Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

RHAN 5LL+CGofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i gael eu cymryd wrth gychwyn y ddarpariaeth o ofal a chymorth

Cynllun personolLL+C

15.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio cynllun ar gyfer yr unigolyn sy’n nodi—

(a)sut y bydd anghenion gofal a chymorth yr unigolyn yn cael eu diwallu o ddydd i ddydd,

(b)sut y bydd yr unigolyn yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ganlyniadau personol,

(c)y camau a fydd yn cael eu cymryd i liniaru unrhyw risgiau a nodir i lesiant yr unigolyn, a

(d)y camau a fydd yn cael eu cymryd i gefnogi cymryd risgiau cadarnhaol ac annibyniaeth, pan benderfynwyd bod hyn yn briodol.

(2Cyfeirir yn y Rheoliadau hyn at y cynllun y mae’n ofynnol iddo gael ei lunio o dan baragraff (1) fel cynllun personol.

(3Rhaid i’r cynllun personol gael ei lunio cyn i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gael ei chychwyn i’r unigolyn, oni bai bod paragraff (4) yn gymwys.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn achos pan fo ar yr unigolyn angen brys am ofal a chymorth ac nad oes amser wedi bod i lunio cynllun personol cyn i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gael ei chychwyn i’r unigolyn.

(5Os yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r cynllun personol gael ei lunio o fewn 24 awr i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gael ei chychwyn i’r unigolyn.

(6Wrth lunio cynllun personol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, yr awdurdod lleoli (os yw’n gymwys) ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—

(a)os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu

(b)pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.

(7Wrth lunio’r cynllun personol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried—

(a)cynllun gofal a chymorth yr unigolyn,

(b)os nad oes cynllun gofal a chymorth, asesiad y darparwr gwasanaeth o dan reoliad 14(4),

(c)unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,

(d)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,

(e)unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn, ac

(f)unrhyw risgiau i lesiant unigolion eraill y darperir gofal a chymorth iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 15 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Adolygu cynllun personolLL+C

16.—(1Rhaid i’r cynllun personol gael ei adolygu fel sy’n ofynnol, a phan fo’n ofynnol, ond o leiaf bob tri mis.

(2Yn achos [F1plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol], rhaid i unrhyw adolygiad o’r cynllun personol gael ei alinio â’r adolygiadau y mae’n ofynnol iddynt gael eu cynnal gan yr awdurdod lleol o dan Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(1).

(3Rhaid i adolygiadau o gynllun personol gynnwys adolygiad o’r graddau y mae’r unigolyn wedi gallu cyflawni ei ganlyniadau personol.

(4Wrth gynnal adolygiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, yr awdurdod lleoli (os yw’n gymwys) ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—

(a)os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu

(b)pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.

(5Ar ôl cwblhau unrhyw adolygiad sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried a ddylai’r cynllun personol gael ei ddiwygio a diwygio’r cynllun yn ôl yr angen.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 16 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Cofnodion o gynlluniau personolLL+C

17.  Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)cadw cofnod—

(i)o’r cynllun personol ac unrhyw gynllun diwygiedig, a

(ii)o ganlyniad unrhyw adolygiad, a

(b)rhoi copi o’r cynllun personol ac unrhyw gynllun diwygiedig—

(i)i’r unigolyn,

(ii)i unrhyw gynrychiolydd, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn, ac

(iii)pan fo llety wedi ei ddarparu i blentyn fel rhan o wasanaeth cartref gofal, i’r awdurdod lleoli.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 17 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Asesiad darparwrLL+C

18.—(1O fewn 7 niwrnod i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer unigolyn gael ei chychwyn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)asesu sut y gellir diwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn orau,

(b)asesu sut y gall yr unigolyn gael ei gefnogi orau i gyflawni ei ganlyniadau personol,

(c)canfod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,

(d)asesu unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn, ac

(e)asesu unrhyw risgiau i lesiant unigolion eraill y darperir gofal a chymorth iddynt.

(2Cyfeirir yn y Rheoliadau hyn at yr asesiad o dan baragraff (1) fel asesiad darparwr.

(3Rhaid i asesiad darparwr gael ei gynnal gan berson sydd—

(a)â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i gynnal yr asesiad, a

(b)wedi cael hyfforddiant i gynnal asesiadau.

(4Rhaid i asesiad darparwr ystyried—

(a)cynllun gofal a chymorth yr unigolyn, os oes un ar gael,

(b)asesiad y darparwr gwasanaeth o dan reoliad 14(4), os yw’n gymwys,

(c)unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,

(d)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,

(e)unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn, ac

(f)polisi a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth ar dderbyniadau a chychwyn y gwasanaeth.

(5Wrth gynnal neu ddiwygio asesiad darparwr, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, yr awdurdod lleoli (os yw’n gymwys) ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—

(a)os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu

(b)pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.

(6Rhaid i asesiad darparwr gael ei gadw o dan adolygiad a’i ddiwygio yn ôl yr angen.

(7Ar ôl cwblhau asesiad y darparwr ac unrhyw asesiad diwygiedig, rhaid i’r cynllun personol gael ei adolygu a’i ddiwygio yn ôl yr angen.

(8Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gadw cofnod o asesiad darparwr a rhoi copi o’r asesiad i’r unigolyn, i unrhyw gynrychiolydd a, phan fo llety wedi ei ddarparu i’r plentyn gan wasanaeth cartref gofal, i’r awdurdod lleoli.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 18 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)