Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliadau 5 a 6

YR ATODLENGwybodaeth i gael ei chynnwys yn y datganiad blynyddol

Gwybodaeth gyffredinol

1.  Manylion cyswllt.

Gwybodaeth am yr unigolyn cyfrifol

2.  Enw’r unigolyn cyfrifol.

Gwybodaeth am staffio

3.  Enw’r rheolwr.

4.  Cyfanswm nifer y swyddi cyfwerth ag amser llawn (gan gynnwys swyddi sydd wedi eu llenwi a swyddi gwag).

5.  Nifer y swyddi sydd wedi eu llenwi a’r swyddi gwag ym mhob un o’r categorïau a ganlyn—

(a)rheolwr;

(b)dirprwy Reolwr;

(c)staff goruchwylio eraill;

(d)staff gofal nyrsio;

(e)nyrsys cofrestredig;

(f)uwch staff gofal cymdeithasol sy’n darparu gofal uniongyrchol;

(g)staff gofal cymdeithasol eraill sy’n darparu gofal uniongyrchol;

(h)staff domestig;

(i)staff arlwyo;

(j)mathau eraill o staff nad ydynt wedi eu rhestru uchod.

6.  Os yw nifer y staff a gyflogir yn cynnwys staff o fath nad yw wedi ei restru ym mharagraff 5(a) i (i), manylion y math neu’r mathau o’r staff hynny.

7.  Cyfradd trosiant staff.

8.  Y mathau o drefniadau contractiol y mae staff wedi eu cyflogi arnynt a nifer y staff a gyflogir ar bob math o drefniant contractiol ym mhob un o’r categorïau a restrir ym mharagraff 5.

9.  Cymwysterau’r staff a gyflogir ym mhob un o’r categorïau a restrir ym mharagraff 5.

10.  Manylion unrhyw hyfforddiant perthnasol y mae staff a gyflogir ym mhob un o’r categorïau a restrir ym mharagraff 5 wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod y maent wedi eu cyflogi ynddo gan y darparwr gwasanaeth.

Gwybodaeth am y gwasanaeth a ddarperir

11.  Manylion y raddfa ffioedd sy’n daladwy gan ddefnyddwyr y gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

12.  Manylion yr ieithoedd a ddefnyddir i ddarparu’r gwasanaeth.

13.  Manylion unrhyw ddulliau cyfathrebu nad ydynt yn rhai llafar a ddefnyddir.

14.  Cyfanswm nifer y cwynion ffurfiol a wnaed yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf a chyfran y cwynion hynny na chawsant eu cadarnhau, a gafodd eu cadarnhau’n rhannol ac a gafodd eu cadarnhau.

15.  Manylion y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â defnyddwyr y gwasanaeth ynghylch gweithrediad y gwasanaeth rheoleiddiedig.

Gwybodaeth ychwanegol pan fo’r gwasanaeth yn cynnwys y ddarpariaeth o lety

16.  Patrymau sifft nodweddiadol y staff a gyflogir, gan ddangos nifer y staff ym mhob un o’r categorïau a restrir ym mharagraff 5(d), (e), (f) ac (g) sydd ar ddyletswydd yn ystod pob sifft.

17.  Nifer yr ystafelloedd gwely sengl ac ystafelloedd gwely a rennir.

18.  Nifer yr ystafelloedd gwely a chanddynt gyfleusterau en suite.

19.  Nifer y lolfeydd/ystafelloedd bwyta cymunedol.

20.  Nifer yr ystafelloedd ymolchi a chanddynt gyfleusterau cymorth ymolchi.

21.  Manylion unrhyw le yn yr awyr agored y mae gan y preswylwyr fynediad iddo.

22.  Manylion unrhyw gyfleusterau eraill y mae gan y preswylwyr fynediad atynt.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill