- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod y daw adran 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 i rym.
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “DTGT” yw Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.
3. Yn y Rhan hon—
ystyr “cyfarwyddyd” (“direction”) yw cyfarwyddyd a ddyroddwyd gan ACC o dan reoliad 6 nas tynnwyd yn ôl;
ystyr “deunydd anghymwys” (“non-qualifying material”) yw deunydd nad yw’n ddeunydd cymwys;
ystyr “y ganran colled wrth danio” (“LOI percentage”) yw swm y deunydd anghymwys sydd wedi ei gynnwys mewn cymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân, fel y dangosir gan y ganran o fàs y gronynnau mân hynny a gollir wrth danio;
ystyr “yr hysbysiad ACC” (“the WRA notice”) yw hysbysiad a gyhoeddwyd gan ACC o dan adran 17(5) o DTGT nas tynnwyd yn ôl drwy hysbysiad cyhoeddedig dilynol;
ystyr “prawf colled wrth danio” (“LOI test”) yw prawf i ganfod canran colled wrth danio cymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân.
4.—(1) Rhaid bodloni’r gofynion a ganlyn (yn ogystal â gofynion 1 i 6 yn adran 16 o DTGT) er mwyn i gymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân gael ei drin fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau.
Gofyniad 1
Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig lle y gwneir gwarediad trethadwy o’r cymysgedd fod wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad ACC.
Gofyniad 2
Rhaid i’r gweithredwr feddu ar y dystiolaeth a bennir yn yr hysbysiad ACC ynghylch cymryd y camau hynny.
Gofyniad 3
Os cynhaliwyd prawf colled wrth danio ar sampl o’r gwarediad trethadwy, ni chaiff y ganran colled wrth danio a ddangoswyd gan y prawf fod yn uwch na 10% (ond gweler paragraff (3)).
Gofyniad 4
Ni chaiff y cymysgedd sydd wedi ei gynnwys yn y gwarediad trethadwy fod wedi’i wahardd rhag cael ei drin fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau yn rhinwedd rheoliad 5(3).
(2) Caiff ACC benderfynu bod gofyniad 2 i’w drin fel pe bai wedi ei fodloni os yw ACC wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi, ac a fyddai wedi eu profi gan y dystiolaeth pe bai’r gofyniad hwnnw wedi ei fodloni, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.
(3) Caiff yr hysbysiad ACC bennu amgylchiadau lle caniateir anwybyddu prawf colled wrth danio sy’n dangos bod y ganran colled wrth danio yn uwch na 10%.
5.—(1) Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gydymffurfio â’r gofynion a ganlyn er mwyn i gymysgeddau o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân gael eu trin fel cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau pan fyddant yn cael eu gwaredu ar y safle.
Gofyniad 1
Rhaid i’r gweithredwr gynnal prawf colled wrth danio ar y cymysgeddau—
(a)ar yr adegau a’r cyfnodau a bennir yn yr hysbysiad ACC, oni roddir cyfarwyddyd i’r gweithredwr wneud fel arall o dan reoliad 6, neu
(b)os rhoddir cyfarwyddyd o’r fath i’r gweithredwr, ar yr adegau a’r cyfnodau a bennir yn y cyfarwyddyd.
Gofyniad 2
Rhaid i’r gweithredwr, wrth gynnal pob prawf colled wrth danio—
(a)cynhesu sampl o’r cymysgedd a brofir i dymheredd o 440°C am o leiaf 5 awr, a
(b)cydymffurfio ag unrhyw ofyniad arall yn yr hysbysiad ACC sy’n ymwneud â chynnal y prawf.
Gofyniad 3
Pan fo—
(a)prawf colled wrth danio yn cael ei gynnal ar sampl o gymysgedd, a
(b)y ganran colled wrth danio a ddangosir gan y prawf yn uwch na 10%,
rhaid i’r gweithredwr gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad ACC.
Gofyniad 4
Rhaid i’r gweithredwr—
(a)cadw’r dystiolaeth a bennir yn yr hysbysiad ACC mewn perthynas â phob prawf colled wrth danio a gynhelir gan y gweithredwr, a
(b)storio’r dystiolaeth yn ddiogel am y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Caiff ACC benderfynu bod y gweithredwr i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofyniad 4 os yw ACC wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi, ac a fyddai wedi eu profi gan y dystiolaeth pe bai’r gweithredwr wedi cydymffurfio â’r gofynion, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.
(3) Pan fo’r gweithredwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad a grybwyllir ym mharagraff (1), mae cymysgeddau o ronynnau mân sydd wedi eu cynnwys mewn gwarediadau trethadwy o ddisgrifiad a bennir yn yr hysbysiad ACC wedi eu gwahardd rhag cael eu trin fel cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau.
6.—(1) Caiff ACC drwy hysbysiad roi cyfarwyddyd i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gynnal prawf colled wrth danio ar unrhyw gymysgedd o ddeunyddiau—
(a)yr ymddengys i ACC ei fod yn gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân,
(b)sydd o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd, ac
(c)sy’n bresennol ar y safle.
(2) Caniateir amrywio cyfarwyddyd a roddwyd o dan y rheoliad hwn neu ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad ar unrhyw adeg.
7.—(1) Caiff ACC—
(a)cymryd sampl o unrhyw gymysgedd o ddeunyddiau ar safle tirlenwi awdurdodedig yr ymddengys i ACC ei fod yn gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân, a
(b)cynnal prawf colled wrth danio ar y sampl.
(2) Pan fo ACC yn gwneud hynny, rhaid iddo—
(a)cynnal y prawf drwy gynhesu is-sampl o’r sampl i dymheredd o 440°C am o leiaf 5 awr,
(b)dyroddi hysbysiad am y ganran colled wrth danio a ganfyddir gan y prawf i weithredwr y safle,
(c)cadw—
(i)nid llai nag 1kg o’r sampl, a
(ii)cofnod o ganlyniad y prawf colled wrth danio,
(d)storio’r gyfran a gedwir o’r sampl yn ddiogel am gyfnod o 3 mis sy’n dechrau â dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth berthnasol, ac
(e)storio’r cofnod o ganlyniad y prawf colled wrth danio yn ddiogel am y cyfnod y byddai’n ofynnol i berson y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth ei gadw o dan adran 38 o DCRhT (dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel).
(3) Ym mharagraff (2)(d), y “ffurflen dreth berthnasol” yw’r ffurflen dreth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu y rhoddir cyfrif arni am y dreth sydd i’w chodi am waredu’r cymysgedd.
8.—(1) Mae gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig sy’n—
(a)trin cymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau wrth roi cyfrif am y dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy, ond
(b)sy’n methu â chydymffurfio—
(i)â gofyniad 2 yn rheoliad 4 (mewn perthynas â’r gwarediad hwnnw), neu
(ii)â gofyniad 4 yn rheoliad 5 (mewn perthynas â’r cymysgedd hwnnw),
yn agored i gosb nad yw’n fwy na £3,000.
(2) Ond nid yw’r gweithredwr yn agored i gosb o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â’r methiant os yw ACC wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi, ac a fyddai wedi eu profi gan y dystiolaeth pe bai’r gweithredwr wedi cydymffurfio â’r gofynion hynny, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.
9.—(1) Pan ddaw gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig yn agored i gosb o dan reoliad 8, rhaid i ACC—
(a)asesu’r gosb, a
(b)dyroddi hysbysiad i’r gweithredwr am y gosb a asesir.
(2) Caniateir cyfuno asesiad o gosb gydag asesiad treth.
(3) Rhaid i asesiad o gosb o dan reoliad 8 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y gweithredwr yn agored i’r gosb.
(4) Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig y dyroddir hysbysiad am gosb iddo o dan y rheoliad hwn dalu’r gosb cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am y gosb (ond gweler adran 182 o DCRhT (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl)).
10.—(1) Nid yw person yn agored i gosb o dan reoliad 8 mewn cysylltiad ag unrhyw beth os yw’r person wedi cael euogfarn am drosedd mewn perthynas â hynny.
(2) Os yw person sy’n agored i gosb o dan reoliad 8 wedi marw, caniateir asesu unrhyw gosb y gellid bod wedi ei hasesu ar y person ar gynrychiolwyr personol y person.
(3) Mae cosb a asesir yn unol â pharagraff (2) i’w thalu o ystad y person.
11.—(1) Caiff ACC wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol yn—
(a)yr hysbysiad ACC, a
(b)unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan ACC o dan reoliad 6.
(2) Caiff y ddarpariaeth gynnwys (ymhlith pethau eraill) darpariaeth drosiannol sy’n gymwys i weithredwyr safleoedd tirlenwi a oedd, yn union cyn y diwrnod y daw adran 2 o DTGT i rym, wedi eu cofrestru o dan adran 47 o Ddeddf Cyllid 1996.
12.—(1) Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer credyd treth mewn cysylltiad â’r dreth.
(2) Enw’r credyd fydd credyd ansolfedd cwsmer.
13.—(1) Yn y Rhan hon—
mae i “anfoneb dirlenwi” (“landfill invoice”) yr ystyr a roddir yn adran 41(8) o DTGT;
ystyr “cwsmer” (“customer”), mewn perthynas â gwarediad trethadwy, yw’r person y gwneir y gwarediad ar ei gyfer;
ystyr “hawliad” (“claim”) yw hawliad yn unol â’r Rhan hon am swm o gredyd ansolfedd cwsmer;
ystyr “hawlydd” (“claimant”) yw person sy’n gwneud hawliad.
(2) Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at daliad oddi wrth gwsmer yn cynnwys taliad oddi wrth berson arall ar ran y cwsmer.
14.—(1) Mae gan berson (“yr hawlydd”) hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy os bodlonir y gofynion a ganlyn.
Gofyniad 1
Bod y gwarediad wedi ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig.
Gofyniad 2
Bod yr hawlydd—
(a)wedi ei gofrestru yn weithredwr y safle ar adeg y gwarediad, a
(b)wedi gwneud y gwarediad, neu wedi caniatáu i’r gwarediad gael ei wneud.
Gofyniad 3
Bod y gwarediad wedi ei wneud am gydnabyddiaeth ariannol ar ran person arall (“y cwsmer”)—
(a)nad yw’r hawlydd yn gysylltiedig ag ef, a
(b)nad oedd yr hawlydd yn gysylltiedig ag ef ar adeg y gwarediad.
Gofyniad 4
Bod yr hawlydd wedi dyroddi anfoneb dirlenwi i’r cwsmer mewn cysylltiad â’r gwarediad trethadwy—
(a)o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwnaed y gwarediad, neu
(b)o fewn unrhyw gyfnod hwy a bennir mewn hysbysiad a ddyroddir i’r hawlydd o dan adran 41(6) o DTGT.
Gofyniad 5
Bod yr hawlydd—
(a)wedi rhoi cyfrif am swm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r gwarediad ar ffurflen dreth, a
(b)wedi talu swm y dreth sy’n daladwy o dan adran 42(1) neu (1A) o DTGT mewn cysylltiad â’r ffurflen dreth.
Gofyniad 6
Bod y cwsmer—
(a)wedi mynd yn ansolfent o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y dyroddwyd yr anfoneb dirlenwi, a
(b)wedi methu â thalu i’r hawlydd yr holl gydnabyddiaeth, neu ran ohoni, sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gwarediad.
Gofyniad 7
Nad yw’r hawlydd wedi gallu adennill y gydnabyddiaeth nas talwyd, er gwaethaf cymryd camau rhesymol i wneud hynny.
Gofyniad 8
Bod yr hawlydd—
(a)wedi gosod yn erbyn swm y gydnabyddiaeth nas talwyd unrhyw ddyled sy’n ddyledus gan yr hawlydd i’r cwsmer y caniateir ei gosod yn erbyn y swm hwnnw, a
(b)wedi lleihau swm y gydnabyddiaeth nas talwyd gan werth unrhyw sicrhad gorfodadwy a ddelir gan yr hawlydd mewn perthynas â’r cwsmer,
ond bod swm o gydnabyddiaeth yn parhau i fod yn weddill mewn cysylltiad â’r gwarediad.
(2) Er gwaethaf paragraff (1), nid oes gan berson hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy—
(a)os yw’r person wedi cael budd yn flaenorol o unrhyw swm o gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â’r gwarediad, neu
(b)os yw anfoneb dirlenwi wedi ei dyroddi mewn cysylltiad â’r gwarediad ar ôl diwedd y diweddaraf o’r cyfnodau a grybwyllir yng ngofyniad 4.
(3) Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at gydnabyddiaeth sy’n weddill, mewn perthynas â gwarediad trethadwy, yn gyfeiriadau at y swm o gydnabyddiaeth a grybwyllir ar ddiwedd gofyniad 8.
15.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gwneud darpariaeth atodol at ddibenion rheoliad 14.
(2) Mae adrannau 1122 a 1123 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010(1) (personau cysylltiedig) yn gymwys at ddiben penderfynu pa un a yw’r hawlydd yn gysylltiedig â’r cwsmer fel y crybwyllir yng ngofyniad 3 ai peidio, ac mae adran 1122 o’r Ddeddf honno yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (8)—
“(9) A person (“A”) is connected with any person who is an employee of A or by whom A is employed.
(10) For the purposes of this section, any director or other officer of a company is to be treated as employed by that company.”
(3) Pa fo’r cwsmer wedi gwneud taliad i’r hawlydd, mae rheoliad 16 yn gymwys at ddiben penderfynu pa un a yw’r taliad i’w drin, ac i ba raddau y mae’r taliad i’w drin, fel pe bai wedi ei ddyrannu i dalu’r gydnabyddiaeth sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gwarediad (ac, o ganlyniad, pa un a yw’r cwsmer wedi methu â thalu’r gydnabyddiaeth gyfan am y gwarediad, neu ran ohoni, fel y crybwyllir yng ngofyniad 6).
(4) Mae rheoliad 17 yn gymwys at ddiben penderfynu pa un a yw’r cwsmer wedi mynd yn ansolfent fel y crybwyllir yng ngofyniad 6.
(5) Yng ngofyniad 8, ystyr “sicrhad” yw—
(a)mewn perthynas â Chymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, unrhyw forgais, arwystl, hawlrwym neu sicrhad arall;
(b)mewn perthynas â’r Alban, unrhyw sicrhad (boed etifeddol neu symudol), unrhyw arwystl cyfnewidiol ac unrhyw hawl i hawlrwym neu ffafriaeth neu hawl dargadw (ac eithrio hawl i ddigollediad neu osod yn erbyn);
(c)mewn perthynas ag unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig, unrhyw beth sy’n cael effaith sy’n cyfateb i unrhyw beth a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b).
(6) Mae rheoliad 21(3) yn gymwys at ddiben penderfynu pa un a yw’r hawlydd wedi cael budd yn flaenorol o swm o gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â’r gwarediad fel y crybwyllir yn rheoliad 14(2).
16.—(1) Pan fo—
(a)hawlydd yn derbyn taliad oddi wrth gwsmer y gwnaed gwarediad trethadwy ar ei ran, a
(b)y cwsmer mewn dyled i’r hawlydd mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad,
mae’r taliad fel arfer i’w drin fel pe bai’n cael ei ddyrannu i’r ddyled honno.
(2) Ond pa fo’r cwsmer hefyd mewn dyled i’r hawlydd mewn cysylltiad ag un neu ragor o faterion (pa un a yw neu a ydynt yn ymwneud â gwarediadau trethadwy ai peidio) ac eithrio’r gydnabyddiaeth am y gwarediad, mae’r taliad i’w drin yn lle hynny—
(a)fel pe bai’n cael ei ddyrannu i’r ddyled a gododd gynharaf, a
(b)os yw swm y taliad yn fwy na’r ddyled honno, fel pe bai’n cael ei ddyrannu wedi hynny i’r dyledion eraill yn nhrefn y dyddiadau yr oeddent yn codi.
(3) Pan fo effaith paragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol dyrannu taliad (neu ran o daliad) i ddwy ddyled neu ragor sy’n codi ar yr un diwrnod, mae swm y taliad sydd i’w drin fel pe bai’n cael ei ddyrannu i ddyled benodol sy’n codi ar y diwrnod hwnnw i’w gyfrifo yn unol â’r fformiwla a ganlyn—
pan fo—
“Dyraniad” yw swm y dyraniad;
CT yw cyfanswm y taliad sydd i’w ddyrannu o dan baragraff (2) i’r dyledion sy’n codi ar y diwrnod hwnnw;
D yw swm y ddyled benodol o dan sylw;
CD yw cyfanswm yr holl ddyledion—
a oedd yn codi ar y diwrnod hwnnw, a
sy’n ddyledus gan y cwsmer i’r hawlydd.
(4) Pan fo anfoneb dirlenwi wedi ei dyroddi mewn cysylltiad â mwy nag un gwarediad trethadwy, mae pob dyled mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am bob gwarediad i’w thrin fel bai’n codi ar yr un diwrnod (sef y diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd y mae’n rhaid talu’r anfoneb); ac mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys yn unol â hynny.
17.—(1) Mae cwsmer yn mynd yn ansolfent at ddibenion rheoliad 14 os yw—
(a)trefniant gwirfoddol ar ran cwmni yn cael effaith mewn perthynas â’r cwsmer o dan Ran 1 o Ddeddf Ansolfedd 1986(2);
(b)gorchymyn gweinyddu (o fewn ystyr Atodlen B1 i’r Ddeddf honno) yn cael ei wneud, neu os caiff derbynnydd neu reolwr, neu dderbynnydd gweinyddol, ei benodi mewn perthynas â’r cwsmer;
(c)achos o ddirwyn i ben yn wirfoddol gan y credydwyr (o fewn ystyr Rhan 4 o’r Ddeddf honno), neu achos o ddirwyn i ben gan y llys o dan Bennod 6 o Ran 4 o’r Ddeddf honno, yn cael ei gychwyn mewn perthynas â’r cwsmer;
(d)gorchymyn rhyddhau o ddyled yn cael ei wneud mewn perthynas â’r cwsmer o dan Ran 7A o’r Ddeddf honno;
(e)trefniant gwirfoddol unigol yn cael effaith mewn perthynas â’r cwsmer o dan Ran 8 o’r Ddeddf honno;
(f)gorchymyn methdalu (o fewn ystyr Rhan 9 o’r Ddeddf honno) yn cael ei wneud mewn perthynas â’r cwsmer;
(g)unrhyw ddigwyddiad cyfatebol yn digwydd sy’n cael effaith o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu o ganlyniad iddi.
(2) Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddigwyddiad ansolfedd yn gyfeiriadau at ddigwyddiad a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a) i (g).
18.—(1) Mae swm y credyd ansolfedd cwsmer y mae gan berson hawl iddo mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy i’w gyfrifo yn unol â’r fformiwla a ganlyn—
pan fo—
“Credyd” yn swm y credyd ansolfedd cwsmer;
T yn swm y dreth y mae’r person wedi rhoi cyfrif amdano mewn cysylltiad â’r gwarediad mewn ffurflen dreth, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3);
SG yn swm y gydnabyddiaeth sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gwarediad (gweler rheoliad 14(3)), yn ddarostyngedig i baragraff (3);
C y gydnabyddiaeth am y gwarediad, yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(2) Pan fo swm y dreth y rhoddir cyfrif amdano mewn cysylltiad â’r gwarediad yn cynyddu, anwybydder y cynnydd hwnnw.
(3) Pan fo swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad yn llai na swm y dreth y rhoddwyd cyfrif amdano mewn cysylltiad â’r gwarediad (gan anwybyddu unrhyw gynnydd)—
(a)T yw swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad;
(b)mae C ac SG ill dau i’w lleihau gan swm sy’n hafal â’r gwahaniaeth rhwng y ddau swm o dreth.
19.—(1) Caiff person cofrestredig sydd â hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy hawlio’r credyd mewn ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad ag—
(a)y cyfnod cyfrifyddu cymwys cyntaf, neu
(b)unrhyw gyfnod cyfrifyddu dilynol.
(2) Y cyfnod cyfrifyddu cymwys cyntaf yw’r cyfnod cyfrifyddu y daw’r cyfnod o 6 mis, sy’n dechrau â dyddiad y digwyddiad ansolfedd perthnasol, i ben ynddo.
(3) Mae’r hawliad i’w wneud yn y ffurflen dreth—
(a)drwy osod swm y credyd yn erbyn swm y dreth y byddai fel arall yn ofynnol i’r person ei dalu o dan adran 42(1) o DTGT mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu perthnasol, a
(b)os yw swm y credyd yn fwy na swm y dreth, drwy ddatgan swm y credyd gormodol.
(4) Pan fo swm o gredyd gormodol yn cael ei ddatgan yn y ffurflen dreth yn unol â pharagraff (3)(b)—
(a)caiff ACC osod y swm hwnnw yn erbyn unrhyw swm o dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dalu ond nad yw wedi ei dalu eto, a
(b)os oes unrhyw swm o gredyd gormodol yn weddill, rhaid i ACC dalu i’r person swm sy’n hafal â’r swm hwnnw sy’n weddill.
(5) Ond nid yw’n ofynnol i ACC wneud taliad o dan baragraff (4)(b) oni bai, a hyd nes, bod pob ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r dreth wedi ei dychwelyd.
(6) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “y digwyddiad ansolfedd perthnasol” (“the relevant insolvency event”) yw’r digwyddiad ansolfedd a arweiniodd at hawlogaeth i gredyd mewn cysylltiad â’r gwarediad trethadwy;
ystyr “y cyfnod cyfrifyddu perthnasol” (“the relevant accounting period”) yw’r cyfnod cyfrifyddu y dychwelir y ffurflen dreth sy’n cynnwys yr hawliad mewn cysylltiad ag ef.
20.—(1) Caiff person—
(a)nad yw’n gofrestredig, a
(b)sydd â hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy,
hawlio’r credyd drwy wneud cais ysgrifenedig i ACC.
(2) Ni chaniateir gwneud cais o dan baragraff (1) cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â dyddiad y digwyddiad ansolfedd perthnasol.
(3) Os yw ACC wedi ei fodloni—
(a)nad yw’r person yn gofrestredig,
(b)bod gan y person hawlogaeth i swm o gredyd ansolfedd cwsmer, ac
(c)nad yw’r hawlogaeth i’r credyd wedi ei throsglwyddo i unrhyw berson arall,
rhaid i ACC dalu i’r person swm sy’n hafal â swm y credyd.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y digwyddiad ansolfedd perthnasol” yw’r digwyddiad ansolfedd a arweiniodd at hawlogaeth i gredyd mewn cysylltiad â’r gwarediad trethadwy.
21.—(1) Rhaid i hawliad am gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy fod am gyfanswm y credyd mewn cysylltiad â’r gwarediad hwnnw (yn hytrach na rhan o’r swm yn unig).
(2) Pan fo gan berson hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â mwy nag un gwarediad trethadwy, caniateir gwneud hawliad mewn cysylltiad â phob un o’r gwarediadau hynny, neu mewn cysylltiad ag un ohonynt neu rai ohonynt yn unig.
(3) Pan fo—
(a)swm o gredyd ansolfedd cwsmer wedi ei osod, o dan reoliad 19(3)(a) neu (4)(a), yn erbyn swm o dreth y byddai’n ofynnol i berson ei dalu fel arall, neu
(b)swm sy’n hafal â swm credyd ansolfedd cwsmer yn cael ei dalu i berson o dan reoliad 19(4)(b) neu 20(3),
mae’r person i’w drin, at ddibenion y Rhan hon, fel pe bai wedi cael budd o’r swm hwnnw o gredyd.
22.—(1) Rhaid i hawlydd—
(a)ar y diwrnod y gwneir yr hawliad, feddu ar y dystiolaeth a bennir ym mharagraff (2) mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y mae’r hawliad yn ymwneud ag ef, a
(b)storio’r dystiolaeth honno’n ddiogel am gyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.
(2) Y dystiolaeth yw—
(a)copi o’r anfoneb dirlenwi a ddyroddwyd mewn cysylltiad â’r gwarediad;
(b)cofnodion neu ddogfennau eraill sy’n dangos bod yr hawlydd—
(i)wedi rhoi cyfrif am y gwarediad mewn ffurflen dreth, a
(ii)wedi talu’r swm o dreth sy’n daladwy o dan adran 42(1) neu (1A) o DTGT mewn cysylltiad â’r ffurflen dreth;
(c)cofnodion neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud ag unrhyw daliad a wnaed gan y cwsmer mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad;
(d)cofnodion neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud ag—
(i)unrhyw ddyled sy’n ddyledus gan yr hawlydd i’r cwsmer, neu
(ii)unrhyw sicrhad gorfodadwy a ddelir gan yr hawlydd mewn perthynas â’r cwsmer;
(e)cofnodion neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud ag unrhyw gamau a gymerwyd i adennill y gydnabyddiaeth sy’n ddyledus am y gwarediad.
23.—(1) Rhaid i hawlydd gadw cofnod cyfredol o’r hawliad (sef “cofnod credyd ansolfedd cwsmer”) drwy gydol y cyfnod cofnodi.
(2) Mae’r cyfnod cofnodi yn dechrau â’r diwrnod y gwneir yr hawliad, ac yn dod i ben â’r dyddiad sydd 6 mlynedd ar ôl y diweddaraf o blith—
(a)y diwrnod y gwnaed yr hawliad, a
(b)y diwrnod y diweddarwyd cofnod yr hawliad ddiwethaf.
(3) Rhaid i’r cofnod gynnwys yr wybodaeth a ganlyn mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y mae’r hawliad yn ymwneud ag ef—
(a)swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad;
(b)y gydnabyddiaeth am y gwarediad;
(c)y ffurflen dreth y rhoddwyd cyfrif am y gwarediad ynddi, a’r dyddiad y talwyd unrhyw dreth oedd yn daladwy mewn cysylltiad â’r ffurflen;
(d)rhif adnabod yr anfoneb dirlenwi a ddyroddwyd mewn cysylltiad â’r gwarediad, a’r dyddiad y’i dyroddwyd;
(e)yn achos gwaredu deunydd y mae disgrifiad ysgrifenedig ohono yn ofynnol yn rhinwedd adran 34(1)(c)(ii) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(3), y disgrifiad ysgrifenedig;
(f)y swm a dalwyd mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad, gan gynnwys unrhyw daliad a gaiff ei drin fel pe bai wedi ei ddyrannu i’r ddyled honno yn rhinwedd rheoliad 16 (boed cyn neu ar ôl gwneud yr hawliad), a swm y gydnabyddiaeth sy’n weddill;
(g)unrhyw gamau a gymerwyd i adennill y gydnabyddiaeth sy’n weddill am y gwarediad.
(4) Rhaid i’r cofnod hefyd gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)cyfanswm yr hawliad;
(b)y ffurflen dreth y gwnaed yr hawliad ynddi;
(c)cyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n weddill y gwneir yr hawliad mewn cysylltiad â hi.
(5) Pan fo hawlydd yn gwneud mwy nag un hawliad, rhaid cadw’r cofnodion y mae’n rhaid eu cadw o dan y rheoliad hwn mewn un cyfrif (a elwir “y crynodeb credyd ansolfedd cwsmer”).
24.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo hawlydd—
(a)wedi cael budd o swm o gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy (gweler rheoliad 21(3)), a
(b)ar ôl hynny yn derbyn taliad oddi wrth y cwsmer sy’n cael ei drin, yn rhinwedd rheoliad 16, fel pe bai wedi ei ddyrannu, yn rhannol neu’n gyfan gwbl, i’r ddyled sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad.
(2) Rhaid i’r hawlydd dalu i ACC, cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r hawlydd yn derbyn taliad y cwsmer, swm a gyfrifir yn unol â’r fformiwla ym mharagraff (3).
(3) Y fformiwla yw—
pan fo—
“Taliad” yw swm y taliad y mae’n rhaid ei wneud i ACC;
“CredydP” yw’r swm perthnasol o gredyd ansolfedd cwsmer;
T yw swm y taliad a gaiff ei drin fel pe bai wedi ei ddyrannu i’r ddyled sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad, fel y disgrifir ym mharagraff (1)(b);
SG yw—
y swm a gaiff ei drin fel SG at ddibenion cyfrifo swm y credyd mewn cysylltiad â’r gwarediad o dan reoliad 18(1), llai
unrhyw swm a dderbynnir oddi wrth y cwsmer sydd eisoes wedi ei drin fel T o dan y rheoliad hwn.
(4) Y swm perthnasol o gredyd ansolfedd cwsmer yw—
(a)swm y credyd a gyfrifir mewn cysylltiad â’r gwarediad o dan reoliad 18(1), llai
(b)unrhyw swm y bu eisoes yn ofynnol i’r hawlydd ei dalu i ACC mewn cysylltiad â’r gwarediad o dan y rheoliad hwn.
25.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo hawlydd—
(a)wedi cael budd o swm o gredyd ansolfedd cwsmer o ganlyniad i hawliad (gweler rheoliad 21(3)), ond
(b)wedi methu â chydymffurfio â gofyniad o dan reoliad 22 neu 23 mewn cysylltiad â’r hawliad.
(2) Rhaid i ACC—
(a)asesu’r swm o gredyd ansolfedd cwsmer y mae’r hawlydd wedi cael budd ohono mewn cysylltiad â’r hawliad, a
(b)dyroddi hysbysiad i’r hawlydd—
(i)yn pennu’r swm a aseswyd, a
(ii)yn ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu swm sy’n hafal â’r swm hwnnw i ACC.
(3) Rhaid i’r hawlydd dalu’r swm a bennir yn yr hysbysiad i ACC cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.
(4) Nid yw’n ofynnol i ACC ddyroddi hysbysiad o dan baragraff (2) os yw wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi, ac a fyddai wedi eu profi gan y cofnodion neu’r dystiolaeth arall sy’n ofynnol o dan reoliad 22 neu 23, wedi eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.
(5) Nid yw’n ofynnol i hawlydd y dyroddir hysbysiad iddo o dan baragraff (2) dalu’r swm a bennir yn yr hysbysiad i ACC—
(a)os yw’r hawlydd yn cyflwyno tystiolaeth ddogfennol i ACC, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, ynghylch y ffeithiau a fyddai wedi eu profi gan y cofnodion neu’r dystiolaeth arall sy’n ofynnol o dan reoliad 22 neu 23, a
(b)os yw ACC yn dyroddi hysbysiad pellach i’r hawlydd yn datgan bod y dystiolaeth yn profi, er boddhad ACC, y ffeithiau y mae’n rhesymol ofynnol ganddo iddynt gael eu profi.
26. Mae’r Atodlen yn gwneud diwygiadau i DTGT a DCRhT(4).
27. Mae adrannau 74 i 77 o DCRhT (ymholiadau ynghylch hawliadau) yn gymwys i hawliadau o dan reoliad 20 yn yr un modd ag y maent yn gymwys i hawliadau o dan adran 62, 63 neu 63A o’r Ddeddf honno ond fel pe bai—
(a)yn adran 74, y cyfeiriadau at ddiwygio hawliad wedi eu hepgor,
(b)yn adran 75, is-adran (3) wedi ei hepgor, ac
(c)yn adran 77(1)(b), y cyfeiriad at ollwng neu ad-dalu treth ddatganoledig yn gyfeiriad at dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
24 Ionawr 2018
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys