Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 96 (Cy. 45)

Plant A Phobl Ifanc, Cymru

Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed

27 Ionawr 2016

Yn dod i rym

1 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 19(4) a (5) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1).

Yn unol ag adran 74(5) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad cyn iddo gael ei wneud.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2016.

(3Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010

2.  Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010(2) (“Gorchymyn 2010”) wedi ei ddiwygio yn unol ag erthyglau 3 i 5 o’r Gorchymyn hwn.

3.  Yn erthygl 2 o Orchymyn 2010

(a)yn lle “o dan wyth oed” rhodder “o dan ddeuddeng oed”;

(b)yn lle “yn yr erthyglau canlynol, 3 i 7.” rhodder “yn erthyglau 3 i 7 ac 16 o’r Gorchymyn hwn.”.

4.  Yn erthygl 8 o Orchymyn 2010—

(a)yn lle “o dan wyth oed” rhodder “o dan ddeuddeng oed”;

(b)yn lle “yn yr erthyglau canlynol, 9 i 15” rhodder “yn erthyglau 9 i 16 o’r Gorchymyn hwn.”.

5.  Ar ôl erthygl 15 o Orchymyn 2010 mewnosoder—

16.(1) Nid yw person yn darparu gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd os ac i’r graddau—

(a)mai dim ond darparu gwasanaeth ieuenctid i bobl ifanc sydd wedi cyrraedd un ar ddeg oed y mae’r person; a

(b)bod unrhyw ofal a ddarperir yn digwydd yn achlysurol mewn cysylltiad â darparu’r gwasanaeth ieuenctid hwnnw.

(2) Yn yr erthygl hon ystyr “gwasanaeth ieuenctid” (“youth service”) yw gweithgaredd o fath a restrir ym mharagraff (3).

(3) At ddibenion paragraff (2), y mathau o weithgaredd yw’r rhai—

(a)sy’n annog, yn galluogi neu’n cynorthwyo pobl ifanc sydd wedi cyrraedd un ar ddeg oed i gymryd rhan yn effeithiol:

(i)mewn gweithgareddau hamdden;

(ii)mewn addysg a hyfforddiant;

(iii)ym mywyd eu cymunedau; a

(b)pan na fo’n ofynnol i’r person ifanc dalu am gymryd rhan mewn gweithgaredd o’r fath neu pan fo’n ofynnol iddo dalu swm nominal yn unig am wneud hynny..

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchi Tlodi, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae Rhan 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu drwy Orchymyn eithriadau i’r hyn a olygir wrth “gwarchod plant” a “gofal dydd i blant”.

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 19(4) a (5) o’r Mesur. Mae’n diwygio Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (“Gorchymyn 2010”) i estyn yr amgylchiadau pan fydd person, y byddai ei weithgarwch fel arall yn dod o fewn y diffiniad o “gwarchod plant” neu “gofal dydd i blant”, wedi ei eithrio o’r diffiniad hwnnw ac felly nad yw’n ofynnol iddo gofrestru.

Mae erthyglau 3 a 4 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i erthyglau 2 ac 8 o Orchymyn 2010.

Mae erthygl 5 o’r Gorchymyn hwn yn eithrio darpariaeth gwasanaeth ieuenctid i bobl ifanc sydd wedi cyrraedd un ar ddeg oed o’r gofyniad i gofrestru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.Gellir cael copi oddi wrth Gellir cael copi oddi wrth y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill