- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 5
1. Nodau ac amcanion y practis deintyddol preifat.
2. Enw, cyfeiriad a manylion cyswllt dros y ffôn, ffacs a phost electronig (os oes rhai) y darparwr cofrestredig ac unrhyw reolwr cofrestredig.
3. Cymwysterau a phrofiad perthnasol y darparwr cofrestredig ac unrhyw reolwr cofrestredig.
4. Yn achos sefydliad, manylion rolau a chyfrifoldebau’r unigolyn cyfrifol yn y sefydliad.
5. Enwau, a chymwysterau a phrofiad perthnasol pob un o’r deintyddion a’r proffesiynolion gofal deintyddol a gyflogir yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat.
6. Strwythur sefydliadol y darparwr cofrestredig.
7. Y mathau o driniaeth, cyfleusterau a’r holl wasanaethau eraill a ddarperir yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat, gan gynnwys manylion yr ystod o anghenion y bwriedir i’r gwasanaethau hynny eu diwallu.
8. Y trefniadau a wneir ar gyfer ceisio safbwyntiau cleifion ar ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan y practis deintyddol preifat.
9. Oriau agor y practis ac unrhyw drefniadau ar gyfer cleifion y mae angen gofal brys neu driniaeth frys arnynt y tu allan i oriau.
10. Y trefniadau ar gyfer delio â chwynion fel y’u nodir yn rheoliad 21.
11. Y trefniadau ar gyfer parchu preifatrwydd ac urddas cleifion.
12. Dyddiad ysgrifennu’r datganiad o ddiben a, phan fo’n cael ei ddiwygio yn unol â rheoliad 7(a), ddyddiad y diwygiad hwnnw.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys