- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 16 Mawrth 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015(1).
2.—(1) Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rheoliad 1(3)—
(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “daw’r Rheoliadau hyn i rym;” hepgorer “a”;
(b)yn is-baragraff (ix) ar ôl “ganiatâd cynllunio)” mewnosoder “; ac”;
(c)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“(c)i archiadau am ddarpariaeth o wasanaethau cyn ymgeisio gan awdurdod cynllunio lleol.”
(3) Yn rheoliad 2 yn y mannau priodol mewnosoder—
“ystyr “Rheoliadau 2016” (“the 2016 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gwasanaethau Cyn Ymgeisio) (Cymru) 2016;” ac
“mae i “datblygiad gwastraff” (“waste development”) yr un ystyr ag yn erthygl 2(1) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu.”
(4) Ar ôl rheoliad (2) mewnosoder—
2A.—(1) Pan gyflwynir archiad i awdurdod cynllunio lleol am wasanaethau cyn ymgeisio o dan Reoliadau 2016, rhaid talu ffi i’r awdurdod hwnnw.
(2) Cyfrifir y ffi, sy’n daladwy mewn cysylltiad ag archiad am wasanaethau cyn ymgeisio, yn unol ag Atodlen 4.
(3) Rhaid talu’r ffi i’r awdurdod cynllunio lleol y cyflwynir yr archiad iddo, a rhaid ei chyflwyno ynghyd â’r archiad.
(4) Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a delir o dan y rheoliad hwn os gwrthodir yr archiad fel un annilys.”
(5) Ar ôl Atodlen 3, mewnosoder yr Atodlen 4 a gynhwysir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
3.—(1) Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio ymhellach fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 8(3) rhodder—
“(3) Yn y rheoliad hwn mae i “cais dilys” (“valid application”), yn achos cais am ganiatâd cynllunio, yr un ystyr ag yn erthygl 22(3) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu, ac yn achos cais am gymeradwyaeth ar gyfer materion wrth gefn, yr un ystyr ag yn erthygl 23(3) o’r Gorchymyn hwnnw(2).”
(3) Yn rheoliad 9(3) —
(a)ar ôl “yn erthygl 22(2)” mewnosoder “neu 23(1)”; a
(b)ar ôl “o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu” mewnosoder “yn ôl y digwydd”.
(4) Yn rheoliad 15(1) ar ôl “Pan fo cais” mewnosoder “(ac eithrio cais am gymeradwyaeth ar gyfer materion wrth gefn)”.
(5) Yn rheoliad 15(2) yn lle “erthygl 23” rhodder “erthygl 23(1)”.
4.—(1) Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio ymhellach fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 16(1)(a) yn lle “cais deiliad tŷ” rhodder “cais am newid gan ddeiliad tŷ”.
(3) Yn rheoliad 16(5)—
(i)ar ôl “Yn y rheoliad hwn” mewnosoder “ac ym mharagraff 5A o Ran 1 o Atodlen 1” a
(ii)yn lle ““cais deiliad tŷ” (“householder application”)” rhodder ““cais am newid gan ddeiliad tŷ” (“householder change application”)”.
(4) Ym mharagraff 5 o Ran 1 o Atodlen 1, yn lle “Pan” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff 5A, pan”.
(5) Ar ôl paragraff 5 mewnosoder—
“5A.—(1) Pan wneir cais yn unol ag adran 73 o Ddeddf 1990—
(a)yn dilyn gwrthod, neu wrthod yn rhannol, gais cynharach o dan 96A(4) o Ddeddf 1990 a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd; neu
(b)pan nad yw’r awdurdod cynllunio lleol wedi rhoi hysbysiad o’i benderfyniad mewn cysylltiad â chais cynharach o dan 96A(4) o Ddeddf 1990, a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd, o fewn y cyfnod a bennir yn erthygl 28A(7) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu(3);
a’r holl amodau a nodir yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, y ffi sy’n daladwy yw’r ffi a bennir yn is-baragraff (3).
(2) Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—
(a)y gwnaed y cais o fewn 6 mis yn dilyn—
(i)dyddiad gwrthod neu wrthod yn rhannol y cais cynharach; neu
(ii)yn ôl fel y digwydd, diwedd y cyfnod a bennir yn erthygl 28A(7) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu mewn perthynas â’r cais cynharach;
(b)bod yr awdurdod cynllunio lleol y cyflwynir y cais iddo wedi ei fodloni bod y cais yn ymwneud â datblygiad o’r un cymeriad neu ddisgrifiad â’r datblygiad yr oedd y cais cynharach yn ymwneud ag ef (ac nid yn ymwneud ag unrhyw ddatblygiad arall);
(c)bod y ffi a oedd yn daladwy mewn cysylltiad â’r cais cynharach wedi ei thalu; a
(d)nad yw’r ceisydd eisoes wedi talu ffi o dan y paragraff hwn mewn cysylltiad â chais blaenorol a wnaed yn unol ag adran 73 o Ddeddf 1990, a oedd yn ymwneud â datblygiad o’r un cymeriad neu ddisgrifiad â’r datblygiad y mae’r cais presennol yn ymwneud ag ef.
(3) Y ffi yw—
(a)os yw’r cais yn gais am newid gan ddeiliad tŷ, £160;
(b)mewn unrhyw achos arall, £95.”
5.—(1) Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio ymhellach fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 16, mewnosoder—
16A.—(1) Pan fo diwygiad i gais dilys y mae paragraff (2) yn gymwys iddo wedi ei gyflwyno i awdurdod cynllunio lleol yn unol ag erthygl 22(1A) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu, rhaid talu’r ffi a bennir ym mharagraff (3) i’r awdurdod cynllunio lleol.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ddiwygiad i gais dilys am ddatblygiad mawr.
(3) Y ffi yw £190.
(4) Yn y rheoliad hwn—
(a)mae i “cais dilys” (“valid application”) yr un ystyr ag yn erthygl 22(3) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu;
(b)mae i “datblygiad mawr” (“major development”) yr un ystyr ag yn erthygl 2(1) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu.”
6. Nid yw’r darpariaethau ym mharagraffau (2) a (3) o reoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i gais am gymeradwyaeth ar gyfer materion wrth gefn a wneir cyn y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Adnoddau Naturiol, un o Weinidogion Cymru
26 Ionawr 2016
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys