- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Dŵr, Cymru A Lloegr
Gwnaed
14 Rhagfyr 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 94(3) o Ddeddf Dŵr 2014(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dŵr 2014 (Cychwyn Rhif 10) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Dŵr 2014.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2014 i rym i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym ar y diwrnod drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn—
(a)adran 17 (rheolau ynghylch taliadau ar gyfer cysylltiadau etc); a
(b)adran 38 (canllawiau sy’n ymwneud â rheolau ynghylch taliadau).
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2014 i rym ar 1 Ebrill 2019—
(a)adran 8 (swmpgyflenwi dŵr gan ymgymerwyr dŵr) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b)adran 9 (prif gysylltiadau â systemau carthffosiaeth);
(c)adran 10 (cytundebau gan ymgymerwyr dŵr i fabwysiadu seilwaith) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym; a
(d)adran 11 (cytundebau gan ymgymerwyr carthffosiaeth i fabwysiadu seilwaith) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Hannah Blythyn
Gweinidog yr Amgylchedd, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
14 Rhagfyr 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Gwneir y Gorchymyn Cychwyn hwn gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Dŵr 2014 (“Deddf 2014”).
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym adrannau 17 a 38 o Ddeddf 2014 at yr holl ddibenion sy’n weddill ar y diwrnod drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn. Mae adran 17 yn diwygio Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 (“Deddf 1991”) drwy ganiatáu i reolau gael eu dyroddi ynghylch taliadau y caniateir eu codi gan ymgymerwyr dŵr ac ymgymerwyr carthffosiaeth am gysylltiadau i brif bibellau dŵr, carthffosydd cyhoeddus a rhywfaint o seilwaith cysylltiedig, ac am eu darparu. Mae adran 38 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi a diwygio canllawiau mewn perthynas â’r rheolau ynghylch codi taliadau a ddyroddir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr (“Ofwat”).
Mae erthygl 3 yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2019 adrannau 8 i 11 o Ddeddf 2014. Mae’r darpariaethau hyn yn diwygio Deddf 1991 ac yn darparu pwerau newydd i Ofwat ddyroddi rheolau codi taliadau mewn cysylltiad â chynlluniau taliadau ymgymerwyr, taliadau cysylltu, a thaliadau am swmp gyflenwadau dŵr (a chysylltiadau ar gyfer carthffosiaeth) rhwng ymgymerwyr.
Mae adran 8 o Ddeddf 2014 yn rhoi adrannau 40 i 40J newydd yn lle adrannau 40 a 40A o Ddeddf 1991 i reoleiddio cytundebau swmp gyflenwadau dŵr rhwng ymgymerwr dŵr ac ymgymerwr dŵr arall, neu berson sydd wedi gwneud cais i ddod yn ymgymerwr.
Mae adran 9 o Ddeddf 2014 yn rhoi adrannau 110A i 110J newydd yn lle’r adran 110A bresennol o Ddeddf 1991 i reoleiddio cytundebau prif gysylltiadau rhwng ymgymerwr carthffosiaeth ac ymgymerwr carthffosiaeth arall, neu berson sydd wedi gwneud cais i ddod yn ymgymerwr.
Mae adran 10 o Ddeddf 2014 yn diwygio adran 51A o Ddeddf 1991 ac yn rhoi adrannau 51B i 51CG newydd yn lle adrannau 51B a 51C o’r Ddeddf honno i reoleiddio cytundebau rhwng ymgymerwr dŵr ac unrhyw berson sy’n ceisio darparu prif bibellau dŵr neu bibellau cyflenwi i’w mabwysiadu yn y pen draw gan yr ymgymerwr dŵr.
Mae adran 11 o Ddeddf 2014 yn diwygio adran 104 o Ddeddf 1991 ac yn mewnosod adrannau 105ZA i 105ZI newydd yn y Ddeddf honno i reoleiddio trefniadau rhwng ymgymerwr carthffosiaeth ac unrhyw berson sy’n ceisio darparu carthffosydd, draeniau neu weithfeydd gwaredu carthffosiaeth i’w mabwysiadu yn y pen draw gan yr ymgymerwr carthffosiaeth.
Mae adrannau 8 i 11 hefyd yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ar gynnwys y rheolau codi taliadau newydd a gyflwynir gan yr adrannau hynny. Mae’r pŵer i ddyroddi canllawiau o dan y darpariaethau a fewnosodir gan adrannau 8 a 9 yn arferadwy ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â chytundebau penodol.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2014 wedi eu dwyn i rym, neu byddant wedi eu dwyn i rym, drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 1 (yn rhannol) | 1 Medi 2015 | 2015/773 |
Adran 1 (yn rhannol) | 1 Medi 2015 | 2015/1469 |
Adran 1 (yn rhannol) | 1 Ionawr 2016 | 2015/1938 |
Adran 1 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2016 | 2016/465 |
Adran 1 (yn rhannol) | 1 Medi 2016 | 2016/465 |
Adran 1 (yn rhannol) | 1 Tachwedd 2016 | 2016/1007 |
Adran 1 (yn rhannol) | 30 Mawrth 2017 | 2017/462 |
Adran 1 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2017 | 2017/462 |
Adran 2 | 1 Ebrill 2017 | 2017/462 |
Adran 4 (yn rhannol) | 1 Medi 2015 | 2015/773 |
Adran 4 (yn rhannol) | 1 Medi 2015 | 2015/1469 |
Adran 4 (yn rhannol) | 1 Ionawr 2016 | 2015/1938 |
Adran 4 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2016 | 2016/465 |
Adran 4 (yn rhannol) | 1 Medi 2016 | 2016/465 |
Adran 4 (yn rhannol) | 30 Mawrth 2017 | 2017/462 |
Adran 4 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2017 | 2017/462 |
Adran 6 (yn rhannol) | 18 Rhagfyr 2015 | 2015/1938 |
Adran 6 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | 1 Ebrill 2016 | 2016/465 |
Adran 7 (yn rhannol) | 20 Tachwedd 2015 | 2015/360(O.S.A.) |
Adran 7 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | 1 Ebrill 2016 | 2016/48 (O.S.A.) |
Adran 8 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2015 | 2015/773 |
Adran 8 (yn rhannol, ar gyfer achosion pan yr Ysgrifennydd Gwladol yw’r awdurdod priodol) | 1 Tachwedd 2016 | 2016/1007 |
Adran 9 (yn rhannol, ar gyfer achosion pan yr Ysgrifennydd Gwladol yw’r awdurdod priodol) | 1 Tachwedd 2016 | 2016/1007 |
Adran 10 (yn rhannol) | 18 Rhagfyr 2015 | 2015/1938 |
Adran 10 (yn rhannol, mewn perthynas ag ymgymerwyr yn Lloegr yn gyfan gwbl neu’n bennaf) | 1 Ebrill 2017 | 2017/462 |
Adran 10 (at yr holl ddibenion sy’n weddill mewn perthynas ag ymgymerwyr yn Lloegr yn gyfan gwbl neu’n bennaf) | 1 Hydref 2017 | 2017/462 |
Adran 11 (yn rhannol) | 18 Rhagfyr 2015 | 2015/1938 |
Adran 11 (yn rhannol, mewn perthynas ag ymgymerwyr yn Lloegr yn gyfan gwbl neu’n bennaf) | 1 Ebrill 2017 | 2017/462 |
Adran 11 (at yr holl ddibenion sy’n weddill mewn perthynas ag ymgymerwyr yn Lloegr yn gyfan gwbl neu’n bennaf) | 1 Hydref 2017 | 2017/462 |
Adran 14 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2015 | 2015/773 |
Adran 14 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | 18 Rhagfyr 2015 | 2015/1938 |
Adran 16 (yn rhannol) | 15 Gorffennaf 2015 | 2015/1469 |
Adran 16 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | 1 Tachwedd 2015 | 2015/1469 |
Adran 17 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2015 | 2015/773 |
Adran 17 (yn rhannol) | 15 Gorffennaf 2015 | 2015/1469 |
Adran 17 (at yr holl ddibenion sy’n weddill mewn perthynas ag ymgymerwyr yn Lloegr yn gyfan gwbl neu’n bennaf) | 1 Ebrill 2016 | 2016/465 |
Adran 18 (mewn perthynas ag ymgymerwyr yn Lloegr yn gyfan gwbl neu’n bennaf) | 1 Ebrill 2018 | 2017/462 |
Adran 19 (mewn perthynas ag ymgymerwyr yn Lloegr yn gyfan gwbl neu’n bennaf) | 1 Ebrill 2018 | 2017/462 |
Adran 20 (mewn perthynas ag ymgymerwyr yn Lloegr yn gyfan gwbl neu’n bennaf) | 1 Ebrill 2018 | 2017/462 |
Adran 22 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | 18 Rhagfyr 2015 | 2015/1938 |
Adran 23 (yn rhannol) | 1 Ionawr 2015 | 2014/3320 |
Adran 23 (yn rhannol mewn perthynas ag ymgymerwyr yng Nghymru yn gyfan gwbl neu’n bennaf) | 6 Ebrill 2015 | 2015/773 |
Adran 23 (at yr holl ddibenion sy’n weddill mewn perthynas ag ymgymerwyr yn Lloegr yn gyfan gwbl neu’n bennaf) | 1 Ebrill 2016 | 2016/465 |
Adran 24 | 6 Ebrill 2015 | 2015/773 |
Adran 25 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | 1 Ebrill 2016 | 2016/465 |
Adran 29 (yn rhannol ar gyfer achosion pan yr Ysgrifennydd Gwladol yw’r awdurdod priodol) | 1 Ionawr 2015 | 2014/3320 |
Adran 29 (yn rhannol) | 15 Gorffennaf 2015 | 2015/1469 |
Adran 29 (at yr holl ddibenion sy’n weddill ar gyfer achosion pan yr Ysgrifennydd Gwladol yw’r awdurdod priodol) | 1 Tachwedd 2016 | 2016/1007 |
Adran 30 (yn rhannol) | 1 Ionawr 2015 | 2014/3320 |
Adran 30 (yn rhannol) | 15 Gorffennaf 2015 | 2015/1469 |
Adran 30 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | 1 Tachwedd 2016 | 2016/1007 |
Adran 31 | 1 Ebrill 2017 | 2017/462 |
Adran 32 (yn rhannol) | 6 Mawrth 2017 | 2017/58 |
Adran 32 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | 1 Ebrill 2017 | 2017/462 |
Adran 34 (yn rhannol) | 1 Medi 2016 | 2016/465 |
Adran 37 | 1 Ebrill 2016 | 2016/465 |
Adran 38 (yn rhannol mewn perthynas ag ymgymerwyr yn Lloegr yn gyfan gwbl neu’n bennaf) | 1 Ionawr 2015 | 2014/3320 |
Adran 38 (yn rhannol mewn perthynas ag ymgymerwyr yng Nghymru yn gyfan gwbl neu’n bennaf) | 6 Ebrill 2015 | 2015/773 |
Adran 38 (at yr holl ddibenion sy’n weddill mewn perthynas ag ymgymerwyr yn Lloegr yn gyfan gwbl neu’n bennaf) | 1 Ebrill 2016 | 2016/465 |
Adran 40 (yn rhannol) | 14 Gorffennaf 2014 | 2014/1823 |
Adran 40 (yn rhannol) | 1 Tachwedd 2016 | 2016/1007 |
Adran 41 (mewn perthynas ag ymgymerwyr yng Nghymru yn gyfan gwbl neu’n bennaf) | 1 Tachwedd 2015 | 2015/1786 (Cy. 249) |
Adrannau 42 i 47 | 6 Ebrill 2015 | 2015/773 |
Adran 49 | 6 Ebrill 2015 | 2015/773 |
Adrannau 51 a 52 | 6 Ebrill 2015 | 2015/773 |
Adran 53 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2015 | 2015/773 |
Adran 55 | 1 Ionawr 2015 | 2014/3320 |
Adran 56 (yn rhannol) | 1 Ionawr 2015 | 2014/3320 |
Adran 56 (yn rhannol) | 15 Gorffennaf 2015 | 2015/1469 |
Adran 56 (yn rhannol) | 1 Medi 2015 | 2015/1469 |
Adran 56 (yn rhannol) | 1 Tachwedd 2015 | 2015/1469 |
Adran 56 (yn rhannol) | 18 Rhagfyr 2015 | 2015/1938 |
Adran 56 (yn rhannol) | 1 Ionawr 2016 | 2015/1938 |
Adran 56 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2016 | 2016/465 |
Adran 56 (yn rhannol) | 1 Medi 2016 | 2016/465 |
Adran 56 (yn rhannol) | 1 Tachwedd 2016 | 2016/1007 |
Adran 56 (yn rhannol) | 6 Mawrth 2017 | 2017/58 |
Adran 56 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2017 | 2017/462 |
Adran 56 (yn rhannol) | 1 Hydref 2017 | 2017/462 |
Adran 56 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2018 | 2017/462 |
Adran 59 | 1 Hydref 2014 | 2014/1823 |
Adrannau 64 i 68 | 1 Ionawr 2015 | 2014/3320 |
Adran 69 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | 1 Ionawr 2015 | 2014/3320 |
Adran 82 (yn rhannol) | 1 Ionawr 2015 | 2014/3320 |
Adrannau 83 a 84 | 1 Ionawr 2015 | 2014/3320 |
Atodlen 1 | 1 Ionawr 2016 | 2015/1938 |
Atodlen 2 (yn rhannol) | 1 Medi 2015 | 2015/773 |
Atodlen 2 (yn rhannol) | 1 Medi 2015 | 2015/1469 |
Atodlen 2 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2016 | 2016/465 |
Atodlen 2 (yn rhannol) | 30 Mawrth 2017 | 2017/462 |
Atodlen 2 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2017 | 2017/462 |
Atodlen 3 | 1 Ionawr 2016 | 2015/1938 |
Atodlen 4 (yn rhannol) | 1 Medi 2015 | 2015/773 |
Atodlen 4 (yn rhannol) | 1 Medi 2015 | 2015/1469 |
Atodlen 4 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2016 | 2016/465 |
Atodlen 4 (yn rhannol) | 1 Medi 2016 | 2016/465 |
Atodlen 4 (yn rhannol) | 30 Mawrth 2017 | 2017/462 |
Atodlen 4 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2017 | 2017/462 |
Atodlen 6 | 1 Ebrill 2016 | 2016/465 |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 1 Ionawr 2015 | 2014/3320 |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 15 Gorffennaf 2015 | 2015/1469 |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 1 Medi 2015 | 2015/1469 |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 1 Tachwedd 2015 | 2015/1469 |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 18 Rhagfyr 2015 | 2015/1938 |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 1 Ionawr 2016 | 2015/1938 |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2016 | 2016/465 |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 1 Medi 2016 | 2016/465 |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 1 Tachwedd 2016 | 2016/1007 |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 6 Mawrth 2017 | 2017/58 |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2017 | 2017/462 |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 1 Hydref 2017 | 2017/462 |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2018 | 2017/462 |
Atodlen 9 | 14 Gorffennaf 2014 | 2014/1823 |
2014 p. 21. Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol o dan adran 94(3) o Ddeddf 2014 at y dibenion hyn yn rhinwedd y tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 12 i Ddeddf 2014.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: