- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, RHAN 5.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
15.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio cynllun ar gyfer yr unigolyn sy’n nodi—
(a)sut y bydd anghenion gofal a chymorth yr unigolyn yn cael eu diwallu o ddydd i ddydd,
(b)sut y bydd yr unigolyn yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ganlyniadau personol,
(c)y camau a fydd yn cael eu cymryd i liniaru unrhyw risgiau a nodir i lesiant yr unigolyn, a
(d)y camau a fydd yn cael eu cymryd i gefnogi cymryd risgiau cadarnhaol ac annibyniaeth, pan benderfynwyd bod hyn yn briodol.
(2) Cyfeirir yn y Rheoliadau hyn at y cynllun y mae’n ofynnol iddo gael ei lunio o dan baragraff (1) fel cynllun personol.
(3) Rhaid i’r cynllun personol gael ei lunio cyn i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gael ei chychwyn i’r unigolyn, oni bai bod paragraff (4) yn gymwys.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn achos pan fo ar yr unigolyn angen brys am ofal a chymorth ac nad oes amser wedi bod i lunio cynllun personol cyn i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gael ei chychwyn i’r unigolyn.
(5) Os yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r cynllun personol gael ei lunio o fewn 24 awr i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gael ei chychwyn i’r unigolyn.
(6) Wrth lunio cynllun personol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, yr awdurdod lleoli (os yw’n gymwys) ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—
(a)os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu
(b)pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
(7) Wrth lunio’r cynllun personol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried—
(a)cynllun gofal a chymorth yr unigolyn,
(b)os nad oes cynllun gofal a chymorth, asesiad y darparwr gwasanaeth o dan reoliad 14(4),
(c)unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,
(d)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,
(e)unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn, ac
(f)unrhyw risgiau i lesiant unigolion eraill y darperir gofal a chymorth iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 15 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
16.—(1) Rhaid i’r cynllun personol gael ei adolygu fel sy’n ofynnol, a phan fo’n ofynnol, ond o leiaf bob tri mis.
(2) Yn achos [F1plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol], rhaid i unrhyw adolygiad o’r cynllun personol gael ei alinio â’r adolygiadau y mae’n ofynnol iddynt gael eu cynnal gan yr awdurdod lleol o dan Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(1).
(3) Rhaid i adolygiadau o gynllun personol gynnwys adolygiad o’r graddau y mae’r unigolyn wedi gallu cyflawni ei ganlyniadau personol.
(4) Wrth gynnal adolygiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, yr awdurdod lleoli (os yw’n gymwys) ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—
(a)os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu
(b)pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
(5) Ar ôl cwblhau unrhyw adolygiad sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried a ddylai’r cynllun personol gael ei ddiwygio a diwygio’r cynllun yn ôl yr angen.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 16(2) wedi eu hamnewid (31.3.2024) gan Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2024 (O.S. 2024/407), rhlau. 1(2), 7
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 16 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
17. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)cadw cofnod—
(i)o’r cynllun personol ac unrhyw gynllun diwygiedig, a
(ii)o ganlyniad unrhyw adolygiad, a
(b)rhoi copi o’r cynllun personol ac unrhyw gynllun diwygiedig—
(i)i’r unigolyn,
(ii)i unrhyw gynrychiolydd, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn, ac
(iii)pan fo llety wedi ei ddarparu i blentyn fel rhan o wasanaeth cartref gofal, i’r awdurdod lleoli.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 17 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
18.—(1) O fewn 7 niwrnod i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer unigolyn gael ei chychwyn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)asesu sut y gellir diwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn orau,
(b)asesu sut y gall yr unigolyn gael ei gefnogi orau i gyflawni ei ganlyniadau personol,
(c)canfod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,
(d)asesu unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn, ac
(e)asesu unrhyw risgiau i lesiant unigolion eraill y darperir gofal a chymorth iddynt.
(2) Cyfeirir yn y Rheoliadau hyn at yr asesiad o dan baragraff (1) fel asesiad darparwr.
(3) Rhaid i asesiad darparwr gael ei gynnal gan berson sydd—
(a)â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i gynnal yr asesiad, a
(b)wedi cael hyfforddiant i gynnal asesiadau.
(4) Rhaid i asesiad darparwr ystyried—
(a)cynllun gofal a chymorth yr unigolyn, os oes un ar gael,
(b)asesiad y darparwr gwasanaeth o dan reoliad 14(4), os yw’n gymwys,
(c)unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,
(d)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,
(e)unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn, ac
(f)polisi a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth ar dderbyniadau a chychwyn y gwasanaeth.
(5) Wrth gynnal neu ddiwygio asesiad darparwr, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, yr awdurdod lleoli (os yw’n gymwys) ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—
(a)os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu
(b)pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
(6) Rhaid i asesiad darparwr gael ei gadw o dan adolygiad a’i ddiwygio yn ôl yr angen.
(7) Ar ôl cwblhau asesiad y darparwr ac unrhyw asesiad diwygiedig, rhaid i’r cynllun personol gael ei adolygu a’i ddiwygio yn ôl yr angen.
(8) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gadw cofnod o asesiad darparwr a rhoi copi o’r asesiad i’r unigolyn, i unrhyw gynrychiolydd a, phan fo llety wedi ei ddarparu i’r plentyn gan wasanaeth cartref gofal, i’r awdurdod lleoli.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 18 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys