Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1Rhagarweiniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 19 Mehefin 2017.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli: cyffredinol

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “amrywogaeth” (“variety”) yw grŵp o blanhigion o fewn tacson botanegol unigol o’r rheng isaf sy’n wybyddus y gellir—

(a)

ei ddiffinio drwy fynegi’r priodoleddau sy’n deillio o genoteip penodol neu gyfuniad o genoteipiau;

(b)

gwahaniaethu rhyngddo ac unrhyw grŵp arall o blanhigion drwy fynegi o leiaf un o’r priodoleddau hynny; ac

(c)

ystyried ei fod yn endid yn sgil y ffaith y gellir ei luosogi yn ddigyfnewid;

ystyr “archwiliad swyddogol” (“official examination”) yw archwiliad neu arolygiad a gynhelir gan arolygydd, gan gynnwys un a gynhelir ar ffurf sampl;

ystyr “ardystio” (“certification”) yw ardystio deunyddiau planhigion yn unol â rheoliad 9 ac mae “ardystiedig” (“certified”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “arolygiad gweledol” (“visual inspection”) yw archwiliad o blanhigion neu rannau o blanhigion mewn cyfleusterau, caeau a lotiau, gan arolygydd neu, pan fo’n briodol, y cyflenwr, gan ddefnyddio’r llygad noeth, lens, stereosgop neu ficrosgop;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir o dan reoliad 16;

ystyr “awdurdod cyfrifol” (“responsible authority”) yw’r awdurdod sy’n gyfrifol am ansawdd deunyddiau planhigion yn y wlad neu’r diriogaeth lle cynhyrchwyd y deunyddiau planhigion;

ystyr “cyflenwr” (“supplier”) yw unrhyw berson sy’n ymwneud yn broffesiynol ag atgynhyrchu, cynhyrchu, cadw, trin, mewnforio neu farchnata deunyddiau planhigion;

ystyr “deunyddiau ardystiedig” (“certified material”) yw unrhyw ddeunyddiau lluosogi neu blanhigion ffrwythau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu planhigion ffrwythau—

(a)

mewn perthynas â deunyddiau lluosogi a phlanhigion ffrwythau a gynhyrchir yng Nghymru, a ardystiwyd fel deunyddiau ardystiedig yn unol â rheoliad 9;

(b)

mewn perthynas â deunyddiau lluosogi a phlanhigion ffrwythau a gynhyrchir y tu allan i Gymru, a ardystiwyd fel deunyddiau ardystiedig gan awdurdod cyfrifol yn unol ag Erthygl 20 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;

ystyr “deunyddiau CAC” (“CAC material”)—

(a)

mewn perthynas â deunyddiau lluosogi a phlanhigion ffrwythau a gynhyrchir yng Nghymru, yw deunyddiau a phlanhigion sy’n bodloni’r gofynion ar gyfer deunyddiau CAC yn Atodlen 1;

(b)

mewn perthynas â deunyddiau lluosogi a phlanhigion ffrwythau a gynhyrchir y tu allan i Gymru, yw deunyddiau a phlanhigion sy’n bodloni’r gofynion ar gyfer deunyddiau CAC yn Erthygl 23 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;

ystyr “deunyddiau cyn-sylfaenol” (“pre-basic material”) yw deunyddiau lluosogi a fwriedir ar gyfer cynhyrchu deunyddiau sylfaenol neu ardystiedig—

(a)

mewn perthynas â deunyddiau lluosogi a gynhyrchir yng Nghymru, a ardystiwyd fel deunyddiau cyn-sylfaenol yn unol â rheoliad 9;

(b)

mewn perthynas â deunyddiau lluosogi a gynhyrchir y tu allan i Gymru, a ardystiwyd fel deunyddiau cyn-sylfaenol gan awdurdod cyfrifol yn unol ag Erthyglau 3 neu 4 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;

ystyr “deunyddiau lluosogi” (“propagating material”) yw hadau, rhannau o blanhigion a phob deunydd planhigion, gan gynnwys gwreiddgyffion, a fwriedir ar gyfer lluosogi a chynhyrchu planhigion ffrwythau;

ystyr “deunyddiau planhigion” (“plant material”) yw’r planhigion a’r deunyddiau a ddisgrifir yn rheoliad 4;

ystyr “deunyddiau planhigion ardystiedig” (“certified plant material”) yw deunyddiau planhigion a ardystiwyd (yn ôl y digwydd) fel deunyddiau cyn-sylfaenol, deunyddiau sylfaenol neu ddeunyddiau ardystiedig;

ystyr “deunyddiau sylfaenol” (“basic material”) yw deunyddiau lluosogi a fwriedir ar gyfer cynhyrchu deunyddiau ardystiedig—

(a)

mewn perthynas â deunyddiau lluosogi a gynhyrchir yng Nghymru, a ardystiwyd fel deunyddiau sylfaenol yn unol â rheoliad 9;

(b)

mewn perthynas â deunyddiau lluosogi a gynhyrchir y tu allan i Gymru, a ardystiwyd fel deunyddiau sylfaenol gan awdurdod cyfrifol yn unol ag Erthygl 15 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;

mae “diffygion” (“defects”) yn cynnwys anafiadau, afliwiad, meinweoedd creithiol neu ddysychiad sy’n effeithio ar ansawdd a defnyddioldeb planhigyn tarddiol neu ddeunyddiau planhigion fel deunyddiau lluosogi;

ystyr “disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol” (“officially recognised description”) yw disgrifiad o nodweddion morffolegol allweddol sy’n galluogi’r amrywogaeth i gael ei hadnabod;

ystyr “disgrifiad swyddogol” (“official description”) yw’r disgrifiad o amrywogaeth a ddarperir er mwyn—

(a)

cofrestru fel amrywogaeth; neu

(b)

rhoi hawliau amrywogaeth planhigion;

ystyr “dogfen y cyflenwr” (“supplier’s document”) yw dogfen sy’n mynd gyda deunyddiau CAC ac sy’n bodloni gofynion Rhan 2 o Atodlen 2;

ystyr “hawliau amrywogaeth planhigion” (“plant variety rights”) yw hawliau a roddir o dan—

(a)

Rhan 1 o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997(1);

(b)

Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2100/94 ar hawliau amrywogaeth planhigion y Gymuned(2); neu

(c)

deddfwriaeth ddomestig mewn gwledydd neu diriogaethau, ac eithrio’r rhai sy’n rhan o’r Deyrnas Unedig, sy’n diogelu amrywogaethau planhigion yn unol ag UPOV;

ystyr “label swyddogol” (“official label”)—

(a)

ar gyfer deunyddiau planhigion ardystiedig a gynhyrchir yng Nghymru, yw label a ddyroddwyd neu a gymeradwywyd yn unol â rheoliad 10(2);

(b)

ar gyfer deunyddiau planhigion ardystiedig a gynhyrchir y tu allan i Gymru, yw label a ddyroddwyd neu a gymeradwywyd gan yr awdurdod cyfrifol yn y wlad neu’r diriogaeth lle cynhyrchwyd y deunyddiau planhigion ac sy’n bodloni, fel y bo’n briodol i’r deunyddiau planhigion y mae’r label yn ymwneud â hwy, ofynion Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 2014/96/EU;

ystyr “lot” (“lot”) yw nifer o unedau o un nwydd, y gellir ei adnabod drwy gydrywiaeth ei gyfansoddiad a’i darddiad;

ystyr “microluosogi” (“micropropagation”) yw lluosogi deunyddiau planhigion er mwyn cynhyrchu nifer mawr o blanhigion, gan ddefnyddio meithriniad in vitro o flagur llystyfol gwahaniaethol neu feristemau llystyfol gwahaniaethol a gymerir o blanhigyn;

ystyr “planhigyn ffrwythau” (“fruit plant”) yw planhigyn y bwriedir iddo gael ei blannu neu ei ailblannu, ar ôl ei farchnata;

ystyr “planhigyn tarddiol” (“mother plant”) yw planhigyn a adnabyddir a fwriedir ar gyfer ei luosogi;

ystyr “planhigyn tarddiol ardystiedig” (“certified mother plant”) yw planhigyn tarddiol a fwriedir ar gyfer cynhyrchu deunyddiau ardystiedig;

ystyr “planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol” (“pre-basic mother plant”) yw planhigyn tarddiol a fwriedir ar gyfer cynhyrchu deunyddiau cyn-sylfaenol;

ystyr “planhigyn tarddiol sylfaenol” (“basic mother plant”) yw planhigyn tarddiol a fwriedir ar gyfer cynhyrchu deunyddiau sylfaenol;

ystyr “rhewgadw” (“cryopreservation”) yw cynnal deunyddiau planhigion drwy eu hoeri i dymereddau isel iawn er mwyn cadw’r deunyddiau’n hyfyw;

ystyr “rhydd rhag diffygion i bob pwrpas” (“practically free from defects”) yw bod diffygion sy’n debygol o amharu ar ansawdd a defnyddioldeb y deunyddiau lluosogi neu’r planhigion ffrwythau, yn bresennol ar lefel sy’n gyfwerth â’r lefel, neu’n is na’r lefel, y disgwylir iddi ddeillio o arferion tyfu a thrin da, a bod y lefel honno yn gyson ag arferion tyfu a thrin da;

ystyr “y tu allan i Gymru” (“outside Wales”) yw unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig ac eithrio Cymru neu unrhyw Aelod-wladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig;

ystyr “UPOV” (“UPOV”) yw’r Undeb Rhyngwladol dros Ddiogelu Amrywogaethau Newydd o Blanhigion(3).

Dehongli: Cyfarwyddebau

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Cyfarwyddeb 2000/29/EC” (“Directive 2000/29/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau diogelu rhag cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion a rhag eu hymlediad o fewn y Gymuned(4);

ystyr “Cyfarwyddeb 2008/90/EC” (“Directive 2008/90/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC ar farchnata deunyddiau lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu ffrwythau(5);

ystyr “Cyfarwyddeb 2014/96/EU” (“Directive 2014/96/EU”) yw Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/96/EU ar y gofynion ar gyfer labelu, selio a phecynnu deunyddiau lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu ffrwythau, sydd o fewn cwmpas Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC(6);

ystyr “Cyfarwyddeb 2014/97/EU” (“Directive 2014/97/EU”) yw Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/97/EU sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC o ran cofrestru cyflenwyr ac amrywogaethau a’r rhestr gyffredin o amrywogaethau(7);

ystyr “Cyfarwyddeb 2014/98/EU” (“Directive 2014/98/EU”) yw Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/98/EU sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC o ran gofynion penodol ar gyfer genws a rhywogaeth planhigion ffrwythau y cyfeirir atynt yn Atodiad I iddi, gofynion penodol sydd i’w bodloni gan gyflenwyr a rheolau manwl sy’n ymwneud ag arolygiadau swyddogol(8).

(2Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Atodiadau I, II, III, IV neu V i Gyfarwyddeb 2014/98/EU yn gyfeiriadau at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Deunyddiau planhigion y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

4.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â phlanhigion ffrwythau a deunyddiau lluosogi o’r genera a’r rhywogaethau a restrir yn Atodlen 3 a’u cymysgrywiau.

(2Maent hefyd yn gymwys mewn perthynas â rhannau o blanhigion, gan gynnwys gwreiddgyffion, o genera neu rywogaethau eraill a’u cymysgrywiau os yw, neu os bydd, deunyddiau o blanhigion ffrwythau a restrir yn Atodlen 3 (neu unrhyw gymysgryw o blanhigion ffrwythau o’r fath) yn cael eu himpio arnynt.

(3Nid ydynt yn gymwys mewn perthynas â deunyddiau planhigion y bwriedir iddynt gael eu hallforio o Gymru i unrhyw wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd ar yr amod bod y deunyddiau planhigion yn cael eu hadnabod felly ac yn cael eu hynysu’n ddigonol.

RHAN 2Marchnata Deunyddiau Planhigion

Marchnata deunyddiau planhigion

5.—(1Ni chaiff cyflenwr farchnata deunyddiau planhigion onid yw—

(a)y cyflenwr wedi ei gofrestru yn unol â rheoliad 11; a

(b)y deunyddiau planhigion yn bodloni’r gofynion ym mharagraff (2).

(2Rhaid i’r deunyddiau planhigion—

(a)bod yn ddeunyddiau planhigion ardystiedig neu’n ddeunyddiau CAC;

(b)bod yn amrywogaeth y caniateir ei marchnata yn unol â rheoliad 7;

(c)cael eu marchnata gan gyfeirio at yr amrywogaeth y mae’r deunyddiau planhigion yn perthyn iddi yn unol â rheoliad 8;

(d)mewn perthynas â deunyddiau planhigion ardystiedig, cael eu labelu, eu selio a’u pecynnu yn unol â rheoliad 10; ac

(e)mewn perthynas â deunyddiau CAC, mynd gyda dogfen y cyflenwr.

(3Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata deunyddiau planhigion o unrhyw wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd os ydynt wedi eu bodloni bod y deunyddiau planhigion wedi eu cynhyrchu o dan amodau sy’n cyfateb i’r gofynion ar gyfer deunyddiau planhigion yn y Rheoliadau hyn.

(4Mae paragraff (3) yn peidio â chael effaith ar 31 Rhagfyr 2018.

Eithriadau

6.  Nid yw rheoliad 5(1)(b) yn gymwys i farchnata deunyddiau planhigion a fwriedir ar gyfer—

(a)treialon neu at ddibenion gwyddonol;

(b)gwaith dethol;

(c)mesurau sydd â’r nod o warchod amrywiaeth enetig.

Amrywogaethau y caniateir eu marchnata

7.—(1Mae deunyddiau planhigion o amrywogaeth y caniateir ei marchnata os yw’r amrywogaeth yn bodloni un neu ragor o ofynion paragraff (2).

(2Rhaid i’r amrywogaeth—

(a)bod wedi cael hawliau amrywogaeth planhigion;

(b)bod yn gofrestredig fel amrywogaeth;

(c)bod yn destun cais am—

(i)hawliau amrywogaeth planhigion; neu

(ii)ei chofrestru fel amrywogaeth;

(d)bod wedi ei marchnata cyn 30 Medi 2012 o fewn yr Undeb Ewropeaidd a bod â disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol; neu

(e)mewn perthynas ag amrywogaethau sydd o ddim gwerth cynhenid o ran cynhyrchu cnydau masnachol sy’n cael eu marchnata o fewn y Deyrnas Unedig—

(i)bod â disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol; a

(ii)bod yn ddeunyddiau CAC.

(3Rhaid i gyflenwr sy’n marchnata deunyddiau planhigion o amrywogaeth a ddisgrifir ym mharagraff (2)(e) sicrhau bod dogfen y cyflenwr yn mynd gyda’r deunyddiau planhigion, yn datgan eu bod yn cael eu marchnata yn unol ag ail baragraff Erthygl 7(2) o Gyfarwyddeb 2008/90/EC.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “cofrestredig fel amrywogaeth” (“registered as a variety”) (ac mae “cofrestru” (“registration”) i’w ddehongli yn unol â hynny) yw—

(a)cofrestru fel amrywogaeth yng Nghymru yn unol ag Atodlen 4; neu

(b)cofrestru fel amrywogaeth y tu allan i Gymru gan yr awdurdod cyfrifol yn y wlad neu’r diriogaeth yn unol ag Erthygl 4 o Gyfarwyddeb 2014/97/EU.

Cyfeiriadau at amrywogaeth deunyddiau planhigion

8.  Caiff deunyddiau planhigion eu marchnata gan gyfeirio at eu hamrywogaeth, os cânt eu marchnata, mewn perthynas ag—

(a)amrywogaeth o ddeunyddiau planhigion sy’n destun cais am roi hawliau amrywogaeth planhigion, drwy gyfeirio at gyfeirnod y bridiwr neu enw arfaethedig yr amrywogaeth;

(b)amrywogaeth gofrestredig, drwy gyfeirio at ei henw cofrestredig;

(c)amrywogaeth sy’n destun cais am gofrestriad o’r fath, drwy gyfeirio at gyfeirnod y bridiwr neu enw arfaethedig yr amrywogaeth;

(d)gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth, drwy gyfeirio at y rhywogaeth briodol neu’r cymysgryw rhyngrywiogaethol priodol.

Ardystio deunyddiau planhigion

9.—(1Os bodlonir gofynion paragraff (2), rhaid i arolygydd—

(a)ardystio bod deunyddiau planhigion a gynhyrchir yng Nghymru—

(i)yn ddeunyddiau cyn-sylfaenol;

(ii)yn ddeunyddiau sylfaenol; neu

(iii)yn ddeunyddiau ardystiedig;

(b)dyroddi tystysgrif sy’n cadarnhau’r ardystiad (tystysgrif arolygu cnwd).

(2Y gofynion yw y canfuwyd, mewn archwiliad swyddogol, fod y deunyddiau planhigion yn cydymffurfio â’r gofynion ardystio a nodir yn narpariaethau perthnasol Atodlen 5.

(3Rhaid i gais am ardystio deunyddiau planhigion a gynhyrchir yng Nghymru gael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru a rhaid i unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru fynd gydag ef.

(4Mae label swyddogol a ddyroddir yn unol â’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â deunyddiau planhigion ardystiedig yn dystiolaeth ddigonol fod arolygydd wedi ardystio bod deunyddiau planhigion y mae’r label swyddogol yn ymwneud â hwy yn ddeunyddiau planhigion ardystiedig.

Labelu, selio a phecynnu deunyddiau planhigion ardystiedig

10.—(1Rhaid i ddeunyddiau planhigion ardystiedig, a gaiff eu marchnata, gael eu labelu, eu selio a’u pecynnu yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi neu gymeradwyo label (label swyddogol) os yw’r label hwnnw yn bodloni gofynion Rhan 1 o Atodlen 2.

(3Ond nid oes angen i label a ddefnyddir wrth gyflenwi deunyddiau planhigion ardystiedig i’w manwerthu i ddefnyddiwr olaf nad yw’n broffesiynolyn, ond gynnwys gwybodaeth briodol am y cynnyrch, gan gynnwys enw’r awdurdod cyfrifol, enw neu rif cofrestru’r cyflenwr, yr enw botanegol ac enw’r amrywogaeth.

(4Rhaid i label swyddogol fod ynghlwm wrth y deunyddiau planhigion ardystiedig.

(5Pan fo deunyddiau planhigion ardystiedig yn rhan o’r un lot ac yn cael eu marchnata mewn pecyn, bwndel neu gynhwysydd, rhaid rhoi label swyddogol ynghlwm wrth y pecyn, y bwndel neu’r cynhwysydd hwnnw.

(6Nid yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys pan fo pasbort planhigion a ddyroddir yn unol â Chyfarwyddeb 2000/29/EC, sy’n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraff 4 o Atodlen 2, yn mynd gyda deunyddiau planhigion ardystiedig.

(7Ni chaiff cyflenwr farchnata deunyddiau planhigion ardystiedig mewn lotiau o ddau neu ragor o blanhigion neu rannau o blanhigion oni bai bod y lotiau hynny yn ddigon cydryw ac wedi eu pecynnu’n briodol.

(8At ddibenion paragraff (7), ystyr “wedi eu pecynnu’n briodol” yw bod y planhigion neu’r rhannau o blanhigion—

(a)mewn pecyn neu gynhwysydd sydd wedi ei selio mewn modd sy’n atal y pecyn neu’r cynhwysydd rhag cael ei agor heb ddifrodi’r caead neu wneud y label swyddogol yn annilys; neu

(b)yn rhan o fwndel sydd wedi ei glymu yn y fath fodd fel na ellir gwahanu’r planhigion neu’r rhannau o blanhigion sy’n rhan o’r bwndel heb ddifrodi’r cwlwm neu’r clymau.

RHAN 3Cyflenwyr

Cofrestru cyflenwyr

11.—(1Ni chaiff cyflenwr farchnata deunyddiau planhigion oni bai ei fod wedi ei gofrestru fel cyflenwr gan Weinidogion Cymru yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i gyflenwyr nad ydynt ond yn marchnata deunyddiau planhigion i ddefnyddwyr terfynol nad ydynt yn broffesiynolion.

(3Rhaid i gais am gofrestriad gael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru a rhaid i unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru fynd gydag ef.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru gofrestru cyflenwr os ydynt wedi eu bodloni y bydd y person hwnnw yn cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r cyflenwr—

(a)am benderfyniad Gweinidogion Cymru o dan baragraff (4) o fewn 28 o ddiwrnodau i wneud y penderfyniad hwnnw; a

(b)pan benderfynir cofrestru’r cyflenwr, am ei rif cofrestru.

(6Mae person a oedd, yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn gofrestredig fel cyflenwr yn unol â rheoliad 7 o Reoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Ffrwythau 2010(9) yn gofrestredig at ddibenion y rheoliad hwn.

(7Mae person sy’n gofrestredig fel masnachwr planhigion yn unol â Rhan 4 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(10) yn gofrestredig at ddibenion y rheoliad hwn.

(8Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol, drwy hysbysiad—

(a)addasu cofrestriad cyflenwr; neu

(b)dirymu neu atal dros dro gofrestriad cyflenwr os ydynt wedi eu bodloni—

(i)bod y cyflenwr wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Rheoliadau hyn; neu

(ii)nad yw’r cyflenwr yn gweithredu fel cyflenwr mwyach.

(9Oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo fel arall, mae dirymiad neu ataliad dros dro o dan baragraff (8)(b) yn cael effaith ar unwaith ac yn parhau i gael effaith oni bai bod y cofrestriad yn cael ei adfer.

Apelau

12.—(1Caiff cyflenwr a dramgwyddir gan benderfyniad Gweinidogion Cymru i beidio â’i gofrestru o dan reoliad 11(4) neu i addasu, i ddirymu neu i atal dros dro ei gofrestriad o dan reoliad 11(8), o fewn 21 o ddiwrnodau i gael ei hysbysu am y penderfyniad, apelio yn ei erbyn i berson a benodir at y diben gan Weinidogion Cymru.

(2Rhaid i’r person a benodir ystyried yr apêl ac unrhyw sylwadau a gyflwynir gan Weinidogion Cymru ac, o fewn cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’n cael yr apêl neu’r sylwadau (pa un bynnag sydd hwyraf) adrodd yn ysgrifenedig, gan argymell camau gweithredu, i Weinidogion Cymru.

(3Wedi hynny rhaid i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad terfynol a hysbysu’r apelydd, a rhoi’r rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw.

Cofrestr o gyflenwyr

13.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o gyflenwyr cofrestredig.

(2Rhaid i’r gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw, cyfeiriad a manylion cyswllt y cyflenwr;

(b)pa rai o blith y gweithgareddau a restrir ym mharagraff (3) y mae’r cyflenwr yn ymwneud â hwy;

(c)y genera neu’r rhywogaethau o dan sylw;

(d)cyfeiriad y fangre lle cyflawnir y gweithgaredd;

(e)rhif cofrestru’r cyflenwr.

(3At ddibenion paragraff (2)(b), y gweithgareddau yw atgynhyrchu, cynhyrchu, cadw, trin, mewnforio neu farchnata deunyddiau planhigion.

(4Rhaid i gyflenwr hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol am unrhyw newid i’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan baragraff (2)(a) i (d).

(5Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi’r gofrestr, neu unrhyw ran ohoni, yn ôl disgresiwn Gweinidogion Cymru.

Cyflenwyr: cynllun i nodi ac i fonitro proses gynhyrchu

14.—(1Rhaid i gyflenwr sy’n ymwneud â chynhyrchu deunyddiau planhigion fod â chynllun yn ei le i nodi ac i fonitro pwyntiau critigol wrth gynhyrchu’r deunyddiau planhigion hynny.

(2Rhaid i’r cynllun gynnwys manylion ynghylch—

(a)lleoliad y planhigion a’u niferoedd;

(b)amseru’r tyfu;

(c)gweithrediadau lluosogi;

(d)gweithrediadau pecynnu, storio a chludo.

Cyflenwyr: cadw cofnodion

15.—(1Rhaid i gyflenwr gadw cofnodion o—

(a)unrhyw werthiant neu bryniant deunyddiau planhigion;

(b)pob danfoniad deunyddiau planhigion i fangre’r cyflenwr ac ohoni;

(c)unrhyw fonitro ar bwyntiau critigol wrth gynhyrchu’r deunyddiau planhigion hynny;

(d)cyfansoddiad a tharddiad unrhyw ddeunyddiau planhigion o darddiadau gwahanol a gymysgir gan y cyflenwr wrth eu pecynnu, eu storio neu eu cludo neu wrth eu danfon;

(e)yr holl ddeunyddiau planhigion sy’n cael eu cynhyrchu yn ei fangre;

(f)arolygiadau maes a gwaith samplu a phrofi a gynhelir mewn perthynas â deunyddiau planhigion o dan ei reolaeth; ac

(g)unrhyw achosion o’r canlynol yn ei fangre—

(i)unrhyw un neu ragor o’r organeddau neu’r clefydau a restrir yn Rhan A o Atodiad I, ac yn Atodiad II, i Gyfarwyddeb 2014/98/EU;

(ii)deunyddiau planhigion sy’n uwch na’r lefelau goddefiant yng ngholofn berthnasol y tabl yn Rhan B o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2014/98/EU; a

(iii)organedd niweidiol a restrir yn yr Atodiadau i Gyfarwyddeb 2000/29/EC.

(2Rhaid i’r cofnodion y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn gael eu cadw am 3 blynedd o leiaf.

RHAN 4Gorfodi

Arolygwyr

16.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru benodi arolygwyr at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2Mae gan arolygydd y pwerau a nodir yn y Rhan hon o’r Rheoliadau.

Mynd ar dir ac i fangreoedd a’u harolygu

17.—(1At ddibenion gorfodi’r Rheoliadau hyn, mae gan arolygydd y pŵer, drwy ddangos awdurdodiad wedi ei ddilysu’n briodol, i fynd ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre (ac eithrio unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel tŷ annedd preifat) ar unrhyw adeg resymol drwy roi hysbysiad rhesymol.

(2Ond nid yw’r gofyniad i roi hysbysiad yn angenrheidiol—

(a)pan fo ymdrechion rhesymol i gytuno ar apwyntiad wedi methu;

(b)pan fo gan arolygydd amheuaeth resymol o fethiant i gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn;

(c)mewn argyfwng.

(3Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i arolygydd fynd ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre, a hynny gan ddefnyddio grym rhesymol os oes angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—

(a)bod sail resymol dros fynd ar y tir hwnnw neu i’r fangre honno at ddiben gorfodi’r Rheoliadau hyn; a

(b)y bodlonir unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (4).

(4Yr amodau yw—

(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd;

(b)y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i’r fangre;

(c)bod angen mynediad ar fyrder;

(d)bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro.

(5Mae gwarant yn ddilys am dri mis.

(6Caiff arolygydd sy’n mynd ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre fynd ag unrhyw berson (hyd at gyfanswm o 4 o bersonau), cyfarpar, deunyddiau neu gerbyd gydag ef y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion y rheoliad hwn.

(7Rhaid i arolygydd sy’n mynd i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu, neu y mae ei meddiannydd yn absennol ohoni dros dro, ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr ydoedd cyn iddo fynd iddi.

Chwilio ac archwilio eitemau ar dir ac mewn mangreoedd

18.—(1Pan fo arolygydd yn arfer y pŵer a roddir gan reoliad 17, caiff yr arolygydd—

(a)agor unrhyw gynhwysydd;

(b)cynnal unrhyw chwiliadau, arolygiadau, mesuriadau a phrofion;

(c)cymryd samplau;

(d)gweld, ac arolygu, unrhyw lyfrau, dogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cedwir hwy) sy’n ymwneud â’r Rheoliadau hyn a mynd â hwy oddi yno i’w gwneud yn bosibl eu copïo;

(e)tynnu llun o unrhyw beth neu gopïo unrhyw beth y mae gan yr arolygydd y pŵer i’w gwneud yn ofynnol ei ddangos o dan is-baragraff (d);

(f)tynnu llun o unrhyw beth y mae gan yr arolygydd achos rhesymol i gredu y gallai fod yn berthnasol mewn cysylltiad â gorfodi’r Rheoliadau hyn;

(g)ymafael mewn unrhyw gyfrifiaduron ac offer cysylltiedig at ddiben copïo dogfennau ar yr amod y’u dychwelir cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(2Caiff unrhyw berson sy’n mynd gydag arolygydd yn unol â’r rheoliad hwn gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r arolygydd, ond dim ond o dan oruchwyliaeth yr arolygydd hwnnw.

Hysbysiad gwybodaeth

19.  Caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i unrhyw berson, ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu’r cyfryw wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad ar y cyfryw ffurf a bennir ynddo ac o fewn y cyfryw gyfnod ar ôl cyflwyno’r hysbysiad neu ar y cyfryw adeg a bennir ynddo.

Hysbysiad gwahardd symud

20.  Caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i unrhyw berson, wahardd y person hwnnw rhag symud deunyddiau planhigion o unrhyw fangre pan fo gan yr arolygydd sail resymol dros amau bod y deunyddiau planhigion yn methu â chydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn.

Hysbysiad gorfodi a gwahardd

21.—(1Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sy’n torri, neu y mae gan yr arolygydd sail resymol dros amau y gallai dorri, y Rheoliadau hyn—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw weithredu yn unol â’r Rheoliadau (“hysbysiad gorfodi”);

(b)yn gwahardd y person hwnnw rhag gweithredu’n groes iddynt (“hysbysiad gwahardd”).

(2Rhaid i’r hysbysiad roi’r rhesymau dros ei gyflwyno ac, os yw hynny’n briodol, bennu pa gamau y mae’n rhaid eu cymryd a rhoi terfynau amser.

Apelau yn erbyn hysbysiadau

22.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad arolygydd i gyflwyno hysbysiad o dan y Rhan hon apelio i lys ynadon.

(2Pan wneir apêl i lys ynadon, y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad, a Deddf Llysoedd Ynadon 1980(11) fydd yn gymwys i’r achos.

(3Y cyfnod erbyn pryd y mae’n rhaid dwyn apêl yw 28 o ddiwrnodau o’r adeg y cyflwynwyd yr hysbysiad neu, yn achos hysbysiad gorfodi, y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, pa un bynnag sy’n diweddu gynharaf.

(4Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan y Rhan hon ddatgan—

(a)bod hawl i apelio i lys ynadon;

(b)o fewn pa gyfnod y caniateir dwyn apêl o’r fath.

(5Pan ddygir apêl o dan y rheoliad hwn, caiff y llys naill ai ganslo neu gadarnhau’r hysbysiad, ac os yw’n cadarnhau’r hysbysiad, caiff wneud hynny naill ai ar ei ffurf wreiddiol neu gyda’r addasiadau hynny y mae’n meddwl eu bod yn briodol.

Cydymffurfio â hysbysiadau

23.  Rhaid cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan y Rhan hon ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad hwnnw iddo ac, oni chydymffurfir ag ef, caiff arolygydd drefnu cydymffurfiaeth ag ef ar draul y person hwnnw.

Troseddau a chosbau

24.—(1Mae’n drosedd i berson—

(a)methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan—

(i)rheoliad 19 (hysbysiad gwybodaeth);

(ii)rheoliad 20 (hysbysiad gwahardd symud);

(iii)rheoliad 21(1)(a) (hysbysiad gorfodi);

(iv)rheoliad 21(1)(b) (hysbysiad gwahardd);

(b)heb esgus rhesymol, fethu â rhoi unrhyw gymorth y gall person ofyn amdano er mwyn i’r person hwnnw gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;

(c)rhwystro arolygydd yn fwriadol wrth iddo arfer unrhyw bwerau a roddwyd gan y Rheoliadau hyn.

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn atebol, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Troseddau gan gyrff corfforaethol

25.—(1Os profir bod trosedd a gyflawnwyd o dan y Rheoliadau hyn gan gorff corfforaethol—

(a)wedi cael ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog,

bydd y swyddog, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2Os rheolir materion corff corfforaethol gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â swyddogaethau rheoli’r aelod fel pe bai’r aelod yn gyfarwyddwr i’r corff.

(3Ym mharagraff (1) ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o’r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff, neu berson sy’n honni gweithredu mewn unrhyw swydd o’r fath.

RHAN 5Gweinyddu a dirymiadau

Hysbysiadau ac awdurdodiadau

26.  O ran hysbysiad neu awdurdodiad a roddir o dan y Rheoliadau hyn—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau;

(c)caniateir ei ddiwygio, ei atal dros dro neu ei ddirymu drwy hysbysiad.

Trefniadau ar gyfer mesurau swyddogol

27.—(1Caiff Gweinidogion Cymru wneud y cyfryw drefniadau gydag unrhyw berson (“A”) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol at ddiben galluogi A i gyflawni mesurau swyddogol o dan y Rheoliadau hyn ar ran Gweinidogion Cymru.

(2Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw drefniant o dan y rheoliad hwn oni bai eu bod wedi eu bodloni bod y trefniant yn gwneud darpariaeth at ddiben atal unrhyw berson rhag—

(a)cael unrhyw elw preifat o unrhyw fesurau swyddogol a gyflawnir o dan y trefniant; a

(b)cyflawni unrhyw fesurau swyddogol o dan y trefniant ac eithrio o dan oruchwyliaeth swyddogol.

(3Caiff Gweinidogion Cymru gynnwys mewn unrhyw drefniant y cyfryw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol at y dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2), gan gynnwys amodau—

(a)sy’n pennu—

(i)y mesurau swyddogol y mae’n rhaid i A eu cyflawni;

(ii)y dulliau i’w defnyddio mewn cysylltiad â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A;

(iii)y ffioedd y caiff A eu codi mewn perthynas â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A;

(iv)y cofnodion y mae’n rhaid i A eu cadw mewn cysylltiad â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A;

(b)sy’n gwahardd A rhag—

(i)codi ffioedd mewn perthynas â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A o dan y trefniant ac eithrio i’r graddau nad yw’r ffioedd yn uwch na’r costau y mae A yn mynd iddynt wrth eu cyflawni;

(ii)cyflawni’r mesurau swyddogol ac eithrio o dan oruchwyliaeth swyddogol;

(c)sy’n gwahardd A rhag gwneud unrhyw drefniant pellach gydag unrhyw berson arall (“B”) at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â chyflawni’r mesurau swyddogol y mae A wedi gwneud trefniadau gyda Gweinidogion Cymru i’w cyflawni, oni bai—

(i)bod Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo holl amodau’r trefniant pellach a bod A wedi cael cymeradwyaeth ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ymlaen llaw i wneud y trefniant pellach;

(ii)bod y trefniant pellach yn cynnwys amod sy’n gwahardd B rhag gwneud unrhyw drefniadau dilynol at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â chyflawni’r mesurau swyddogol y mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud y trefniant gydag A mewn cysylltiad â hwy;

(iii)bod y trefniant pellach yn cynnwys cydnabyddiaeth gan A y caiff Gweinidogion Cymru amrywio, ddirymu neu atal dros dro y trefniant pellach os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru nad yw B yn cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r trefniant pellach, neu bod B wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r amodau hynny; a

(iv)bod y trefniadau pellach yn cynnwys yr amodau a bennir yn is-baragraffau (a) a (b) o’r paragraff hwn, ac at y dibenion hyn mae cyfeiriadau yn yr is-baragraffau hynny at A i’w dehongli fel cyfeiriadau at B, ac mae cyfeiriadau at “y trefniant” i’w dehongli fel cyfeiriadau at y trefniant pellach.

(4Ni chaiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo gwneud unrhyw drefniant pellach o dan y rheoliad hwn oni bai eu bod wedi eu bodloni na fydd B—

(a)yn cael unrhyw elw preifat o unrhyw fesurau swyddogol y mae B i gael ei awdurdodi i’w cyflawni o dan y trefniant pellach;

(b)yn cyflawni unrhyw fesurau swyddogol o dan y trefniant pellach ac eithrio o dan oruchwyliaeth swyddogol.

(5Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad i A neu B (yn ôl y digwydd), amrywio, atal dros dro neu ddirymu unrhyw drefniant neu drefniant pellach, neu unrhyw amodau trefniant neu amodau trefniant pellach a wneir o dan y rheoliad hwn.

(6Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (5) bennu—

(a)mewn cysylltiad ag amrywiad neu ddirymiad, y dyddiad y mae’r amrywiad neu’r dirymiad yn cael effaith;

(b)mewn cysylltiad ag atal dros dro, y cyfnod pryd y mae’r atal dros dro yn cael effaith.

(7Pan fydd amrywiad, dirymiad neu ataliad dros dro yn cael effaith, caiff Gweinidogion Cymru, at unrhyw ddibenion mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn, barhau i roi sylw i’r cyfryw fesurau swyddogol a gyflawnir o dan drefniant (neu drefniant pellach) a gafodd ei amrywio, ei ddirymu neu ei atal dros dro yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn fesurau swyddogol a gyflawnir yn unol â darpariaethau’r Rheoliadau hyn.

(8Yn y rheoliad hwn, mae “mesurau swyddogol” yn cynnwys archwiliadau swyddogol, treialon tyfu, profion ac asesiadau.

Darpariaeth drosiannol

28.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo deunyddiau planhigion yn cael eu cynhyrchu o riant-blanhigyn a oedd yn bodoli cyn 19 Mehefin 2017.

(2Caiff cyflenwr farchnata deunyddiau planhigion o’r fath os yw—

(a)y rhiant-blanhigyn yn bodloni unrhyw ofynion ardystio neu ofynion CAC sy’n berthnasol iddo o dan Reoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Ffrwythau 2010; a

(b)dogfen y cyflenwr sy’n mynd gyda hwy, neu’r label swyddogol sydd ynghlwm wrthynt, yn cynnwys cyfeiriad at Erthygl 32 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhiant-blanhigyn” yw planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol, sylfaenol neu ardystiedig neu ddeunyddiau CAC.

(4Mae’r rheoliad hwn yn peidio â chael effaith ar 31 Rhagfyr 2022.

Dirymu

29.  Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Ffrwythau 2010(12) wedi eu dirymu o ran Cymru.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

14 Mehefin 2017

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill