Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016

14.  Rhaid darllen rheoliad 24 fel pe bai’n darparu—

24.(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “penderfyniad” (“decision”), mewn perthynas â gorchymyn sy’n cael effaith o dan adran 97(7) o Ddeddf 1990, yw’r penderfyniad i wneud y gorchymyn ac fel arall, y penderfyniad i gadarnhau y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102.

(2) Pan fo gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 sy’n caniatáu neu’n gwneud yn ofynnol datblygiad AEA yn cael effaith, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu awdurdod cynllunio lleol yr ardal y mae’r gorchymyn yn ymwneud â hi pan fo’r gorchymyn yn cael ei wneud neu ei gadarnhau; a

(b)ac eithrio mewn perthynas â gorchmynion adran 97 sy’n cael effaith heb gael eu cadarnhau gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 99(7) o Ddeddf 1990, ddarparu datganiad sy’n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraff (3)(c) i’r awdurdod.

(3) Pan fo gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 sy’n caniatáu neu’n gwneud yn ofynnol datblygiad AEA yn cael effaith, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer yr ardal y mae’r gorchymyn yn ymwneud â hi—

(a)hysbysu’r cyhoedd o’r penderfyniad, drwy hysbyseb lleol, neu drwy unrhyw ddull arall sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau; a

(b)sicrhau bod datganiad sy’n cynnwys y canlynol ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn y lle y mae’r cofnod o orchmynion adran 97 a gorchmynion adran 102 yn cael eu cadw—

(i)cynnwys y penderfyniad ac unrhyw amodau cysylltiedig;

(ii)y prif resymau ac ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniad arnynt gan gynnwys, os yn berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd.

(iii)disgrifiad, pan fo angen, o’r prif fesurau i osgoi, lleihau, ac os yn bosibl, gwrthbwyso prif effeithiau andwyol y datblygiad a ganiateir neu sy’n ofynnol gan y gorchymyn; a

(iv)gwybodaeth ynglŷn â’r hawl i herio dilysrwydd y penderfyniad a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.