- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
22 Mehefin 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Mehefin 2016
Yn dod i rym
20 Gorffennaf 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1), 17(2), 26(3) a 48 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014(3) at Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 828/2014 ynghylch y gofynion ar gyfer darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am absenoldeb glwten mewn bwyd neu fod llai o glwten yn bresennol ynddo gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
I’r graddau y mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A)(4) o’r Ddeddf honno.
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5) wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Gorffennaf 2016.
2.—(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (6).
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)ar ddiwedd y diffiniad o “parod i’w fwyta”, hepgorer “ac”;
(ii)ar ôl y diffiniad o “parod i’w fwyta” mewnosoder—
“ystyr “Rheoliad 828/2014” (“Regulation 828/2014”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 828/2014 ynghylch y gofynion ar gyfer darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am absenoldeb glwten mewn bwyd neu fod llai o glwten yn bresennol ynddo; ac”;
(b)ym mharagraff (3), ar ôl “(gan gynnwys cyfeiriad at Erthygl yn FIC neu Atodiad iddo ac y mae paragraff (2) yn gymwys iddo)” mewnosoder “neu at Reoliad 828/2014 neu ddarpariaeth yn Rheoliad 828/2014,”.
(3) Yn rheoliad 10 (trosedd)—
(a)ym mharagraff (1)(a) yn lle “, neu” rhodder “;”;
(b)ym mharagraff (1)(b) yn lle “.” rhodder “; neu”;
(c)ar ôl paragraff (1)(b) mewnosoder—
“(c)ag unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad 828/2014 a bennir ym mharagraff (3).”;
(d)ar ôl paragraff (2), mewnosoder—
“(3) Y darpariaethau yn Rheoliad 828/2014 yw—
(a)Erthygl 3(1) fel y’i darllenir gydag Erthyglau 1(3), 6, 7 ac 36(1) a (2) yn FIC ac Erthyglau 2 a 3(2) a (3) o Reoliad 828/2014 a’r Atodiad iddo;
(b)Erthygl 4 fel y’i darllenir gydag Erthygl 2.”
(4) Yn rheoliad 12 (cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf)—
(a)ym mharagraff (1)(a)(i) ar ôl “darpariaeth yn FIC” mewnosoder “neu Reoliad 828/2014”;
(b)ym mharagraff (2)(a) ar ôl “darpariaeth yn FIC” mewnosoder “neu Reoliad 828/2014”.
(5) Yn Atodlen 1 (darpariaethau y Rheoliadau hyn sy’n cynnwys cyfeiriadau newidiadwy at FIC yn rhinwedd rheoliad 2(3))—
(a)yn y pennawd ar ôl “FIC” mewnosoder “neu Reoliad 828/2014”; a
(b)yn y llinell gyntaf, ar ôl “ac eithrio’r diffiniad o “FIC””, mewnosoder “a Rheoliad 828/2014”.
(6) Yn Atodlen 4 (cymhwyso ac addasu darpariaethau’r Ddeddf)—
(a)yn Rhan 1, paragraff 1—
(i)ar ddiwedd is-adran (1A)(c) hepgorer “or”;
(ii)ar ddiwedd is-adran (1A)(d)(iii) hepgorer “or”;
(iii)ar ddiwedd is-adran (1A)(d)(iv) yn lle “.” rhodder—
“; or
(e)a provision of Commission Implementing Regulation (EU) No 828/2014 on the requirements for the provision of information to consumers on the absence or reduced presence of gluten in food specified in the table in Part 4 of Schedule 5 to the Food Information Regulations (Wales) 2014 (as read with regulation 2(3) of, and Schedule 1 to, those Regulations).”;
(b)yn Rhan 2, paragraff 2, ym mharagraff (a)(iii) ar ôl “any other provision of Regulation (EU) No 1169/2011 of the European Parliament and of the Council” mewnosoder “or Commission Implementing Regulation (EU) No 828/2014 on the requirements for the provision of information to consumers on the absence or reduced presence of gluten in food”.
(7) Yn Atodlen 5 (hysbysiadau gwella – darpariaethau FIC penodedig)—
(a)yn y pennawd, hepgorer “FIC”;
(b)ar ôl Rhan 3 mewnosoder—
Y ddarpariaeth yn Rheoliad 828/2014 | Y ddarpariaeth sydd i’w darllen gyda’r ddarpariaeth yn Rheoliad 828/2014 |
---|---|
Erthygl 3(1) | Erthyglau 1(3), 6, 7 ac 36(1) a (2) yn FIC ac Erthyglau 2 a 3(2) a (3) o Reoliad 828/2014 a’r Atodiad iddo |
Erthygl 4 | Erthygl 2 o Reoliad 828/2014”. |
3. Mae Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sy’n Addas i Bobl ag Anoddefiad tuag at Glwten (Cymru) 2010(6) wedi eu dirymu.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
22 Mehefin 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 828/2014 dyddiedig 30 Gorffennaf 2014 ynghylch y gofynion ar gyfer darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am absenoldeb glwten mewn bwyd neu fod llai o glwten yn bresennol ynddo (OJ Rhif L 228, 31.7.2014, t 5) (“Rheoliad 828/2014”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303 (Cy. 227)) (“RhGF”) drwy—
(a)mewnosod diffiniad o Reoliad 828/2014 a thrwy ddarparu bod unrhyw gyfeiriad yn RhGF at Reoliad 828/2014 i gael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd (rheoliad 2(2), 2(5));
(b)darparu y caiff awdurdodau bwyd, ar ac ar ôl 20 Gorffennaf 2016, ddyroddi hysbysiadau gwella, neu erlyn ar unwaith, ar gyfer methiannau i gydymffurfio ag Erthyglau 3(1) a 4 o Reoliad 828/2014 (rheoliad 2(3), 2(4)(a), 2(6)(a), 2(7));
(c)rhoi pŵer i swyddogion awdurdodedig awdurdod bwyd neu awdurdod iechyd porthladd i fynd i mewn i eiddo er mwyn darganfod a oes, neu a fu, unrhyw achos o fynd yn groes i Erthyglau 3(1) a 4 o Reoliad 828/2014 (rheoliad 2(4)(b), 2(6)(b)).
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sy’n Addas i Bobl ag Anoddefiad tuag at Glwten (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2651 (Cy. 219)) (rheoliad 3).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1990 p. 16. Diwygiwyd adran 16(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 17(2) gan baragraffau 8 a 12 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2011/1043. Diwygiwyd adran 48 gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) ac O.S. 2007/1388.
Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28).
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mai 2014.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys