
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Testun rhagarweiniol
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
2017 Rhif 1041 (Cy. 270)
Dŵr, Cymru
Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Hydref 2017
Yn dod i rym
20 Tachwedd 2017
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi() at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972() mewn perthynas ag ansawdd dŵr a fwriedir at ddibenion domestig neu ar gyfer ei ddefnyddio mewn menter cynhyrchu bwyd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal yr ymgynghoriad sy’n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi egwyddorion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn nodi’r gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd().
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac adrannau 67, 77(3) a (4) a 213(2) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991().
Yn ôl i’r brig