- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
6.—(1) Rhaid i awdurdod lleol(1) gynnal asesiad risg ar gyfer pob cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal, ac adolygu a diweddaru’r asesiad risg hwnnw bob 5 mlynedd (neu’n gynharach os yw o’r farn bod yr asesiad risg presennol yn annigonol).
(2) Yn achos cyflenwad a ddarperir i annedd sengl, nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys ond pan fo’r cyflenwad hwnnw’n cael ei ddarparu fel rhan o weithgarwch masnachol neu gyhoeddus, neu fel rhan o denantiaeth ddomestig.
(3) Yn achos cyflenwad a ddarperir i annedd sengl nad yw’n dod o fewn paragraff (2), rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad risg os gofynnir iddo wneud hynny gan berchennog neu feddiannydd yr annedd honno.
(4) Rhaid i asesiad risg—
(a)cadarnhau a oes risg sylweddol o gyflenwi dŵr a fyddai’n peri perygl posibl i iechyd dynol;
(b)bodloni gofynion y Canllawiau Diogelwch Cyflenwadau Dŵr Yfed ar gyfer Rheoli Risgiau ac Argyfyngau(2); ac
(c)ystyried canlyniadau’r rhaglenni monitro a sefydlwyd gan ail baragraff Erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor(3).
(5) Rhaid i awdurdod lleol, o fewn 12 mis o gynnal yr asesiad risg, ddarparu crynodeb o ganlyniadau’r asesiad hwnnw i Weinidogion Cymru.
Gweler adran 219 o’r Ddeddf (fel y’i diwygiwyd gan baragraff 2(2) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19)) am ystyr “local authority”.
EN 15975-2.
OJ Rhif L 327, 22.12.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU (OJ Rhif L 311, 31.10.2014, t. 32).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys