Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2017.

Cymhwyso

2.  Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addasiadau rhesymol” (“reasonable adjustments”) yw unrhyw addasiadau rhesymol a fyddai’n ofynnol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1);

ystyr “claf” (“patient”) yw person y darperir gwasanaethau deintyddol neu wasanaethau proffesiynol eraill iddo;

mae i “cwmpas ymarfer” yr ystyr a roddir i “scope of practice” ar gyfer deintyddion a phroffesiynolion gofal deintyddol yn y canllawiau ar gwmpas ymarfer a gyhoeddir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol o bryd i’w gilydd;

ystyr “darparwr cofrestredig” (“registered provider”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf fel y person sy’n cynnal practis deintyddol preifat;

ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw’r datganiad a lunnir yn unol â rheoliad 5(1);

ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Deintyddion 1984(2);

ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005(3);

ystyr “deintydd” (“dentist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o ddeintyddion a gedwir yn unol ag adran 14 o Ddeddf 1984;

ystyr “deintyddfa symudol” (“mobile surgery”), at ddibenion y Rheoliadau hyn, yw unrhyw gerbyd lle y darperir gwasanaethau deintyddol preifat;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000 ac, mewn cysylltiad â Rhan 2 o’r Ddeddf honno, ei ystyr yw’r Rhan honno fel y’i cymhwysir gydag addasiadau i bractisau deintyddol preifat gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (Estyn Cymhwysiad Rhan 2 i Bractisau Deintyddol Preifat) (Cymru) 2017(4) a chan reoliad 39 o’r Rheoliadau hyn;

ystyr “ffi amrywiad mawr” (“major variation fee”) yw’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais i amrywio amod cofrestru pan fo’r awdurdod cofrestru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol iddo arolygu o dan Ran 2 o’r Ddeddf;

ystyr “ffi mân amrywiad” (“minor variation fee”) yw’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais i amrywio amod cofrestru pan na fo’r awdurdod cofrestru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol iddo arolygu o dan Ran 2 o’r Ddeddf;

ystyr “gwasanaethau cartref” (“domiciliary services”) yw cwrs o driniaeth, neu ran o gwrs o driniaeth, a ddarperir mewn lleoliad ac eithrio—

(a)

y fangre a ddefnyddir i gynnal practis deintyddol preifat;

(b)

deintyddfa symudol unrhyw ddarparwr gwasanaethau deintyddol preifat;

(c)

carchar;

ystyr “gwasanaethau deintyddol” (“dental services”) yw gofal a thriniaeth ddeintyddol a ddarperir gan ddeintydd;

ystyr “gwasanaethau deintyddol preifat” (“private dental services”) yw gwasanaethau deintyddol ac eithrio at ddibenion Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(5) ac mae “deintyddiaeth breifat” (“private dentistry”) i gael ei dehongli yn unol â hynny;

ystyr “gwasanaethau proffesiynol perthnasol” (“relevant professional services”) yw darparu gwasanaethau proffesiynol yn unol â chwmpas ymarfer llawn proffesiynolyn gofal deintyddol, ac eithrio yn unol â phresgripsiwn gan ddeintydd ond nid yw’n cynnwys—

(a)

darparu gwasanaethau gwynnu dannedd gan hylenydd deintyddol neu therapydd deintyddol, a

(b)

darparu a chynnal a chadw dannedd gosod i gleifion â dannedd(6) gan dechnegydd deintyddol clinigol;

ystyr “hylenydd deintyddol” (“dental hygienist”), “therapydd deintyddol” (“dental therapist”) a “technegydd deintyddol clinigol” (“clinical dental technician”) yw personau sydd wedi eu cofrestru felly â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn y gofrestr o broffesiynolion gofal deintyddol a sefydlwyd o dan adran 36B o Ddeddf 1984;

ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw person sy’n ddarparwr cofrestredig neu’n rheolwr cofrestredig practis deintyddol preifat;

ystyr “practis deintyddol preifat” (“private dental practice”) yw ymgymeriad sy’n darparu neu sy’n cynnwys darparu—

(a)

gwasanaethau deintyddol preifat; neu

(b)

gwasanaethau proffesiynol perthnasol ac eithrio at ddibenion Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “proffesiynolyn gofal deintyddol” (“dental care professional”) yw—

(a)

hylenydd deintyddol;

(b)

therapydd deintyddol; neu

(c)

technegydd deintyddol clinigol;

ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008(7);

ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) (Diwygio) 2011(8);

ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf fel rheolwr practis deintyddol preifat;

ystyr “sefydliad” (“organisation”) yw corff corfforaethol neu unrhyw gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth;

ystyr “swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru” (“appropriate office of the registration authority”) mewn perthynas â phractis deintyddiaeth preifat yw—

(a)

os yw swyddfa wedi ei phennu o dan baragraff (2) ar gyfer yr ardal y mae’r practis deintyddol preifat ynddi, y swyddfa honno;

(b)

mewn unrhyw achos arall, unrhyw swyddfa’r awdurdod cofrestru;

mae “triniaethau a all arwain at gysylltiad” (“exposure-prone procedures”), at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn cyfeirio at driniaethau mewnwthiol pan fo risg y gall anaf i’r deintydd neu’r proffesiynolyn gofal deintyddol arwain at gysylltiad rhwng meinwe agored claf a gwaed y deintydd neu’r proffesiynolyn gofal deintyddol;

ystyr “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yw unigolyn sy’n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd, neu swyddog arall i’r sefydliad ac sy’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli practis deintyddol preifat;

mae i “ysbyty gwasanaeth iechyd” yr un ystyr â “health service hospital” yn adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “yswiriant” (“insurance”) yw—

(a)

contract yswiriant sy’n darparu sicrwydd o ran atebolrwyddau a all godi wrth gyflawni gwaith fel deintydd neu broffesiynolyn gofal deintyddol, neu

(b)

trefniant a wneir at ddibenion indemnio person rhag atebolrwyddau o’r fath.

(2Caiff yr awdurdod cofrestru bennu swyddfa sydd o dan ei reolaeth i fod y swyddfa briodol mewn perthynas â phractisau deintyddol preifat mewn ardal benodol o Gymru.

(3Pan fo person yn gweithredu ar ran claf (gan gynnwys pan fo’r claf yn blentyn neu’n glaf nad oes ganddo alluedd) at ddibenion y Rheoliadau hyn a phan fo’r cyd-destun yn mynnu, mae ystyr “claf” (“patient”) hefyd yn cynnwys person sy’n gweithredu ar ran y claf.

Eithriadau

4.  At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw ymgymeriad yn bractis deintyddol preifat—

(a)os yw’n darparu gwasanaethau deintyddol preifat gan ddeintydd sydd wedi ei gyflogi mewn ysbyty gwasanaeth iechyd ac sy’n darparu gwasanaethau o’r fath yn yr ysbyty hwnnw’n unig; neu

(b)os yw’n darparu gwasanaethau deintyddol preifat gan ddeintydd neu wasanaethau proffesiynol perthnasol gan broffesiynolyn gofal deintyddol mewn ac at ddibenion ysbyty annibynnol yn unig.

Datganiad o ddiben

5.—(1Rhaid i’r person cofrestredig lunio, mewn perthynas â’r practis deintyddol preifat, ddatganiad ar bapur (“y datganiad o ddiben”) sy’n cynnwys y materion a restrir yn Atodlen 1.

(2Rhaid i’r person cofrestredig ddarparu copi o’r datganiad o ddiben i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru, ei roi ar wefan y practis deintyddol preifat (os oes gan y practis wefan) a rhoi copi ohono ar gael cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar gais gan glaf.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i’r person cofrestredig sicrhau bod y practis deintyddol preifat yn cael ei redeg mewn modd sy’n gyson â’i ddatganiad o ddiben.

(4Nid oes dim ym mharagraff (3), rheoliad 13(1) na 22(1) a (2) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person cofrestredig, nac yn awdurdodi’r person cofrestredig, i dorri neu i beidio â chydymffurfio—

(a)ag unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu

(b)â’r amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru’r person cofrestredig o dan Ran 2 o’r Ddeddf.

Gwybodaeth i gleifion

6.—(1Rhaid i’r person cofrestredig lunio dogfen (“y daflen gwybodaeth i gleifion”), y mae rhaid iddi gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 2.

(2Rhaid i’r person cofrestredig ddarparu copi o’r daflen gwybodaeth i gleifion i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru, ei rhoi ar wefan y practis deintyddol preifat (os oes gan y practis wefan) a rhoi copi ohoni ar gael cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar gais gan glaf.

(3Rhaid i’r person cofrestredig sicrhau bod gwybodaeth ddangosol am y ffioedd sy’n daladwy gan gleifion yn cael ei harddangos mewn man amlwg yn y practis deintyddol preifat, mewn rhan y mae gan gleifion fynediad iddi.

Adolygu’r datganiad o ddiben a’r daflen gwybodaeth i gleifion

7.  Rhaid i’r person cofrestredig—

(a)adolygu’r datganiad o ddiben a’r daflen gwybodaeth i gleifion o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o ddeuddeng mis a gwneud unrhyw ddiwygiad y mae ei angen i gynnal eu cywirdeb; a

(b)hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru ynghylch unrhyw ddiwygiad o’r fath o fewn 28 o ddiwrnodau i’r adolygiad.

Polisïau a gweithdrefnau

8.—(1Rhaid i’r person cofrestredig lunio a gweithredu datganiadau ysgrifenedig o’r polisïau sydd i gael eu cymhwyso a’r gweithdrefnau sydd i gael eu dilyn mewn, neu at ddibenion, practis deintyddol preifat mewn perthynas â phob un o’r materion a bennir isod—

(a)y trefniadau ar gyfer derbyn cleifion;

(b)y trefniadau ar gyfer asesu, diagnosio a thrin cleifion;

(c)sicrhau bod y fangre a ddefnyddir at ddiben cynnal y practis deintyddol preifat bob amser yn addas at y diben hwnnw;

(d)monitro ansawdd ac addasrwydd y cyfleusterau a’r cyfarpar, gan gynnwys cynnal a chadw cyfarpar o’r fath;

(e)nodi, asesu a rheoli risgiau sy’n gysylltiedig â gweithrediad y practis deintyddol preifat i gyflogeion, cleifion, ymwelwyr a’r rhai sy’n gweithio yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat, gan gynnwys y camau a gymerir mewn perthynas â rheoliad 13(5) a (6);

(f)creu, rheoli, trin a storio cofnodion a gwybodaeth arall;

(g)darparu gwybodaeth i gleifion ac eraill gan gynnwys hysbysiadau clir i gleifion o unrhyw ffioedd sy’n daladwy am wasanaethau deintyddol preifat;

(h)recriwtio, sefydlu a chadw cyflogeion, eu hamodau cyflogaeth a’u gofynion o ran hyfforddiant;

(i)sicrhau bod staff yn cael eu recriwtio mewn ffordd ddiogel, gan gynnwys cynnal gwiriadau sy’n briodol i’r gwaith y mae’r staff i ymgymryd ag ef;

(j)pan fo gwaith ymchwil yn cael ei wneud mewn practis deintyddol preifat, sicrhau bod y gwaith hwnnw yn cael ei wneud gyda chydsyniad unrhyw glaf neu gleifion sy’n rhan o’r ymchwil, bod y gwaith ymchwil yn briodol ar gyfer y practis o dan sylw, a’i fod yn cael ei gynnal yn unol ag unrhyw ganllawiau cyhoeddedig cyfredol ac awdurdodol ar gynnal prosiectau ymchwil;

(k)y trefniadau ar gyfer sicrhau iechyd a diogelwch staff a chleifion;

(l)archebu, cofnodi, rhoi a chyflenwi meddyginiaethau i gleifion;

(m)y trefniadau sy’n ymwneud â rheoli heintiau gan gynnwys hylendid dwylo, trin a gwaredu gwastraff clinigol yn ddiogel, gweithdrefnau cadw tŷ a glanhau, a hyfforddiant a chyngor perthnasol;

(n)y trefniadau ar gyfer cynnal archwiliadau clinigol;

(o)y trefniadau ar gyfer cynlluniau wrth gefn ar gyfer argyfyngau sy’n sicrhau bod y practis deintyddol preifat yn parhau i gael ei redeg yn ddiogel;

(p)y ddarpariaeth o wasanaethau cartref os caiff gwasanaethau o’r fath eu darparu; a

(q)y trefniadau ar gyfer delio ag argyfyngau meddygol sy’n sicrhau bod staff a all fod yn gysylltiedig â delio ag argyfwng meddygol yn cael yr hyfforddiant priodol.

(2Rhaid llunio’r polisïau a’r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) gan roi sylw i faint y practis deintyddol preifat, y datganiad o ddiben a nifer y cleifion a’u hanghenion.

(3Rhaid i’r person cofrestredig lunio a gweithredu datganiadau ysgrifenedig o’r polisïau sydd i gael eu cymhwyso a’r gweithdrefnau sydd i gael eu dilyn ar gyfer y gofal a’r driniaeth i gleifion nad oes ganddynt alluedd o fewn ystyr “lack capacity” yn Neddf 2005, sy’n cyd-fynd â Deddf 2005 ac unrhyw God Ymarfer a chanllawiau perthnasol.

(4Rhaid i’r datganiadau ysgrifenedig y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) gynnwys polisïau a gweithdrefnau sy’n sicrhau—

(a)bod galluedd pob claf i gydsynio i driniaeth yn cael ei asesu;

(b)yn achos claf nad oes ganddo alluedd, y cydymffurfir â gofynion Deddf 2005 cyn rhoi unrhyw driniaeth arfaethedig iddo; ac

(c)nad yw’r wybodaeth am iechyd, gofal a thriniaeth claf nad oes ganddo alluedd ond yn cael ei datgelu i’r personau hynny y mae angen iddynt fod yn ymwybodol o’r wybodaeth honno er mwyn trin y claf yn effeithiol neu leihau unrhyw risg y gallai’r claf ei niweidio ei hun neu niweidio person arall.

(5Pan fo gwasanaethau cartref yn cael eu darparu gan y practis deintyddol preifat, rhaid i’r person cofrestredig—

(a)llunio a gweithredu datganiadau ysgrifenedig o’r polisïau sydd i gael eu cymhwyso a’r gweithdrefnau sydd i gael eu dilyn ar gyfer darparu gwasanaethau cartref; a

(b)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau cenedlaethol ar ddarparu gwasanaethau cartref wrth lunio’r datganiadau ysgrifenedig y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a).

(6Rhaid i’r person cofrestredig adolygu gweithrediad polisïau a gweithdrefnau a weithredir o dan y rheoliad hwn a rheoliad 21 (cwynion) fesul ysbaid nad yw’n hwy na thair blynedd a, phan fo’n briodol, diwygio a gweithredu’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny.

(7Rhaid i’r person cyfrifol roi ar gael ar gais gan glaf, ac unrhyw ddarpar glaf, gopïau o’r polisïau a’r gweithdrefnau.

(8Rhaid i’r person cofrestredig gadw copïau o’r holl bolisïau a gweithdrefnau y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn, gan gynnwys fersiynau blaenorol o bolisïau a gweithdrefnau sydd wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (6), am gyfnod o ddim llai na thair blynedd o ddyddiad creu neu ddiwygio’r polisi neu’r weithdrefn.

(9Rhaid i’r person cofrestredig roi copi o’r holl ddatganiadau ysgrifenedig a lunnir yn unol â’r rheoliad hwn ar gael i’r awdurdod cofrestru edrych arnynt.

RHAN 2Personau Cofrestredig

Addasrwydd darparwr cofrestredig

9.—(1Ni chaiff person gynnal practis deintyddol preifat oni bai bod y person yn addas i wneud hynny.

(2Nid yw person yn addas i gynnal practis deintyddol preifat oni bai bod y person—

(a)yn unigolyn sy’n bodloni’r gofynion a nodir ym mharagraff (3);

(b)yn bartneriaeth, a bod pob un o’r partneriaid yn bodloni’r gofynion ym mharagraff (3); neu

(c)yn sefydliad ac—

(i)bod y sefydliad wedi hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru am enw a chyfeiriad yr unigolyn cyfrifol a’i swydd yn y sefydliad; a

(ii)bod yr unigolyn yn bodloni’r gofynion ym mharagraff (3).

(3Y gofynion yw—

(a)bod yr unigolyn yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da i gynnal y practis deintyddol preifat neu, yn ôl y digwydd, i fod yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli’r practis deintyddol preifat;

(b)bod yr unigolyn yn gallu oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol (os oes rhai) gael eu gwneud, gynnal y practis deintyddol preifat neu, yn ôl y digwydd, fod yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli’r practis deintyddol preifat; ac

(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, ar gael mewn perthynas â’r unigolyn mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3.

(4Wrth asesu cymeriad unigolyn at ddibenion paragraff (3)(a), rhaid i’r materion a ystyrir gynnwys y rhai a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 3.

(5Nid yw person yn addas i gynnal practis deintyddol preifat—

(a)os yw’r person hwnnw wedi ei ddyfarnu’n fethdalwr(9) neu y dyfarnwyd y secwestriad o ystad y person ac (yn y naill achos neu’r llall) os nad yw’r person wedi ei ryddhau ac nad yw’r gorchymyn methdalu(10) wedi ei ddiddymu na’i ddad-wneud neu fod cyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled (o fewn ystyr “debt relief order” yn adran 251A o Ddeddf Ansolfedd 1986)(11) yn gymwys mewn perthynas â’r person; neu

(b)os yw’r person hwnnw wedi gwneud compównd neu drefniant â chredydwyr y person ac nad yw wedi ei ryddhau mewn cysylltiad ag ef.

Penodi rheolwr

10.—(1Rhaid i’r darparwr cofrestredig benodi unigolyn i reoli’r practis deintyddol preifat—

(a)os yw’r darparwr cofrestredig yn sefydliad neu’n bartneriaeth;

(b)os nad yw’r darparwr cofrestredig yn berson addas i gynnal y practis deintyddol preifat; neu

(c)os nad oes gan y darparwr cofrestredig ofal am y practis deintyddol preifat yn llawnamser o ddydd i ddydd, neu os nad yw’n bwriadu i’r practis fod o dan ei ofal yn y modd hwnnw.

(2Os yw’r darparwr cofrestredig yn penodi unigolyn i reoli’r practis deintyddol preifat, rhaid i’r darparwr cofrestredig hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru ar unwaith am enw’r unigolyn a benodir a’r dyddiad y mae’r penodiad yn cymryd effaith.

Addasrwydd rheolwr

11.—(1Ni chaiff person reoli practis deintyddol preifat oni bai bod y person yn addas i wneud hynny.

(2Nid yw person yn addas i reoli practis deintyddol preifat oni bai—

(a)bod y person hwnnw yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da i reoli’r practis deintyddol preifat; a

(b)gan roi sylw i faint y practis deintyddol preifat, y datganiad o ddiben a nifer y cleifion a’u hanghenion—

(i)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i reoli’r practis deintyddol preifat; a

(ii)bod y person yn gallu gwneud hynny oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol (os oes rhai) gael eu gwneud; a

(iii)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, ar gael mewn perthynas â’r person mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3.

(3Wrth asesu cymeriad person at ddibenion paragraff (2)(a), rhaid i’r materion a ystyrir gynnwys y rhai a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 3.

(4Pan fo person yn rheoli mwy nag un practis deintyddol preifat, rhaid iddo dreulio amser digonol ym mhob practis i sicrhau bod y practis yn cael ei reoli’n effeithiol.

Y person cofrestredig – gofynion cyffredinol a hyfforddiant

12.—(1Rhaid i’r darparwr cofrestredig a’r rheolwr cofrestredig gynnal neu reoli’r practis deintyddol preifat, yn ôl y digwydd, gyda gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i faint y practis deintyddol preifat, y datganiad o ddiben a nifer y cleifion a’u hanghenion.

(2Rhaid i’r darparwr cofrestredig a’r rheolwr cofrestredig ymgymryd, o bryd i’w gilydd, ag unrhyw hyfforddiant sy’n briodol er mwyn sicrhau bod ganddynt y sgiliau y mae eu hangen i gynnal neu reoli’r practis deintyddol preifat, yn ôl y digwydd.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, rhaid i’r sawl a ganlyn ymgymryd â’r hyfforddiant y cyfeirir ato ym mharagraff (2)—

(a)yr unigolyn, os yw’r darparwr cofrestredig yn unigolyn;

(b)yr unigolyn cyfrifol, os yw’r darparwr cofrestredig yn sefydliad; neu

(c)un o’r partneriaid, os yw’r darparwr cofrestredig yn bartneriaeth.

RHAN 3Rhedeg Practis Deintyddol Preifat

PENNOD 1Ansawdd y Gwasanaethau a Ddarperir

Ansawdd y driniaeth a’r gwasanaethau eraill a ddarperir

13.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 5(4) (datganiad o ddiben), rhaid i’r person cofrestredig ddarparu unrhyw driniaeth a gwasanaethau eraill i gleifion yn unol â’r datganiad o ddiben a rhaid iddo sicrhau bod unrhyw driniaeth a gwasanaethau eraill a ddarperir i bob claf—

(a)yn diwallu anghenion unigol y claf; a

(b)yn sicrhau lles a diogelwch y claf.

(2Rhaid i’r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod yr holl gyfarpar a ddefnyddir yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat yn ddiogel ac mewn cyflwr da ac yn addas at y diben y mae i gael ei ddefnyddio ar ei gyfer; a

(b)bod staff wedi eu hyfforddi’n ddigonol i ddefnyddio unrhyw gyfarpar (gan gynnwys dyfeisiau meddygol a systemau diagnostig) y mae’n ofynnol iddynt ei ddefnyddio yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat.

(3Pan fo dyfeisiau meddygol amldro yn cael eu defnyddio mewn practis deintyddol preifat, rhaid i’r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod dyfeisiau o’r fath yn cael eu trin yn ddiogel;

(b)bod gweithdrefnau priodol yn cael eu gweithredu mewn perthynas â glanhau, diheintio, arolygu, pecynnu, sterileiddio, cludo a storio dyfeisiau o’r fath; ac

(c)bod trefniadau priodol yn eu lle ar gyfer delio’n ddi-oed ag unrhyw fethiant o ran dyfais neu system.

(4Rhaid i’r person cofrestredig amddiffyn cleifion rhag y risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio a rheoli meddyginiaethau yn anniogel, drwy—

(a)gwneud trefniadau priodol ar gyfer cael, cofnodi, trin, defnyddio, cadw’n ddiogel, gweinyddu, rhoi a gwaredu’n ddiogel feddyginiaethau a ddefnyddir yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat;

(b)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan yr awdurdod cofrestru neu gan gorff arbenigol priodol mewn perthynas â thrin a defnyddio meddyginiaethau yn ddiogel;

(c)sicrhau bod deintyddion a phroffesiynolion gofal deintyddol wedi eu cymhwyso a’u hyfforddi i ragnodi a rhoi meddyginiaethau o fewn eu cwmpas ymarfer;

(d)sicrhau bod gan gleifion a staff fynediad at gyngor a gwybodaeth am feddyginiaethau a ddefnyddir yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat; ac

(e)sicrhau yr adroddir ar bob digwyddiad andwyol sy’n ymwneud â chyffuriau.

(5Rhaid i’r person cofrestredig, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod y personau a ganlyn yn cael eu hamddiffyn rhag y risgiau adnabyddadwy o gael haint sy’n gysylltiedig â gofal iechyd drwy’r dulliau a bennir ym mharagraff (6)—

(a)cleifion; a

(b)eraill a all fod yn wynebu risg o ddod i gysylltiad â haint o’r fath sy’n deillio o weithio mewn, neu at ddibenion, practis deintyddol preifat.

(6Y dulliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yw—

(a)gweithrediad effeithiol systemau a ddyluniwyd i asesu’r risg o gael haint sy’n gysylltiedig â gofal iechyd ac atal, canfod a rheoli lledaeniad haint o’r fath;

(b)cynnal safonau priodol o lanweithdra a hylendid mewn perthynas ag—

(i)y mangreoedd a ddefnyddir at ddiben cynnal y practis deintyddol preifat;

(ii)cyfarpar a dyfeisiau meddygol amldro a ddefnyddir at ddiben cynnal y practis deintyddol preifat; a

(iii)deunyddiau sydd i gael eu defnyddio wrth drin defnyddwyr gwasanaethau, pan fo risg y gall deunyddiau o’r fath gael eu halogi; ac

(c)sicrhau bod system effeithiol yn cael ei gweithredu er mwyn sicrhau bod pob aelod o staff wedi cwblhau’n llwyddiannus—

(i)gwiriadau iechyd safonol; a

(ii)gwiriadau iechyd ychwanegol pan fydd staff yn gwneud triniaethau a all arwain at gysylltiad.

(7Rhaid i’r person cofrestredig roi sylw i’r canllawiau presennol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru(12) wrth weithredu’r system y cyfeirir ati ym mharagraff (6)(c).

(8Rhaid i’r person cofrestredig ystyried unrhyw gyngor sy’n ymwneud â’r math o driniaeth y mae’r practis deintyddol preifat yn ei ddarparu ac sy’n ymwneud â gwybodaeth am ddiogelwch cleifion a gyhoeddir gan gyrff arbenigol rheoleiddiol, proffesiynol neu statudol cydnabyddedig.

(9Rhaid i’r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod cleifion yn cael gwybodaeth amserol a hygyrch am eu cyflwr, eu gofal, eu meddyginiaeth, eu triniaeth a’u trefniadau cymorth;

(b)bod cleifion yn cael cyfleoedd i drafod yr opsiynau sydd ar gael mewn perthynas â’u meddyginiaeth (os oes meddyginiaeth), eu triniaeth a’u cymorth a chytuno ar yr opsiynau hynny;

(c)bod gwybodaeth am gleifion yn cael ei thrin yn gyfrinachol; a

(d)bod cydsyniad dilys yn cael ei roi i’r driniaeth.

Diogelu cleifion

14.—(1Rhaid i’r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod cleifion yn cael eu diogelu rhag y risg o gael eu cam-drin a’u trin yn amhriodol drwy—

(a)sicrhau bod staff yn ymwybodol o’r angen i ddiogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg(13) a’u bod yn gyfarwydd ag unrhyw weithdrefnau cenedlaethol ar gyfer amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg;

(b)sicrhau bod staff wedi eu hyfforddi’n briodol mewn materion diogelu gan gynnwys amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg;

(c)sicrhau bod staff yn gwybod â phwy i gysylltu yn lleol os bydd pryder sy’n ymwneud ag amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg;

(d)cymryd camau rhesymol i nodi’r posibilrwydd o gam-drin ac ymateb yn briodol i unrhyw honiadau o gam-drin; ac

(e)sicrhau bod gan staff fynediad at gymorth a’r canllawiau diweddaraf os bydd pryder ynghylch lles a diogelwch plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg.

(2Wrth wneud y trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), rhaid i’r person cofrestredig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan yr awdurdod cofrestru neu’r corff arbenigol priodol mewn perthynas ag amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg.

Preifatrwydd, urddas a pherthnasau

15.—(1Rhaid i’r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod y practis deintyddol preifat yn cael ei redeg mewn ffordd sy’n parchu preifatrwydd ac urddas cleifion.

(2Wrth wneud y trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), rhaid i’r person cofrestredig roi sylw i’r nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010(14).

(3Rhaid i’r darparwr cofrestredig a’r rheolwr cofrestredig (os oes un) gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y practis deintyddol preifat yn cael ei redeg ar sail perthnasau personol a phroffesiynol da—

(a)rhwng y naill a’r llall;

(b)rhyngddynt hwy ac aelodau’r staff; ac

(c)rhwng pob un sy’n cael ei gyflogi yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat a’r cleifion.

Asesu a monitro ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan gynnwys ffurflenni blynyddol

16.—(1Rhaid i’r person cofrestredig—

(a)asesu a monitro’n rheolaidd ansawdd y gwasanaethau a ddarperir wrth gynnal y practis yn erbyn y gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn; a

(b)nodi, asesu a rheoli risgiau sy’n ymwneud ag iechyd, lles a diogelwch staff a chleifion.

(2At ddibenion paragraff (1), rhaid i’r person cofrestredig—

(a)pan fo’n briodol, gael cyngor proffesiynol perthnasol;

(b)rhoi sylw i—

(i)yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y cofnodion y cyfeirir atynt yn rheoliad 20 (cofnodion);

(ii)y sylwadau a’r cwynion a wneir, a’r safbwyntiau (gan gynnwys y disgrifiadau o’u profiadau o ofal a thriniaeth) a fynegir gan gleifion yn unol ag is-baragraff (c) a rheoliad 21 (cwynion);

(iii)unrhyw ymchwiliad a gynhelir gan y person cofrestredig mewn perthynas ag ymddygiad person a gyflogir at ddiben cynnal y practis deintyddol preifat; a

(iv)adroddiadau a lunnir gan yr awdurdod cofrestru o bryd i’w gilydd yn unol ag adran 32(5) o’r Ddeddf (arolygiadau: atodol) mewn perthynas â’r practis deintyddol preifat;

(c)mynd ati’n rheolaidd i geisio safbwyntiau (gan gynnwys y disgrifiadau o’u profiadau o ofal a thriniaeth) cleifion a phersonau sydd wedi eu cyflogi yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat; a

(d)pan fo angen, gwneud newidiadau i gyflenwi gwasanaethau, triniaeth neu ofal a ddarperir er mwyn adlewyrchu—

(i)y dadansoddiad o ddigwyddiadau a achosodd, neu a oedd â’r potensial i achosi, niwed i glaf;

(ii)casgliadau’r adolygiadau lleol a chenedlaethol o wasanaethau, archwiliadau clinigol a gwaith ymchwil a gynhelir gan gyrff arbenigol priodol; a

(iii)safbwyntiau cleifion a phersonau sydd wedi eu cyflogi yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat.

(3Rhaid i’r person cofrestredig, pan ofynnir iddo wneud hynny, anfon i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru ffurflen flynyddol sy’n nodi sut y mae’r person cofrestredig wedi bodloni gofynion paragraff (1), ynghyd ag unrhyw gynlluniau sydd gan y person cofrestredig ar gyfer gwella safon y gwasanaethau, y driniaeth a’r gofal a ddarperir i gleifion gyda golwg ar sicrhau eu hiechyd, eu lles a’u diogelwch.

(4Rhaid i’r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw’r ffurflen flynyddol yn gamarweiniol nac yn anghywir.

(5Rhaid i’r person cofrestredig gyflenwi’r ffurflen flynyddol i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru o fewn yr amserlen a fynnir gan yr awdurdod.

Staffio

17.—(1Rhaid i’r person cofrestredig, wedi rhoi sylw i natur y practis deintyddol preifat, y datganiad o ddiben a nifer y cleifion a’u hanghenion—

(a)sicrhau bod personau sydd â’r cymwysterau, y sgiliau a’r profiad addas bob amser yn gweithio yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat a bod eu niferoedd yn briodol ar gyfer iechyd, lles a diogelwch y cleifion; a

(b)sicrhau na fydd cyflogi unrhyw bersonau ar sail dros dro yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat yn rhwystro cleifion rhag cael parhad gofal sy’n rhesymol i ddiwallu eu hanghenion.

(2Rhaid i’r person cofrestredig sicrhau bod pob deintydd neu broffesiynolyn gofal deintyddol sy’n gweithio yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat wedi ei gofrestru â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol.

(3Rhaid i’r person cofrestredig sicrhau bod pob person a gyflogir yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat—

(a)yn cael ei hyfforddi a’i oruchwylio’n briodol;

(b)yn cael ei alluogi o bryd i’w gilydd i gael hyfforddiant pellach sy’n briodol i’w rôl;

(c)yn cael disgrifiad swydd sy’n amlinellu cyfrifoldebau’r person;

(d)â chontract ysgrifenedig; ac

(e)â mynediad at brosesau sy’n ei alluogi i fynegi pryderon, yn gyfrinachol a heb ragfarnu ei gyflogaeth, am unrhyw agwedd ar gyflenwi gwasanaethau, triniaeth neu reoli.

(4Rhaid i’r person cofrestredig sicrhau bod pob person a gyflogir yn, neu at ddibenion, y practis meddygol preifat yn cael ei harfarnu’n rheolaidd ac yn briodol, a rhaid iddo gymryd unrhyw gamau angenrheidiol er mwyn ymdrin ag unrhyw agwedd—

(a)ar ymarfer clinigol deintydd neu broffesiynolyn gofal deintyddol; neu

(b)ar berfformiad aelod o staff nad yw’n ddeintydd nac yn broffesiynolyn gofal deintyddol,

y cafwyd ei bod yn anfoddhaol.

(5Rhaid i’r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw bersonau sy’n gweithio yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat, nad ydynt yn cael eu cyflogi gan y person cofrestredig ac nad yw paragraff (3) yn gymwys iddynt, yn cael eu goruchwylio’n briodol tra bônt yn cyflawni eu dyletswyddau, er mwyn sicrhau na pheryglir iechyd, lles a diogelwch y cleifion.

Addasrwydd gweithwyr

18.—(1Ni chaiff person cofrestredig—

(a)cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio mewn, neu at ddibenion, practis deintyddol preifat onid yw’r person hwnnw yn addas i wneud hynny; neu

(b)caniatáu i unrhyw berson arall weithio mewn, neu at ddibenion, practis deintyddol preifat onid yw’r person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1) nid yw person yn addas i weithio yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat—

(a)onid yw’r person wedi ei gofrestru â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny;

(b)onid yw’r person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da;

(c)onid oes gan y person y cymwysterau, y sgiliau a’r profiad angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae’r person hwnnw i’w wneud;

(d)onid yw’r person oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol (os oes rhai) gael eu gwneud, yn gallu cyflawni tasgau sy’n rhan annatod o’r gwaith hwnnw yn briodol; ac

(e)onid oes wybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, ar gael mewn perthynas â’r person mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3.

(3Wrth asesu cymeriad unigolyn at ddibenion paragraff (2)(b), rhaid i’r materion a ystyrir gynnwys y rhai a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 3.

Canllawiau ar gyfer deintyddion a phroffesiynolion gofal deintyddol

19.  Rhaid i’r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw god moeseg neu god ymarfer proffesiynol a lunnir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn cael ei roi ar gael yn y practis deintyddol preifat.

Cofnodion

20.—(1Rhaid i’r person cofrestredig sicrhau bod cofnod gofal deintyddol cynhwysfawr a gaiff fod ar ffurf bapur neu electronig yn cael ei gynnal mewn perthynas â phob claf—

(a)sy’n cynnwys—

(i)nodyn cyfredol a chywir o’r holl asesu, cynllunio triniaeth a thriniaeth a ddarperir i’r claf; a

(ii)hanes deintyddol y claf ac unrhyw hanes meddygol perthnasol ’a’r holl nodiadau eraill a lunnir gan ddeintydd neu broffesiynolyn gofal deintyddol ynghylch achos y claf; a

(b)bod y cofnod yn cael ei gadw am isafswm cyfnod o wyth mlynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y daeth y driniaeth y mae’r cofnod yn cyfeirio ati i ben neu y cafodd y driniaeth honno ei therfynu.

(2Rhaid i’r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod cofnod gofal deintyddol person sydd ar hyn o bryd yn glaf yn cael ei gadw mewn lle diogel yn y fangre a ddefnyddir i gynnal y practis deintyddol preifat; a

(b)bod cofnod gofal deintyddol person nad yw’n glaf mwyach yn cael ei storio’n ddiogel (pa un ai yn y practis neu mewn man arall) a bod modd dod o hyd iddo pe bai angen.

(3Pan fo practis deintyddol preifat yn peidio â gweithredu rhaid i’r person cofrestredig sicrhau bod y cofnodion a gynhelir yn unol â pharagraff (1) yn cael eu cadw’n ddiogel mewn man arall a rhaid iddo eu rhoi ar gael i’r awdurdod cofrestru edrych arnynt os bydd yr awdurdod yn gofyn amdanynt.

Cwynion

21.—(1Rhaid i’r person cofrestredig sefydlu a gweithredu’n effeithiol weithdrefn glir a hygyrch (“y weithdrefn gwyno”) ar gyfer ystyried cwynion a wneir i’r person cofrestredig gan glaf ac ymateb i’r cwynion hynny.

(2Rhaid i’r person cofrestredig—

(a)sicrhau yr ymchwilir i unrhyw gŵyn a wneir o dan y weithdrefn gwyno;

(b)sicrhau bod camau angenrheidiol a chymesur yn cael eu cymryd mewn ymateb i unrhyw fethiant a nodir gan y gŵyn neu’r ymchwiliad; ac

(c)wrth weithredu’r weithdrefn gwyno, gymryd i ystyriaeth ddymuniadau a theimladau’r claf hyd y gellir eu canfod a pharchu preifatrwydd y claf gymaint ag y bo’n bosibl.

(3Rhaid i’r person cofrestredig gyflenwi copi ysgrifenedig o’r weithdrefn gwyno ar gais i glaf ac unrhyw ddarpar glaf.

(4Rhaid i’r copi ysgrifenedig o’r weithdrefn gwyno gynnwys—

(a)enw, cyfeiriad a rhif ffôn yr awdurdod cofrestru; a

(b)y weithdrefn (os oes un) y mae’r person cofrestredig wedi ei hysbysu amdani gan yr awdurdod cofrestru ar gyfer gwneud cwynion i’r awdurdod cofrestru ynghylch y practis deintyddol preifat.

(5Rhaid i’r person cofrestredig gynnal cofnod o bob cwyn, gan gynnwys manylion yr ymchwiliadau a wneir, y canlyniad ac unrhyw gamau canlyniadol a gymerir, gan gynnwys a oes angen gweithredu i wella ansawdd y driniaeth neu’r gwasanaethau.

(6Rhaid i’r person cofrestredig gyflenwi copïau o’r cofnodion a gynhelir o dan baragraff (5) i’r awdurdod cofrestru, ar ei gais, a hynny heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad ar ôl cael y cais.

PENNOD 2Mangreoedd

Addasrwydd mangreoedd

22.—(1Ni chaiff y person cofrestredig ddefnyddio mangre i gynnal practis deintyddol preifat oni bai bod y fangre honno o ddyluniad a chynllun ffisegol sy’n addas at ddiben cyflawni’r nodau a’r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.

(2Rhaid i’r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod y fangre yn darparu amgylchedd glân, diogel ac wedi ei ddiogelu;

(b)bod y fangre o adeiladwaith cadarn ac yn cael ei chadw mewn cyflwr da yn allanol ac yn fewnol; ac

(c)bod maint a chynllun y fangre yn addas at y dibenion y caiff ei defnyddio atynt a’i bod wedi ei chyfarparu a’i dodrefnu’n addas.

(3Rhaid i’r person cofrestredig ddarparu’r canlynol ar gyfer cyflogeion—

(a)cyfleusterau at ddibenion newid; a

(b)cyfleusterau storio.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5) rhaid i’r person cofrestredig—

(a)cymryd rhagofalon digonol yn erbyn y risg o dân, gan gynnwys darparu a chynnal a chadw cyfarpar digonol i atal a chanfod tân;

(b)darparu dulliau digonol o ddianc os digwydd tân;

(c)gwneud trefniadau er mwyn i bersonau a gyflogir yn y practis deintyddol preifat gael hyfforddiant addas mewn atal tân;

(d)sicrhau, drwy gynnal driliau ac ymarferion tân fesul ysbaid addas, fod cyflogeion y practis deintyddol preifat yn ymwybodol o’r weithdrefn sydd i gael ei dilyn yn achos tân;

(e)adolygu rhagofalon tân, addasrwydd cyfarpar tân a’r weithdrefn sydd i gael ei dilyn yn achos tân fesul ysbaid nad yw’n hwy na deuddeng mis; ac

(f)llunio a chynnal asesiad risg diogelwch tân ysgrifenedig.

(5Pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005(15) yn gymwys i’r practis deintyddol preifat—

(a)nid yw paragraff (4) yn gymwys; a

(b)rhaid i’r person cofrestredig sicrhau y cydymffurfir â gofynion y Gorchymyn hwnnw, ac unrhyw reoliadau a wneir odano, ac eithrio erthygl 23 (dyletswyddau cyffredinol cyflogeion yn y gwaith), mewn cysylltiad â’r fangre a ddefnyddir at ddiben darparu gwasanaethau deintyddol preifat.

PENNOD 3Rheoli

Ymweliadau gan ddarparwr cofrestredig â phractis deintyddol preifat

23.—(1Pan fo’r person cofrestredig yn unigolyn nad yw’n rheoli’r practis deintyddol preifat, rhaid i’r unigolyn hwnnw ymweld â’r fangre a ddefnyddir i gynnal y practis deintyddol preifat yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Pan fo’r darparwr cofrestredig yn sefydliad neu’n bartneriaeth, rhaid i’r canlynol ymweld â’r fangre a ddefnyddir i gynnal y practis deintyddol preifat yn unol â’r rheoliad hwn—

(a)yr unigolyn cyfrifol;

(b)un arall o’r cyfarwyddwyr neu, yn ôl y digwydd, y partneriaid, neu’r personau eraill sy’n gyfrifol am reoli’r sefydliad neu’r bartneriaeth; neu

(c)un o gyflogeion y sefydliad sydd â’r cymwysterau, y sgiliau a’r profiad priodol at y diben ac nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol â rhedeg y practis deintyddol preifat.

(3Rhaid gwneud ymweliadau o dan baragraff (1) neu (2) o leiaf bob deuddeng mis a chaniateir iddynt fod yn ddirybudd.

(4Rhaid i’r person sy’n ymgymryd â’r ymweliad—

(a)cyf-weld ag unrhyw gyflogeion yr ymddengys ei bod yn angenrheidiol er mwyn ffurfio barn ynghylch safon y gofal, y driniaeth a’r gwasanaethau eraill a ddarperir yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat;

(b)arolygu’r fangre a ddefnyddir i gynnal y practis deintyddol preifat a chofnodion o unrhyw gwynion; ac

(c)llunio adroddiad ysgrifenedig ar y ffordd y mae’r practis deintyddol preifat yn cael ei redeg.

(5Rhaid i’r darparwr cofrestredig gyflenwi copi o’r adroddiad y mae’n ofynnol ei wneud o dan baragraff (4)(c)—

(a)i’r rheolwr cofrestredig; ac

(b)yn achos ymweliad o dan baragraff (2)—

(i)pan fo’r darparwr cofrestredig yn sefydliad, i bob un o’r cyfarwyddwyr neu’r personau eraill sy’n gyfrifol am reoli’r sefydliad;

(ii)pan fo’r darparwr cofrestredig yn bartneriaeth, i bob un o’r partneriaid.

(6Rhaid i’r darparwr cofrestredig, os yw’r awdurdod cofrestru yn gofyn felly, gyflenwi copi iddo o’r adroddiad y mae’n ofynnol ei wneud o dan baragraff (4)(c).

Sefyllfa ariannol

24.  Rhaid i’r darparwr cofrestredig gymryd pob cam rhesymol i gynnal y practis deintyddol preifat mewn modd sy’n debygol o sicrhau y bydd yn hyfyw yn ariannol at ddiben cyflawni’r nodau a’r amcanion a nodir yn ei ddatganiad o ddiben.

PENNOD 4Hysbysiadau sydd i Gael eu Rhoi i’r Awdurdod Cofrestru

Hysbysu am ddigwyddiadau

25.—(1Rhaid i’r person cofrestredig roi hysbysiad i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol gwneud hynny—

(a)am farwolaeth claf neu unrhyw anaf difrifol i glaf—

(i)yn ystod triniaeth a ddarperir yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat;

(ii)o ganlyniad i driniaeth a ddarperir yn y practis deintyddol preifat; neu

(iii)sydd fel arall ar fangre’r practis deintyddol preifat;

(b)am achos o unrhyw glefyd heintus sydd, ym marn unrhyw ddeintydd neu broffesiynolyn gofal deintyddol sy’n gweithio yn y practis, yn ddigon difrifol i roi hysbysiad yn ei gylch felly; neu

(c)am unrhyw honiad o gamymddwyn sy’n arwain at niwed gwirioneddol neu niwed posibl i glaf gan y person cofrestredig neu unrhyw berson a gyflogir yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat.

(2Yn achos marwolaeth claf, rhaid i’r person cofrestredig hefyd hysbysu’r awdurdod cofrestru am ddyddiad, amser, rheswm (pan fo’n hysbys) ac amgylchiadau marwolaeth y claf.

(3Rhaid i’r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig diogel o’r holl ddigwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a) i (c) o baragraff (1).

Hysbysiad o absenoldeb dros dro berson cofrestredig

26.—(1Pan fo—

(a)darparwr cofrestredig sy’n rheoli’r practis deintyddol preifat; neu

(b)rheolwr cofrestredig,

yn bwriadu bod yn absennol o’r practis deintyddol preifat am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau neu ragor, rhaid i’r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru.

(2Ac eithrio yn achos argyfwng, rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi heb fod yn hwyrach nag un mis cyn dechrau’r absenoldeb arfaethedig, neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y cytunir arno â’r awdurdod cofrestru a rhaid i’r hysbysiad bennu, mewn cysylltiad â’r absenoldeb—

(a)ei hyd neu ei hyd disgwyliedig;

(b)y rheswm drosto;

(c)y trefniadau sydd wedi eu gwneud ar gyfer rhedeg y practis deintyddol preifat;

(d)enw, cyfeiriad a chymwysterau’r person a fydd yn gyfrifol am y practis deintyddol preifat yn ystod yr absenoldeb hwnnw; ac

(e)y trefniadau sydd wedi, neu y bwriedir, eu gwneud ar gyfer penodi person arall i reoli’r practis deintyddol preifat yn ystod yr absenoldeb hwnnw, gan gynnwys erbyn pa ddyddiad y bwriedir gwneud y penodiad hwnnw.

(3Pan fo’r absenoldeb yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i’r person cofrestredig roi hysbysiad o’r absenoldeb o fewn un wythnos i’r argyfwng ddigwydd, gan bennu’r materion a nodir yn is-baragraffau (a) i (e) o baragraff (2).

(4Pan fo—

(a)darparwr cofrestredig sy’n rheoli’r practis deintyddol preifat; neu

(b)rheolwr cofrestredig,

wedi bod yn absennol o’r practis deintyddol preifat am gyfnod parhaus o 90 o ddiwrnodau neu ragor, ac nad yw hysbysiad wedi cael ei roi i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru am yr absenoldeb, rhaid i’r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i’r swyddfa honno, cyn gynted ag y bo’n ymarferol gwneud hynny, gan bennu’r materion a nodir yn is-baragraffau (a) i (e) o baragraff (2).

(5Rhaid i’r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru bod person a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (4) wedi dychwelyd i’r gwaith, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r person hwnnw yn dychwelyd i’r gwaith.

Hysbysiad o newidiadau

27.—(1Rhaid i’r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol gwneud hynny, os bydd unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau a ganlyn yn digwydd neu os bwriedir iddynt ddigwydd—

(a)bod person ac eithrio’r person cofrestredig yn cynnal neu’n rheoli’r practis deintyddol preifat;

(b)bod person yn peidio â chynnal neu reoli’r practis deintyddol preifat;

(c)pan fo’r person cofrestredig yn unigolyn, bod yr unigolyn hwnnw yn newid ei enw;

(d)pan fo’r darparwr cofrestredig yn bartneriaeth, bod unrhyw newid yn aelodaeth y bartneriaeth;

(e)pan fo’r darparwr cofrestredig yn sefydliad—

(i)bod enw neu gyfeiriad y sefydliad yn newid;

(ii)bod unrhyw newid i gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o’r sefydliad;

(f)bod yr unigolyn cyfrifol yn newid ei enw;

(g)bod newid i hunaniaeth yr unigolyn cyfrifol;

(h)pan fo’r darparwr cofrestredig yn unigolyn, bod ymddiriedolwr mewn methdaliad yn cael ei benodi, neu fod compównd neu drefniant yn cael ei wneud â chredydwyr;

(i)pan fo’r darparwr cofrestredig yn gwmni neu’n bartneriaeth, bod derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro yn cael ei benodi; neu

(j)bod y fangre a ddefnyddir i gynnal y practis deintyddol preifat yn cael ei newid neu ei hestyn yn sylweddol, neu fod mangre ychwanegol yn cael ei chaffael y bwriedir ei defnyddio at ddibenion y practis.

Hysbysu am droseddau

28.  Pan fo’r person cofrestredig neu’r unigolyn cyfrifol yn cael ei euogfarnu o unrhyw drosedd, pa un ai yng Nghymru neu yn rhywle arall, rhaid i’r person sydd wedi ei euogfarnu roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru—

(a)o ddyddiad a man yr euogfarn;

(b)o’r drosedd yr euogfernir y person ohoni; ac

(c)o’r gosb a osodir ar y person mewn cysylltiad â’r drosedd.

Penodi datodwyr etc.

29.—(1Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru am benodiad y person, gan nodi’r rhesymau dros ei benodi;

(b)penodi rheolwr i fod â gofal llawnamser o ddydd i ddydd am y practis deintyddol preifat mewn unrhyw achos pan na fo’r ddyletswydd o dan reoliad 10(1) yn cael ei chyflawni; ac

(c)cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar ddyddiad penodiad y person, hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru am fwriadau’r person ynglŷn â gweithrediad y practis deintyddol preifat yn y dyfodol y mae’r penodiad yn ymwneud ag ef.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—

(a)yn dderbynnydd neu’n rheolwr eiddo sefydliad sy’n ddarparwr cofrestredig practis deintyddol preifat;

(b)yn ddatodwr neu’n ddatodwr dros dro i gwmni sy’n ddarparwr cofrestredig practis deintyddol preifat;

(c)yn ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparwr cofrestredig practis deintyddol preifat.

Marwolaeth person cofrestredig

30.—(1Os oes mwy nag un person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â phractis deintyddol preifat, a bod person cofrestredig yn marw, rhaid i unrhyw berson cofrestredig sy’n goroesi roi hysbysiad ysgrifenedig o’r farwolaeth i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru cyn gynted ag y bo’n ymarferol gwneud hynny.

(2Os dim ond un person sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â phractis deintyddol preifat, a bod y person yn marw, rhaid i gynrychiolwyr personol y person—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r farwolaeth i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol gwneud hynny; a

(b)rhoi hysbysiad i’r awdurdod hwnnw o’u bwriadau ynglŷn â rhedeg y practis deintyddol preifat yn y dyfodol, o fewn 28 o ddiwrnodau i’r farwolaeth.

(3Caiff cynrychiolwyr personol y darparwr cofrestredig ymadawedig gynnal y practis deintyddol preifat heb gael eu cofrestru mewn cysylltiad ag ef—

(a)am gyfnod nad yw’n hwy nag 28 o ddiwrnodau; a

(b)am unrhyw gyfnod pellach a benderfynir gan yr awdurdod cofrestru yn unol â pharagraff (4).

(4Caiff yr awdurdod cofrestru estyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3)(a) am unrhyw gyfnod pellach, nad yw’n hwy na chwe mis, a benderfynir gan yr awdurdod cofrestru, a rhaid iddo hysbysu’r cynrychiolwyr personol am unrhyw benderfyniad o’r fath yn ysgrifenedig.

(5Rhaid i’r cynrychiolwyr personol benodi rheolwr i fod â gofal llawnamser o ddydd i ddydd am y practis deintyddol preifat yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant, yn unol â pharagraff (3), yn cynnal y practis deintyddol preifat heb gael eu cofrestru mewn cysylltiad ag ef.

(6Mae darpariaethau rheoliad 11 yn gymwys i reolwr a benodir yn unol â pharagraff (5).

(7Pan fo’r awdurdod cofrestru yn cael cais i gofrestru fel darparwr mewn cysylltiad â’r practis deintyddol preifat y cyfeirir ato ym mharagraff (1), caniateir estyn y chwe mis y cyfeirir ato ym mharagraff (4) am gyfnod nad yw’n hwy na chwe mis fel y’i penderfynir gan yr awdurdod cofrestru.

RHAN 4Gofynion Ychwanegol

Dadebru

31.—(1Rhaid i’r person cofrestredig lunio a gweithredu datganiad ysgrifenedig, ar sail canllawiau cenedlaethol cyfredol ar gyfer dadebru, o’r polisïau sydd i gael eu cymhwyso a’r gweithdrefnau sydd i gael eu dilyn yn y practis deintyddol preifat mewn perthynas â dadebru cleifion a rhaid iddo adolygu’r datganiad hwnnw bob blwyddyn.

(2Rhaid i’r person cofrestredig sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)ar gael ar gais i bob claf; a

(b)yn cael eu cyfathrebu i, a’u deall gan, unrhyw berson sy’n gweithio yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat a all fod yn rhan o benderfyniadau am ddadebru claf.

(3Rhaid i’r person cofrestredig hefyd—

(a)sicrhau bod unrhyw berson sy’n gweithio yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat a all fod yn rhan o benderfyniadau am ddadebru claf, neu a all fod yn rhan o ddadebru cleifion, wedi ei hyfforddi’n addas; a

(b)sicrhau bod yr holl gyfarpar a meddyginiaethau y mae eu hangen i ddadebru cleifion ar gael ar y fangre a ddefnyddir i gynnal y practis deintyddol preifat.

Defnyddio cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4

32.—(1Rhaid i’r person cofrestredig sicrhau na chaiff unrhyw gynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4(16) ei ddefnyddio yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat oni bai bod gan y person cofrestredig brotocol proffesiynol wedi ei lunio gan ddeintydd neu broffesiynolyn gofal deintyddol hyfforddedig a phrofiadol y mae triniaeth sy’n defnyddio cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 i gael ei darparu yn unol ag ef, ac y darperir y driniaeth yn unol â’r protocol hwnnw.

(2Rhaid i’r person cofrestredig gynnal cofrestr yn y practis deintyddol preifat o bob achlysur pan fo cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 wedi ei ddefnyddio, sy’n cynnwys—

(a)enw’r claf y defnyddiwyd y cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 mewn cysylltiad â’i driniaeth;

(b)enw’r person a ddefnyddiodd y cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4; ac

(c)ei ddyddiad defnyddio.

(3Rhaid i’r person cofrestredig sicrhau nad yw cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 o’r fath ond yn cael ei ddefnyddio yn y practis deintyddol preifat gan berson sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant priodol ac sydd wedi dangos dealltwriaeth—

(a)o sut i ddefnyddio’r cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 yn gywir;

(b)o’r risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio’r cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4;

(c)o’i effeithiau biolegol ac amgylcheddol;

(d)o’r rhagofalon sydd i gael eu cymryd cyn defnyddio cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 ac wrth ei ddefnyddio; ac

(e)o’r camau sydd i gael eu cymryd os digwydd damwain, argyfwng neu achlysur andwyol arall sy’n ymwneud â chynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4.

RHAN 5Amrywiol

Ffioedd

33.  Mae Atodlen 5 yn pennu’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr ar gyfer cofrestriad a chan bersonau cofrestredig o dan Ran 2 o’r Ddeddf.

34.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff deintydd ofyn am ad-daliad o’r ffi flynyddol a ragnodir yn Rheoliadau 2008—

(a)os yw cais i gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf wedi ei wneud i’r awdurdod cofrestru mewn cysylltiad â’r practis deintyddol preifat y mae’r deintydd yn gweithio ynddo;

(b)os yw’r cais i gofrestru wedi ei ganiatáu gan yr awdurdod cofrestru; ac

(c)os talodd y deintydd ffi flynyddol o dan Reoliadau 2008 o fewn y chwe mis cyn i’r cais i gofrestru gael ei ganiatáu.

(2Rhaid i gais am ad-daliad y mae deintydd yn ei wneud a ddisgrifir ym mharagraff (1) gael ei wneud o fewn tri mis i’r dyddiad y cafodd y cais i gofrestru y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ei ganiatáu.

(3Pan fo deintydd yn gofyn am ad-daliad yn unol â pharagraff (2) a bod yr awdurdod cofrestru yn cytuno i ganiatáu’r cais, yna bydd ad-daliad yn cael ei dalu i’r deintydd ar sail un rhan o ddeuddeg o’r ffi flynyddol a delir ar gyfer pob mis cyfan yn dilyn y dyddiad y cafodd y cais i gofrestru y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ei ganiatáu.

(4Os yw deintydd yn gweithio mewn mwy nag un practis deintyddol preifat, ni chaiff y deintydd ond ofyn am ad-daliad—

(a)os yw cais i gofrestru wedi ei wneud i’r awdurdod cofrestru mewn cysylltiad â phob practis deintyddol preifat y mae’r deintydd yn gweithio ynddo; a

(b)os yw pob cais i gofrestru wedi ei ganiatáu.

Cydymffurfio â rheoliadau

35.  Pan fo mwy nag un person cofrestredig mewn cysylltiad â phractis deintyddol preifat, ni fydd unrhyw beth y mae’n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn iddo gael ei wneud gan y person cofrestredig, os yw’n cael ei wneud gan un o’r personau cofrestredig, yn ofynnol gan unrhyw un neu ragor o’r personau cofrestredig eraill.

Troseddau

36.—(1Mae torri unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau rheoliadau 5 i 32, neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor ohonynt, yn drosedd.

(2Caiff yr awdurdod cofrestru ddwyn achos yn erbyn person a fu unwaith, ond nad yw mwyach, yn berson cofrestredig, mewn cysylltiad â methu â chydymffurfio â rheoliad 20 (cofnodion) ar ôl i’r person beidio â bod yn berson cofrestredig.

Diwygiadau i Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011

37.  Mae Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011(17) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

38.—(1Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “hylenydd deintyddol” (“dental hygienist”), “therapydd deintyddol” (“dental therapist”) a “technegydd deintyddol clinigol” (“clinical dental technician”) yw personau sydd wedi eu cofrestru felly â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn y gofrestr o broffesiynolion gofal deintyddol a sefydlwyd o dan adran 36B o Ddeddf Deintyddion 1984;;

ystyr “proffesiynolyn gofal deintyddol” (“dental care professional”) yw—

(a)

hylenydd deintyddol;

(b)

therapydd deintyddol; neu

(c)

technegydd deintyddol clinigol;.

(2Yn rheoliad 3 (ystyr “ysbyty annibynnol”) ar ôl paragraff (2)(b) mewnosoder—

(ba)triniaeth ddeintyddol sy’n defnyddio cynnyrch laser Dosbarth 4 pan fo’r driniaeth honno yn cael ei chyflawni gan neu o dan oruchwyliaeth deintydd neu broffesiynolyn gofal deintyddol sy’n gweithio mewn practis deintyddol preifat o fewn ystyr Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017;.

Cymhwyso Rhan 2 o’r Ddeddf i bersonau sy’n cynnal neu’n rheoli practis deintyddol preifat

39.  Mae darpariaethau Rhan 2 o’r Ddeddf, i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru ac nad ydynt eisoes wedi eu cymhwyso gan Reoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Estyn Cymhwysiad Rhan 2 i Bractisau Deintyddol Preifat) (Cymru) 2017, yn gymwys i bersonau cofrestredig yn unol â’r addasiadau a nodir yn Atodlen 4.

Darpariaethau trosiannol

40.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson—

(a)sy’n cynnal neu’n rheoli practis deintyddol preifat sy’n darparu neu’n cynnwys darparu gwasanaethau proffesiynol perthnasol gan broffesiynolyn gofal deintyddol ond nad yw’n cynnwys darparu gwasanaethau deintyddol gan ddeintydd; a

(b)sy’n gwneud cais i gofrestru yn briodol cyn 1 Hydref 2017 o dan Ran 2 o’r Ddeddf fel person sy’n cynnal neu’n rheoli practis deintyddol preifat.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson—

(a)sy’n cynnal neu’n rheoli practis deintyddol preifat sy’n darparu neu’n cynnwys darparu gwasanaethau deintyddol gan ddeintydd; a

(b)sy’n gwneud cais i gofrestru yn briodol cyn 1 Ebrill 2018 o dan Ran 2 o’r Ddeddf fel person sy’n cynnal neu’n rheoli practis deintyddol preifat.

(3Ni fydd adran 11(1), (5) a (6) o’r Ddeddf yn gymwys i’r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) neu (2) mewn cysylltiad â’r practis deintyddol preifat—

(a)hyd nes y caiff y cais ei ganiatáu, naill ai’n ddiamod neu ddim ond yn ddarostyngedig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhyngddo ef a’r awdurdod cofrestru; neu

(b)os yw’r cais yn cael ei ganiatáu yn ddarostyngedig i amodau nas cytunwyd arnynt, neu os yw’n cael ei wrthod—

(i)os na chaiff apêl ei dwyn, hyd nes y bydd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn dod i ben ar ôl cyflwyno penderfyniad yr awdurdod cofrestru iddo; neu

(ii)os caiff apêl ei dwyn, hyd nes y caiff ei phenderfynu, y rhoddir y gorau iddi neu y caiff ei thynnu’n ôl.

Dirymu

41.  Yn ddarostyngedig i reoliad 42, mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau 2008;

(b)Rheoliadau 2011.

Arbedion trosiannol

42.—(1Mae Rheoliadau 2008 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â deintydd hyd nes y dyddiad y mae darparwr y practis deintyddol preifat y mae’r deintydd yn gweithio ynddo wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) pan fo deintydd yn gweithio mewn mwy nag un practis deintyddol preifat, bydd Rheoliadau 2008 yn parhau i fod yn gymwys i’r deintydd hwnnw hyd nes y mae darparwr pob un o’r practisau deintyddol preifat y mae’r deintydd yn gweithio ynddynt wedi eu cofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf.

(3Ni fydd Rheoliadau 2008 yn gymwys mwyach i’r deintydd mewn cysylltiad â’r practis deintyddol preifat y mae’n gweithio ynddo unwaith y bydd darparwr y practis deintyddol preifat hwnnw wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf.

(4Pan fo cais i gofrestru, cais i ganslo neu gais i amrywio neu ddileu amod yn cael ei wneud gan ddeintydd ond nad yw’n cael ei benderfynu cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, bydd y cais yn cael ei ystyried fel pe bai Rheoliadau 2008 mewn grym o hyd, a rhaid i’r person cofrestredig ddarparu i’r awdurdod cofrestru unrhyw wybodaeth arall neu unrhyw ddogfennau eraill y caiff yr awdurdod cofrestru eu gwneud yn ofynnol.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr cyfeiriadau at ddeintydd yw deintydd sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaethau deintyddol preifat ac sy’n gweithio mewn practis deintyddol preifat.

Vaughan Gething

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

23 Chwefror 2017

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill