Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Sŵn o Larymau Tresmaswyr Clywadwy (Cymru) (Dirymu) a Rheoli Sŵn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2017

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 81 (Cy. 30)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Gorchymyn Sŵn o Larymau Tresmaswyr Clywadwy (Cymru) (Dirymu) a Rheoli Sŵn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2017

Gwnaed

24 Ionawr 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2 Chwefror 2017

Yn dod i rym

24 Chwefror 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 71 a 104(1) o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974(1) ac sydd wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sŵn o Larymau Tresmaswyr Clywadwy (Cymru) (Dirymu) a Rheoli Sŵn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2017.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 24 Chwefror 2017.

(3Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Cymeradwyo cod ymarfer

2.  Mae’r rhannau a ganlyn o god ymarfer y Sefydliad Safonau Prydeinig ar gyfer rheoli sŵn a dirgryniad ar safleoedd adeiladu a safleoedd agored, sy’n dwyn y rhif BS 5228, wedi eu cymeradwyo at ddiben rhoi cyfarwyddyd ar ddulliau priodol o leihau sŵn o’r safleoedd hynny—

(a)Rhan 1: Sŵn, sy’n dwyn y rhif BS 5228-1:2009, fel y’i diwygiwyd gan Ddiwygiad Rhif 1, a ddaeth i rym ar 21 Chwefror 2014;

(b)Rhan 2: Dirgryniad, sy’n dwyn y rhif BS 5228-2:2009, fel y’i diwygiwyd gan Ddiwygiad Rhif 1, a ddaeth i rym ar 3 Mehefin 2014.

Dirymu

3.  Mae’r Gorchmynion a ganlyn wedi eu dirymu o ran Cymru—

(a)Gorchymyn Rheoli Sŵn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002(3); a

(b)Gorchymyn Rheoli Sŵn (Cod Ymarfer ar Sŵn o Larymau Tresmaswyr Clywadwy) 1981(4).

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

24 Ionawr 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

O dan adrannau 71 a 104(1) o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974, caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo codau ymarfer at ddiben rhoi cyfarwyddyd ar ddulliau priodol o leihau sŵn (gan gynnwys dirgryniad) a rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo cod ymarfer o’r fath ar gyfer cyflawni mathau o waith y mae adran 60 o’r Ddeddf yn gymwys iddynt. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith adeiladu a gwaith ffyrdd, gwaith dymchwel, gwaith carthu a mathau eraill o waith adeiladu peirianyddol.

Mae’r Gorchymyn hwn yn cymeradwyo’r ddwy ran o god ymarfer y Sefydliad Safonau Prydeinig ar gyfer rheoli sŵn a dirgryniad ar safleoedd adeiladu a safleoedd agored. Diffinnir safleoedd agored yn y cod fel safleoedd lle y mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud yn yr awyr agored sy’n ymwneud â chloddio, lefelu neu ddodi deunydd.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn dirymu Gorchymyn Rheoli Sŵn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1795 (Cy. 170)) a Gorchymyn Rheoli Sŵn (Cod Ymarfer ar Sŵn o Larymau Tresmaswyr Clywadwy) 1981 (O.S. 1981/1829).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Gellir cael y codau ymarfer sydd wedi eu cymeradwyo yn bersonol neu drwy’r post oddi wrth y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) yn: Customer Services Sales Department, BSI, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL; ffôn 020 8996 7000.

Dyma rifau ISBN y codau ymarfer sydd wedi eu cymeradwyo:

BS 5228-1:2009ISBN 978 0 580 77749 3
BS 5228-2:2009ISBN 978 0 580 77750 9
(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddauyr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo ac wedi hynny i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 iddi.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill