Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “achosion cyfunol” (“combined proceedings”) yw achosion sy’n cyfuno dau neu ragor o’r canlynol—

(a)

sylwadau ysgrifenedig;

(b)

gwrandawiad;

(c)

ymchwiliad;

ystyr “apêl” (“appeal”) yw—

(a)

penderfynu ar gais atgyfeiriedig; a

(b)

apêl a wneir o dan adrannau 78, 174, 195, 208 neu 217 o’r Ddeddf Gynllunio, adrannau 20 neu 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus;

ystyr “apêl deiliad tŷ” (“householder appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o’r Ddeddf Gynllunio mewn perthynas â chais deiliad tŷ, ond nid yw’n cynnwys—

(a)

apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu

(b)

apêl sy’n dod gydag apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio neu o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;

ystyr “apêl fasnachol fach” (“minor commercial appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o’r Ddeddf Gynllunio mewn perthynas â chais masnachol bach, ond nid yw’n cynnwys—

(a)

apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu

(b)

apêl sy’n dod gydag apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio neu o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;

ystyr “apêl gorfodi” (“enforcement appeal”) yw apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi;

ystyr “apêl ynghylch caniatâd i arddangos hysbyseb” (“advertisment consent appeal”) yw apêl o dan adran 78(1) o’r Ddeddf Gynllunio (fel y’i cymhwysir drwy reoliadau a wnaed o dan adran 220 o’r Ddeddf Gynllunio) mewn perthynas â chais i arddangos hysbyseb, ac eithrio apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd a roddir yn ddarostyngedig i amodau;

ystyr “apelydd” (“appellant”), yn achos—

(a)

cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o’r Ddeddf Gynllunio, adran 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 20 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r person a gyflwynodd y cais hwnnw i’r awdurdod cynllunio lleol;

(b)

apêl o dan adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r person y gwrthodwyd ei gais, y person y caniatawyd ei gais yn ddarostyngedig i amodau (ac eithrio apelau ynghylch caniatâd i arddangos hysbyseb, apelau deiliad tŷ ac apelau masnachol bach) neu’r person nas penderfynwyd ar ei gais, gan yr awdurdod cynllunio lleol;

(c)

apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;

(d)

apêl o dan adran 195 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person y gwrthodwyd ei gais o dan adran 191 o’r Ddeddf honno;

(e)

apêl o dan adran 208 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;

(f)

apêl o dan adran 217 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;

(g)

apêl o dan adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;

ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”), mewn perthynas ag—

(a)

cais atgyfeiriedig, yw’r corff a fyddai wedi ymdrin â’r cais pe na bai wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru;

(b)

apêl o dan adrannau 78 neu 195 o’r Ddeddf Gynllunio, adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r corff a oedd yn gyfrifol am benderfynu ar y cais sy’n achosi’r apêl;

(c)

apêl o dan adrannau 174, 208 neu 217 o’r Ddeddf Gynllunio neu adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yw’r corff a ddyroddodd yr hysbysiad sy’n achosi’r apêl;

ystyr “cais atgyfeiriedig” (“referred application”), mewn perthynas ag adran 77 o’r Ddeddf Gynllunio, adrannau 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig ac adran 20 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru, ond nid yw’n cynnwys cais y bernir ei fod wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru yn rhinwedd rheoliad 9(3) o Reoliadau 2012(1);

ystyr “cais deiliad tŷ” (“householder application”) yw cais ar gyfer—

(a)

caniatâd cynllunio ar gyfer ehangu tŷ annedd, gwella tŷ annedd neu newid arall i dŷ annedd, neu ddatblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd o’r fath, neu

(b)

newid defnydd i ehangu cwrtil tŷ annedd,

at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â mwynhau’r tŷ annedd, ond nid yw’n cynnwys—

(i)

unrhyw gais arall am newid defnydd,

(ii)

cais i godi tŷ annedd, neu

(iii)

cais i newid nifer yr anheddau mewn adeilad;

ystyr “cais i arddangos hysbyseb” (“advertisement application”) yw cais am ganiatâd datganedig i arddangos hysbyseb a wneir o dan Ran 3 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992(2);

ystyr “cais masnachol bach” (“minor commercial application”) yw cais am ganiatâd cynllunio i ehangu, gwella neu wneud newid arall i adeilad presennol sydd ag arwynebedd llawr gros allanol ar lefel y llawr daear nad yw’n fwy na 250 metr sgwâr, neu ran o’r adeilad hwnnw, sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn sy’n gais ar gyfer—

(a)

newid defnydd o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn i unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir yn naill ai paragraff 2 neu baragraff 3 o’r Atodlen honno;

(b)

newid defnydd o unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn i unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir ym mharagraff 3 o’r Atodlen honno; neu

(c)

gwneud gwaith adeiladu neu weithrediadau eraill i flaen siop;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(3);

y “cyfnod sylwadau” (“representation period”) yw’r cyfnod o 6 wythnos sy’n cychwyn â’r dyddiad dechrau;

mae i “datganiad achos llawn” (“full statement of case”)—

(a)

mewn perthynas ag apelau ac eithrio apelau gorfodi, yr ystyr a roddir yn—

(i)

erthygl 2 o Orchymyn 2012;

(ii)

rheoliad 2 o Reoliadau 2012;

(iii)

rheoliad 2 o Reoliadau 2015;

(iv)

adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, fel y’i haddaswyd gan reoliad 15 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 a Rhan III o Atodlen 4 iddynt;

(v)

adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, fel y’i haddaswyd gan reoliad 15 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 a Rhan V o Atodlen 4 iddynt;

(vi)

adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, fel y’i haddaswyd gan erthygl 7 o’r Atodlen (Ffurf Gorchymyn Cadw Coed) i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999(4) a Rhan I o Atodlen 2 i’r Atodlen honno;

(b)

mewn perthynas ag apelau gorfodi—

(i)

yn achos apêl yn erbyn hysbysiad o dan adran 24(1) o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yr ystyr a roddir yn adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio fel y’i haddaswyd gan reoliad 16 o Reoliadau 2015, a Rhan 1 o Atodlen 4 iddynt;

(ii)

ym mhob achos arall, yr ystyr a ganlyn, sef y datganiad achos llawn a gyflwynir gan yr apelydd o dan reoliadau 8, 9 neu 10 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2017(5);

(c)

yr ystyr a ganlyn, ac sydd ar y ffurf a ganlyn, mewn perthynas ag apelau ac eithrio apelau gorfodi—

(i)

datganiad ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cynnwys manylion llawn yr achos y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl; a

(ii)

copïau o unrhyw ddogfennau y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth;

(d)

yr ystyr a ganlyn, ac sydd ar y ffurf a ganlyn, mewn perthynas ag apelau gorfodi—

(i)

datganiad ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cynnwys—

(aa)

ymateb i bob un o seiliau’r apêl a bledir gan yr apelydd;

(bb)

mynegiad ynghylch pa un a fyddai’r awdurdod cynllunio lleol yn fodlon rhoi—

(bba)

caniatâd cynllunio ar gyfer y materion yr honnir yn yr hysbysiad gorfodi eu bod yn torri rheolaeth gynllunio;

(bbb)

caniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth ar gyfer y gwaith y mae’r hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig neu’r hysbysiad gorfodi ardal gadwraeth yn ymwneud ag ef, yn ôl y digwydd;

(bbc)

caniatâd sylweddau peryglus ar gyfer presenoldeb unrhyw faint o sylweddau peryglus ar y tir, dros y tir neu o dan y tir y mae’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus yn ymwneud ag ef;

(cc)

manylion yr amodau, os oes rhai, y byddent yn dymuno eu gosod ar unrhyw ganiatâd neu gydsyniad y byddent yn fodlon ei roi;

(dd)

manylion llawn yr achos y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl; a

(ii)

copïau o unrhyw ddogfennau y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth;

ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015(6);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;

mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan;

ystyr “drwy hysbyseb leol” (“by local advertisement”) yw drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle y mae’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef wedi ei leoli;

ystyr “dyddiad dechrau” (“starting date”) yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 15 (hysbysu ynghylch cael apêl);

ystyr “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig” (“the Listed Buildings Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;

ystyr “y Ddeddf Gynllunio” (“the Planning Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

ystyr “y Ddeddf Sylweddau Peryglus” (“the Hazardous Substances Act”) yw Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990;

ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(7);

ystyr “holiadur” (“questionnaire”) yw dogfen ar y ffurf a gyflenwir gan Weinidogion Cymru i awdurdod cynllunio lleol at ddiben unrhyw achosion o dan y Rheoliadau hyn, ac at y diben hwn, tybir bod ffurf wedi ei chyflenwi pan fo Gweinidogion Cymru wedi ei chyhoeddi ar wefan ac wedi hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol—

(a)

bod y ffurf wedi ei chyhoeddi ar y wefan;

(b)

am gyfeiriad y wefan; ac

(c)

ymhle ar y wefan y gellir cael mynediad at y ffurf a sut y gellir cael mynediad ati;

ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad o dan—

(a)

adran 172(1) o’r Ddeddf Gynllunio;

(b)

adran 182(1) o’r Ddeddf Gynllunio;

(c)

adran 38(1) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu hysbysiad o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 74(3) o’r Ddeddf honno;

(d)

adran 46(1) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;

(e)

adran 24(1) o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus;

(f)

adran 207(1) o’r Ddeddf Gynllunio;

(g)

adran 215(1) o’r Ddeddf Gynllunio;

ystyr “hysbysiad peidio â pharhau” (“discontinuance notice”) yw hysbysiad o dan reoliad 8 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992;

ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar apêl neu i gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru(8);

ystyr “personau â buddiant” (“interested persons”)—

(a)

mewn perthynas ag apelau ac eithrio apelau gorfodi—

(i)

yw unrhyw berson a hysbysir neu yr ymgynghorir ag ef yn unol â’r Ddeddf Gynllunio, y Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y Ddeddf Sylweddau Peryglus, gorchymyn neu reoliadau datblygu, yn ôl y digwydd, ynghylch y cais; a

(ii)

unrhyw berson arall a gyflwynodd sylwadau i’r awdurdod cynllunio lleol ynghylch y cais hwnnw;

(b)

mewn perthynas ag apelau gorfodi a hysbysiadau peidio â pharhau, yw meddianwyr eiddo yn ardal leol y safle y mae’r hysbysiad gorfodi neu’r hysbysiad peidio â pharhau yn ymwneud ag ef; ac

(c)

mewn perthynas ag apelau gorfodi ac eithrio apelau yn erbyn hysbysiadau ailblannu coed, yw unrhyw berson (ac eithrio’r sawl y cyflwynir yr hysbysiad gorfodi iddo) sydd, ym marn yr awdurdod cynllunio lleol neu’r awdurdod sylweddau peryglus, yn cael ei effeithio gan y materion a honnir yn yr hysbysiad gorfodi;

ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012(9);

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015(10);

mae “sylw” (“representation”) yn cynnwys tystiolaeth, esboniad, gwybodaeth a sylwadaethau;

mae “sylwadau ysgrifenedig” (“written representations”) yn cynnwys dogfennau ategol;

ystyr “terfynau amser perthnasol” (“relevant time limits”) yw’r terfynau amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn neu, pan fo Gweinidogion Cymru wedi arfer y pŵer o dan reoliad 7, unrhyw derfyn amser diweddarach; a

nid yw “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yn cynnwys adeilad sy’n cynnwys un neu ragor o fflatiau, na fflat sydd wedi ei gynnwys o fewn adeilad o’r fath.

(2Mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni yn electronig—

(a)mae’r ymadrodd “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau electronig;

(b)mae cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o ddogfennau o’r fath, yn cynnwys cyfeiriadau at y fath ddogfennau, neu at gopïau ohonynt, ar ffurf electronig.

(3)

2000 p. 7. Diwygiwyd adran 15(1) gan adran 406(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21) a pharagraff 158 o Atodlen 17 iddi.

(8)

Gweler Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthau Rhagnodedig) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1822 (Cy. 264)).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill