rhodder “the Welsh Ministers” yn lle “the Secretary of State” mewn perthynas â phenderfyniadau sydd o fewn is-adran (2)(aza).

RHAN 2Addasu is-ddeddfwriaeth

2.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012(4) yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2Rhaid darllen rheoliad 3 (ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth) fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (1)(a) yn lle “i awdurdod cynllunio lleol” rhodder “i Weinidogion Cymru”;

(b)ym mharagraff (1)(c)(ii) a (iii) yn lle “fod yr awdurdod cynllunio lleol” rhodder “fod Gweinidogion Cymru”;

(c)hepgorer paragraff (3) a Rhan 1 o Atodlen 1;

(d)ym mharagraff (4) yn lle “awdurdod cynllunio lleol yn barnu, wedi iddo anfon y gydnabyddiaeth fel sy’n ofynnol gan baragraff (3), fod y cais yn annilys, rhaid iddo” rhodder “Gweinidogion Cymru yn barnu bod y cais yn annilys, rhaid iddynt”;

(e)yn lle paragraff (5) rhodder—

(5) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi cael cais dilys, yr amser a ganiateir iddynt ar gyfer rhoi hysbysiad o’u penderfyniad i’r ceisydd yw’r cyfnod penderfynu fel y’i disgrifir yn adran 62L o’r brif Ddeddf.;

(f)ym mharagraff (6) hepgorer “neu hysbysiad o gyfeirio at Weinidogion Cymru” ac yn lle “awdurdod cynllunio lleol yn penderfynu rhoi” rhodder “Gweinidogion Cymru yn penderfynu rhoi”;

(g)hepgorer paragraff (7).

(3Rhaid darllen rheoliad 6(1) fel pe rhoddid “unrhyw gais am ganiatâd adeilad rhestredig, pan fo’r penderfyniad ar y caniatâd hwnnw i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 62F o’r brif Ddeddf,” yn lle “unrhyw gais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd adeilad rhestredig”.

(4Rhaid darllen rheoliad 7 (tystysgrif sydd i ddod gyda cheisiadau ac apelau) fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (1) yn lle “awdurdod cynllunio lleol” rhodder “Weinidogion Cymru” a hepgorer “neu 4”;

(b)ym mharagraff (3)—

(i)hepgorer “neu 4”;

(ii)yn lle “yr awdurdod cynllunio lleol” rhodder “Gweinidogion Cymru”;

(iii)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)rhaid iddynt benderfynu’r cais cyn diwedd y cyfnod penderfynu y darperir ar ei gyfer yn adran 62L o Ddeddf 1990”;

(iv)yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)wrth benderfynu’r cais rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau sy’n ymwneud ag ef a wneir iddynt cyn diwedd y cyfnod sylwadau y darperir ar ei gyfer yn erthygl 4 o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 gan unrhyw berson sy’n bodloni Gweinidogion Cymru fod y person yn berchennog ar yr adeilad neu unrhyw ran ohono;.

(5Nid yw rheoliadau 8 a 9 yn gymwys.

(6Rhaid darllen rheoliad 10 (hysbysebu ceisiadau) fel a ganlyn—

(a)hepgorer paragraff (1); a

(b)yn lle paragraff (2) rhodder—

Yr amser a ganiateir i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r ceisydd o’u penderfyniad yw’r cyfnod penderfynu, fel y’i disgrifir yn adran 62L o’r brif Ddeddf.

(7Hepgorer rheoliadau 11, 12 a 12A.

3.—(1Mae Gorchymyn 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2Rhaid darllen erthygl 15 (derbyn ceisiadau) fel pe bai’r cais, yn achos cais am ganiatâd o dan adran 8 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yn dod gyda’r eitemau hynny a restrir yn rheoliadau 3(1), 3(2) a 6 (datganiadau dylunio a mynediad) o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012.

(3Rhaid darllen erthygl 18 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio: Gweinidogion Cymru) fel pe na bai’n gymwys mewn perthynas ag unrhyw gais am—

(a)caniatâd adeilad rhestredig i wneud gwaith sy’n effeithio yn unig ar du mewn adeilad a ddosbarthwyd fel adeilad rhestredig Gradd II (di-seren) pan hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei gylch ddiwethaf gan Weinidogion Cymru, fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig; neu

(b)amrywio neu ryddhau o amodau a osodwyd ar ganiatâd adeilad rhestredig mewn cysylltiad â thu mewn adeilad rhestredig Gradd II (di-seren) o’r fath.

Rheoliad 45

ATODLEN 5Dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth

RHAN 1Addasu deddfwriaeth sylfaenol

1.  Rhaid darllen adran 74(2) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“y Ddeddf Adeiladau Rhestredig”) (rheolaeth ar ddymchwel mewn ardaloedd cadwraeth) fel pe bai “and” wedi ei hepgor o baragraff (a) a’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl y paragraff hwnnw—

(aa)in relation to applications where the decision on the consent is to be made by the Welsh Ministers by virtue of section 62F(2) of the principal Act (developments of national significance: meaning of secondary consents), the Welsh Ministers; and.

RHAN 2Addasu is-ddeddfwriaeth

2.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012(5), mewn perthynas â rhoi caniatâd o dan adran 74(2) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol.

(2Rhaid darllen rheoliad 3 (ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth) fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (1)(a) yn lle “i awdurdod cynllunio lleol” rhodder “i Weinidogion Cymru”;

(b)ym mharagraff (1)(c)(ii) a (iii) yn lle “fod yr awdurdod cynllunio lleol” rhodder “fod Gweinidogion Cymru”.

(c)hepgorer paragraff (3) a Rhan 1 o Atodlen 1;

(d)ym mharagraff (4) yn lle “awdurdod cynllunio lleol” rhodder “Gweinidogion Cymru” ac yn lle “iddo”, yn y ddau fan lle mae’n digwydd, rhodder “iddynt”;

(e)yn lle paragraff (5) rhodder—

(5) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi cael cais dilys o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’u penderfyniad i’r ceisydd cyn diwedd y cyfnod penderfynu fel y’i disgrifir yn adran 62L o’r brif Ddeddf. ;

(f)ym mharagraff (6) hepgorer “neu hysbysiad o gyfeirio at Weinidogion Cymru”; yn lle “awdurdod cynllunio lleol yn penderfynu rhoi caniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd” rhodder “Gweinidogion Cymru yn penderfynu rhoi caniatâd”; ac yn lle “neu eu gwrthod” rhodder “neu ei wrthod”;

(g)hepgorer paragraff (7).

(3Rhaid darllen rheoliad 6(1) fel pe rhoddid “unrhyw gais am ganiatâd ardal gadwraeth pan fo’r penderfyniad ar y caniatâd hwnnw i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 62F o’r brif Ddeddf” yn lle “unrhyw gais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd adeilad rhestredig”.

(4Rhaid darllen rheoliad 7 (tystysgrif sydd i ddod gyda cheisiadau ac apelau) fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (1) yn lle “awdurdod cynllunio lleol” rhodder “Weinidogion Cymru” a hepgorer “neu 4”;

(b)ym mharagraff (3)—

(i)hepgorer “neu 4”;

(ii)yn lle “yr awdurdod cynllunio lleol” rhodder “Gweinidogion Cymru”;

(iii)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)rhaid iddynt benderfynu’r cais cyn diwedd y cyfnod penderfynu fel y darperir ar ei gyfer yn adran 62L o’r brif Ddeddf;

(iv)yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)wrth benderfynu’r cais rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau sy’n ymwneud ag ef a wneir iddynt cyn diwedd y cyfnod sylwadau y darperir ar ei gyfer yn erthygl 4 o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 gan unrhyw berson sy’n bodloni Gweinidogion Cymru fod y person yn berchennog ar yr adeilad neu unrhyw ran ohono;.

(5Nid yw rheoliadau 8 (defnyddio cyfathrebiadau electronig) a 9 (ceisiadau gan awdurdodau cynllunio lleol) yn gymwys.

(6Rhaid darllen rheoliad 10 (hysbysebu ceisiadau) gydag addasiadau fel a ganlyn —

(a)hepgorer paragraff (1); a

(b)yn lle paragraff (2) rhodder—

Yr amser a ganiateir i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r ceisydd o’u penderfyniad yw’r cyfnod penderfynu, fel y’i disgrifir yn adran 62L o’r brif Ddeddf.

(7Nid yw rheoliadau 11 (hysbyseb am geisiadau am waith brys mewn perthynas â datblygiad gan y Goron), 12 (apelau) a 12A (apêl wedi ei wneud: swyddogaethau’r awdurdod cynllunio lleol) yn gymwys.

3.—(1Mae Gorchymyn 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2Rhaid darllen erthygl 15 (derbyn ceisiadau) fel pe bai’r cais, yn achos caniatâd o dan adran 74 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig yn dod gyda’r eitemau hynny a restrir yn rheoliad 3(1) a (2) o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012.

(3Nid yw erthygl 18 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio: Gweinidogion Cymru) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gais am—

(a)caniatâd adeilad rhestredig i wneud gwaith sy’n effeithio yn unig ar du mewn adeilad a ddosbarthwyd fel adeilad rhestredig Gradd II (di-seren) pan hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei gylch ddiwethaf gan Weinidogion Cymru, fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig; neu

(b)amrywio neu ryddhau o amodau a osodwyd ar ganiatâd adeilad rhestredig mewn cysylltiad â thu mewn adeilad rhestredig Gradd II (di-seren) o’r fath.

Rheoliad 46

ATODLEN 6Cydsyniad sylweddau peryglus

RHAN 1Addasu deddfwriaeth sylfaenol

1.—(1Mae Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (“y Ddeddf Sylweddau Peryglus”) yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2Rhaid darllen adran 9 (penderfynu ceisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus) ac adran 10 (pŵer i osod amodau wrth roi cydsyniad sylweddau peryglus) fel pe bai cyfeiriadau at “the hazardous substances authority” yn gyfeiriadau at “the Welsh Ministers”.

RHAN 2Addasu is-ddeddfwriaeth

2.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015(6), mewn perthynas â rhoi cydsyniad o dan adrannau 4(1), 13 a 17 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol.

(2Rhaid darllen rheoliad 5(1)(a) fel pe rhoddid “i Weinidogion Cymru” yn lle “i’r awdurdod sylweddau peryglus”.

(3Rhaid darllen rheoliad 6 (cyhoeddi hysbysiadau o geisiadau) fel pe rhoddid “i Weinidogion Cymru” yn lle “i’r awdurdod sylweddau peryglus” ym mhob man lle mae’n digwydd, a “Gweinidogion Cymru” yn lle “yr awdurdod sylweddau peryglus” yn y ddau fan lle mae’n digwydd.

(4Rhaid darllen rheoliad 7(1) fel pe rhoddid “Gweinidogion Cymru” yn lle “awdurdod sylweddau peryglus”.

(5Rhaid darllen rheoliad 8 (edrych ar geisiadau) fel pe rhoddid yn ei le y canlynol—

Ar ôl cael cais o dan reoliad 5, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod copi o’r cais ar gael i edrych arno yn swyddfeydd y person perthnasol yn ystod y cyfnod a ganiateir ar gyfer gwneud sylwadau yn unol â rheoliad 6(1).

(6Rhaid darllen rheoliad 9 (ceisiadau yn dod i law awdurdod sylweddau peryglus) fel pe rhoddid “Gweinidogion Cymru” yn lle “awdurdod sylweddau peryglus” ym mhob man lle mae’n digwydd.

(7Rhaid darllen rheoliad 10 (ymgynghori cyn rhoi cydsyniad sylweddau peryglus) fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (1) yn lle “hysbysu’r awdurdod sylweddau peryglus” rhodder “hysbysu Gweinidogion Cymru” ac yn lle “i’r awdurdod” rhodder “i Weinidogion Cymru”;

(b)yn lle paragraff (1)(b) rhodder “y person perthnasol;”;

(c)yn lle paragraff (1)(j) rhodder “pan fo’n ymddangos i Weinidogion Cymru y gellid effeithio ar dir yn ardal unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol ac eithrio’r person perthnasol, y cyngor hwnnw;”;

(d)ym mharagraff (1)(m) hepgorer “, os nad yr awdurdod hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd”;

(e)ym mharagraffau (2) a (3) yn lle “awdurdod sylweddau peryglus” ac “yr awdurdod” rhodder “Gweinidogion Cymru”;

(f)ym mharagraff (4) yn lle “i awdurdod sylweddau peryglus” ac “i’r awdurdod” rhodder “i Weinidogion Cymru”.

(8Rhaid darllen rheoliad 11 (penderfynu ceisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus) fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (1) yn lle “awdurdod sylweddau peryglus” rhodder “Gweinidogion Cymru” ac mae’r cyfeiriadau at reoliadau 6(1) a 10(3) yn gyfeiriadau at y rheoliadau hynny fel y’u haddaswyd gan is-baragraffau (3) a (7) uchod;

(b)ym mharagraff (2) yn lle “i’r awdurdod sylweddau peryglus” rhodder “i Weinidogion Cymru”;

(c)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru roi i’r ceisydd hysbysiad ysgrifenedig o’u penderfyniad o fewn y cyfnod penderfynu fel y’i disgrifir yn adran 62L o Ddeddf 1990.;

(d)hepgorer paragraff (4);

(e)ym mharagraff (5) yn lle “awdurdod sylweddau peryglus” rhodder “Gweinidogion Cymru” a hepgorer paragraff (5)(b) a’r gair “a” sy’n ei ragflaenu;

(f)ym mharagraff (6), yn lle “i’r awdurdod sylweddau peryglus” rhodder “i Weinidogion Cymru” ac yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c)y person perthnasol dan sylw;

(g)ym mharagraff (7) yn lle “Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus” rhodder “Rhaid i Weinidogion Cymru”.

(9Rhaid darllen rheoliad 22 (y gofrestr cydsyniadau) fel pe mewnosodwyd y canlynol ar ôl paragraff (2)—

(2A) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdod sylweddau peryglus ynghylch yr holl faterion mewn perthynas â chydsyniad eilaidd y mae’n rhaid eu cynnwys yn y gofrestr.

3.  Rhaid darllen rheoliadau 15 i 33 o’r Rheoliadau hyn, wrth eu cymhwyso i roi cydsyniad o dan adrannau 4(1), 13 a 17 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, fel pe rhoddid “awdurdod sylweddau peryglus” yn lle “awdurdod cynllunio lleol” ym mhob man lle mae’n ymddangos.

Rheoliad 47

ATODLEN 7Caniatâd cynllunio

RHAN 1Addasu deddfwriaeth sylfaenol

1.—(1Mae darpariaethau canlynol Deddf 1990 yn gymwys gydag addasiadau fel bod cyfeiriadau at “local planning authority” i’w trin fel cyfeiriadau at “the Welsh Ministers”—

(a)adran 62(1);

(b)adran 62(3);

(c)adran 65(5);

(d)adran 70(1);

(e)adran 70(2)(7);

(f)adran 70A(1)(8);

(g)adran 70A(2);

(h)adran 71(1)(9);

(i)adran 71(2);

(j)adran 72(1);

(k)adran 73(2);

(l)adran 73A(1)(10); ac

(m)adran 327A(2)(11).

(2Pan fo unrhyw ddarpariaeth arall o Ddeddf 1990 yn cyfeirio at ddarpariaeth a addaswyd gan y Rheoliadau hyn, rhaid darllen y cyfeiriad, mewn perthynas â chais o dan adran 62D o’r Ddeddf honno, fel cyfeiriad at y ddarpariaeth fel y’i haddaswyd.

RHAN 2Addasu is-ddeddfwriaeth

2.—(1Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(12) yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2Nid yw erthyglau 1 i 23, 25 i 28 a 31 i 33 yn gymwys.

3.—(1Mae Gorchymyn 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2Nid yw erthygl 29 (hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad mewn perthynas â chais) ac erthygl 30 (hysbysiad diwygiedig o benderfyniad i roi caniatâd cynllunio) yn gymwys.

Rheoliad 48

ATODLEN 8Priffyrdd yr effeithir arnynt gan ddatblygiad

Addasu is-ddeddfwriaeth

1.—(1Mae’r darpariaethau canlynol o’r Rheoliadau hyn, mewn perthynas â gorchmynion o dan adrannau 247(1), 248(2) a 251(1) o Ddeddf 1990, yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2At ddiben rheoliadau 17, 20 a 30, mae Rhannau 6, 7 ac 8 hefyd yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu peidio â chynnal gwrandawiad neu ymchwiliad cyn gwneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990.

(3Rhaid i adroddiad y person penodedig o dan reoliadau 18 (adroddiad) a 28 (gweithdrefn ac adroddiad ar ôl gwrandawiad) gynnwys, yn ychwanegol at gasgliadau ac argymhellion y person penodedig mewn perthynas â’r cais, argymhelliad mewn perthynas â gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990.

(4Rhaid darllen rheoliad 18(3)(a) fel pe rhoddid “personau a fu’n gwrthwynebu gwneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990” yn lle “personau hynny a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig”.

(5Rhaid darllen rheoliad 21(5) fel pe rhoddid “gorchymyn arfaethedig o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990” yn lle’r cyfeiriad at “y cais”.

(6Rhaid i hysbysiad o dan reoliad 22(7) gynnwys, yn ychwanegol, y materion hynny a restrir yn adran 252(1) o Ddeddf 1990.

(7Rhaid darllen rheoliad 28 fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (3), yn lle “sylwadau ysgrifenedig neu ddogfen arall a gânt” rhodder “unrhyw wrthwynebiad i wneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990 sy’n cyrraedd”;

(b)ym mharagraff (5)(a) yn lle “a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig” rhodder “a fu’n gwrthwynebu gwneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990”;

(c)ym mharagraff (8)(a) yn lle “a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig” rhodder “a fu’n gwrthwynebu gwneud gorchymyn o dan adran 247, 248 neu 251 o Ddeddf 1990”.

Rheoliad 49

ATODLEN 9Dadgofrestru a chyfnewid tir comin

Addasu is-ddeddfwriaeth

1.—(1Mae Rheoliadau Dadgofrestru a Chyfnewid Tir Comin a Meysydd Tref neu Bentref (Gweithdrefn) (Cymru) 2012(13) mewn perthynas â chydsyniad a geisir o dan adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2Rhaid darllen y diffiniad o “arolygydd” (“inspector”) yn rheoliad 2(2) fel pe bai is-baragraff (b) a’r gair “neu” sy’n ei ragflaenu wedi eu hepgor.

(3Nid yw rheoliadau 4 i 9 yn gymwys.

(4Rhaid darllen rheoliad 10(1) fel pe rhoddid “at Weinidogion Cymru cyn diwedd y cyfnod sylwadau” yn lle “at yr awdurdod sy’n penderfynu erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o gais”.

(5Nid yw rheoliad 10(3) i (6) yn gymwys.

(6Nid yw rheoliadau 11 i 18 yn gymwys.

2.—(1Mae Gorchymyn 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2Rhaid darllen erthygl 2 (dehongli) fel pe bai’r canlynol wedi eu mewnosod yn y mannau priodol—

ystyr “cofrestr” (“register”) yw cofrestr o dir comin neu gofrestr o feysydd tref neu bentref;;

mae i “tir a ryddheir” yr ystyr a roddir i “release land” yn adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006; ac

mae i “tir cyfnewid” yr ystyr a roddir i “replacement land” yn adran 16(3) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006;.

(3Rhaid darllen erthygl 12 (ceisiadau: gofynion cyffredinol) fel pe bai rhaid i’r cais ddod gydag—

(a)map Ordnans, ar raddfa nad yw’n llai nag 1: 2,500 os oes un ar gael, a dim llai beth bynnag nag 1:10,000, sy’n dangos—

(i)ffin y tir a ryddheir wedi ei marcio â lliw coch;

(ii)os yw’r tir a ryddheir yn rhan o’r tir mewn uned gofrestr fwy, ffin y tir yn yr uned gofrestr honno wedi ei marcio â lliw gwyrdd tywyll; a

(iii)ffin unrhyw dir cyfnewid wedi ei marcio mewn lliw gwyrdd golau; a

(b)copi o’r cofnod yn y gofrestr sy’n ymwneud â’r tir a ryddheir neu’r tir sy’n cynnwys y tir a ryddheir.

(4Rhaid darllen erthygl 18 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio: Gweinidogion Cymru) fel pe bai’r hysbysiad gofynnol yn cynnwys—

(a)enw’r ceisydd;

(b)enw’r tir comin neu’r maes tref neu bentref yr effeithir arno gan y cynnig;

(c)lleoliad y tir a ryddheir a’i arwynebedd mewn metrau sgwâr;

(d)pa un ai yw’r cais yn cynnwys cynnig ai peidio i gofrestru tir fel tir cyfnewid, ac os felly, lleoliad y tir cyfnewid a’i arwynebedd mewn metrau sgwâr;

(e)datganiad byr o’r rheswm dros wneud y cais.

(5Rhaid darllen erthygl 18(2)(b) fel pe bai rhaid anfon yr hysbysiad gofynnol at—

(a)unrhyw berson (ac eithrio’r ceisydd) sy’n meddiannu’r tir a ryddheir;

(b)meddiannydd unrhyw eiddo a ddangosir yn y gofrestr fel eiddo y mae hawliau comin ar y tir a ryddheir yn gysylltiedig ag ef, ac y cred y ceisydd fod y meddiannydd yn arfer yr hawliau hynny, neu fod y cais yn debygol o effeithio arno;

(c)unrhyw berson arall y gŵyr y ceisydd fod hawl ganddo i arfer hawliau comin ar y tir a ryddheir ac y cred y ceisydd ei fod yn arfer yr hawliau hynny, neu fod y cais yn debygol o effeithio arno; a

(d)y cyngor neu’r cynghorau cymuned (os oes un) ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi neu ynddynt y tir a ryddheir a’r tir cyfnewid.

(6Rhaid darllen erthygl 18(3) fel pe bai rhaid i’r wybodaeth sydd i’w chyhoeddi ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru gynnwys y materion a restrir yn is-baragraff (4)(a) i (e).

(7Rhaid darllen erthygl 19(2) fel pe rhoddid yn ei lle y canlynol:

(2) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad drwy arddangos ar y safle, mewn ffurf a gyflenwir i’r awdurdod gan Weinidogion Cymru, am ddim llai na 21 diwrnod yn y prif fannau mynediad i’r canlynol (neu, os nad oes lleoedd o’r fath, mewn man amlwg ar ffin)—

(i)y tir a ryddheir; a

(ii)y tir cyfnewid (os oes tir cyfnewid).

(8Rhaid darllen erthygl 29 (hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad mewn perthynas â chais) fel pe bai rhaid hefyd i Weinidogion Cymru—

(a)anfon eu gorchymyn o dan adran 17 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 at yr awdurdod cofrestru tiroedd comin ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi’r tir a ryddheir a’r tir cyfnewid (os oes tir cyfnewid); a

(b)anfon copi o’r gorchymyn at y ceisydd.

3.—(1Mae darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn mewn perthynas â chydsyniad a geisir o dan adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2Rhaid darllen rheoliad 2 (dehongli)—

(a)fel pe bai cyfeiriad at “person penodedig” (“appointed person”) yn gyfeiriad at y person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3 o Reoliadau Dadgofrestru a Chyfnewid Tir Comin a Meysydd Tref neu Bentref (Gweithdrefn) (Cymru) 2012 i arfer pob un neu unrhyw rai o’u swyddogaethau o dan adran 16 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 yn gyffredinol neu mewn perthynas â’r cais;

(b)fel pe bai’r canlynol wedi eu mewnosod yn y mannau priodol—

mae i “tir a ryddheir” yr ystyr a roddir i “release land” yn adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006;; ac

mae i “tir cyfnewid” yr ystyr a roddir i “replacement land” yn adran 16(3) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006;.

(3Rhaid darllen rheoliad 16(1) (arolygiadau safle) fel pe rhoddid “tir a ryddheir ac unrhyw dir cyfnewid” yn lle “tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef”.

(4At ddiben rheoliad 22 (hysbysiad cyhoeddus o’r gwrandawiad) rhaid i’r hysbysiad a arddangosir neu a gyhoeddir yn unol â pharagraffau (1) a (2) o’r rheoliad hwnnw gynnwys—

(a)lleoliad y tir a ryddheir; a

(b)datganiad a gynigir ai peidio cofrestru unrhyw dir fel tir cyfnewid, ac os felly, lleoliad y tir cyfnewid.

Rheoliad 50

ATODLEN 10Gwaith cyfyngedig ar dir comin

Addasu is-ddeddfwriaeth

1.—(1Mae Rheoliadau Gwaith ar Diroedd Comin, etc. (Gweithdrefn) (Cymru) 2012(14) mewn perthynas â cheisiadau o dan adran 38(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2Yn rheoliad 2(2), rhaid darllen y diffiniad o “yr awdurdod sy’n penderfynu” (“the determining authority”) fel pe bai is-baragraff (b) a’r gair “neu” sy’n ei ragflaenu wedi eu hepgor.

(3Nid yw rheoliadau 4 i 9 yn gymwys.

(4Rhaid darllen rheoliad 10(1) fel pe rhoddid “at Weinidogion Cymru cyn i’r cyfnod sylwadau ddod i ben” yn lle “at yr awdurdod sy’n penderfynu erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o gais”.

(5Nid yw rheoliad 10(3) i (6) yn gymwys.

(6Nid yw rheoliadau 11 i 18 yn gymwys.

2.—(1Mae Gorchymyn 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2Rhaid darllen erthygl 2 (dehongli) fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod yn y man priodol—

ystyr “tir comin” (“common land”) yw tir o fath a bennir yn adran 38(5)(a) a (b) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006;.

(3Rhaid darllen erthygl 12 (ceisiadau: gofynion cyffredinol) fel pe bai rhaid i’r cais ddod gydag—

(a)map sy’n dangos y tir comin y bwriedir gwneud y gwaith arno, gydag—

(i)ffin y tir comin wedi ei marcio â lliw gwyrdd; a

(ii)safle’r gwaith arfaethedig wedi ei farcio â lliw coch;

(b)(pan fo’n briodol) plan neu luniad o’r gwaith arfaethedig; ac

(c)os yw’r tir yn dir comin cofrestredig, copi o’r cofnod perthnasol yn y gofrestr o dir comin gedwir gan yr awdurdod cofrestru tiroedd comin perthnasol o dan adran 1 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006.

(4Rhaid darllen erthygl 18 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio: Gweinidogion Cymru) fel pe bai’r hysbysiad gofynnol yn cynnwys—

(a)enw’r ceisydd;

(b)enw’r tir comin yr effeithir arno gan y gwaith arfaethedig;

(c)disgrifiad o’r gwaith arfaethedig a’i leoliad.

(5Rhaid darllen erthygl 18(2)(b) fel pe bai rhaid anfon yr hysbysiad gofynnol at—

(a)perchennog y tir y bwriedir gwneud y gwaith arno (os nad y perchennog yw’r ceisydd);

(b)unrhyw berson arall sy’n meddiannu’r tir;

(c)os yw’r tir yn dir comin cofrestredig, meddiannydd unrhyw eiddo a ddangosir yn y gofrestr tir comin fel eiddo sydd â hawliau comin yn gysylltiedig ag ef, ac y cred y ceisydd fod y meddiannydd yn arfer yr hawliau hynny, neu fod y cais yn debygol o effeithio arno;

(d)unrhyw berson arall y gŵyr y ceisydd fod hawl ganddo i arfer hawliau comin ar y tir ac y cred y ceisydd ei fod yn arfer yr hawliau hynny neu fod y cais yn debygol o effeithio arno;

(e)y cyngor cymuned (os oes un) ar gyfer yr ardal y bwriedir gwneud y gwaith ynddi.

(6Rhaid darllen erthygl 18(3) fel pe bai rhaid i’r wybodaeth sydd i’w chyhoeddi ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru gynnwys y materion a restrir yn is-baragraff (4)(a) i (c).

(7Rhaid darllen erthygl 19(2) fel pe rhoddid yn ei lle y canlynol—

(2) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad drwy arddangos ar y safle, mewn ffurf a gyflenwir i’r awdurdod gan Weinidogion Cymru, am ddim llai na 21 diwrnod, yn y prif fannau mynediad i’r tir comin y bwriedir gwneud y gwaith arno (neu, os nad oes mannau o’r fath, mewn man amlwg ar ffin y tir comin hwnnw).

(8Rhaid darllen erthygl 29(3) fel pe rhoddid yn ei lle y canlynol—

(3) Rhaid i’r penderfyniad ddatgan, gan roi rhesymau, pa un a yw cydsyniad ar gyfer y gwaith arfaethedig—

(a)wedi ei roi fel y gofynnwyd yn y cais;

(b)wedi ei roi yn rhannol yn unig, neu’n ddarostyngedig i addasiadau neu amodau; neu

(c)wedi ei wrthod.

3.  Yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn y modd y’u cymhwysir i gais am gydsyniad o dan adran 38(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, mae cyfeiriad at “person penodedig” (“appointed person”) yn gyfeiriad at y person a benodwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3 o Reoliadau Gwaith ar Diroedd Comin, etc. (Gweithdrefn) (Cymru) 2012.

(1)

Gwnaed diwygiadau i Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 1981/1301. Mae Rheoliadau Henebion (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Ffurflenni a Manylion Cymraeg) 2001 (O.S. 2001/1438) (Cy.100) yn rhagnodi’r fersiwn Gymraeg o’r ffurflenni perthnasol.

(7)

Gwnaed diwygiadau i adran 70(2) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

Mewnosodwyd adran 70A gan adran 17 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34). Gwnaed diwygiadau i adran 70A nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(9)

Amnewidiwyd adran 71(1) a (2) gan adran 16(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991.

(10)

Mewnosodwyd adran 73A gan adran 32 o’r Ddeddf honno a pharagraff 16 o Atodlen 7 iddi.

(11)

Mewnosodwyd adran 327A gan adran 42(5) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5).

(12)

O.S. 2012/801 (Cy. 110). Gwnaed diwygiadau i’r Gorchymyn hwnnw nad ydynt yn berthnasol i’r Atodlen hon.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill