- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Mae paragraffau (2) i (7) o’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person yn defnyddio cyfathrebiad electronig at y diben o gyflawni unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i roi i unrhyw berson arall (“y derbynnydd”), neu i anfon ato, unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall.
(2) Ystyrir y bydd y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r hysbysiad neu’r ddogfen arall a drosglwyddir drwy gyfrwng y cyfathrebiad electronig—
(a)yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddo neu iddi;
(b)yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac
(c)yn ddigon parhaol i’w ddefnyddio neu i’w defnyddio i gyfeirio ato neu ati yn ddiweddarach.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” (“legible in all material respects”) yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu’r ddogfen arall ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau o leiaf â phe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.
(4) Pan fo’r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i’w oriau busnes, ystyrir ei fod wedi ei gael ar y diwrnod gwaith nesaf.
(5) Mae gofyniad yn y Rheoliadau hyn y dylai unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi ei fodloni pan fo’r ddogfen honno’n bodloni’r meini prawf ym mharagraff (2), ac mae “ysgrifenedig” (“written”) ac ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny.
(6) Pan fo apelydd, awdurdod cynllunio lleol neu barti â buddiant yn anfon unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall at Weinidogion Cymru drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, ystyrir eu bod wedi cytuno—
(a)i’r defnydd o’r fath gyfathrebiadau at bob diben sy’n ymwneud â’r apêl y mae modd eu cyflawni drwy gyfrwng electronig;
(b)mai eu cyfeiriad at ddibenion cyfathrebiadau o’r fath yw’r cyfeiriad a ymgorfforir yn yr hysbysiad neu’r ddogfen, neu, fel arall, y cyfeiriad a gysylltir yn rhesymegol â’r hysbysiad neu’r ddogfen;
(c)y bydd cytundeb tybiedig yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol neu’r parti â buddiant o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes i’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol neu barti â buddiant, yn ôl y digwydd, roi hysbysiad yn unol â rheoliad 6 o ddymuniad i ddirymu’r cytundeb.
(7) Pan ystyrir bod apelydd, awdurdod cynllunio lleol neu barti â buddiant wedi cytuno i’r defnydd o gyfathrebiadau electronig o dan baragraff (6), ystyrir hefyd eu bod wedi cytuno bod dolen uniongyrchol i’r hysbysiad neu’r ddogfen yn cael ei darparu ar wefan.
(8) Cydymffurfir â gofyniad yn y Rheoliadau hyn i anfon mwy nag un copi o ddatganiad neu ddogfen arall drwy anfon un copi yn unig o’r datganiad neu ddogfen arall ar ffurf electronig.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys