Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 20/11/2017.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Rheoliadau 2, 11, 12, 13, 18 a 19
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 Rhn. 1 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
Paramedrau crynodiadau neu werthoedd rhagnodedig | Crynodiad neu werth uchaf | Unedau Mesur |
---|---|---|
Escherichia coli (E. coli) | 0 | Nifer/100ml |
Enterococi | 0 | Nifer/100ml |
Yn achos dŵr mewn poteli neu gynwysyddion: | ||
Escherichia coli (E.coli) | 0 | Nifer/250ml |
Enterococi | Nifer/250ml | |
Pseudomonas aeruginosa | 0 | Nifer/250ml |
Cyfrifiad cytrefi 22ºC | 100 | Nifer/ml |
Paramedrau crynodiadau neu werthoedd rhagnodedig | Crynodiad neu werth uchaf | Unedau Mesur | |
---|---|---|---|
(1) Mae’r gwerth paramedrig yn cyfeirio at y crynodiad monomerau gweddillol yn y dŵr fel y’i cyfrifir yn ôl manylebau uchafswm y gollyngiad o’r polymer cyfatebol mewn cyffyrddiad â’r dŵr. Rheolir hyn drwy fanylebau cynnyrch. | |||
(2) Gweler hefyd y fformiwla nitrad-nitraid yn rheoliad 4(1)(c). | |||
(3) At y dibenion hyn, ystyr “plaleiddiaid” yw:
| |||
(4) Ystyr “cyfanswm plaleiddiaid” yw swm y crynodiadau o’r plaleiddiaid unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro. | |||
(5) Y cyfansoddion penodedig yw:
Mae’r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o’r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro. | |||
Mae’r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o’r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro. | |||
(6) Mae’r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o’r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro. | |||
(7) Y cyfansoddion penodedig yw:
Mae’r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o’r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro. | |||
Mae’r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o’r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro. | |||
Acrylamid (1) | 0.10 | µg/1 | |
Antimoni | 5.0 | µg/1 | |
Arsenig | 10 | µg/1 | |
Bensen | 1.0 | µg/1 | |
Benso(a)pyren | 0.010 | µg/1 | |
Boron | 1.0 | mg/1 | |
Bromad | 10 | µg/1 | |
Cadmiwm | 5.0 | µg/1 | |
Cromiwm | 50 | µg/1 | |
Copr | 2.0 | mg/1 | |
Cyanid | 50 | µg/1 | |
1.2 dicloroethan | 3.0 | µg/1 | |
Epichlorohydrin(1) | 0.10 | µg/1 | |
Fflworid | 1.5 | mg/1 | |
Plwm | 10 | µg/1 | |
µg/1 | |||
Mercwri | 1.0 | µg/1 | |
Nicel | 20 | µg/1 | |
Nitrad (2) | 50 | mg/l | |
Nitraid (2) | 0.5 (neu 0.1 yn achos gweithfeydd trin) | mg/l | |
Plaleiddiaid (3)— | Aldrin | 0.030 | µg/1 |
Dieldrin | 0.030 | µg/1 | |
Heptaclor | 0.030 | µg/1 | |
Heptaclor epocsid | 0.030 | µg/1 | |
Plaleiddiaid eraill | 0.10 | µg/1 | |
Cyfanswm plaleiddiaid (4) | 0.50 | µg/1 | |
Hydrocarbonau polysyclig aromatig (5) | 0.10 | µg/1 | |
Seleniwm | 10 | µg/1 | |
Tetracloroethen a Thricloroethen(6) | 10 | µg/1 | |
Trihalomethanau: Cyfanswm(7) | 100 | µg/1 | |
Finyl clorid(1) | 0.50 | µg/1 |
Paramedrau | Crynodiad neu werth uchaf | Unedau Mesur |
---|---|---|
Alwminiwm | 200 | µg/1 |
Lliw | 20 | mg/l Pt/Co |
Haearn | 200 | µg/1 |
Manganîs | 50 | µg/1 |
Arogl | Derbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal | |
Sodiwm | 200 | mg/l |
Blas | Derbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal | |
Tetracloromethan | 3 | µg/1 |
Cymylogrwydd | 4 | NTU |
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 Rhn. 2 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
Paramedrau | Crynodiad neu werth uchaf | Unedau Mesur |
---|---|---|
(1) Ni ddylai’r dŵr fod yn ymosodol. | ||
(2) Yn achos dŵr wyneb neu ddŵr daear y dylanwadwyd arno gan ddŵr wyneb yn unig. | ||
Amoniwm | 0.50 | mg/l |
Clorid(1) | 250 | mg/l |
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) | 0 | Nifer/100ml |
Bacteria colifform | 0 | Nifer/100ml (Nifer/250ml yn achos dŵr a roddir mewn poteli neu gynwysyddion) |
Cyfrifau cytrefi | Dim newid annormal | Nifer/ml ar 22°C |
Dargludedd(1) | 2500 | µS/cm ar 20ºC |
Ïonau hydrogen | 9.5 (gwerth uchaf) | Gwerth pH |
6.5 (gwerth isaf) (yn achos dŵr llonydd a roddir mewn poteli neu gynwysyddion y gwerth isaf yw 4.5) | Gwerth pH | |
Sylffad(1) | 250 | mg/l |
Cyfanswm carbon organig (CCO) | Dim newid annormal | mgC/l |
Cymylogrwydd(2) | 1 | NTU |
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 Rhn. 3 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
Paramedrau | Crynodiad neu werth uchaf | Unedau Mesur |
---|---|---|
(1) Bernir bod camau gorfodi gan yr awdurdod lleol wedi eu cyfiawnhau ar sail diogelwch radiolegol heb unrhyw ystyriaeth bellach pan fo’r crynodiadau radon yn uwch na 1,000 Bq/1. | ||
(2) Os yw’r crynodiad o dritiwm yn uwch na’i werth paramedrig, rhaid cynnal ymchwiliad (a gaiff gynnwys dadansoddiad) i bresenoldeb radioniwclidau artiffisial. | ||
Dos dangosol (ar gyfer ymbelydredd) | 0.10 | mSv |
Radon(1) | 100 | Bq/l |
Tritiwm (ar gyfer ymbelydredd)(2) | 100 | Bq/l |
Rheoliadau 2 , 9, 18 a 26
1.—(1) Rhaid i awdurdod lleol fonitro ar gyfer paramedrau Grŵp A yn unol â’r Rhan hon.
(2) Ystyr “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A” yw samplu ar gyfer pob paramedr a restrir yng ngholofn 1 o Dabl 1 o dan yr amgylchiadau a restrir yn y cofnod cyfatebol ar gyfer y paramedr hwnnw yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw er mwyn—
(a)canfod pa un a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd yn Atodlen 1 ai peidio;
(b)darparu gwybodaeth am ansawdd organoleptig a microbiolegol y dŵr; ac
(c)cadarnhau pa mor effeithiol fu’r driniaeth a roddwyd i’r dŵr, gan gynnwys y diheintio.
Paramedrau | Amgylchiadau |
---|---|
Alwminiwm | Os y’i defnyddir fel cemegyn trin dŵr |
Amoniwm | Os defnyddir cloramineiddio |
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) | Pan fo’r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb |
Bacteria colifform | Ym mhob cyflenwad |
Cyfrifau cytrefi | Ym mhob cyflenwad |
Lliw | Ym mhob cyflenwad |
Dargludedd | Ym mhob cyflenwad |
Escherichia coli (E. coli) | Ym mhob cyflenwad |
Crynodiad ïonau hydrogen | Ym mhob cyflenwad |
Haearn | Os y’i defnyddir fel cemegyn trin dŵr |
Manganîs | Pan fo’r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb |
Nitrad | Os defnyddir cloramineiddio |
Nitraid | Os defnyddir cloramineiddio |
Arogl | Ym mhob cyflenwad |
Pseudomonas aeruginosa | Yn achos dŵr mewn poteli neu gynwysyddion yn unig |
Blas | Ym mhob cyflenwad |
Cymylogrwydd | Ym mhob cyflenwad |
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
2. Rhaid cyflawni gwaith samplu ar gyfer paramedrau Grŵp A mor aml ag a bennir yn Nhabl 2.
Cyfaint m3/diwrnod | Amlder samplu fesul blwyddyn |
---|---|
≤ 10 | 1 |
˃ 10 ≤ 100 | 2 |
˃ 100 ≤ 1,000 | 4 |
˃ 1,000 ≤ 2,000 | 10 |
˃ 2,000 ≤ 3,000 | 13 |
˃ 3,000 ≤ 4,000 | 16 |
˃ 4,000 ≤ 5,000 | 19 |
˃ 5,000 ≤ 6,000 | 22 |
˃ 6,000 ≤ 7,000 | 25 |
˃ 7,000 ≤ 8,000 | 28 |
˃ 8,000 ≤ 9,000 | 31 |
˃ 9,000 ≤ 10,000 | 34 |
˃ 10,000 | 4 + 3 am bob 1,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosrif agosaf o 1,000 m3/diwrnod) |
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
3.—(1) Rhaid i awdurdod lleol fonitro ar gyfer paramedrau Grŵp B yn unol â’r Rhan hon.
(2) Ystyr “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B” yw samplu ar gyfer pob paramedr a restrir yn Rhan 1 neu 2 o Atodlen 1 (ac eithrio paramedrau Grŵp A sydd eisoes yn cael eu samplu o dan Ran 1 o’r Atodlen hon)—
(a)er mwyn darparu’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i ganfod pa un a yw’r cyflenwad dŵr preifat yn bodloni pob crynodiad, gwerth neu gyflwr a bennir yn y naill neu’r llall o’r Rhannau hynny o’r Atodlen honno ai peidio; a
(b)os defnyddir diheintio, rhaid gwirio bod cyn lleied o sgil-gynhyrchion diheintio â phosibl heb beryglu effeithiolrwydd y diheintio.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
4. Rhaid cyflawni gwaith samplu ar gyfer paramedrau Grŵp B mor aml ag a bennir yn Nhabl 3.
Cyfaint m3/diwrnod | Amlder samplu fesul blwyddyn |
---|---|
≤ 10 | 1 |
˃ 10 ≤ 3,300 | 2 |
˃ 3,300 ≤ 6,600 | 3 |
˃ 6,600 ≤ 100,000 | 4 |
˃ 10,000 ≤ 100,000 | 3 + 1 am bob 10,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosrif agosaf o 10,000 m3/diwrnod) |
˃ 100,000 | 10 + 1 am bob 25,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosrif agosaf o 25,000 m3/diwrnod) |
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 Rhn. 3 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
Cyfainta y dŵr a gynhyrchir mewn poteli neu gynwysyddion bob dydd (m3) | Monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A: nifer y samplau fesul blwyddyn | Monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B: nifer y samplau fesul blwyddyn |
---|---|---|
≤ 10 | 1 | 1 |
˃ 10 ≤ 60 | 12 | 1 |
˃ 60 | 1 am bob 5 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosydd agosaf o 5 m3/diwrnod) | 1 am bob 100 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosydd agosaf o 100 m3/diwrnod) |
a Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaleddau dros flwyddyn galendr. |
5.—(1) Caiff awdurdod lleol leihau’r amlderau samplu sy’n ofynnol ar gyfer paramedr (ac eithrio ar gyfer Escheria coli (E. coli)) o dan Ran 1 neu 2 o’r Atodlen hon ar yr amod—
(a)bod y canlyniadau o samplau a gymerwyd mewn cysylltiad â’r paramedr hwnnw a gasglwyd ar adegau rheolaidd dros y 3 blynedd flaenorol oll yn is na 60% o’r gwerth paramedrig;
(b)bod canlyniadau asesiad risg yn cael eu hystyried, a bod yr asesiad risg hwnnw yn dangos na ellir yn rhesymol ragweld bod unrhyw ffactor yn debygol o achosi dirywiad yn ansawdd y dŵr sydd i’w yfed gan bobl;
(c)bod data a gesglir wrth gyflawni ei rwymedigaethau monitro o dan y Rhan hon yn cael eu hystyried; a
(d)bod o leiaf un sampl yn cael ei chymryd fesul blwyddyn.
(2) Caiff awdurdod lleol bennu amlder samplu uwch ar gyfer unrhyw baramedr os yw’n ystyried bod hynny’n briodol gan ystyried canfyddiadau unrhyw asesiad risg.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
6.—(1) Caiff awdurdod lleol beidio â monitro paramedr (ac eithrio Escheria coli (E. coli)) y mae fel arall yn ofynnol ei fonitro o dan Ran 1 neu 2 o’r Atodlen hon ar yr amod—
(a)bod y canlyniadau o samplau a gymerwyd mewn cysylltiad â’r paramedr hwnnw a gasglwyd ar adegau rheolaidd dros y 3 blynedd flaenorol oll yn is na 30% o’r gwerth paramedrig;
(b)bod canlyniadau asesiad risg yn cael eu hystyried, a bod yr asesiad risg hwnnw yn dangos na ellir yn rhesymol ragweld bod unrhyw ffactor yn debygol o achosi dirywiad yn ansawdd y dŵr sydd i’w yfed gan bobl; ac
(c)bod data a gesglir wrth gyflawni ei rwymedigaethau monitro o dan y Rhan hon yn cael eu hystyried.
(2) Caiff awdurdod lleol fonitro ar gyfer priodoleddau, elfennau, organebau neu sylweddau eraill nad ydynt wedi eu cynnwys fel paramedr os yw’n ystyried bod hynny’n briodol gan ystyried canfyddiadau unrhyw asesiad risg.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
Rheoliadau 12 a 13
1.—(1) Mewn perthynas â’r paramedr radon yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i awdurdod lleol—
(a)sicrhau y cynhelir arolwg cynrychioliadol yn unol ag is-baragraff (2) i ganfod pa mor debygol ydyw y bydd cyflenwad dŵr preifat yn methu â chydymffurfio â’r crynodiad neu’r gwerth paramedrig perthnasol a bennir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol; a
(b)cynnal gwaith monitro pan fo rheswm i gredu, ar sail canlyniadau’r arolygon cynrychioliadol neu wybodaeth ddibynadwy arall, gan gynnwys unrhyw asesiad risg a gyflawnir yn unol â rheoliad 6, y gall y gwerth paramedrig ar gyfer y paramedr radon fod yn uwch na’r hyn a nodir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol.
(2) Rhaid llunio arolwg cynrychioliadol yn y fath fodd—
(a)er mwyn gallu canfod maint a natur y tebygolrwydd o ddod i gysylltiad â radon mewn dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl sy’n dod o fathau gwahanol o ffynonellau dŵr daear a ffynhonnau mewn ardaloedd daearegol gwahanol; a
(b)y gellir nodi’r paramedrau sylfaenol, yn enwedig daeareg a hydroleg yr ardal, ymbelydredd y creigiau neu’r pridd, a’r math o ffynnon, a defnyddio’r wybodaeth honno i gyfeirio camau gweithredu pellach i ardaloedd sy’n debygol o ddod i gysylltiad â lefel uchel o radon.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
2.—(1) Mewn perthynas â’r paramedr tritiwm yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i awdurdod lleol—
(a)cyflawni gwaith monitro pan fo ffynhonnell anthropogenig o dritiwm neu radioniwclidau artiffisial eraill yn bresennol yn y dalgylch, ac ni ellir dangos ar sail rhaglenni gwyliadwriaeth neu ymchwiliadau eraill, gan gynnwys unrhyw asesiad risg a gyflawnir yn unol â rheoliad 6, fod lefel y tritiwm yn is na’r gwerth paramedrig a restrir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol; a
(b)cynnal ymchwiliad mewn perthynas â phresenoldeb radioniwclidau artiffisial eraill os yw’r crynodiad o dritiwm yn uwch na’r gwerth paramedrig a restrir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol.
(2) Pan fo monitro yn ofynnol o dan is-baragraff (1)—
(a)rhaid cynnal y gwaith monitro mor aml ag a nodir ar gyfer monitro’r paramedrau Grŵp B yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2; neu
(b)rhaid cynnal y gwaith monitro (yn achos cyflenwad dŵr preifat sy’n dod o fewn cwmpas rheoliad 11(1)) o leiaf bob 5 mlynedd neu’n amlach os yw’r asesiad risg y cyfeirir ato o dan is-baragraff (1)(a) yn dangos bod hynny’n angenrheidiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
3.—(1) Mewn perthynas â’r paramedr dos dangosol yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i awdurdod lleol gyflawni gwaith monitro pan fo ffynhonnell ymbelydredd artiffisial neu lefel uwch o ymbelydredd naturiol yn bresennol ac ni ellir dangos, ar sail rhaglenni gwyliadwriaeth neu ymchwiliadau eraill, gan gynnwys unrhyw asesiad risg a gyflawnir yn unol â rheoliad 6, fod lefel y dos dangosol yn is na’r gwerth paramedrig a restrir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol.
(2) Pan fo monitro yn ofynnol gan is-baragraff (1) mewn perthynas â radioniwclidau artiffisial—
(a)rhaid cynnal y gwaith monitro mor aml ag a nodir ar gyfer monitro’r paramedrau Grŵp B yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2; neu
(b)rhaid cynnal y gwaith monitro (yn achos cyflenwad dŵr preifat sy’n dod o fewn cwmpas rheoliad 11(1)) o leiaf bob 5 mlynedd neu’n amlach os yw’r asesiad risg yn dangos bod hynny’n angenrheidiol.
(3) Pan fo monitro yn ofynnol gan is-baragraff (1) mewn perthynas â ffynhonnell lefel uwch o ymbelydredd naturiol—
(a)o ran yr awdurdod lleol—
(i)caiff benderfynu pa mor aml y dylid monitro yn ei ardal yn dibynnu ar y strategaeth sgrinio a fabwysiedir gan yr awdurdod; a
(ii)rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig am ei benderfyniad o dan is-baragraff (i); a
(b)caniateir i’r amlder monitro a benderfynir o dan baragraff (a)(i) amrywio o un mesuriad gwirio i’r amlderau a nodir ar gyfer monitro’r paramedrau Grŵp B yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2.
(4) Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu o dan is-baragraff (3) bod un mesuriad gwirio ar gyfer ymbelydredd naturiol yn briodol, rhaid i’r awdurdod lleol gynnal gwiriad pellach os oes unrhyw newid yn digwydd mewn perthynas â’r cyflenwad dŵr preifat sy’n debygol o ddylanwadu ar y crynodiadau o radioniwclidau yn y cyflenwad.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
4. Pan fo cyflenwad dŵr preifat wedi ei drin i leihau lefel y radioniwclidau, rhaid i’r awdurdod lleol fonitro’r cyflenwad ar gyfer cyfanswm y dos dangosol, radon a thritiwm yn unol â darpariaethau’r Rhan hon ac mor aml ag a nodir ar gyfer monitro paramedrau Grŵp B yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2 i wirhau effeithiolrwydd parhaus y driniaeth honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
5. Pan fo gwerth sampl benodol a gymerir gan awdurdod lleol yn uwch na’r gwerth paramedrig yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i Weinidogion Cymru bennu, drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod lleol, raddau’r gwaith ailsamplu sy’n angenrheidiol i sicrhau bod y gwerthoedd a fesurir yn gynrychioliadol o grynodiad gweithgarwch cyfartalog ar gyfer blwyddyn lawn.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
Rheoliadau 13 a 14
1.—(1) Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, fod y gofynion priodol wedi eu bodloni wrth—
(a)cymryd, trin, cludo a storio sampl y mae’n ofynnol ei chymryd yn unol â’r Atodlen hon;
(b)dadansoddi sampl o’r fath; neu
(c)achosi i unrhyw sampl o’r fath gael ei chymryd, ei thrin, ei chludo, ei storio neu ei dadansoddi.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “y gofynion priodol” yw unrhyw rai o’r canlynol sy’n gymwys—
(a)bod y sampl yn gynrychioliadol o ansawdd y dŵr ar yr adeg y cymerir y sampl;
(b)bod y person sy’n cymryd y sampl yn ddarostyngedig i system reoli ansawdd i safon briodol sy’n cael ei gwirio o bryd i’w gilydd gan gorff achrededig addas;
(c)nad yw’r sampl yn cael ei halogi wrth ei chymryd;
(d)bod y sampl yn cael ei chadw ar y fath dymheredd ac o dan y fath amodau sy’n sicrhau nad oes unrhyw newid perthnasol o ran y crynodiad neu’r gwerth ar gyfer y mesur neu’r arsylwi y mae’r sampl wedi ei bwriadu ar ei gyfer;
(e)bod y sampl yn cael ei dadansoddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ei chymryd—
(i)gan berson sy’n gymwys i wneud hynny, neu o dan oruchwyliaeth person o’r fath; a
(ii)gan ddefnyddio unrhyw gyfarpar sy’n addas ar gyfer y diben;
(f)rhaid i’r broses o gasglu a chludo samplau, neu fesuriadau a gofnodir drwy fonitro parhaus, fod yn ddarostyngedig i system reoli ansawdd i safon briodol sy’n cael ei gwirio o bryd i’w gilydd gan gorff achrededig addas.
(3) Wrth ymgymryd â’r gweithgarwch a ddisgrifir yn—
(a)is-baragraff (1)(a), rhaid i’r awdurdod lleol ddangos cydymffurfedd ag unrhyw un neu ragor o EN ISO/IEC 17024, EN ISO/EIC 17025, neu safon gyfatebol arall sy’n cael ei derbyn yn rhyngwladol;
(b)is-baragraff (1)(b), rhaid i’r awdurdod lleol ddangos cydymffurfedd ag EN ISO/EIC 17025, neu safon gyfatebol arall sy’n cael ei derbyn yn rhyngwladol.
(4) Caniateir gohirio gweithredu’r gofyniad yn is-baragraff (3)(a) am gyfnod o ddim mwy na 24 mis gan ddechrau ar y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
(5) Yn y paragraff hwn, ystyr “corff achrededig addas” yw unrhyw berson sydd wedi ei achredu gan Wasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
2. Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, mae’r dull dadansoddi wedi ei bennu yn ail golofn y tabl hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
3.—(1) Ar 31 Rhagfyr 2019 neu cyn hynny, caiff yr awdurdod lleol gymhwyso’r dull o ddadansoddi ar gyfer paramedrau cemegol a dangosyddion yn naill ai is-baragraff (3) neu is-baragraff (4).
(2) Ar ôl 31 Rhagfyr 2019, rhaid i’r awdurdod lleol gymhwyso’r dull o ddadansoddi ar gyfer paramedrau cemegol a dangosyddion yn is-baragraff (4).
(3) Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, mae’r dull yn un sy’n gallu—
(a)mesur crynodiadau a gwerthoedd gyda’r gwiredd a’r trachywiredd a bennir yn ail golofn a thrydedd golofn y tabl hwnnw, a
(b)canfod y paramedr ar y terfyn canfod a bennir ym mhedwaredd golofn y tabl hwnnw.
(4) Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 3 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, mae’r dull yn un sy’n gallu mesur crynodiadau sy’n hafal â’r—
(a)gwerth paramedrig gyda therfyn meintioliad o 30% neu lai o’r gwerth paramedrig perthnasol (fel sydd wedi ei gynnwys yn Atodlen 1), a
(b)yr ansicrwydd mesuriadau yn ail golofn y tabl hwnnw.
(5) Rhaid i’r dull dadansoddi a ddefnyddir ar gyfer y paramedrau arogl a blas allu mesur gwerthoedd sy’n hafal â’r gwerth paramedrig gyda thrachywiredd o 1 rhif gwanediad ar 25°C.
(6) At y dibenion hyn—
(a)y “terfyn canfod” yw—
(i)tair gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp, o sampl naturiol sy’n cynnwys crynodiad isel o’r paramedr; neu
(ii)pum gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp, o sampl wag;
(b)“trachywiredd” (sef yr hapgyfeiliornad) yw dwywaith y gwyriad safonol (o fewn swp a rhwng sypiau) gwasgariad y canlyniadau o amgylch y cymedr. Trachywiredd derbyniol yw dwywaith y gwyriad safonol cymharol. Mae manylebau pellach wedi eu nodi yn ISO 17025;
(c)“gwiredd” (y cyfeiliornad systematig) yw’r gwahaniaeth rhwng gwerth cymedrig y nifer fawr o fesuriadau mynych a’r gwir werth. Mae manylebau pellach wedi eu nodi yn ISO 17025;
(d)mae “ansicrwydd mesuriadau” yn baramedr annegyddol sy’n nodweddu gwasgariad y gwerthoedd nifer sy’n cael eu mesur, ar sail yr wybodaeth a ddefnyddir.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
4.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi dull sy’n wahanol i’r rheini a nodir ym mharagraff 3(2) neu 3(3) os ydynt yn fodlon ei fod o leiaf yr un mor ddibynadwy.
(2) Caiff awdurdodiad fod am gyfnod cyfyngedig, a chaniateir ei ddirymu ar unrhyw adeg.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
5.—(1) Caiff awdurdod lleol ymrwymo i drefniant i unrhyw berson gymryd samplau a’u dadansoddi ar ran yr awdurdod lleol.
(2) Rhaid i awdurdod lleol beidio ag ymrwymo i drefniant o dan is-baragraff (1) oni fydd—
(a)yn fodlon y cyflawnir y dasg yn brydlon gan berson sy’n gymwys i’w chyflawni, a
(b)wedi gwneud trefniadau i sicrhau y caiff yr awdurdod lleol ei hysbysu ar unwaith am unrhyw doriad o’r Rheoliadau hyn, ac am unrhyw ganlyniad arall o fewn 28 diwrnod.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 4 Rhn. 2 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
Paramedr | Dull |
---|---|
Escherichia coli (E. coli) | EN ISO 9308-1 neu EN ISO 9308-2 |
Enterococi | EN ISO 7899-2 |
Pseudomonas aeruginosa | EN-ISO 16266 |
Cyfrifiad cytrefi 22ºC - cyfrif micro-organebau meithrinadwy | EN ISO 6222 |
Cyfrifiad cytrefi 36ºC - cyfrif micro-organebau meithrinadwy | EN ISO 6222 |
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) | EN ISO 14189 |
Paramedr | Gwiredd fel % o’r crynodiad neu werth neu fanyleb ragnodedig (ac eithrio pH) | Trachywiredd fel % o’r crynodiad neu werth neu fanyleb ragnodedig (ac eithrio pH) | Terfyn canfod fel % o’r crynodiad neu werth neu fanyleb ragnodedig (ac eithrio pH) |
---|---|---|---|
(1) Dylai’r dull dadansoddi ganfod cyfanswm y cyanid ym mhob ffurf. | |||
(2) EN ISO 8476. | |||
(3) Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i bob plaleiddiad unigol a byddant yn dibynnu ar y plaleiddiad dan sylw. Gellir cyflawni gwerthoedd ar gyfer ansicrwydd mesuriadau mor isel â 30% ar gyfer nifer o blaleiddiaid, a chaniateir gwerthoedd uwch hyd at 80% ar gyfer nifer o blaleiddiaid. | |||
(4) Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r sylweddau unigol a bennir yn ôl 25% o’r gwerth paramedrig yn Nhabl B o Ran 1 o Atodlen 1. | |||
(5) Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r sylweddau unigol a bennir yn ôl 50% o’r gwerth paramedrig yn Nhabl B o Ran 1 o Atodlen 1. | |||
(6) Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r gwerth rhagnodedig o 4 NTU. | |||
(7) Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r fanyleb o 1 NTU ar gyfer dŵr wyneb neu ddŵr daear y dylanwedir arno gan ddŵr wyneb. | |||
Alwminiwm | 10 | 10 | 10 |
Amoniwm | 10 | 10 | 10 |
Antimoni | 25 | 25 | 25 |
Arsenig | 10 | 10 | 10 |
Bensen | 25 | 25 | 25 |
Benso(a)pyren | 25 | 25 | 25 |
Boron | 10 | 10 | 10 |
Bromad | 25 | 25 | 25 |
Cadmiwm | 10 | 10 | 10 |
Clorid | 10 | 10 | 10 |
Cromiwm | 10 | 10 | 10 |
Lliw | 10 | 10 | 10 |
Dargludedd | 10 | 10 | 10 |
Copr | 10 | 10 | 10 |
Cyanid(1) | 10 | 10 | 10 |
1.2-dicloroethan | 25 | 25 | 10 |
Fflworid | 10 | 10 | 10 |
pH crynodiad ïonau hydrogen (wedi ei fynegi mewn unedau pH) | 0.2 | 0.2 | |
Haearn | 10 | 10 | 10 |
Plwm | 10 | 10 | 10 |
Manganîs | 10 | 10 | 10 |
Mercwri | 20 | 10 | 20 |
Nicel | 10 | 10 | 10 |
Nitrad | 10 | 10 | 10 |
Nitraid | 10 | 10 | 10 |
Ocsideiddrwydd(2) | |||
Plaleiddiaid a chynhyrchion perthynol(3) | 25 | 25 | 25 |
Hydrocarbonau polysyclig aromatig(4) | 25 | 25 | 25 |
Seleniwm | 10 | 10 | 10 |
Sodiwm | 10 | 10 | 10 |
Sylffad | 10 | 10 | 10 |
Tetracloroethen(5) | 25 | 25 | 10 |
Tetracloromethan | 20 | 20 | 20 |
Tricloroethen(5) | 25 | 25 | 10 |
Trihalomethanau: Cyfanswm(4) | |||
25 | 25 | 10 | |
Cymylogrwydd(6) | 10 | 10 | 10 |
Cymylogrwydd(7) | 25 | 25 | 25 |
Paramedr | Ansicrwydd mesuriadau fel % o’r gwerth paramedrig (ac eithrio pH) |
---|---|
(1) Ni chaniateir defnyddio ansicrwydd mesuriadau fel goddefiant ychwanegol i’r gwerthoedd paramedrig a nodir yn Atodlen 1. | |
(2) Os na ellir cyflawni gwerth yr ansicrwydd mesuriadau, dylid dewis y dechneg orau sydd ar gael (hyd at 60%). | |
(3) Dylai’r dull dadansoddi ganfod cyfanswm y cyanid ym mhob ffurf. | |
(4) EN ISO 8476. | |
(5) Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i bob plaleiddiad unigol a byddant yn dibynnu ar y plaleiddiad dan sylw. Gellir cyflawni gwerthoedd ar gyfer ansicrwydd mesuriadau mor isel â 30% ar gyfer nifer o blaleiddiaid, a chaniateir gwerthoedd uwch hyd at 80% ar gyfer nifer o blaleiddiaid. | |
(6) Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r sylweddau unigol a bennir yn ôl 25% o’r gwerth paramedrig yn Nhabl B o Ran 1 o Atodlen 1. | |
(7) Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r sylweddau unigol a bennir yn ôl 50% o’r gwerth paramedrig yn Nhabl B o Ran 1 o Atodlen 1. | |
(8) Rhaid amcangyfrif yr ansicrwydd mesuriadau ar lefel 3mg/l o’r CCO. Rhaid defnyddio’r Canllawiau CEN 1484 ar gyfer canfod CCO a charbon organig tawdd. | |
(9) Rhaid amcangyfrif yr ansicrwydd mesuriadau ar lefel 1,0 NTU yn unol ag EN ISO 7027. | |
Alwminiwm | 25 |
Amoniwm | 40 |
Antimoni | 40 |
Arsenig | 30 |
Bensen | 40 |
Benso(a)pyren(2) | 50 |
Boron | 25 |
Bromad | 40 |
Cadmiwm | 25 |
Clorid | 15 |
Cromiwm | 30 |
Dargludedd | 20 |
Copr | 25 |
Cyanid(3) | 30 |
1,2-dicloroethan | 40 |
Fflworid | 20 |
pH crynodiad ïonau hydrogen (wedi ei fynegi mewn unedau pH) | 0.2 |
Haearn | 30 |
Plwm | 25 |
Manganîs | 30 |
Mercwri | 30 |
Nicel | 25 |
Nitrad | 15 |
Nitraid | 20 |
Ocsideiddrwydd(4) | 50 |
Plaleiddiaid(5) | 30 |
Hydrocarbonau polysyclig aromatig(6) | 50 |
Seleniwm | 40 |
Sodiwm | 15 |
Sylffad | 15 |
Tetracloroethen(7) | 30 |
Tricloroethen(7) | 40 |
Trihalomethanau: cyfanswm(6) | 40 |
Cyfanswm carbon organig (CCO)(8) | 30 |
Cymylogrwydd(9) | 30 |
6. Caiff awdurdod lleol ddefnyddio strategaethau sgrinio dibynadwy i ddangos bod ymbelydredd yn bresennol mewn dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
7. Caiff y strategaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6 gynnwys sgrinio ar gyfer—LL+C
(a)radioniwclidau penodol neu radioniwclid unigol; neu
(b)gweithgarwch alffa gros neu weithgarwch beta gros (pan fo’n briodol caniateir disodli gweithgarwch beta gros gan weithgarwch beta gweddilliol ar ôl didynnu’r crynodiad gweithgarwch K-40).
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
8. Os yw un o’r crynodiadau gweithgarwch yn uwch nag 20% o’r gwerth deilliedig cyfatebol neu os yw’r crynodiad tritiwm yn uwch na’i werth paramedrig a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’n ofynnol dadansoddi’r radioniwclidau ychwanegol.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
9. Rhaid i awdurdod lleol, wrth benderfynu pa radioniwclidau y mae’n ofynnol eu mesur ar gyfer pob cyflenwad, ystyried yr holl wybodaeth berthnasol am ffynonellau tebygol o ymbelydredd.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
10. Yn ddarostyngedig i baragraff 11 y lefelau sgrinio a argymhellir yw—
(a)0,1Bq/l ar gyfer gweithgarwch alffa gros; a
(b)1,0Bq/l ar gyfer gweithgarwch beta gros.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
11. Os yw’r gweithgarwch alffa gros yn uwch na 0,1Bq/l neu os yw’r gweithgarwch beta gros yn uwch na 1,0Bq/l, mae’n ofynnol dadansoddi ar gyfer radioniwclidau penodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
12. Caiff Gweinidogion Cymru bennu lefelau sgrinio gwahanol ar gyfer gweithgarwch alffa gros a gweithgarwch beta gros pan fo’r awdurdod lleol yn gallu dangos bod y lefelau gwahanol yn cydymffurfio â dos dangosol o 0,1 mSv.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
13. Rhaid cyfrifo’r dos dangosol o—
(a)y crynodiadau radioniwclid a fesurwyd a’r cyfernodau dos a nodwyd yn Atodiad III, Tabl A o Gyfarwyddeb 96/29/Euratom(2) ; neu
(b)gwybodaeth ddiweddarach a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru, ar sail y cymeriant dŵr blynyddol (730 l ar gyfer oedolion).
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
14. Pan fo’r fformiwla a ganlyn wedi ei bodloni, gellir tybio bod y dos dangosol yn is na’r gwerth paramedrig o 0,1mSv ac nid yw’n ofynnol cynnal unrhyw ymchwiliadau pellach—
Tarddiad | Niwclid | Crynodiad deilliedig |
---|---|---|
(1) Mae’r tabl hwn yn caniatáu ar gyfer priodoleddau radiolegol wraniwm yn unig, nid ei wenwyndra cemegol. | ||
Naturiol | U-2383 | 3,0 Bq/l |
U-2343 | 2,8 Bq/l | |
Ra-226 | 0,5 Bq/l | |
Ra-228 | 0,2 Bq/l | |
Pb-210 | 0,2 Bq/l | |
Po-210 | 0,1 Bq/l | |
Artiffisial | C-14 | 240 Bq/l |
Sr-90 | 4,9 Bq/l | |
Pu-239/Pu-240 | 0,6 Bq/l | |
Am-241 | 0,7 Bq/l | |
Co-60 | 40 Bq/l | |
Cs-134 | 7,2 Bq/l | |
Cs-137 | 11 Bq/l | |
1-131 | 6,2 Bq/l |
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
15. Ar gyfer y paramedrau a’r radioniwclidau a ganlyn, rhaid i’r dull dadansoddi a ddefnyddir, o leiaf, allu mesur crynodiadau gweithgarwch gyda’r terfyn canfod a bennir isod:
Paramedrau a radioniwclidau | Terfyn canfod (Nodiadau 1,2) | Nodiadau |
---|---|---|
Tritiwm | 10 Bq/l | Nodyn 3 |
Radon | 10 Bq/l | Nodyn 3 |
alffa gros | 0,04 Bq/l | Nodyn 4 |
beta gros | 0,4 Bq/l | Nodyn 4 |
U-238 | 0,02 Bq/l | |
U-234 | 0,02 Bq/l | |
Ra-226 | 0,04 Bq/l | |
Ra-228 | 0,02 Bq/l | Nodyn 5 |
Pb-210 | 0,02 Bq/l | |
Po-210 | 0,01 Bq/l | |
C-14 | 20 Bq/l | |
Sr-90 | 0,4 Bq/l | |
Pu-239/Pu-240 | 0,04 Bq/1 | |
Am-241 | 0,06 Bq/l | |
Co-60 | 0,5 Bq/1 | |
Cs-134 | 0,5 Bq/l | |
C2-137 | 0,5 Bq/l | |
1-131 | 0,5 Bq/1 |
Nodyn 1: Rhaid cyfrifo’r terfyn canfod yn unol â safon ISO 11929: Pennu terfynau nodweddion (trothwy penderfyniad, terfyn canfod a therfynau’r cyfwng hyder) ar gyfer mesur ymbelydredd ïoneiddio — Hanfodion a chymhwyso, gyda thebygolrwydd gwallau o’r math cyntaf a’r ail fath o 0,05 yr un.
Nodyn 2: Rhaid cyfrifo ansicrwydd mesuriadau, a chyflwyno adroddiadau arnynt, fel ansicrwydd safonol cyflawn, neu fel ansicrwydd estynedig gyda ffactor ehangu o 1,96 yn unol â Chanllaw yr ISO sef ‘Guide for the Expression of Uncertainty in Measurement’.
Nodyn 3: Y terfyn canfod ar gyfer tritiwm a radon yw 10% o’i werth paramedrig o 100 Bq/1.
Nodyn 4: Y terfyn canfod ar gyfer gweithgarwch alffa gros a gweithgarwch beta gros yw 40% o’r gwerthoedd sgrinio o 0,1 a 1,0 Bq/1 yn y drefn honno.
Nodyn 5: Nid yw’r terfyn canfod ond yn gymwys i’r sgrinio cychwynnol ar gyfer dos dangosol ar gyfer ffynhonnell ddŵr newydd; os yw’r gwirio cychwynnol yn dangos nad yw’n debygol bod lefel yr Ra-228 yn uwch nag 20% o’r crynodiad deilliedig, caniateir cynyddu’r terfyn canfod i 0,08 Bq/1 ar gyfer mesuriadau penodol arferol ar gyfer niwclidau Ra-228, nes y bydd yn ofynnol cynnal ail-wiriad dilynol.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 4 para. 15 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
Rheoliad 16
1.—(1) Rhaid i awdurdod lleol gofnodi nifer y cyflenwadau dŵr preifat yn ei ardal, ac ar gyfer pob cyflenwad rhaid iddo gofnodi—
(a)enw’r cyflenwad, ynghyd â nod adnabod unigryw;
(b)y math o ffynhonnell;
(c)y lleoliad daearyddol gan ddefnyddio cyfeirnod grid;
(d)amcangyfrif o nifer y bobl a gyflenwir;
(e)amcangyfrif o’r cyfaint cyfartalog dyddiol o ddŵr a gyflenwir mewn metrau ciwbig;
(f)y math o fangreoedd a gyflenwir;
(g)manylion unrhyw broses drin, ynghyd â’r lleoliad.
(2) Rhaid iddo adolygu a diweddaru’r cofnodion o leiaf unwaith y flwyddyn.
(3) Rhaid iddo gadw’r cofnod am o leiaf 30 mlynedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
2.—(1) Ar gyfer pob cyflenwad y cyfeirir ato ym mharagraff 1(1), rhaid i’r awdurdod lleol gofnodi pob un o’r canlynol o fewn 28 diwrnod ar ôl iddynt ddigwydd—
(a)plan a disgrifiad o’r cyflenwad;
(b)rhaglen fonitro’r cyflenwad;
(c)yr asesiad risg;
(d)crynodeb o ganlyniadau’r asesiad risg;
(e)crynodeb o’r rhesymau dros wneud penderfyniad i leihau monitro paramedr penodol o dan Ran 4 o Atodlen 2, neu ei eithrio yn llwyr;
(f)dyddiad, canlyniadau a lleoliad unrhyw samplu a dadansoddi mewn perthynas â’r cyflenwad hwnnw, a’r rheswm dros gymryd y sampl;
(g)canlyniadau unrhyw ymchwiliad a gynhelir yn unol â’r Rheoliadau hyn;
(h)unrhyw awdurdodiad;
(i)unrhyw hysbysiadau a gyflwynir o dan adran 80 o’r Ddeddf, neu reoliad 20;
(j)unrhyw gamau gweithredu y cytunir sydd i’w cymryd gan unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn;
(k)unrhyw gais a wneir i’r awdurdod lleol i gyflawni gwaith samplu a dadansoddi, cynnal asesiad risg neu roi cyngor;
(l)crynodeb o unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â’r cyflenwad.
(2) Rhaid iddo gadw’r asesiad risg a’r cofnodion samplu a dadansoddi am o leiaf 30 mlynedd, a chadw pob cofnod arall o dan y paragraff hwn am o leiaf 5 mlynedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
Rheoliad 23
1. Caiff yr awdurdod lleol godi ffi, sy’n daladwy pan geir anfoneb ar ei chyfer, am y gweithgarwch a nodir yn y tabl a ganlyn, a swm y ffi fydd cost resymol darparu’r gwasanaeth, yn ddarostyngedig i’r uchafsymiau a ganlyn.
Gwasanaeth | Uchafswm y ffi (£) | |
---|---|---|
(1) Nid oes ffi’n daladwy pan gymerir ac y dadansoddir sampl dim ond er mwyn cadarnhau canlyniadau dadansoddi sampl flaenorol neu eu hegluro. | ||
Asesiad risg (pob asesiad): | ||
cyflenwad rheoliad 9 | 700 | |
cyflenwadau rheoliadau 10 ac 11 | 300 | |
Samplu (am bob ymweliad) (1): | 100 | |
Ymchwiliad (am bob ymchwiliad): | 250 | |
Rhoi awdurdodiad (am bob awdurdodiad): | 100 | |
Dadansoddi sampl— | ||
a gymerir o dan reoliad 10 neu 11: | 25 | |
a gymerir yn ystod monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A: | 110 | |
a gymerir yn ystod monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B: | 600 |
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
2.—(1) Mae unrhyw berson sy’n gofyn am unrhyw beth o dan y Rheoliadau hyn yn atebol am y gost.
(2) Ac eithrio pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, mae ffioedd yn daladwy, fel a bennir yn yr anfoneb, gan y person perthnasol.
(3) Pan fo mwy nag un person yn atebol, wrth benderfynu pwy ddylai wneud taliad i’r awdurdod lleol—
(a)caiff yr awdurdod lleol rannu’r tâl rhyngddynt; a
(b)rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i unrhyw gytundeb neu ddogfen arall a ddangosir iddo ynglŷn â’r telerau y cyflenwir y dŵr oddi tanynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1
Gweler O.S. 2009/3155 ynglŷn â phenodi Gwasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig yn gorff achredu cenedlaethol.
OJ Rhif. L 159, 29.6.1996, t. 1, caiff hwn ei ddirymu a’i ddisodli’n rhagolygol gan Gyfarwyddeb 2013/59 Euratom (OJ L 13, 17.1.2014, t. 1) gydag effaith o 6 Chwefror 2018.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys