- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
4.—(1) Mae’r asesiad o’r effaith amgylcheddol yn broses sy’n cynnwys—
(a)llunio datganiad amgylcheddol gan y person sy’n gofyn am ganiatâd cynllunio neu’n cychwyn caniatâd cynllunio;
(b)unrhyw ymgynghoriad, cyhoeddiad a hysbysiad sy’n ofynnol gan Rannau 5, 9 a, phan fo’n berthnasol, Rhan 12 o’r Rheoliadau hyn, Gorchymyn 2012 neu Orchymyn 2016, mewn cysylltiad â datblygiad AEA; ac
(c)y camau sy’n ofynnol o dan reoliad 25(1).
(2) Rhaid i’r asesiad o’r effaith amgylcheddol nodi, disgrifio ac asesu mewn modd priodol, yng ngoleuni pob achos unigol, effeithiau sylweddol uniongyrchol ac anuniongyrchol datblygiad arfethedig ar y canlynol—
(a)y boblogaeth ac iechyd pobl;
(b)bioamrywiaeth, gan roi sylw penodol i rywogaethau a chynefinoedd a warchodir o dan Gyfarwyddeb 92/43/EEC(1) a Chyfarwyddeb 2009/147/EC(2);
(c)tir, pridd, dŵr, aer a’r hinsawdd;
(d)asedau perthnasol, treftadaeth ddiwylliannol a’r dirwedd; ac
(e)y rhyngweithio rhwng y ffactorau a restrir yn is-baragraffau (a) i (d).
(3) Rhaid i’r effeithiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) ar y ffactorau a nodir yn y paragraff hwnnw gynnwys—
(a)effeithiau gweithredol y datblygiad arfaethedig, pan fydd y datblygiad arfaethedig yn cael effeithiau gweithredol; a
(b)yr effeithiau disgwyliedig sy’n deillio o’r graddau y mae’r datblygiad arfaethedig yn agored i’r perygl o ddamweiniau difrifol a thrychinebau sy’n berthnasol i’r datblygiad hwnnw.
(4) Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, sicrhau eu bod yn meddu ar arbenigedd digonol i archwilio’r datganiad amgylcheddol, neu sicrhau bod y fath arbenigedd ar gael iddynt fel y bo angen.
Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC dyddiedig 21 Mai 1992 ar warchod cynefinoedd naturiol a gwarchod ffawna a fflora gwyllt O.J. L 206, 22.7.1992, tt. 7-50.
Cyfarwyddeb 2009/147/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 30 Tachwedd 2009 ar warchod adar gwyllt O.J. L 20, 26.1.2010, tt. 7-25.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys