- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
27 Ionawr 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Chwefror 2016
Yn dod i rym
1 Ebrill 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 50(2), 50(3), 50(4), 50(4E), 81(2), 81(3) a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2);
Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal y cyfryw ymgynghoriad ag sy’n ofynnol yn rhinwedd adran 50(5) o’r Ddeddf honno;
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y diwygiadau i’r cod ymddygiad enghreifftiol a ddyroddir o dan adran 50(2) yn gyson â’r egwyddorion a bennir yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001(3) a wnaed yn unol ag adran 49(2), fel sy’n ofynnol gan adran 50(4)(a) o’r Ddeddf honno.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2016 a daw i rym ar 1 Ebrill 2016.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod perthnasol yng Nghymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yr ystyr a nodir yn Rhan 1 o’r cod enghreifftiol yn yr Atodlen i Orchymyn 2008;
ystyr “Gorchymyn 2008” (“the 2008 Order”) yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008(4).
2.—(1) Mae’r cod enghreifftiol yn yr Atodlen i Orchymyn 2008 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1—
(a)ym mharagraff 1(1), yn y man priodol mewnosoder—
“ystyr “cofrestr o fuddiannau’r aelodau” (“register of members’ interests”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gedwir o dan adran 81 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;”;
(b)yn lle paragraff 1(2) rhodder—
“(2) Mewn perthynas â chyngor cymuned—
(a)ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”) yw swyddog o’r cyngor hwnnw o fewn ystyr adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5); a
(b)ystyr “pwyllgor safonau” (“standards committee”) yw pwyllgor safonau’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol sydd â swyddogaethau mewn perthynas â’r cyngor cymuned y mae’n gyfrifol amdano o dan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.”
(3) Yn Rhan 2—
(a)ym mharagraff 3(a) yn lle “awdurdod heddlu neu Fwrdd” rhodder “Bwrdd”;
(b)ym mharagraff 6(1)(c) hepgorer “i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac”.
(4) Yn Rhan 3—
(a)hepgorer paragraff 10(2)(b);
(b)ym mharagraff 11(4), ar ôl “swyddog monitro eich awdurdod” mewnosoder “, neu mewn perthynas â chyngor cymuned, swyddog priodol eich awdurdod”;
(c)yn lle paragraff 12(2)(b)(iv) rhodder—
“(iv)â swyddogaethau eich awdurdod mewn cysylltiad â lwfans neu daliad a wneir yn unol â darpariaethau Rhan 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011(6), neu lwfans neu bensiwn a ddarperir o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(7);”;
(d)ym mharagraff 14—
(i)yn is-baragraff (1), ar ôl “is-baragraffau (2),” mewnosoder “(2A),”;
(ii)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
“(2A) Os oes gennych fuddiant sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes y mae a wnelo eich awdurdod ag ef cewch gyflwyno cynrychioliadau ysgrifenedig i gyfarfod sy’n ymwneud â’r busnes hwnnw, ar yr amod y caniateir i’r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod at y diben o wneud cynrychioliadau, ateb cwestiynau neu roi tystiolaeth sy’n ymwneud â’r busnes, pa un ai o dan hawl statudol neu fel arall.
(2B) Pan fyddwch yn cyflwyno cynrychioliadau ysgrifenedig o dan is-baragraff (2A), rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw weithdrefn y caiff eich awdurdod ei fabwysiadu ar gyfer cyflwyno cynrychioliadau o’r fath.”
(5) Yn Rhan 4—
(a)yn lle paragraff 15 rhodder—
15.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), rhaid i chi, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl—
(a)i god ymddygiad eich awdurdod gael ei fabwysiadu neu i ddarpariaethau gorfodol y cod enghreifftiol hwn gael eu cymhwyso i’ch awdurdod; neu
(b)i chi gael eich ethol neu eich penodi i swydd (os digwydd hynny’n ddiweddarach),
gofrestru eich buddiannau personol, os ydynt yn dod o fewn categori a grybwyllir ym mharagraff 10(2)(a), yng nghofrestr eich awdurdod o fuddiannau’r aelodau drwy ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), rhaid i chi, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl dod yn ymwybodol o unrhyw fuddiant personol newydd sy’n dod o fewn categori a grybwyllir ym mharagraff 10(2)(a), gofrestru’r buddiant personol newydd hwnnw yng nghofrestr eich awdurdod o fuddiannau’r aelodau drwy ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod.
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), rhaid i chi, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl dod yn ymwybodol o unrhyw newid i fuddiant personol a gofrestrwyd sy’n dod o fewn categori a grybwyllir ym mharagraff 10(2)(a), gofrestru’r newid hwnnw yng nghofrestr eich awdurdod o fuddiannau’r aelodau drwy ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod, neu, yn achos cyngor cymuned, swyddog priodol eich awdurdod.
(4) Nid yw is-baragraffau (1), (2) a (3) yn gymwys i wybodaeth sensitif a benderfynir yn unol â pharagraff 16(1).
(5) Nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys os ydych yn aelod o awdurdod perthnasol sy’n gyngor cymuned pan fyddwch yn gweithredu yn eich capasiti fel aelod o awdurdod o’r fath.
(6) Pan fyddwch yn datgelu buddiant personol yn unol â pharagraff 11 am y tro cyntaf, rhaid i chi gofrestru’r buddiant personol hwnnw yng nghofrestr eich awdurdod o fuddiannau’r aelodau drwy ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod, neu, yn achos cyngor cymuned, swyddog priodol eich awdurdod.”;
(b)ym mharagraff 16(2), ar ôl “swyddog monitro eich awdurdod” mewnosoder “, neu mewn perthynas â chyngor cymuned, swyddog priodol eich awdurdod”;
(c)ym mharagraff 17, ar ôl “swyddog monitro eich awdurdod” mewnosoder “, neu mewn perthynas â chyngor cymuned, swyddog priodol eich awdurdod”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008 (“Gorchymyn 2008”) sy’n nodi cod enghreifftiol o ran yr ymddygiad y disgwylir i aelodau ac aelodau cyfetholedig o awdurdodau perthnasol yng Nghymru ei arddel o dan adran 50(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Mae adran 50(3) o’r Ddeddf honno yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio cod enghreifftiol sydd wedi ei ddyroddi.
Yr awdurdodau perthnasol yng Nghymru at ddibenion y Gorchymyn hwn yw: cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn diwygio’r paragraffau a ganlyn o’r cod enghreifftiol a nodir yn yr Atodlen i Orchymyn 2008:
paragraff 1(1), drwy fewnosod diffiniad o “cofrestr o fuddiannau’r aelodau”;
paragraff 1(2), drwy fewnosod diffiniad o “swyddog priodol” a darparu eglurhad o ran cyfeiriadau at bwyllgorau safonau mewn perthynas â chyngor cymuned;
paragraff 3(a), drwy hepgor y cyfeiriad at awdurdodau’r heddlu;
paragraff 6(1)(c), drwy gael gwared ar y gofyniad i aelodau adrodd ar achosion posibl o ymddygiad sy’n groes i’w cod ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
paragraffau 11(4), 15(2), 16(2) a 17, drwy drosglwyddo rhai swyddogaethau o swyddogion monitro i’r swyddogion priodol o gynghorau cymuned;
paragraff 12(2)(b)(iv), i adlewyrchu’r darpariaethau newydd a geir yn Rhan 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 mewn perthynas â lwfansau a thaliadau;
paragraff 14, drwy fewnosod is-baragraffau newydd (2A) a (2B) sy’n caniatáu i aelodau gyflwyno cyflwyniadau ysgrifenedig i gyfarfod sy’n ymdrin â mater y mae gan aelod fuddiant sy’n rhagfarnu mewn cysylltiad ag ef. Ni chaniateir cyflwyniadau ysgrifenedig ac eithrio yn yr amgylchiadau hynny lle y byddai caniatâd i aelod wneud cynrychioliadau llafar i gyfarfod mewn perthynas â mater, fel arall, ac os yw awdurdod yr aelod yn mabwysiadu gweithdrefn ar gyfer cyflwyno cyflwyniadau ysgrifenedig, rhaid i aelodau gydymffurfio â’r weithdrefn honno;
mae paragraff 15 yn cael ei ailddatgan. Mae’r ailddatganiad yn egluro y dylid cofrestru unrhyw fuddiant a ddatgelir, pa un a yw’r buddiant hwnnw wedi ei ddatgelu’n unol â pharagraffau 11 neu 15 o’r cod enghreifftiol, yng nghofrestr yr awdurdod o fuddiannau’r aelodau, drwy hysbysu’r swyddog monitro neu, mewn perthynas â chyngor cymuned, swyddog priodol o’r awdurdod hwnnw.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn hepgor paragraff 10(2)(b) o’r cod enghreifftiol a nodir yn yr Atodlen i Orchymyn 2008. Mae hyn yn egluro nad yw aelod o awdurdod perthnasol i’w ystyried i gael buddiant personol mewn mater wrth wneud, neu gymryd rhan mewn, penderfyniadau ar ran yr awdurdod am y rheswm, yn syml, fod y busnes sy’n cael ei ystyried yn y cyfarfod yn effeithio ar ward yr aelod hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 50, 81 a 105 i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 2001/2276 (Cy. 166) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/2929 (Cy. 214).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys