- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Ni chaiff person gynnal practis deintyddol preifat oni bai bod y person yn addas i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn addas i gynnal practis deintyddol preifat oni bai bod y person—
(a)yn unigolyn sy’n bodloni’r gofynion a nodir ym mharagraff (3);
(b)yn bartneriaeth, a bod pob un o’r partneriaid yn bodloni’r gofynion ym mharagraff (3); neu
(c)yn sefydliad ac—
(i)bod y sefydliad wedi hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru am enw a chyfeiriad yr unigolyn cyfrifol a’i swydd yn y sefydliad; a
(ii)bod yr unigolyn yn bodloni’r gofynion ym mharagraff (3).
(3) Y gofynion yw—
(a)bod yr unigolyn yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da i gynnal y practis deintyddol preifat neu, yn ôl y digwydd, i fod yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli’r practis deintyddol preifat;
(b)bod yr unigolyn yn gallu oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol (os oes rhai) gael eu gwneud, gynnal y practis deintyddol preifat neu, yn ôl y digwydd, fod yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli’r practis deintyddol preifat; ac
(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, ar gael mewn perthynas â’r unigolyn mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3.
(4) Wrth asesu cymeriad unigolyn at ddibenion paragraff (3)(a), rhaid i’r materion a ystyrir gynnwys y rhai a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 3.
(5) Nid yw person yn addas i gynnal practis deintyddol preifat—
(a)os yw’r person hwnnw wedi ei ddyfarnu’n fethdalwr(1) neu y dyfarnwyd y secwestriad o ystad y person ac (yn y naill achos neu’r llall) os nad yw’r person wedi ei ryddhau ac nad yw’r gorchymyn methdalu(2) wedi ei ddiddymu na’i ddad-wneud neu fod cyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled (o fewn ystyr “debt relief order” yn adran 251A o Ddeddf Ansolfedd 1986)(3) yn gymwys mewn perthynas â’r person; neu
(b)os yw’r person hwnnw wedi gwneud compównd neu drefniant â chredydwyr y person ac nad yw wedi ei ryddhau mewn cysylltiad ag ef.
10.—(1) Rhaid i’r darparwr cofrestredig benodi unigolyn i reoli’r practis deintyddol preifat—
(a)os yw’r darparwr cofrestredig yn sefydliad neu’n bartneriaeth;
(b)os nad yw’r darparwr cofrestredig yn berson addas i gynnal y practis deintyddol preifat; neu
(c)os nad oes gan y darparwr cofrestredig ofal am y practis deintyddol preifat yn llawnamser o ddydd i ddydd, neu os nad yw’n bwriadu i’r practis fod o dan ei ofal yn y modd hwnnw.
(2) Os yw’r darparwr cofrestredig yn penodi unigolyn i reoli’r practis deintyddol preifat, rhaid i’r darparwr cofrestredig hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru ar unwaith am enw’r unigolyn a benodir a’r dyddiad y mae’r penodiad yn cymryd effaith.
11.—(1) Ni chaiff person reoli practis deintyddol preifat oni bai bod y person yn addas i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn addas i reoli practis deintyddol preifat oni bai—
(a)bod y person hwnnw yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da i reoli’r practis deintyddol preifat; a
(b)gan roi sylw i faint y practis deintyddol preifat, y datganiad o ddiben a nifer y cleifion a’u hanghenion—
(i)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i reoli’r practis deintyddol preifat; a
(ii)bod y person yn gallu gwneud hynny oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol (os oes rhai) gael eu gwneud; a
(iii)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, ar gael mewn perthynas â’r person mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3.
(3) Wrth asesu cymeriad person at ddibenion paragraff (2)(a), rhaid i’r materion a ystyrir gynnwys y rhai a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 3.
(4) Pan fo person yn rheoli mwy nag un practis deintyddol preifat, rhaid iddo dreulio amser digonol ym mhob practis i sicrhau bod y practis yn cael ei reoli’n effeithiol.
12.—(1) Rhaid i’r darparwr cofrestredig a’r rheolwr cofrestredig gynnal neu reoli’r practis deintyddol preifat, yn ôl y digwydd, gyda gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i faint y practis deintyddol preifat, y datganiad o ddiben a nifer y cleifion a’u hanghenion.
(2) Rhaid i’r darparwr cofrestredig a’r rheolwr cofrestredig ymgymryd, o bryd i’w gilydd, ag unrhyw hyfforddiant sy’n briodol er mwyn sicrhau bod ganddynt y sgiliau y mae eu hangen i gynnal neu reoli’r practis deintyddol preifat, yn ôl y digwydd.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, rhaid i’r sawl a ganlyn ymgymryd â’r hyfforddiant y cyfeirir ato ym mharagraff (2)—
(a)yr unigolyn, os yw’r darparwr cofrestredig yn unigolyn;
(b)yr unigolyn cyfrifol, os yw’r darparwr cofrestredig yn sefydliad; neu
(c)un o’r partneriaid, os yw’r darparwr cofrestredig yn bartneriaeth.
Gweler adran 381(1) o Ddeddf Ansolfedd 1986 am ystyr “bankrupt”.
Gweler adran 381(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986 am ystyr “bankruptcy order”.
1986 p. 45. Mewnosodwyd adran 251A gan adran 108 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15) ac Atodlen 17 iddi.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys