- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Prawf o bwy yw’r person gan gynnwys ffotograff diweddar.
2. Naill ai—
(a)pan fo’r dystysgrif yn ofynnol at ddiben sy’n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf neu pan fo’r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, dystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy’n cynnwys, fel y bo’n gymwys, gwybodaeth addasrwydd yn ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu’r ddwy; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, dystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.
3. Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan gyflogwr diweddaraf y person, os oes un.
4. Pan fo person wedi gweithio’n flaenorol mewn swydd a oedd yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg, cadarnhad, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o’r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu’r swydd i ben.
5. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymwysterau perthnasol.
6. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.
7. Pan fo’r person yn ddeintydd neu’n broffesiynolyn gofal deintyddol—
(a)manylion cofrestriad y person â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol; a
(b)tystysgrif yswiriant mewn cysylltiad ag atebolrwydd y gall ddod i ran person mewn perthynas â’r practis deintyddol preifat mewn cysylltiad â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys