15. Rhaid darllen rheoliad 53 fel pe bai—
(a)“penderfyniad” â’r un ystyr ag ym mharagraff 14;
(b)ym mharagraff (1), is-baragraff (a) yn darllen—
“(a)y daw i sylw Gweinidogion Cymru bod datblygiad AEA y bwriedir ei gynnal yng Nghymru ac y mae corff cychwyn yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu drwy orchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102, yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; neu ”; ac
(c)ym mharagraffau (3) a (6), yn lle “cais” ei fod yn darllen “gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 arfaethedig”.