- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Mae’r rheoliad hwn a rheoliadau 2, 4, 5, 8, 10, 12(2), 14 ac 16 yn dod i rym ar 22 Chwefror 2016.
(3) Mae pob rheoliad arall a’r Atodlen—
(a)yn dod i rym ar 22 Chwefror 2016; a
(b)yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2016 pa un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2016.
(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015(1) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 18.
3. Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—
(1) ar ôl y diffiniad o “cyfnod arferol” mewnosoder—
“mae i “cyfnod hawlogaeth” (“entitlement period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 28(3A);”
(2) ar ôl y diffiniad o “chwarter” mewnosoder—
“mae i “datganiad cymhwystra dilys” (“valid declaration of eligibility”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 28(3A).”
4. Yn rheoliad 5 (cyrsiau dynodedig) ar ôl paragraff (8) mewnosoder—
“(9) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs a ddynodir o dan baragraff (8).”
5. Yn rheoliad 10 (terfynau amser), ym mharagraff (2)(e) yn lle “22(4)” rhodder “22(7)”.
6. Yn lle rheoliad 12 (gofyniad i ymrwymo i gontract ar gyfer benthyciad), rhodder—
12.—(1) Er mwyn cael benthyciad rhaid i fyfyriwr cymwys ymrwymo i gontract gyda Gweinidogion Cymru ar delerau sydd i’w penderfynu gan Weinidogion Cymru.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys lofnodi contract drwy ddefnyddio llofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru.”
7. Yn rheoliad 28 (grantiau ar gyfer dibynyddion – grant gofal plant)—
(1) Ym mharagraff (2), ar ôl “baragraffau (3)” mewnosoder “, (3B)”.
(2) Ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(3A) Yn y Rheoliadau hyn, mae i “cyfnod hawlogaeth” a “datganiad cymhwystra dilys” yr un ystyr ag a roddir i “entitlement period” a “valid declaration of eligibility” at ddibenion Deddf Taliadau Gofal Plant 2014(2) a rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf honno.
(3B) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn yn ystod unrhyw gyfnod hawlogaeth pan fo myfyriwr cymwys neu bartner myfyriwr cymwys wedi gwneud datganiad cymhwystra dilys o dan Ddeddf Taliadau Gofal Plant 2014 mewn perthynas ag unrhyw blentyn.”
8. Yn y testun Saesneg yn rheoliad 37 (grant cynhaliaeth – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad ydynt yn fyfyrwyr carfan newydd), ym mharagraff (3)(a) ar ôl “£3,000” hepgorer y coma.
9. Yn rheoliad 67 (gordaliadau), ar ôl paragraff (13) mewnosoder—
“(14) At ddiben y rheoliad hwn mae cyfeiriad at fyfyriwr cymwys yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth o dan Ran 5 neu 6 ond nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 4 (myfyrwyr cymwys).”
10. Yn rheoliad 71 (cyrsiau dysgu o bell dynodedig), ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
“(6) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs a ddynodir o dan y rheoliad hwn.”
11. Yn rheoliad 85 (gordaliadau), ar ôl paragraff (10) mewnosoder—
“(11) At ddiben y rheoliad hwn mae cyfeiriad at fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth o dan y Rhan hon ond nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 69 (myfyrwyr dysgu o bell cymwys).”
12. Yn rheoliad 88 (cyrsiau rhan-amser dynodedig)—
(1) ar ôl paragraff (1)(d) mewnosoder—
“(dd)ar gyfer cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2016 ac sy’n dod o fewn paragraff 1, 2, 4, 6, 7 neu 8 o Atodlen 2, os yw’n gwrs sy’n arwain at ddyfarniad sydd wedi ei roi neu sydd i’w roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(3).”
(2) ar ôl paragraff (7) mewnosoder—
“(8) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs a ddynodir o dan baragraff (6).”
13. Yn rheoliad 97 (grant rhan-amser ar gyfer gofal plant)—
(1) Ym mharagraff (2), ar ôl “baragraffau (3)” mewnosoder “, (3A)”.
(2) Ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(3A) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn yn ystod unrhyw gyfnod hawlogaeth pan fo myfyriwr cymwys neu bartner myfyriwr cymwys wedi gwneud datganiad cymhwystra dilys o dan Ddeddf Taliadau Gofal Plant 2014 mewn perthynas ag unrhyw blentyn.”
14. Yn rheoliad 100 (grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion – dehongli)—
(1) ym mharagraff (1)(j) yn lle “(i), (j), (k)” rhodder “(p), (q), (r)”;
(2) ym mharagraff (1)(j) yn lle “(2) a (3)” rhodder “(3) a (4)”;
(3) ym mharagraff (1)(q) yn lle “(h)” rhodder “(j)”;
(4) ym mharagraff (1)(r) yn lle “(h)” rhodder “(j)”;
(5) ym mharagraff (5) yn lle “(5)” rhodder “(6)”;
(6) ym mharagraff (6) yn lle “(4)” rhodder “(5)”.
15. Yn rheoliad 114 (gordaliadau), ar ôl paragraff (10) mewnosoder—
“(11) At ddiben y rheoliad hwn mae cyfeiriad at fyfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth o dan y Rhan hon ond nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 86 (myfyrwyr rhan-amser cymwys).”
16. Yn rheoliad 117 (cyrsiau ôl-radd dynodedig)—
(1) yn y testun Saesneg ym mharagraff (1)(c) ar ôl “institution” yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “in”;
(2) ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
“(5) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs a ddynodir o dan baragraff (4).”
17. Yn rheoliad 124 (gordaliadau), ar ôl paragraff (9) mewnosoder—
“(10) At ddiben y rheoliad hwn mae cyfeiriad at fyfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth o dan y Rhan hon ond nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 115 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys).”
18. Mae’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn cael effaith i roi’r ffigur yn nhrydedd golofn y tabl yn lle’r ffigur yn yr ail golofn lle y mae’n ymddangos yn y rheoliad yn Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015 a nodir yn y golofn gyntaf.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
26 Ionawr 2016
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys