Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2017

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 913 (Cy. 224)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gorchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2017

Gwnaed

11 Medi 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Medi 2017

Yn dod i rym

5 Hydref 2017

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 22(1), (2), (4)(a) ac (c) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2017.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Hydref 2017.

(3Yn y Gorchymyn hwn ystyr “AaGIC” yw Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Sefydlu AaGIC

2.  Mae Awdurdod Iechyd Arbennig o’r enw Addysg a Gwella Iechyd Cymru neu Health Education and Improvement Wales wedi ei sefydlu.

Swyddogaethau AaGIC

3.—(1Mae AaGIC i arfer—

(a)unrhyw swyddogaethau mewn perthynas â chynllunio, comisiynu a chyflenwi addysg a hyfforddiant ar gyfer personau sy’n gyflogedig, neu sy’n ystyried dod yn gyflogedig, mewn unrhyw weithgaredd sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu sy’n gysylltiedig â hynny; a

(b)unrhyw swyddogaethau eraill;

a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru(2).

(2Yn yr erthygl hon, ystyr “gwasanaethau iechyd” yw gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

Cyfansoddiad AaGIC

4.—(1Mae gan AaGIC—

(a)cadeirydd;

(b)dim mwy na 6 aelod arall nad ydynt yn swyddogion AaGIC yn ychwanegol at y cadeirydd; ac

(c)dim mwy na 5 aelod arall sy’n swyddogion AaGIC gan gynnwys y person sydd, am y tro, yn dal swydd y prif weithredwr.

(2Ni chaiff nifer yr aelodau sy’n swyddogion AaGIC fod yn fwy na nifer yr aelodau nad ydynt yn swyddogion o’r fath.

Cyfarfodydd cyhoeddus

5.  Mae Deddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960(3) i fod yn gymwys i AaGIC.

Vaughan Gething

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

11 Medi 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“y Ddeddf”). Mae’n sefydlu Awdurdod Iechyd Arbennig newydd, sef Addysg a Gwella Iechyd Cymru (“AaGIC”), ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei swyddogaethau a’i gyfansoddiad.

Mae erthygl 3 yn nodi prif swyddogaethau AaGIC sydd i gael eu pennu’n fwy penodol mewn cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 24 o’r Ddeddf. Mae prif swyddogaethau AaGIC yn ymwneud â chynllunio, comisiynu a chyflenwi addysg a hyfforddiant ar gyfer personau sy’n gyflogedig, neu sy’n ystyried dod yn gyflogedig, mewn gweithgaredd sy’n ymwneud â’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae erthygl 4 yn nodi cyfansoddiad AaGIC ac mae erthygl 5 yn darparu bod Deddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960 yn gymwys i gyfarfodydd AaGIC.

Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gwneud unrhyw ddarpariaeth yn ymwneud â throsglwyddo swyddogion, eiddo na rhwymedigaethau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Gweler adran 24 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

(3)

1960 p. 67; gweler paragraff 1(g) o’r Atodlen i Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960, a fewnosodwyd gan baragraff 91 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill