Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 2 Tachwedd 2018.

Dehongli cyffredinol

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ardal Ewrop a Môr y Canoldir” (“Euro-Mediterranean area”) yw’r ardal ddaearyddol sy’n cynnwys Ewrop, Algeria, yr Aifft, Israel, Gwlad yr Iorddonen, Libanus, Libya, Moroco, Syria, Tunisia a’r ardal o Dwrci i’r dwyrain o Gulfor Bosphorus o’r enw Anatolia;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru i fod yn arolygydd at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr “Atodiad II Rhan B” (“Annex II Part B”) yw Rhan B o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2000/29/EC;

ystyr “Atodiad IV Rhan A” (“Annex IV Part A”) yw Rhan A o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2000/29/EC;

ystyr “Atodiad IV Rhan B” (“Annex IV Part B”) yw Rhan B o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2000/29/EC;

ystyr “Clefyd y ddafaden tatws” (“Potato wart disease”) yw naill ai’r clefyd tatws a achosir gan y ffwng Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival neu’r ffwng hwnnw, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;

ystyr “cofrestr” (“register”) yw’r gofrestr o fasnachwyr planhigion a gedwir o dan erthygl 25(1);

ystyr “cofrestredig” (“registered”) mewn perthynas â masnachwr planhigion, yw masnachwr y mae ei fanylion wedi eu rhestru yn y gofrestr, ac mae “cofrestru” (“registration”) i’w ddehongli yn unol â hynny:

ystyr “corff swyddogol cyfrifol” (“responsible official body”) yw naill ai’r corff a ddisgrifir ym mharagraff (i) neu gorff a ddisgrifir ym mharagraff (ii) o Erthygl 2(1)(g) o Gyfarwyddeb 2000/29/EC;

ystyr “CRhWP” (“IPPC”) yw Confensiwn Rhyngwladol ar Warchod Planhigion 1951(1);

ystyr “Cyfarwyddeb 93/85/EEC” (“Directive 93/85/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 93/85/EEC ynglŷn â rheoli pydredd cylch tatws(2);

ystyr “Cyfarwyddeb 98/57/EC” (“Directive 98/57/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 98/57/EC ynglŷn â rheoli Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.(3);

ystyr “Cyfarwyddeb 2000/29/EC” (“Directive 2000/29/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau gwarchod yn erbyn cyflwyno organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion i’r Gymuned ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned(4);

ystyr “Cyfarwyddeb 2007/33/EC” (“Directive 2007/33/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2007/33/EC ar reoli llyngyr tatws ac sy’n diddymu Cyfarwyddeb 69/465/EEC(5);

ystyr “Cyfarwyddeb 2008/61/EC” (“Directive 2008/61/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/61/EC sy’n pennu’r amodau lle caniateir i organeddau niweidiol, planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill penodol a restrir yn Atodiadau I i V i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC gael eu cyflwyno i’r Gymuned neu eu symud o fewn y Gymuned neu barthau gwarchod penodol ohoni, at ddibenion treialu neu ddibenion gwyddonol ac ar gyfer gwaith ar ddetholiadau amrywogaethol(6);

ystyr “cynhyrchydd” (“producer”), mewn perthynas â deunydd perthnasol, yw person sy’n tyfu neu’n gwneud y deunydd wrth fasnachu neu redeg busnes;

mae i “cynnyrch planhigion” yr un ystyr ag a roddir i “plant product” yn Erthygl 2(1)(b) o Gyfarwyddeb 2000/29/EC;

ystyr “cytundeb tramwy UE” (“EU transit agreement”) yw cytundeb o fewn ystyr erthygl 12(4) neu (5);

ystyr “datganiad swyddogol” (“official statement”) yw datganiad a ddyroddir gan swyddog awdurdodedig neu ddatganiad a gynhwysir mewn pasbort planhigion;

ystyr “De America” (“South America”) yw’r ardal ddaearyddol sy’n cynnwys Ariannin, Bolivia, Brasil, Chile, Colombia, Ecuador, Guyana Ffrengig, Guyana, Paraguay, Periw, Suriname, Uruguay a Venezuela;

ystyr “deunydd perthnasol” (“relevant material”) yw unrhyw blanhigyn, unrhyw gynnyrch planhigyn, unrhyw bridd neu unrhyw gyfrwng tyfu;

ystyr “dogfen symud iechyd planhigion” (“plant health movement document”) yw dogfen sy’n bodloni’r gofynion yn Atodlen 12;

ystyr “dogfennaeth swyddogol” (“official documentation”) yw dogfennaeth a ddyroddir gan gorff swyddogol cyfrifol yr Aelod-wladwriaeth y dyroddir y ddogfennaeth ynddi, neu gyda’i awdurdod;

ystyr “y Ddeddf Dollau” (“the Customs Act”) yw Deddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(7);

mae “Ewrop” (“Europe”) yn cynnwys Belarus, yr Ynysoedd Dedwydd, Georgia, Kazakhstan (ac eithrio’r ardal i’r dwyrain o afon Ural), Rwsia (ac eithrio rhanbarthau Tyumen, Chelyabinsk, Irkutsk, Kemerovo, Kurgan, Novossibirsk, Omsk, Sverdlovsk, Tomsk, Chita, Kamchatka, Magadan, Amur a Skhalin, tiriogaethau Krasnoyarsk, Altay, Khabarovsk a Primarie, a gweriniaethau Sakha, Tuva a Buryatia), Ukrain a Thwrci (ac eithrio’r ardal i’r dwyrain o Gulfor Bosphorus o’r enw Anatolia);

ystyr “ffrwythau” (“fruit”) yw ffrwythau yn yr ystyr botanegol ond nid yw’n cynnwys ffrwythau wedi eu sychu, eu dadhydradu, eu lacro neu eu dwys-rewi;

ystyr “ffrwythau sitrws ar gyfer eu prosesu” (“citrus fruits for processing”) yw ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Microcitrus Swingle, Naringi Adans., neu Swinglea Merr., sy’n tarddu o drydedd wlad ac sydd wedi eu bwriadu ar gyfer eu prosesu’n ddiwydiannol yn sudd yn yr Undeb Ewropeaidd;

ystyr “Gogledd America” (“North America”) yw’r ardal ddaearyddol sy’n cynnwys Canada, Mecsico ac UDA;

ystyr “gwiriad iechyd planhigion” (“plant health check”) yw archwiliad a gynhelir o dan erthygl 12(2);

ystyr “hadau” (“seed”) yw hadau yn yr ystyr botanegol ac eithrio hadau nas bwriedir ar gyfer eu plannu;

ystyr “label swyddogol” (“official label”) yw label sy’n bodloni’r gofynion perthnasol a nodir yn Rhan A neu B o Atodlen 9, a ddyroddir gan gorff swyddogol cyfrifol yr Aelod-wladwriaeth y dyroddir y label swyddogol ynddi, neu gyda’i awdurdod;

mae i “llwyth” yr un ystyr ag a roddir i “consignment” yn Erthygl 2(1)(p) o Gyfarwyddeb 2000/29/EC pan fo’r term hwnnw’n cael ei ddefnyddio yn Rhan 2 neu mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd perthnasol y cyfeirir ato yn y Rhan honno;

ystyr “Llyngyr tatws” (“Potato cyst nematode”) yw unrhyw lyngyr sy’n ffurfio systiau o’r rhywogaeth Globodera pallida (Stone) Behrens neu Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens sy’n heigio ac yn lluosogi ar datws ac unrhyw fathau neu bathofathau o lyngyr o’r fath;

ystyr “man cynhyrchu” (“place of production”) yw unrhyw fangre, a weithredir fel uned fel rheol, ynghyd ag unrhyw dir cyffiniol o dan yr un berchnogaeth neu feddiannaeth â’r fangre honno;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad, cerbyd, llestr, awyren, hofranfad, cynhwysydd llwyth neu wagen reilffordd;

ystyr “masnachwr planhigion” (“plant trader”) yw—

(a)

mewnforiwr deunydd perthnasol;

(b)

cynhyrchydd deunydd perthnasol;

(c)

person sydd â gofal am fangre a ddefnyddir i storio, i gasglu ynghyd neu i anfon allan lwythi o ddeunydd perthnasol; neu

(d)

person sydd, wrth fasnachu neu redeg busnes, yn rhannu neu’n cyfuno llwythi o ddeunydd perthnasol;

ystyr “meithrinfa” (“nursery”) yw mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n rhannol i dyfu neu i gadw planhigion at ddiben eu trawsblannu neu eu symud i fangre arall;

mae “mewnforiwr” (“importer”), mewn perthynas ag unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol ar unrhyw adeg rhwng ei lanio o drydedd wlad a’r adeg y caiff ei ollwng gan arolygydd o dan y Gorchymyn hwn, yn cynnwys unrhyw berchennog neu berson arall sydd am y tro yn meddu ar y pla planhigion neu’r deunydd perthnasol neu sydd â buddiant llesiannol ynddo;

ystyr “nwyddau tramwy yr UE” (“EU transit goods”) yw unrhyw ddeunydd perthnasol y deuir ag ef i Gymru o drydedd wlad drwy ran arall o’r Undeb Ewropeaidd;

ystyr “parth gwarchod” (“protected zone”) yw Aelod-wladwriaeth neu ardal o fewn Aelod-wladwriaeth a gydnabyddir fel parth gwarchod sy’n agored i risgiau iechyd planhigion neilltuol at ddibenion Cyfarwyddeb 2000/29/EC, fel y’i rhestrir yn Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 690/2008;

ystyr “pasbort planhigion” (“plant passport”) yw label a, phan fo hynny’n briodol, ddogfen sy’n mynd gydag ef, sy’n bodloni’r gofynion perthnasol a nodir yn Rhan A neu B o Atodlen 9, a ddyroddir gan gorff swyddogol cyfrifol yr Aelod-wladwriaeth y dyroddir y pasbort planhigion ynddi, neu gyda’i awdurdod, ac mae’n cynnwys pasbort planhigion amnewid;

ystyr “pasbort planhigion y Swistir” (“Swiss plant passport”) yw label a, phan fo hynny’n briodol, ddogfen sy’n mynd gydag ef, a ddyroddir yn y Swistir yn unol â deddfwriaeth y Swistir ac sydd—

(a)

yn cynnwys gwybodaeth sy’n rhoi tystiolaeth y cydymffurfiwyd â deddfwriaeth yn y Swistir sy’n ymwneud â safonau iechyd planhigion a gofynion arbennig ar gyfer deunydd perthnasol sy’n symud i’r Swistir ac o fewn y Swistir; a

(b)

yn ymwneud â deunydd perthnasol a restrir yn Rhan A o Atodlen 8;

ystyr “Penderfyniad 2002/757/EC” (“Decision 2002/757/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2002/757/EC ar fesurau ffytoiechydol brys dros dro i atal cyflwyno i’r Gymuned a lledaenu o fewn y Gymuned Phytophthora ramorum Werres, De Cock a Man in’t Veld sp. nov(8);

ystyr “Penderfyniad 2004/416/EC” (“Decision 2004/416/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2004/416/EC ar fesurau brys dros dro mewn cysylltiad â ffrwythau sitrws penodol sy’n tarddu o Ariannin neu Frasil(9);

ystyr “Penderfyniad 2006/473/EC” (“Decision 2006/473/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2006/473/EC sy’n cydnabod bod trydydd gwledydd penodol ac ardaloedd penodol o drydydd gwledydd yn rhydd rhag Xanthomonas campestris (pob math sy’n bathogenig i Sitrws), Cercospora angolensis Carv et Mendes a Guignardia citricarpa Kiely (pob math sy’n bathogenig i Sitrws)(10);

ystyr “Penderfyniad 2007/365/EC” (“Decision 2007/365/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2007/365/EC ar fesurau brys i atal cyflwyno i’r Gymuned a lledaenu o fewn y Gymuned Rhynchophorus ferrugineus (Olivier)(11);

ystyr “Penderfyniad 2007/433/EC” (“Decision 2007/433/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2007/433/EC ar fesurau brys dros dro i atal cyflwyno i’r Gymuned a lledaenu o fewn y Gymuned Gibberella circinata Nirenberg ac O’Donnell(12);

ystyr “Penderfyniad 2012/138/EU” (“Decision 2012/138/EU”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/138/EU o ran mesurau brys i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Anoplophora chinensis (Forster)(13);

ystyr “Penderfyniad 2012/270/EU” (“Decision 2012/270/EU”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/270/EU o ran mesurau brys i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix papa sp.n, Epitrix subcrinita (Lec.) ac Epitrix tuberis (Gentner)(14);

ystyr “Penderfyniad 2012/697/EU” (“Decision 2012/697/EU”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/697/EU o ran mesurau i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb y genws Pomacea (Perry)(15);

ystyr “Penderfyniad 2014/422/EU” (“Decision 2014/422/EU”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2014/422/EU sy’n nodi mesurau mewn cysylltiad â ffrwythau sitrws penodol sy’n tarddu o Dde Affrica i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa(16);

ystyr “Penderfyniad (EU) 2015/789” (“Decision (EU) 2015/789”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/789 o ran mesurau i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Xylella fastidiosa (Wells et al.)(17);

ystyr “Penderfyniad (EU) 2015/893” (“Decision (EU) 2015/893”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/893 o ran mesurau i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Anoplophora glabripennis (Motschulsky)(18);

ystyr “Penderfyniad (EU) 2016/715” (“Decision (EU) 2016/715”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/715 sy’n nodi mesurau o ran ffrwythau penodol sy’n tarddu o drydydd gwledydd penodol i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb yr organedd niweidiol Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa(19);

ystyr “Penderfyniad (EU) 2017/198” (“Decision (EU) 2017/198”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/198 o ran mesurau i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyumu a Goto(20);

ystyr “pla planhigion” (“plant pest”) yw unrhyw organedd byw, ac eithrio anifail ag asgwrn cefn, mewn unrhyw gam o’i fodolaeth, sy’n niweidiol neu’n debygol o fod yn niweidiol i unrhyw blanhigyn neu gynnyrch planhigion;

ystyr “planhigyn” (“plant”) yw planhigyn byw (gan gynnwys ffwng neu lwyn) neu ran fyw o blanhigyn (gan gynnwys rhan fyw o ffwng neu lwyn), ar unrhyw gam o’i dwf, ond heb gynnwys coed na llwyni coedwigoedd; ac mae rhannau byw o blanhigyn yn cynnwys—

(a)

ffrwythau;

(b)

hadau;

(c)

llysiau, ac eithrio’r rhai a gedwir drwy eu dwys-rewi;

(d)

cloron, cormau, bylbiau neu risomau;

(e)

blodau wedi eu torri;

(f)

canghennau gyda deiliant neu heb ddeiliant;

(g)

planhigyn neu lwyn sydd wedi ei dorri ac sydd ag unrhyw ddeiliant arno;

(h)

dail neu ddeiliant;

(i)

planhigyn neu lwyn mewn meithriniad meinwe;

(j)

paill byw;

(k)

pren blagur;

(l)

toriadau; ac

(m)

impynnau;

ystyr “planhigyn neu lwyn mewn meithriniad meinwe” (“plant or shrub in tissue culture”) yw planhigyn neu lwyn sy’n tyfu mewn cyfrwng meithrin aseptigol hylifol clir neu solet clir mewn cynhwysydd tryloyw caeedig;

mae i “plannu” yr un ystyr ag a roddir i “planting” yn Erthygl 2(1)(c) o Gyfarwyddeb 2000/29/EC;

ystyr “Pydredd coch tatws” (“Potato brown rot”) yw naill ai’r clefyd tatws a achosir gan Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. neu’r bacteriwm hwnnw, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;

ystyr “Pydredd cylch tatws” (“Potato ring rot”) yw naill ai’r clefyd tatws a achosir gan y bacteriwm Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al. spp. Sependonicus (Spieckermann a Kotthoff) Davis et al. neu’r bacteriwm hwnnw, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 690/2008” (“Regulation (EC) No 690/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 690/2008 sy’n cydnabod parthau gwarchod sy’n agored i beryglon iechyd planhigion neilltuol yn y Gymuned(21);

ystyr “Rheoliadau Tatws Hadyd” (“Seed Potatoes Regulations”) yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(22);

ystyr “sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol” (“national plant protection organisation”) yw’r gwasanaeth a sefydlwyd gan lywodraeth trydedd wlad i gyflawni’r swyddogaethau a bennir yn Erthygl IV(1)(a) o’r CRhWP, y mae manylion amdano wedi eu rhoi—

(a)

yn achos partïon contractiol i’r CRhWP, i Gyfarwyddwr Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig; ac

(b)

ym mhob achos arall, i’r Comisiwn Ewropeaidd;

ystyr “SRFFf Rhif 4” (“ISPM No. 4”) yw Safon Ryngwladol ar Fesurau Ffytoiechydol Rhif 4 dyddiedig mis Tachwedd 1995 ar y gofynion i sefydlu ardaloedd rhydd rhag plâu, a luniwyd gan Ysgrifenyddiaeth y CRhWP a sefydlwyd gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig(23);

ystyr “SRFFf Rhif 10” (“ISPM No. 10”) yw Safon Ryngwladol ar Fesurau Ffytoiechydol Rhif 10 dyddiedig mis Hydref 1999 ar y gofynion i sefydlu mannau chynhyrchu rhydd rhag plâu a safleoedd cynhyrchu rhydd rhag plâu, a luniwyd gan Ysgrifenyddiaeth y CRhWP a sefydlwyd gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig(24);

ystyr “SRFFf Rhif 31” (“ISPM No. 31”) yw Safon Ryngwladol ar Fesurau Ffytoiechydol Rhif 31 dyddiedig mis Ebrill 2008 ar fethodolegau ar gyfer samplu llwythi, a luniwyd gan Ysgrifenyddiaeth y CRhWP a sefydlwyd gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig(25);

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), fel y bo’r cyd-destun yn mynnu, yw—

(a)

cynrychiolydd awdurdodedig o gorff swyddogol cyfrifol y wlad lle caiff pasbort planhigion ei ddyroddi, gwas cyhoeddus sy’n gweithio o dan awdurdod cynrychiolydd o’r fath neu asiant cymwysedig a gyflogir gan y corff swyddogol cyfrifol, y mae’n rhaid iddo fod â’r cymwysterau priodol ym mhob achos; neu

(b)

cynrychiolydd awdurdodedig o gorff swyddogol cyfrifol neu sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol y wlad y dyroddir ynddi dystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio neu gyfieithiad o dystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio, neu swyddog cyhoeddus sy’n gweithredu o dan awdurdod cynrychiolydd o’r fath;

ystyr “swyddogol” (“official” ac “officially”) mewn perthynas ag unrhyw brofi neu weithdrefn arall y mae’n ofynnol ei gynnal neu ei chynnal o dan y Gorchymyn hwn mewn cysylltiad ag unrhyw ddeunydd perthnasol, yw wedi ei gynnal neu ei chynnal gan gorff swyddogol cyfrifol neu sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol y wlad y cynhelir y profi neu’r weithdrefn arall ynddi, neu o dan ei wyliadwriaeth;

ystyr “taten” (“potato”) yw unrhyw gloronen neu hadau gwirioneddol o Solanum tuberosum L. neu unrhyw blanhigyn arall ohono neu unrhyw rywogaeth arall o’r genws Solanum L. sy’n ffurfio cloron;

ystyr “tatws cynnar” (“early potatoes”) yw tatws sy’n cael eu cynaeafu cyn iddynt aeddfedu’n llwyr, sy’n cael eu marchnata yn union ar ôl iddynt gael eu cynaeafu ac y gellir tynnu eu crwyn yn hawdd heb eu plicio;

ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad neu diriogaeth heblaw un o fewn yr Undeb Ewropeaidd;

ystyr “tystysgrif ffytoiechydol” (“phytosanitary certificate”) yw tystysgrif ar y ffurf a nodir yn Rhan A o Atodlen 10, sy’n cydymffurfio â’r gofynion yn erthygl 15(1) a (2);

ystyr “tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio” (“phytosanitary certificate for re-export”) yw tystysgrif ar y ffurf a nodir yn Rhan B o Atodlen 10, sy’n cydymffurfio â’r gofynion yn erthygl 15(1) a (2);

ystyr “UDA” (“the USA”) yw Unol Daleithiau America ac eithrio Hawaii;

ystyr “yr Undeb Ewropeaidd” (“European Union”) yw tiriogaethau’r Aelod-wladwriaethau gan gynnwys Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel ond heb gynnwys yr Ynysoedd Dedwydd, Ceuta, Melilla na’r Gweinyddiaethau Tramor Ffrengig; ac

ystyr “wedi ei lanio” (“landed”) yw wedi ei gyflwyno i Gymru drwy unrhyw fodd, gan gynnwys drwy’r post, ac mae “glanio” (“land” a “landing”) i’w ddehongli yn unol â hynny.

(2Oni ddarperir yn benodol fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at genws neu rywogaeth i’w ddehongli fel cyfeiriad at y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno neu at unrhyw un neu ragor o’i gymysgrywiau neu ei chymysgrywiau.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at yr Undeb Ewropeaidd, at Aelod-wladwriaeth neu at drydedd wlad yn cynnwys cyfeiriad at dalaith, gwlad, tywysogaeth, ardalaeth neu ranbarth o fewn yr Undeb Ewropeaidd, yr Aelod-wladwriaeth neu’r drydedd wlad, yn ôl y digwydd.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif neu Atodlen â rhif heb unrhyw gyfeiriad cyfatebol at offeryn penodol i’w ddehongli fel cyfeiriad at yr erthygl neu’r Atodlen sydd â’r rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.

(5Mae cyfeiriadau at yr offerynnau a ganlyn gan yr Undeb Ewropeaidd i’w dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd—

(a)Penderfyniad 2002/757/EC;

(b)Penderfyniad 2004/416/EC;

(c)Penderfyniad 2006/473/EC;

(d)Penderfyniad 2007/365/EC;

(e)Penderfyniad 2007/433/EC;

(f)Cyfarwyddeb 2008/61/EC;

(g)Rheoliad (EC) Rhif 690/2008;

(h)Penderfyniad 2012/138/EU;

(i)Penderfyniad 2012/270/EU;

(j)Penderfyniad 2012/697/EU;

(k)Penderfyniad 2014/422/EU;

(l)Penderfyniad (EU) 2015/789;

(m)Penderfyniad (EU) 2015/893;

(n)Penderfyniad (EU) 2016/715;

(o)Penderfyniad (EU) 2017/198.

RHAN 2Mewnforion o drydydd gwledydd

Dehongli Rhan 2

3.  Yn y Rhan hon—

ystyr “ardal rheolaeth iechyd planhigion” (“area of plant health control”), mewn perthynas â deunydd perthnasol hysbysadwy sydd wedi ei lanio, yw—

(a)

ei fan cyrraedd; neu

(b)

pan fo’r deunydd wedi ei symud o dan weithdrefnau tollau priodol i ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig neu fan arolygu cymeradwy, yr ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig neu’r man arolygu cymeradwy;

ystyr “ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig” (“designated area of plant health control”) yw man sy’n agos at fan cyrraedd sydd wedi ei ddynodi’n ardal rheolaeth iechyd planhigion gan Weinidogion Cymru a Chomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;

ystyr “y Cod Tollau” (“the Customs Code”) yw Rheoliad (EU) Rhif 952/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod Cod Tollau’r Undeb(26);

mae i “corff swyddogol y gyrchfan” yr un ystyr ag a roddir i “official body of destination” yn Erthygl 2(1)(l) o Gyfarwyddeb 2000/29/EC;

ystyr “deunydd perthnasol hysbysadwy” (“notifiable relevant material”) yw unrhyw ddeunydd perthnasol—

(a)

o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 5; neu

(b)

o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B o Atodlen 5; ac—

(i)

a bennir yng ngholofn 2 o Ran C o Atodlen 4;

(ii)

a restrir yn ail golofn Atodiad II Rhan B ac sydd wrthi’n cael ei draddodi i barth gwarchod a gydnabyddir fel parth gwarchod ar gyfer y plâu planhigion a bennir mewn cysylltiad â’r deunydd perthnasol hwnnw yng ngholofn gyntaf Atodiad II Rhan B; neu

(iii)

a restrir yng ngholofn gyntaf Atodiad IV Rhan B ac sydd wrthi’n cael ei draddodi i barth gwarchod a gydnabyddir fel parth gwarchod ar gyfer y plâu planhigion a bennir mewn cysylltiad â’r deunydd perthnasol hwnnw yn Atodiad IV Rhan B;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”), mewn perthynas â’r gofynion hysbysu yn erthyglau 6(2)(c)(ii) ac 16(3) a’r cyfnod y caniateir cadw deunydd amdano o dan erthygl 14(1), yw cyfnod o bedair awr ar hugain nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl y banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(27);

ystyr “man arolygu cymeradwy” (“approved place of inspection”) yw man sydd wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 17;

ystyr “man cyrraedd” (“point of entry”) yw—

(a)

yn achos deunydd perthnasol sy’n cyrraedd drwy hedfan, y maes awyr lle mae’r deunydd yn cyrraedd gyntaf;

(b)

yn achos deunydd perthnasol sy’n cyrraedd ar drafnidiaeth forol neu afonol, y porthladd lle mae’r deunydd yn cyrraedd gyntaf; neu

(c)

yn achos deunydd perthnasol sy’n cyrraedd ar y rheilffordd, y derfynfa llwyth rheilffordd lle mae’r deunydd yn cyrraedd gyntaf.

Cymhwyso Rhan 2

4.  Mae’r Rhan hon—

(a)yn gymwys i blâu planhigion a deunydd perthnasol a gyflwynir i Gymru o drydedd wlad, naill ai’n uniongyrchol neu drwy ran arall o’r Undeb Ewropeaidd; a

(b)yn gymwys yn unig i nwyddau tramwy yr UE y mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am faterion penodol mewn cysylltiad â hwy yn rhinwedd cytundeb tramwy UE.

Gwaharddiadau a chyfyngiadau ar lanio plâu planhigion a deunydd perthnasol

5.—(1Ni chaiff unrhyw berson lanio—

(a)unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1;

(b)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2 sy’n cario neu wedi ei heintio â phla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn unrhyw gofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Atodlen 2;

(c)unrhyw bla planhigion, er nad yw wedi ei bennu yn Atodlen 1 nac yng ngholofn 3 o Atodlen 2, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr;

(d)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 3 sy’n tarddu o drydedd wlad a bennir yn y cofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Atodlen 3;

(e)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A o Atodlen 4, oni chydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran A o Atodlen 4; neu

(f)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran C o Atodlen 4, oni chydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran C o Atodlen 4.

(2Nid yw’r gwaharddiad ym mharagraff (1)(d) yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol—

(a)sydd wrthi’n cael ei draddodi rhwng dwy drydedd wlad o dan weithdrefnau tollau priodol a heb unrhyw newid mewn statws tollau; a

(b)sy’n cael ei gludo mewn modd sy’n atal plâu planhigion rhag dianc yn ddamweiniol.

(3Nid yw paragraff (1)(e) yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol a waherddir rhag ei lanio o dan baragraff (1)(d).

(4Mae paragraff (1)(e) ac (f) yn ddarostyngedig i erthygl 8(1).

Hysbysu ymlaen llaw ynglŷn â glanio

6.—(1Ni chaiff unrhyw berson lanio unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy, pan fo Cymru yn fan cyrraedd yr Undeb Ewropeaidd iddo, oni bai y rhoddir hysbysiad yn unol â’r erthygl hon.

(2Rhaid i hysbysiad—

(a)bod yn unol â gofynion Atodlen 11;

(b)cael ei roi i Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad penodedig; ac

(c)cael ei roi mewn pryd er mwyn cyrraedd y cyfeiriad penodedig—

(i)yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol y deuir ag ef drwy hedfan, o leiaf bedair awr waith cyn i’r deunydd perthnasol gael ei lanio; a

(ii)mewn unrhyw achos arall, o leiaf dri diwrnod gwaith cyn i’r deunydd perthnasol gael ei lanio.

(3Yn achos ffrwythau sitrws ar gyfer eu prosesu, rhaid cynnwys enwau, cyfeiriadau a lleoliadau’r mangreoedd y mae’r ffrwythau i’w prosesu ynddynt o dan eitem 13 o’r hysbysiad a nodir yn Atodlen 11.

(4Os gall person ddangos yn rhesymol nad oedd yn bosibl rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff (2)(c) am nad oedd y person yn ymwybodol bod y deunydd wedi ei draddodi, caiff y person roi hysbysiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(5Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i erthyglau 8(1), 16 a 30(3).

(6Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “cyfeiriad penodedig” (“specified address”) yw’r cyfeiriad a roddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd at ddibenion yr erthygl hon;

(b)ystyr “awr waith” (“working hour”) yw cyfnod o un awr yn ystod diwrnod gwaith.

Gofynion am dystysgrifau

7.—(1Ni chaiff unrhyw berson lanio unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy oni bai bod tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn mynd gyda’r deunydd, fel a bennir ym mharagraffau (2) i (5).

(2Yn achos deunydd tramwy sydd wedi ei rannu, ei gyfuno â llwythi eraill neu ei ailbecynnu, rhaid i dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio a ddyroddwyd yn y wlad dramwy fynd gyda’r deunydd perthnasol.

(3Yn achos deunydd tramwy sydd, neu y gallai fod, wedi bod yn agored i’w heintio neu i’w halogi gan unrhyw bla planhigion, nad yw’r un deunydd ag a oedd yn y llwyth gwreiddiol neu sydd wedi ei brosesu er mwyn newid ei natur, rhaid i dystysgrif ffytoiechydol a ddyroddwyd yn y wlad dramwy fynd gyda’r deunydd perthnasol.

(4Yn achos deunydd perthnasol o ddisgrifiad a restrir yng ngholofn gyntaf Atodiad IV Rhan B, pan na ellir ond bodloni’r gofyniad neu’r gofynion a bennir mewn cofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yn ail golofn Atodiad IV Rhan B yn y wlad y mae’r deunydd perthnasol yn tarddu ohoni, rhaid i dystysgrif ffytoiechydol a ddyroddwyd yn y wlad y mae’n tarddu ohoni fynd gyda’r deunydd perthnasol.

(5Mewn unrhyw achos arall, rhaid i dystysgrif ffytoiechydol a ddyroddwyd yn y wlad y mae’r deunydd perthnasol yn tarddu ohoni neu y cafodd ei draddodi ohoni fynd gyda’r deunydd hwnnw.

(6Rhaid i’r dystysgrif ffytoiechydol fod y dystysgrif wreiddiol a rhaid i’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio fod y dystysgrif wreiddiol neu gopi o’r dystysgrif wreiddiol a ardystiwyd gan swyddog awdurdodedig.

(7Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol—

(a)sydd wrthi’n cael ei draddodi rhwng dwy drydedd wlad o dan weithdrefnau tollau priodol neu sydd wedi ei draddodi i Gymru o ran arall o’r Undeb Ewropeaidd drwy drydedd wlad;

(b)nad oes unrhyw newid yn dod i’w ran o ran statws tollau; ac

(c)sy’n cael ei gludo mewn modd sy’n atal plâu planhigion rhag dianc yn ddamweiniol.

(8Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i erthyglau 8(1) a 30(1) a (2).

(9Ym mharagraffau (2) a (3), ystyr “deunydd tramwy” (“transit material”) yw deunydd perthnasol a draddodir i Gymru drwy drydedd wlad ar ffurf tramwyad.

Eithriadau rhag gwaharddiadau a gofynion penodol

8.—(1Nid yw’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys i unrhyw eitemau esempt a gyflwynir i Gymru ym mhaciau teithiwr neu dramwywr arall os yw’r eitemau’n bodloni’r amodau ym mharagraff (2)—

(a)erthygl 5(1)(e) ac (f);

(b)erthygl 6(1);

(c)erthygl 7(1);

(d)erthygl 10(1).

(2Yr amodau yw—

(a)nad yw’r eitemau esempt yn arddangos unrhyw arwyddion bod pla planhigion yn bresennol;

(b)na fwriedir i’r eitemau esempt gael eu defnyddio wrth fasnachu neu redeg busnes; ac

(c)y bwriedir yr eitemau esempt at ddefnydd aelwydydd.

(3Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “eitemau esempt” (“exempt items”) yw—

(i)ffrwythau a llysiau amrwd (ac eithrio tatws), nad yw cyfanswm eu pwysau yn fwy na dau kg;

(ii)un tusw o flodau wedi eu torri (a gaiff gynnwys rhannau o blanhigion);

(iii)pecynnau o hadau, ac eithrio hadau tatws neu Fraxinus L., nad yw eu cyfanswm yn fwy na phum paced;

(iv)bylbiau, cormau, cloron, ac eithrio tatws, a risomau, a dyfwyd yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir ac a draddodwyd ohoni, ac nad yw cyfanswm eu pwysau yn fwy na dau kg; neu

(v)planhigion ar gyfer eu plannu, ac eithrio bylbiau, cormau, cloron neu risomau neu blanhigion Fraxinus L. a fwriedir ar gyfer eu plannu, a dyfwyd yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir ac a draddodwyd ohoni ac nad yw eu cyfanswm yn fwy na phump;

(b)ystyr “pecyn o hadau” (“packet of seeds”) yw pecyn o hadau o fath a werthir i’r defnyddiwr fel arfer ac eithrio i’w ddefnyddio wrth fasnachu neu redeg busnes neu becyn o hadau o faint tebyg.

Cyflwyno ac arddangos dogfennau

9.—(1Rhaid i’r mewnforiwr ddarparu i arolygydd, o fewn tri diwrnod i lwyth gael ei lanio, unrhyw dystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio y mae’n ofynnol o dan erthygl 7 iddi fynd gyda llwyth o ddeunydd perthnasol hysbysadwy.

(2Rhaid i fewnforiwr llwyth o ddeunydd perthnasol hysbysadwy gynnwys mewn dogfen dollau sy’n ymwneud â’r llwyth—

(a)datganiad sy’n dweud “this consignment contains produce of phytosanitary relevance”;

(b)cyfeirnod y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio y mae’n ofynnol iddi fynd gyda’r llwyth o dan erthygl 7; ac

(c)rhif cofrestru’r mewnforiwr.

(3Yn achos llwyth sy’n cynnwys deunydd perthnasol hysbysadwy ac sy’n cael ei fewnforio i Gymru drwy’r post, rhaid i’r mewnforiwr sicrhau bod unrhyw dystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio y mae’n ofynnol iddi fynd gyda’r llwyth o dan erthygl 7 ynghlwm i du allan y pecyn o’r deunydd perthnasol.

(4Ond os oes mwy nag un pecyn o ddeunydd perthnasol hysbysadwy yn y llwyth, rhaid i’r mewnforiwr sicrhau bod y dystysgrif ynghlwm i du allan un o’r pecynnau o ddeunydd perthnasol hysbysadwy a bod copïau o’r dystysgrif ynghlwm i du allan pob un o’r pecynnau o ddeunydd perthnasol hysbysadwy sy’n weddill yn y llwyth.

(5Ym mharagraff (2), ystyr “dogfen dollau” (“customs document”) yw dogfen sy’n ofynnol gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer gosod deunydd perthnasol o dan un o’r gweithdrefnau a bennir yn Erthygl 5(16)(a) a (b) o’r Cod Tollau.

Gwaharddiad ar symud deunydd perthnasol o’i ardal rheolaeth iechyd planhigion

10.—(1Ni chaiff unrhyw berson symud unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy na pheri i unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy gael ei symud o’i ardal rheolaeth iechyd planhigion oni bai bod arolygydd wedi gollwng y deunydd o dan erthygl 12 neu y caniateir symud y deunydd o dan Ran 6.

(2Rhaid i’r mewnforiwr storio unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy sy’n cael ei ddal mewn man cyrraedd neu ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig o dan baragraff (1), o dan oruchwyliaeth arolygydd ac yn unol â’i gyfarwyddiadau.

(3Mae’r mewnforiwr yn atebol am gostau storio’r deunydd perthnasol hysbysadwy cyn iddo gael ei ryddhau.

Eithriadau rhag y gwaharddiad ar symud deunydd perthnasol o’i ardal rheolaeth iechyd planhigion

11.  Nid yw erthygl 10(1) yn gymwys i—

(a)unrhyw ddeunydd perthnasol sydd wrthi’n cael ei draddodi rhwng dwy drydedd wlad o dan weithdrefnau tollau priodol heb unrhyw newid mewn statws tollau ac sy’n cael ei gludo mewn modd sy’n atal plâu planhigion rhag dianc yn ddamweiniol;

(b)unrhyw ddeunydd perthnasol sy’n cael ei draddodi i Gymru o ran arall o’r Undeb Ewropeaidd drwy drydedd wlad heb unrhyw newid mewn statws tollau ac sy’n cael ei gludo mewn modd sy’n atal plâu planhigion rhag dianc yn ddamweiniol;

(c)unrhyw ddeunydd perthnasol sy’n ddarostyngedig i erthygl 8(1);

(d)unrhyw ddeunydd perthnasol sy’n ddarostyngedig i erthygl 30(3).

Gollyngiad iechyd planhigion

12.—(1Caiff arolygydd ollwng deunydd perthnasol hysbysadwy o’i ardal rheolaeth iechyd planhigion os yw’r arolygydd wedi ei fodloni—

(a)bod y deunydd perthnasol yn rhydd rhag unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1;

(b)yn achos deunydd perthnasol sydd wrthi’n cael ei draddodi i barth gwarchod, fod y deunydd perthnasol yn rhydd rhag unrhyw bla planhigion a restrir mewn cysylltiad â’r parth gwarchod hwnnw yng ngholofn gyntaf Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 690/2008;

(c)yn achos deunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2, nad yw’r deunydd perthnasol yn cario neu wedi ei heintio â phla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn unrhyw gofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Atodlen 2;

(d)yn achos deunydd perthnasol a restrir yn ail golofn Atodiad II Rhan B ac sydd wrthi’n cael ei draddodi i barth gwarchod a gydnabyddir fel parth gwarchod ar gyfer y plâu planhigion a restrir mewn cysylltiad â’r deunydd perthnasol hwnnw yng ngholofn gyntaf Atodiad II Rhan B, nad yw’r deunydd perthnasol yn cario neu wedi ei heintio â’r plâu planhigion;

(e)yn achos deunydd perthnasol a restrir yn Atodiad III Rhan B i Gyfarwyddeb 2000/29/EC, nad yw’r deunydd perthnasol yn cael ei draddodi i barth gwarchod ar gyfer Erwinia amylovora (Burr) Winsl et al.;

(f)yn achos deunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A neu C o Atodlen 4, fod y deunydd perthnasol yn cydymffurfio â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran A neu C o Atodlen 4 a, phan fo un neu ragor o ofynion eraill mewn unrhyw gofnod o’r fath, y gofyniad a ddatgenir yn y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio;

(g)yn achos deunydd perthnasol a restrir yng ngholofn gyntaf Atodiad IV Rhan B ac sydd wrthi’n cael ei draddodi i barth gwarchod a gydnabyddir fel parth gwarchod ar gyfer y plâu planhigion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r deunydd perthnasol hwnnw yn ail golofn Atodiad IV Rhan B, fod y deunydd perthnasol yn cydymffurfio â’r gofynion a restrir mewn cysylltiad â’r cofnodion hynny a, phan fo un neu ragor o ofynion eraill mewn unrhyw gofnod o’r fath, y gofyniad a ddatgenir yn y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio;

(h)bod y deunydd perthnasol yn cyfateb i’r disgrifiad a roddir iddo yn y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio; ac

(i)bod y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n ofynnol o dan erthygl 7 a, phan fo hynny’n briodol, ddogfen symud iechyd planhigion, yn mynd gyda’r deunydd perthnasol.

(2Caiff arolygydd, at ddiben cael ei fodloni ynglŷn â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) i (g), gynnal archwiliad o lwyth o ddeunydd perthnasol a’i ddeunydd pecynnu a, phan fo hynny’n angenrheidiol, y cerbyd sy’n cludo’r llwyth.

(3Caiff arolygydd, at ddiben cael ei fodloni ynglŷn â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(h), gynnal archwiliad o lwyth o ddeunydd perthnasol er mwyn penderfynu a yw’n cyfateb i’r disgrifiad ohono yn y dogfennau sy’n mynd gydag ef.

(4Yn achos deunydd perthnasol hysbysadwy sydd wrthi’n cael ei draddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd ac sy’n ddarostyngedig i gytundeb rhwng Gweinidogion Cymru a chorff swyddogol y gyrchfan mewn perthynas â’i draddodi i’w gyrchfan derfynol, nid oes ond angen i’r arolygydd fod wedi ei fodloni ynglŷn â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(i) ac unrhyw faterion eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) i (h) y mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol amdanynt o dan y cytundeb.

(5Yn achos nwyddau tramwy yr UE sy’n ddarostyngedig i gytundeb rhwng Gweinidogion Cymru a chorff swyddogol y man cyrraedd ar gyfer y nwyddau hynny, nid oes ond angen i’r arolygydd fod wedi ei fodloni ynglŷn â’r materion hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) i (h) y mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol amdanynt o dan y cytundeb.

(6Pan fo’r arolygydd wedi ei fodloni y caniateir gollwng y deunydd perthnasol o’i ardal rheolaeth iechyd planhigion, rhaid i’r arolygydd—

(a)stampio’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n ymwneud â’r deunydd perthnasol â stamp swyddogol Gweinidogion Cymru a’r dyddiad y darparwyd y dystysgrif yn unol ag erthygl 9(1); a

(b)pan fo hynny’n gymwys, lenwi penawdau perthnasol y ddogfen symud iechyd planhigion.

(7Caiff arolygydd, at ddiben cynnal gwiriad iechyd planhigion, ei gwneud yn ofynnol i’r meddiannydd, neu berson arall sydd â gofal am y fangre y mae’r gwiriad i’w gynnal ynddi, ddarparu—

(a)pan fo hynny’n briodol, ardaloedd arolygu addas;

(b)goleuo digonol; ac

(c)byrddau arolygu.

(8Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “archwilio” (“examination”), mewn perthynas â llwyth o ddeunydd perthnasol, yw archwilio’r llwyth yn ei gyfanrwydd neu ar sail un neu ragor o samplau cynrychioliadol o’r llwyth neu o bob lot sy’n ffurfio rhan o’r llwyth;

(b)mae i “lot” yr un ystyr ag a roddir i “lot” yn Erthygl 2(1)(o) o Gyfarwyddeb 2000/29/EC.

Gofyn i un o swyddogion Cyllid a Thollau i ddeunydd gael ei gadw

13.—(1Pan fo gan arolygydd sail resymol dros amau bod risg y gallai pla planhigion ledaenu o unrhyw ddeunydd perthnasol, caiff yr arolygydd ofyn i un o swyddogion Cyllid a Thollau arfer y pŵer yn erthygl 14(1) at ddiben galluogi’r arolygydd i orfodi unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn.

(2Mewn perthynas â chais o dan erthygl 13(1)—

(a)caiff adnabod y deunydd perthnasol mewn unrhyw ffordd; a

(b)rhaid iddo gael ei wneud yn ysgrifenedig neu gael ei wneud ar lafar a’i gadarnhau yn ysgrifenedig.

(3Pan fo arolygydd yn dyroddi hysbysiad neu’n cymryd unrhyw gam arall o dan y Gorchymyn hwn mewn cysylltiad â deunydd perthnasol a gedwir gan un o swyddogion Cyllid a Thollau o dan erthygl 14(1), rhaid i’r arolygydd hysbysu’r swyddog am yr hysbysiad neu’r cam.

Pŵer un o swyddogion Cyllid a Thollau

14.—(1Caiff un o swyddogion Cyllid a Thollau, pan fo arolygydd yn gofyn iddo wneud hynny yn unol ag erthygl 13(1), gadw am ddim mwy na dau ddiwrnod gwaith unrhyw ddeunydd perthnasol neu unrhyw gynhwysydd, unrhyw becyn neu unrhyw gargo o unrhyw fath sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r deunydd hwnnw neu y gallai fod wedi bod mewn cysylltiad â’r deunydd hwnnw ac y cyfeirir ato yn y cais hwnnw, os yw’r deunydd, y cynhwysydd, y pecyn neu’r cargo o dan oruchwyliaeth tollau yn unol ag Erthygl 134 o’r Cod Tollau.

(2Caiff Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi roi cyfarwyddydau ynglŷn â sut i ymdrin ag unrhyw ddeunydd perthnasol a gedwir o dan baragraff (1) yn ystod y cyfnod pan gaiff ei gadw.

(3Mewnforiwr unrhyw ddeunydd perthnasol a gedwir o dan baragraff (1) sy’n gyfrifol am gostau storio’r deunydd yn ystod y cyfnod pan gaiff ei gadw.

Darpariaethau cyffredinol sy’n ymwneud â thystysgrifau

15.—(1Mewn perthynas â thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n mynd gyda deunydd perthnasol hysbysadwy o dan erthygl 7—

(a)rhaid ei bod wedi ei llenwi ddim mwy na 14 o ddiwrnodau cyn dyddiad anfon y llwyth o ddeunydd perthnasol y mae’n mynd gydag ef;

(b)rhaid ei bod wedi ei dyroddi gan gorff swyddogol cyfrifol neu sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol y wlad yr allforir neu yr ailallforir ohoni yn unol â darpariaethau Erthygl V(1) o’r CRhWP;

(c)rhaid ei bod wedi ei llenwi gan swyddog awdurdodedig;

(d)rhaid ei bod wedi ei dyroddi yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd;

(e)pan fo wedi ei dyroddi mewn iaith ac eithrio Saesneg, rhaid iddi ymgorffori cyfieithiad i’r Saesneg, neu rhaid i gyfieithiad i’r Saesneg fynd gyda hi ac, os yw’r cyfieithiad yn ddogfen ar wahân i’r dystysgrif, rhaid ei bod wedi ei llenwi a’i llofnodi gan swyddog awdurdodedig;

(f)rhaid ei bod wedi ei chyfeirio at y “Plant Protection Organisations of the Member States of the European Union”; ac

(g)rhaid iddi gael ei llenwi mewn teipysgrif neu briflythrennau.

(2Pan fo, mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A neu C o Atodlen 4, un neu ragor o ofynion eraill wedi eu pennu mewn cofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran A neu C o’r Atodlen honno, rhaid i’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio a ddyroddir mewn cysylltiad ag unrhyw ddeunydd perthnasol o’r disgrifiad hwnnw bennu, o dan y pennawd “Additional declaration”, ba ofyniad penodol y cydymffurfiwyd ag ef gan gyfeirio at y lleoliad perthnasol yn Adran I o Atodiad IV Rhan A neu Atodiad IV Rhan B.

Gofynion sydd i’w bodloni gan nwyddau tramwy yr UE neu ddeunydd perthnasol sydd wedi ei fwriadu ar gyfer man arolygu cymeradwy

16.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i ddeunydd perthnasol hysbysadwy—

(a)sy’n ddarostyngedig i gytundeb y cyfeirir ato yn erthygl 12(4);

(b)sy’n ddarostyngedig i gytundeb y cyfeirir ato yn erthygl 12(5) ac nad yw wedi ei ollwng na’i ryddhau o’i ardal rheolaeth iechyd planhigion o dan erthygl 10(1); neu

(c)sydd wedi ei fwriadu ar gyfer man arolygu cymeradwy.

(2Ni chaniateir symud unrhyw ddeunydd perthnasol y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo o fewn Cymru neu, pan fo hynny’n gymwys, o Gymru i unrhyw fan arall o fewn yr Undeb Ewropeaidd, oni bai—

(a)bod ei ddeunydd pecynnu a’r cerbyd y mae’n cael ei gludo ynddo wedi eu selio yn y fath fodd fel nad oes unrhyw risg y gallai’r deunydd perthnasol achosi heigiad, heintiad neu halogiad neu fod newid yn digwydd o ran beth yw’r deunydd; neu

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi awdurdodi ei symud.

(3Rhaid i fewnforiwr unrhyw ddeunydd perthnasol y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo, ac eithrio deunydd perthnasol y mae ei gyrchfan yn rhywle arall yn yr Undeb Ewropeaidd, hysbysu Gweinidogion Cymru am y manylion a ganlyn yn ddim hwyrach na phum diwrnod gwaith cyn i’r deunydd gael ei lanio—

(a)enw, cyfeiriad a lleoliad y man arolygu cymeradwy neu’r ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig a fydd yn gyrchfan i’r deunydd perthnasol neu, os nad man arolygu cymeradwy nac ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig yw’r gyrchfan, y man y bwriedir iddo gyrraedd Cymru;

(b)y dyddiad a’r amser y disgwylir y bydd y deunydd perthnasol yn cyrraedd y man y cyfeirir ato yn is-baragraff (a);

(c)os yw ar gael, rif cyfresol unigol unrhyw ddogfen symud iechyd planhigion sy’n ofynnol gan erthygl 17(6)(a);

(d)os ydynt ar gael, y dyddiad a’r man y lluniwyd y ddogfen symud iechyd planhigion;

(e)enw, cyfeiriad a rhif cofrestru’r mewnforiwr; ac

(f)cyfeirnod y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio y mae’n ofynnol iddi fynd gyda’r deunydd perthnasol o dan erthygl 7.

(4Rhaid i’r mewnforiwr hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith am unrhyw newidiadau i’r manylion y mae’r mewnforiwr wedi eu rhoi o dan baragraff (3).

(5Rhaid rhoi’r hysbysiad i Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad a roddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd at ddibenion yr erthygl hon.

Mannau arolygu cymeradwy a gofynion ar gyfer dogfennau symud iechyd planhigion

Mannau arolygu cymeradwy

17.—(1Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo man a all fod yn gyrchfan i ddeunydd perthnasol hysbysadwy fel man lle caiff arolygydd gynnal gwiriadau iechyd planhigion a gwiriadau adnabod mewn cysylltiad â’r deunydd hwnnw.

(2Caiff mewnforiwr neu berson arall sy’n gyfrifol am y man hwnnw wneud cais i Weinidogion Cymru am gymeradwyaeth o dan baragraff (1) ar y ffurf ac yn cynnwys yr wybodaeth a bennir gan Weinidogion Cymru.

(3Caniateir i gymeradwyaeth gael ei rhoi yn ddarostyngedig i amodau, gan gynnwys amodau sy’n ymwneud â storio’r deunydd perthnasol neu â nwyddau tramwy yr UE, a chaniateir ei thynnu yn ôl ar unrhyw adeg os nad yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bellach bod y man y mae’r gymeradwyaeth yn ymwneud ag ef yn addas at y diben y rhoddwyd y gymeradwyaeth.

(4Ni chaiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo man fel man arolygu cymeradwy onid yw Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cymeradwyo’r man i’w ddefnyddio fel cyfleuster storio dros dro.

(5Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “cyfleuster storio dros dro” yw cyfleuster storio dros dro o fewn yr ystyr a roddir i “temporary storage facility” yn Erthygl 148 o’r Cod Tollau;

(b)ystyr “gwiriad adnabod” (“identity check”) yw archwiliad a gynhelir o dan erthygl 12(3).

Gofynion ar gyfer dogfennau symud iechyd planhigion

(6Ni chaiff unrhyw berson symud dim o’r deunydd perthnasol hysbysadwy a ganlyn oni bai bod dogfen symud iechyd planhigion yn mynd gydag ef—

(a)deunydd perthnasol hysbysadwy sy’n ddarostyngedig i gytundeb tramwy UE ac sy’n cael ei symud i’w ardal rheolaeth iechyd planhigion yng Nghymru;

(b)deunydd perthnasol hysbysadwy sy’n ddarostyngedig i gytundeb y cyfeirir ato yn erthygl 12(4) ac sy’n cael ei symud o fewn Cymru neu o Gymru i unrhyw fan arall o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

RHAN 3Rheolaethau mewnol yr UE ar symud

Gwaharddiadau ar gyflwyno plâu planhigion a deunydd perthnasol o’r Undeb Ewropeaidd

18.—(1Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno dim o’r plâu planhigion a’r deunydd perthnasol a ganlyn i Gymru o ran arall o’r Undeb Ewropeaidd—

(a)unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1;

(b)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2 sy’n cario neu wedi ei heintio â phla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn unrhyw gofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Atodlen 2;

(c)unrhyw bla planhigion, er nad yw wedi ei bennu yn Atodlen 1 nac yng ngholofn 3 o Atodlen 2, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr;

(d)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 3 sy’n tarddu o drydedd wlad a bennir yn y cofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Atodlen 3;

(e)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A o Atodlen 4, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran A o Atodlen 4;

(f)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran B o Atodlen 4, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran B o Atodlen 4;

(g)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran C o Atodlen 4, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran C o Atodlen 4.

(2Mae paragraff (1) yn gymwys i’r plâu planhigion a’r deunydd perthnasol penodedig pa un a ydynt yn tarddu o ran arall o’r Undeb Ewropeaidd neu o drydedd wlad.

(3Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A neu C o Atodlen 4 y mae Rhan 2 yn gymwys iddi.

(4Nid yw paragraff (1)(e) ac (f) yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol a waherddir rhag cael ei gyflwyno i Gymru o dan baragraff (1)(d).

(5Ni chaiff unrhyw berson ddod â dim o’r tatws a ganlyn i Gymru oni bai y darperir hysbysiad ysgrifenedig am y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) i arolygydd o leiaf ddau ddiwrnod cyn y dyddiad y bwriedir iddynt gyrraedd—

(a)tatws hadyd a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu mewn Aelod-wladwriaeth arall neu yn y Swistir; neu

(b)tatws, ac eithrio tatws hadyd, a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu yng Ngwlad Pwyl, Portiwgal, Rwmania neu unrhyw ran o Sbaen sydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

(6Y materion yw—

(a)yr amser a’r dyddiad y bwriedir iddynt gyrraedd;

(b)y defnydd arfaethedig ohonynt;

(c)eu cyrchfan arfaethedig;

(d)eu hamrywogaeth a’u nifer; ac

(e)rhif adnabod cynhyrchydd y tatws.

(7Yn achos ffrwythau sitrws hysbysadwy, rhaid i’r person sy’n cyflwyno’r ffrwythau i’r Undeb Ewropeaidd drwy fan cyrraedd mewn rhan arall o’r Undeb Ewropeaidd ddarparu hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad penodedig, cyn iddynt gyrraedd y man cyrraedd hwnnw, am—

(a)y dyddiad y disgwylir iddynt gael eu cyflwyno i’r Undeb Ewropeaidd;

(b)eu man cyrraedd yn yr Undeb Ewropeaidd;

(c)eu cyfaint;

(d)rhifau adnabod eu cynwysyddion;

(e)enwau, cyfeiriadau a lleoliadau’r mangreoedd yng Nghymru y maent i’w prosesu ynddynt.

(8Mae paragraffau (1)(e), (f) ac (g) a (5) yn ddarostyngedig i erthygl 22.

(9Yn yr erthygl hon—

ystyr “cyfeiriad penodedig” (“specified address”) yw’r cyfeiriad a roddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd at ddibenion paragraff (7);

ystyr “ffrwythau sitrws hysbysadwy” (“notifiable citrus fruits”) yw ffrwythau sitrws i’w prosesu sydd i’w cyflwyno i’r Undeb Ewropeaidd drwy fan cyrraedd mewn Aelod-wladwriaeth arall a’u prosesu’n sudd yng Nghymru.

Hysbysu am lanio planhigion penodol ar gyfer eu plannu

19.—(1Rhaid i berson sy’n dod â’r planhigion a ganlyn i Gymru hysbysu arolygydd yn ysgrifenedig am y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) cyn y dyddiad y maent yn cyrraedd Cymru, neu’n ddim hwyrach na phedwar diwrnod ar ôl hynny—

(a)planhigion Castanea Mill., Fraxinus L., Pinus L., Platanus L., Prunus L., Quercus L. neu Ulmus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu mewn Aelod-wladwriaeth arall; neu

(b)planhigion Castanea Mill., Fraxinus L., Pinus L., Platanus L., Prunus L., Quercus L. neu Ulmus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu yn y Swistir ac nad yw gofynion erthygl 6 yn gymwys iddynt.

(2Y materion yw—

(a)y dyddiad y bwriedir iddynt gyrraedd neu, os ydynt wedi cyrraedd Cymru, y dyddiad y gwnaethant gyrraedd Cymru gyntaf;

(b)eu cyrchfan arfaethedig, neu os ydynt wedi cyrraedd eu cyrchfan arfaethedig yng Nghymru, eu lleoliad presennol;

(c)eu genws, eu rhywogaeth a’u nifer;

(d)rhif adnabod cyflenwr y planhigion; ac

(e)y wlad y maent wedi eu traddodi ohoni, neu y maent i’w traddodi iddi.

(3Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i erthygl 22.

Atal plâu planhigion rhag lledaenu

20.—(1Ni chaiff unrhyw berson gadw, storio, plannu, gwerthu na symud y canlynol yn fwriadol, na pheri na chaniatáu yn fwriadol i’r canlynol gael eu cadw, eu storio, eu plannu, eu gwerthu na’u symud—

(a)unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1;

(b)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2 sy’n cario neu wedi ei heintio â phla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn unrhyw gofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Atodlen 2;

(c)unrhyw bla planhigion, er nad yw wedi ei bennu yn Atodlen 1 nac yng ngholofn 3 o Atodlen 2, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr;

(d)unrhyw ddeunydd perthnasol a gyflwynwyd i Gymru gan dorri erthygl 5(1)(d), (e) neu (f) neu erthygl 18(1)(d), (e), (f) neu (g);

(e)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran B o Atodlen 4 sy’n tarddu o Brydain Fawr, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran B o Atodlen 4;

(f)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran C o Atodlen 4 sy’n tarddu o Brydain Fawr, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran C o Atodlen 4;

(g)unrhyw ddeunydd perthnasol a gyflwynwyd i Gymru o Loegr neu o’r Alban a fyddai, pe bai wedi ei gyflwyno o drydedd wlad neu o ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, wedi torri erthygl 5(1)(d), (e) neu (f) neu erthygl 18(1)(d), (e), (f) neu (g).

(2Nid yw’r gwaharddiadau ym mharagraff (1) yn gymwys i unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol y mae’n ofynnol ei gadw, ei storio neu ei symud gan gydymffurfio â gofyniad a osodir gan arolygydd o dan Ran 6 neu 7.

(3Mae paragraff (1)(e) ac (f) yn ddarostyngedig i erthygl 22.

(4Yn yr erthygl hon, mae “symud” (“move” a “moved”) yn golygu symud neu waredu fel arall.

Y gofynion am basbortau planhigion

21.—(1Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno i Gymru, na symud o fewn Cymru, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 6 pan fo’n nwyddau tramwy yr UE neu’n tarddu o Gymru neu o rywle arall yn yr Undeb Ewropeaidd, oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gyda’r deunydd perthnasol ac, os yw’n tarddu o Gymru, ei fod wedi bod yn destun arolygiad boddhaol yn y man cynhyrchu.

(2Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno i Gymru, na symud o fewn Cymru, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B o Atodlen 6 pan fo’n nwyddau tramwy yr UE neu’n tarddu o Gymru neu o rywle arall yn yr Undeb Ewropeaidd, oni bai bod pasbort planhigion sy’n ddilys ar gyfer Cymru fel parth gwarchod yn mynd gyda’r deunydd perthnasol ac, os yw’n tarddu o Gymru, ei fod wedi bod yn destun arolygiad boddhaol yn y man cynhyrchu.

(3Ni chaiff unrhyw berson symud o fewn Cymru unrhyw ddeunydd perthnasol sydd wedi ei ollwng o dan erthygl 12 ac sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 6, oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gydag ef.

(4Ni chaiff unrhyw berson symud o fewn Cymru unrhyw ddeunydd perthnasol sydd wedi ei ollwng o dan erthygl 12 ac sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B o Atodlen 6, oni bai bod pasbort planhigion sy’n ddilys ar gyfer Cymru fel parth gwarchod yn mynd gydag ef.

(5Ni chaiff unrhyw berson draddodi o Gymru i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 7, oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gyda’r deunydd perthnasol.

(6Ni chaiff unrhyw berson draddodi o Gymru i barth gwarchod mewn rhan arall o’r Undeb Ewropeaidd unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B o Atodlen 7, oni bai bod pasbort planhigion sy’n ddilys ar gyfer y parth gwarchod hwnnw yn mynd gyda’r deunydd perthnasol.

(7Ni chaiff unrhyw berson symud o fewn Cymru na thraddodi o Gymru i barth gwarchod mewn rhan arall o’r Undeb Ewropeaidd a gydnabyddir fel parth gwarchod mewn perthynas â Thaumetopoea processionea L., unrhyw blanhigion, ac eithrio hadau, Quercus spp., ac eithrio Quercus suber, a fwriedir ar gyfer eu plannu, oni bai bod dogfennaeth swyddogol sy’n cadarnhau eu bod yn rhydd rhag Thaumetopoea processionea L. yn mynd gyda hwy.

(8Nid yw’r gofynion ym mharagraffau (1) a (2) yn gymwys mewn perthynas â chyflwyno i Gymru ddeunydd perthnasol y mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno, o dan gytundeb tramwy UE, i gynnal gwiriad iechyd planhigion mewn cysylltiad ag ef.

(9Mae paragraffau (1), (2), (5) a (6) yn ddarostyngedig i erthygl 22.

(10Mae paragraffau (2) a (4) yn ddarostyngedig i erthygl 23.

Eithriadau rhag gwaharddiadau a gofynion penodol

22.—(1Nid yw’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys i symiau bach o ddeunydd perthnasol, ac eithrio deunydd eithriedig, os yw’r deunydd perthnasol yn bodloni’r amodau ym mharagraff (2)—

(a)erthygl 18(1)(e), (f) ac (g) a (5);

(b)erthygl 19(1);

(c)erthygl 20(1)(e) ac (f); a

(d)erthygl 21(1), (2), (5) a (6).

(2Yr amodau yw—

(a)nad yw’r deunydd perthnasol yn dangos unrhyw arwyddion bod pla planhigion yn bresennol;

(b)na fwriedir i’r deunydd perthnasol gael ei ddefnyddio wrth fasnachu neu redeg busnes; ac

(c)y bwriedir y deunydd perthnasol at ddefnydd aelwydydd.

(3Nid yw’r gofynion yn erthygl 21(1) yn gymwys i blanhigion a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio hadau, na allant ond tyfu mewn dŵr neu bridd sydd wedi ei drwytho â dŵr yn barhaol, sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/697/EU ac nad ydynt ond yn cael eu symud o fewn yr ardal honno.

(4Mae’r gofynion yn erthygl 21(1) a (5) a fyddai’n gymwys yn rhinwedd paragraffau 16 a 17 o Ran A o Atodlenni 6 a 7 i blanhigion cynhaliol Xylella o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad (EU) 2015/789 ac i blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunydd cyn-sylfaenol y cyfeirir atynt yn Erthygl 9(9) o’r Penderfyniad hwnnw yn anghymwys pan fo’r planhigion yn cael eu symud gan berson sy’n gweithredu at ddibenion y tu allan i fasnach, busnes neu broffesiwn y person, a’r person yn eu caffael at ddefnydd personol.

(5Caiff Gweinidogion Cymru eithrio symud deunydd perthnasol sy’n tarddu o Brydain Fawr o’r gwaharddiad ar symud yn erthygl 21(1) neu (2) os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)bod y symudiad yn cael ei wneud yn lleol gan gynhyrchwyr neu broseswyr bach y bwriedir y broses gyfan o gynhyrchu a gwerthu deunydd o’r fath ar gyfer defnyddio’r deunydd yn y pen draw gan bersonau yn y farchnad leol nad ydynt yn ymwneud yn broffesiynol â chynhyrchu planhigion; a

(b)nad oes unrhyw risg y bydd y plâu planhigion yn lledaenu neu’n cael eu lledaenu o ganlyniad i’r symudiad hwnnw.

(6Ym mharagraff (1), ystyr “deunydd eithriedig” (“excluded material”) yw unrhyw un neu ragor o’r deunydd a ganlyn—

(a)planhigion Castanea Mill. a fwriedir ar gyfer eu plannu;

(b)planhigion Fraxinus L. a fwriedir ar gyfer eu plannu;

(c)planhigion, ac eithrio hadau, Platanus L, a fwriedir ar gyfer eu plannu.

Dilysrwydd pasbortau planhigion ar gyfer Cymru

23.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B o Atodlen 6 a symudir o fan yng Nghymru, neu drwy Gymru, i leoliad y tu allan i Gymru.

(2Nid yw’r gofynion yn erthygl 21(2) a (4) yn gymwys os yw—

(a)y deunydd perthnasol yn tarddu o Brydain Fawr; neu

(b)dogfen o fath a ddefnyddir fel arfer at ddibenion masnach, sy’n ardystio bod y deunydd yn tarddu y tu allan i Gymru a’i fod yn tramwyo i gyrchfan derfynol y tu allan i Gymru a bod yr amodau ym mharagraff (3) wedi eu bodloni, yn mynd gyda’r deunydd perthnasol wrth iddo dramwyo drwy Gymru.

(3Yr amodau yw—

(a)bod y deunydd pecynnu y caiff y deunydd perthnasol ei gludo ynddo ac unrhyw gerbyd a ddefnyddir i gludo’r deunydd yn rhydd rhag pridd a malurion planhigion ac unrhyw bla planhigion perthnasol y mae Cymru yn barth gwarchod mewn perthynas ag ef;

(b)y cafodd y deunydd ei selio yn union ar ôl ei becynnu neu, pan fo hynny’n briodol, ar ôl ei lwytho, a’i fod yn parhau i fod wedi ei selio wrth i’r deunydd dramwyo drwy Gymru; ac

(c)bod natur neu wneuthuriad y deunydd pecynnu y caiff y deunydd ei gludo ynddo ac unrhyw gerbyd a ddefnyddir i gludo’r deunydd yn ddigonol i sicrhau nad oes unrhyw risg bod unrhyw bla planhigion perthnasol a allai fod yn bresennol yn y deunydd perthnasol neu arno yn dianc.

Darpariaethau cyffredinol sy’n ymwneud â phasbortau planhigion

24.—(1Mae unrhyw newid neu ddilead mewn pasbort planhigion yn gwneud y pasbort planhigion yn annilys yn awtomatig, oni bai bod y newid neu’r dilead yn cael ei ardystio gan swyddog awdurdodedig neu’r masnachwr planhigion a awdurdodwyd o dan erthygl 29 i ddyroddi’r pasbort planhigion, yn y naill achos a’r llall drwy roi ei flaenlythrennau â llaw wrth y newid neu’r dilead.

(2Nid yw pasbort planhigion sy’n ymwneud ag unrhyw ddeunydd perthnasol ond i’w drin fel ei fod yn mynd gyda’r deunydd perthnasol os yw swyddog awdurdodedig, y masnachwr planhigion a awdurdodwyd i’w ddyroddi neu arolygydd yn rhoi’r pasbort planhigion ynghlwm wrth y deunydd perthnasol.

(3Pan fo pasbort planhigion ar ffurf label swyddogol a bod y masnachwr planhigion sydd wedi ei awdurdodi i ddyroddi’r pasbort planhigion i’w roi ynghlwm, rhaid i’r masnachwr planhigion ei roi ynghlwm mewn modd sy’n golygu na ellir ei ailddefnyddio.

(4Ni chaiff person ond dyroddi pasbort planhigion amnewid yn lle pasbort planhigion a ddyroddwyd mewn cysylltiad â llwyth os yw—

(a)y llwyth wedi ei rannu, y llwyth neu ran o’r llwyth wedi ei gyfuno â llwyth arall neu statws iechyd planhigion y llwyth wedi ei newid; a

(b)y person wedi ei fodloni y gellir adnabod y deunydd perthnasol y bydd y pasbort planhigion amnewid yn ymwneud ag ef a’i fod yn rhydd rhag unrhyw risg o heigiad gan bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1 neu yng ngholofn 3 o Atodlen 2.

(5Rhaid i basbort planhigion neu ddogfen swyddogol sy’n mynd gydag unrhyw ddeunydd perthnasol yn unol ag erthygl 21 gael ei gadw neu ei chadw gan y person sy’n ddefnyddiwr terfynol i’r deunydd perthnasol neu sy’n defnyddio’r deunydd perthnasol wrth fasnachu neu gynnal busnes.

RHAN 4Cofrestru masnachwyr planhigion ac awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion

Cofrestr o fasnachwyr planhigion

25.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr sy’n rhestru’r manylion a ganlyn mewn perthynas â phob masnachwr planhigion sy’n bodloni gofynion y Rhan hon—

(a)enw’r masnachwr planhigion;

(b)enw unrhyw berson arall sy’n gyfrifol am wneud y cais ar gyfer y masnachwr planhigion o dan erthygl 27;

(c)enw masnachu’r masnachwr planhigion, os yw’n wahanol i enw’r masnachwr planhigion;

(d)manylion y gweithgareddau y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt ac y mae’r masnachwr planhigion yn ymgymryd â hwy neu’n bwriadu ymgymryd â hwy;

(e)cyfeiriad pob mangre y mae’r masnachwr planhigion yn ymgymryd â’r gweithgareddau hynny ynddi neu’n bwriadu ymgymryd â’r gweithgareddau hynny ynddi; ac

(f)rhif cofrestru unigryw i’r masnachwr planhigion.

(2Rhaid i’r gofrestr fod yn agored i’w harolygu gan y Comisiwn Ewropeaidd.

Rhwymedigaeth i gofrestru

26.—(1Ni chaiff unrhyw fasnachwr planhigion ymgymryd ag unrhyw weithgaredd y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo mewn unrhyw fangre oni bai bod y masnachwr planhigion wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â’r gweithgaredd yn y fangre honno.

(2Ond nid oes angen i fasnachwr planhigion fod yn gofrestredig mewn cysylltiad ag unrhyw weithgaredd y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo os yw—

(a)y masnachwr planhigion yn gynhyrchydd; a

(b)y cyfan o’r deunydd perthnasol y mae’r masnachwr planhigion yn ei gynhyrchu a’i werthu wedi ei fwriadu i’w ddefnyddio yn y pen draw gan bersonau yn y farchnad leol nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu planhigion wrth fasnachu neu gynnal busnes.

Gofynion cofrestru

27.—(1Rhaid i gais am gofrestriad—

(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru; a

(b)bod ar ffurf a chynnwys yr wybodaeth y caiff Gweinidogion Cymru eu gwneud yn rhesymol ofynnol at ddiben ystyried y cais.

(2Rhaid i fasnachwr planhigion hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig ar unwaith os ceir—

(a)cyn bod y masnachwr planhigion wedi ei gofrestru, unrhyw newid yn amgylchiadau’r masnachwr planhigion a gofnodir yng nghais y masnachwr planhigion am gofrestriad; neu

(b)unrhyw newid yn y manylion a restrir yn y gofrestr mewn perthynas â’r masnachwr planhigion.

(3Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond cofrestru masnachwr planhigion mewn cysylltiad â gweithgaredd neu fangre os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y masnachwr planhigion yn gallu cydymffurfio â’r amodau yn erthygl 28(1) ac yn fodlon gwneud hynny.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu masnachwr planhigion pan fydd y masnachwr planhigion wedi ei gofrestru.

Amodau ar gyfer parhau i fod yn gofrestredig fel masnachwr planhigion ac amodau eraill sy’n gysylltiedig â masnach

28.—(1Rhaid i fasnachwr planhigion cofrestredig—

(a)cadw cynllun cywir o bob un o fangreoedd cofrestredig y masnachwr planhigion;

(b)cadw cofnod o’r holl ddeunydd perthnasol—

(i)a brynir gan y masnachwr planhigion;

(ii)a ddygir i unrhyw un neu ragor o fangreoedd cofrestredig y masnachwr planhigion at ddiben storio, plannu neu gynhyrchu’r deunydd yn y fangre honno; neu

(iii)a gynhyrchir yn unrhyw un neu ragor o fangreoedd cofrestredig y masnachwr planhigion, neu a anfonir ohonynt;

(c)cadw pob dogfen y mae’r masnachwr planhigion wedi ei chreu neu wedi ei chael ac sy’n ymwneud â’r cofnodion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b) am o leiaf un flwyddyn o’r dyddiad y creodd neu y cafodd y masnachwr planhigion hi;

(d)dynodi unigolyn (pa un ai’r masnachwr planhigion neu berson arall) sy’n dechnegol brofiadol mewn perthynas â’r gweithgareddau cofrestredig a’r materion iechyd planhigion cysylltiedig sy’n effeithio ar y fangre gofrestredig ac sydd ar gael i gydgysylltu â Gweinidogion Cymru mewn perthynas â materion sy’n codi o dan y Gorchymyn hwn;

(e)archwilio pob un o’r mangreoedd cofrestredig a’r deunydd perthnasol yn y mangreoedd hynny ar yr adegau ac yn y modd a bennir mewn unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd;

(f)gwneud datganiad bod y masnachwr planhigion yn gallu cydymffurfio â’r amodau a bennir yn is-baragraffau (a) i (e) ar unrhyw adeg ac ar unrhyw ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru ac yn fodlon gwneud hynny; ac

(g)cydymffurfio ag unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben asesu presenoldeb neu ledaeniad unrhyw bla planhigion yn unrhyw un neu ragor o fangreoedd cofrestredig y masnachwr planhigion oherwydd cyflwr y fangre honno neu’r mangreoedd hynny.

(2Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod masnachwr planhigion cofrestredig wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r amodau a bennir ym mharagraff (1), caiff Gweinidogion Cymru atal cofrestriad y masnachwr planhigion dros dro hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y masnachwr planhigion yn gallu cydymffurfio â’r amodau hynny ac yn fodlon gwneud hynny.

(3Rhaid i weithredwr proffesiynol sy’n cyflenwi planhigion penodedig Xylella, neu y’u cyflenwir hwy iddo—

(a)cadw cofnod o bob lot o’r planhigion a gyflenwyd gan y gweithredwr proffesiynol ac enw’r gweithredwr proffesiynol y cyflenwyd y lot iddo am dair blynedd o’r dyddiad y’i cyflenwyd;

(b)cadw cofnod o bob lot o’r planhigion a gafwyd gan y gweithredwr proffesiynol ac enw’r gweithredwr proffesiynol a gyflenwodd y lot am dair blynedd o’r dyddiad y’i cafwyd; ac

(c)yn union ar ôl anfon neu gael unrhyw lot o’r fath, hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig am y manylion a bennir yn Erthygl 10(4) o Benderfyniad (EU) 2015/789 mewn cysylltiad â’r lot honno.

(4Ym mharagraff (3)—

(a)mae i “gweithredwr proffesiynol” yr ystyr a roddir i “professional operator” yn Erthygl 1(d) o Benderfyniad (EU) 2015/789;

(b)ystyr “planhigion penodedig Xylella” (“Xylella specified plants”) yw—

(i)planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad (EU) 2015/789 sydd wedi eu tyfu am o leiaf ran o’u bywyd mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o’r Penderfyniad hwnnw, neu wedi eu symud drwy ardal o’r fath;

(ii)planhigion, ac eithrio hadau, Coffea, Lavandula dentata L., Nerium oleander L., Olea europaea L., Polygala myrtifolia L. neu Prunus dulcis (Mill.) D.A. Webb, a fwriedir ar gyfer eu plannu, nad ydynt erioed wedi eu tyfu mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o Benderfyniad (EU) 2015/789.

Awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion

29.—(1Rhaid i fasnachwr planhigion cofrestredig sy’n dymuno dyroddi pasbortau planhigion mewn perthynas â deunydd perthnasol sydd i’w symud o unrhyw fangre yng Nghymru wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru am yr awdurdod i wneud hynny.

(2Rhaid i’r ceisydd ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw fanylion sy’n rhesymol ofynnol gan Weinidogion Cymru ynglŷn â’r deunydd perthnasol.

(3Caiff Gweinidogion Cymru gynnal unrhyw archwiliad o’r deunydd perthnasol a’r fangre y mae’r deunydd i’w symud ohoni y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn angenrheidiol mewn perthynas â’r cais.

(4Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond rhoi awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl rhoi sylw i unrhyw archwiliad o’r deunydd perthnasol a’r fangre sy’n destun y cais, wedi eu bodloni—

(a)bod y fangre a’r deunydd perthnasol yn rhydd rhag unrhyw blâu planhigion perthnasol; a

(b)pan bennir unrhyw ofynion o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â’r deunydd perthnasol, y cydymffurfiwyd â’r gofynion hynny.

(5Rhaid i awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir gan Weinidogion Cymru gael ei roi yn ysgrifenedig a chaniateir ei roi yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ofynion perthnasol o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â’r deunydd perthnasol, gan gynnwys y tiriogaethau y bydd y pasbortau planhigion sydd i’w dyroddi yn ddilys ar eu cyfer.

(6Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro weithredu awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion yn gyfan gwbl neu mewn perthynas â mangre benodedig neu ddeunydd perthnasol penodedig os nad yw Gweinidogion Cymru, ar ôl rhoi sylw i unrhyw archwiliad o fangre’r masnachwr planhigion cofrestredig ac unrhyw ddeunydd perthnasol yno, wedi eu bodloni—

(a)bod y fangre neu’r deunydd perthnasol yn rhydd rhag unrhyw blâu planhigion perthnasol; a

(b)pan bennir unrhyw ofynion o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â’r deunydd perthnasol, y cydymffurfiwyd â’r gofynion hynny.

(7Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro weithredu awdurdodiad i ddyroddi pasbort planhigion, neu amrywio awdurdodiad, i’r graddau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hynny’n angenrheidiol, os ydynt wedi eu bodloni bod y masnachwr planhigion cofrestredig wedi methu ag—

(a)hysbysu Gweinidogion Cymru yn unol ag erthygl 27(2) am unrhyw newid yn y manylion a gofrestrwyd mewn perthynas â’r masnachwr planhigion;

(b)cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r amodau a bennir yn erthygl 28(1);

(c)cydymffurfio ag unrhyw amodau yn yr awdurdodiad a roddwyd o dan baragraff (5); neu

(d)cydymffurfio â gofyniad mewn hysbysiad a gyflwynwyd i’r masnachwr planhigion o dan erthygl 32.

(8Yn yr erthygl hon ystyr “pla planhigion perthnasol” (“relevant plant pest”) yw—

(a)pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1; neu

(b)mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2, pla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn unrhyw gofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno sy’n bresennol ar y deunydd perthnasol.

RHAN 5Masnach â’r Swistir a phasbortau planhigion y Swistir

Eithriadau i’r gofynion yn erthyglau 6, 7 a 10

30.—(1Nid yw’r gofynion yn erthygl 7 i dystysgrif ffytoiechydol fynd gyda deunydd perthnasol penodol yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B, ond nid Rhan A, o Atodlen 8 ac a gyflwynir i Gymru o’r Swistir.

(2Yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 8 ac sy’n cael ei draddodi’n uniongyrchol o’r Swistir i Gymru, mae unrhyw ofynion yn erthygl 7 fod tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gyda’r deunydd perthnasol wedi eu bodloni os yw pasbort planhigion y Swistir yn mynd gyda’r deunydd.

(3Nid yw’r gofynion yn erthyglau 6 a 10 yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol—

(a)sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B, ond nid yn Rhan A, o Atodlen 8 ac a gyflwynir i Gymru o’r Swistir; neu

(b)y mae pasbort planhigion y Swistir yn mynd gydag ef yn unol â pharagraff (2).

(4Yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 8 ac sy’n cael ei gyflwyno i Gymru o’r Swistir drwy ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, mae unrhyw ofyniad yn Rhan 3 fod pasbort planhigion yn mynd gyda’r deunydd perthnasol wedi ei fodloni os yw pasbort planhigion y Swistir yn mynd gyda’r deunydd.

RHAN 6Mesurau i reoli glanio deunydd perthnasol ac atal plâu planhigion rhag lledaenu

Archwilio, cymryd samplau a marcio

31.—(1Caiff arolygydd fynd i unrhyw fangre ar bob adeg resymol at ddiben—

(a)canfod presenoldeb neu ddosbarthiad pla planhigion yn y fangre;

(b)gwirio a gydymffurfiwyd ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn;

(c)cynnal archwiliad o fangre masnachwr planhigion (gan gynnwys deunydd perthnasol, dogfennau neu gofnodion yn y fangre) mewn cysylltiad ag awdurdodiad neu gais am awdurdodiad y masnachwr planhigion i ddyroddi pasbortau planhigion o dan erthygl 29;

(d)gorfodi darpariaethau’r Gorchymyn hwn fel arall.

(2Rhaid i arolygydd sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o’i awdurdod i weithredu, os gofynnir iddo wneud hynny.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fangre a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf fel annedd breifat, oni bai bod rhybudd o 24 awr wedi ei roi i’r meddiannydd.

(4Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar unrhyw hawl mynediad a roddir drwy warant a ddyroddir gan ynad heddwch.

(5Caiff arolygydd sy’n mynd i fangre at ddiben a bennir ym mharagraff (1) neu o dan warant a ddyroddir gan ynad heddwch—

(a)archwilio, marcio neu dynnu ffotograff o unrhyw ran o’r fangre neu unrhyw wrthrych yn y fangre;

(b)cymryd samplau o unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol, neu o unrhyw gynhwysydd neu becyn, neu o unrhyw ddeunydd sydd wedi bod, neu y gallai fod wedi bod, mewn cysylltiad â phla planhigion neu ddeunydd perthnasol;

(c)arolygu neu wneud copïau o unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cânt eu dal) sy’n ymwneud â chynhyrchu neu fasnachu unrhyw ddeunydd perthnasol.

(6Caiff arolygydd, at ddiben arfer pŵer a roddir o dan baragraff (5), agor, neu awdurdodi unrhyw berson i agor ar ran yr arolygydd, unrhyw gynhwysydd neu becyn neu ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog neu unrhyw berson sydd â gofal am unrhyw gynhwysydd neu becyn ei agor yn y modd a bennir gan yr arolygydd.

(7Caiff arolygydd wahardd symud, trin neu ddifa unrhyw bla planhigion, deunydd perthnasol, cynhwysydd neu becyn neu unrhyw ddeunydd a allai fod wedi bod mewn cysylltiad â phla planhigion neu ddeunydd perthnasol pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn galluogi’r arolygydd i arfer y pwerau a roddir gan baragraff (5).

(8Pan gedwir unrhyw ddogfen y cyfeirir ati neu unrhyw gofnod y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(c) ar gyfrifiadur, caiff arolygydd—

(a)mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â’r cofnod neu’r ddogfen, a’u harolygu a gwirio eu gweithrediad;

(b)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal am y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â’i weithredu, roi i’r arolygydd unrhyw gymorth y bo’n rhesymol i’r arolygydd ei gwneud yn ofynnol.

(9Caiff arolygydd ddifa neu waredu fel arall unrhyw sampl a gymerir o dan baragraff (5)(b) pan na fo angen y sampl ar yr arolygydd mwyach o dan y Gorchymyn hwn.

(10Caiff arolygydd ddod ag unrhyw bersonau eraill, gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd, gydag ef, a chaiff ddod ag unrhyw gyfarpar a cherbydau i’r fangre, y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.

(11Caiff person sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (10)—

(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb yr arolygydd;

(b)dod ag unrhyw gyfarpar neu gerbyd i’r fangre y mae’r person yn ystyried ei fod yn angenrheidiol;

(c)cyflawni gwaith yn y fangre yn y modd y’i cyfarwyddir gan arolygydd.

(12Rhaid i berson sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (10), os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’i awdurdod a roddwyd yn y cyswllt hwnnw gan Weinidogion Cymru.

Camau y caiff arolygydd eu gwneud yn ofynnol

32.—(1Os oes gan arolygydd sail resymol dros amau bod unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol yn debygol o gael ei gyflwyno i Gymru, neu ei fod wedi ei gyflwyno i Gymru, yn groes i’r Gorchymyn hwn, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i berson priodol.

(2Person priodol yw—

(a)masnachwr planhigion neu berson arall sy’n meddu ar y pla planhigion neu’r deunydd perthnasol neu sydd â’r hawl mewn unrhyw fodd i fod ag ef o dan ei ofal neu ei reolaeth; neu

(b)unrhyw berson sydd â gofal am y fangre y cedwir y pla planhigion neu’r deunydd perthnasol ynddi, neu y mae’n debygol o gael ei gadw ynddi, ar ôl cael ei lanio.

(3Caiff hysbysiad o dan baragraff (1)—

(a)gwahardd glanio unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol;

(b)pennu ym mha fodd y mae unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol i’w lanio a’r rhagofalon sydd i’w cymryd wrth lanio ac ar ôl hynny;

(c)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol gael ei drin, ei ailallforio, ei ddifa neu ei waredu fel arall;

(d)gwahardd symud unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol o’r fangre am y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad a, phan fo hynny’n briodol, gosod unrhyw waharddiadau eraill y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal cyflwyno neu ledaenu unrhyw bla planhigion;

(e)ei gwneud yn ofynnol symud unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol o’r fangre a bennir yn yr hysbysiad;

(f)ei gwneud yn ofynnol cymryd unrhyw gamau eraill, fel a bennir yn yr hysbysiad, y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal cyflwyno neu ledaenu unrhyw bla planhigion.

(4Os oes gan arolygydd sail resymol dros amau bod unrhyw bla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig yn bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol mewn unrhyw fangre, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i’r meddiannydd neu unrhyw berson arall â gofal am y fangre neu’r pla planhigion neu’r deunydd perthnasol.

(5Caiff hysbysiad o dan baragraff (4)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw bla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig gael ei drin, ei ailallforio, ei ddifa neu ei waredu fel arall;

(b)gwahardd symud unrhyw bla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig o’r fangre am y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad a, phan fo hynny’n briodol, gosod unrhyw waharddiadau eraill y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal cyflwyno neu ledaenu unrhyw bla planhigion a reolir;

(c)ei gwneud yn ofynnol symud unrhyw bla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig o’r fangre a bennir yn yr hysbysiad;

(d)ei gwneud yn ofynnol cymryd unrhyw gamau eraill, fel a bennir yn yr hysbysiad, y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal cyflwyno neu ledaenu unrhyw bla planhigion a reolir.

(6Os oes gan arolygydd sail resymol dros gredu bod hynny’n angenrheidiol at ddiben atal unrhyw bla planhigion a reolir rhag lledaenu o’r fangre a grybwyllir ym mharagraff (4), neu sicrhau ei fod yn cael ei ddileu o’r fangre, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i’r meddiannydd neu i berson sydd â gofal am unrhyw fangre arall, yn gosod unrhyw waharddiad neu’n ei gwneud yn ofynnol cymryd unrhyw gam rhesymol at y diben hwnnw.

(7Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “pla planhigion a reolir” (“controlled plant pest”) yw—

(i)pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1 neu yng ngholofn 3 o Atodlen 2;

(ii)pla planhigion nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer, ond y mae’r arolygydd yn ystyried, mewn cysylltiad ag ef, fod perygl ar ddyfod bod y pla planhigion yn lledaenu neu’n cael ei ledaenu ym Mhrydain Fawr; neu

(iii)pla planhigion nad yw’n bresennol mewn rhan arall o’r Undeb Ewropeaidd fel arfer, ond y mae’r arolygydd yn ystyried, mewn cysylltiad ag ef, fod perygl ar ddyfod bod y pla planhigion yn lledaenu neu’n cael ei ledaenu i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd;

(b)ystyr “deunydd gwaharddedig” (“prohibited material”) yw—

(i)deunydd perthnasol sy’n cario neu wedi ei heintio â phla planhigion a reolir, neu a allai fod yn cario neu fod wedi ei heintio â phla planhigion a reolir; neu

(ii)deunydd perthnasol y gwaherddir ei lanio o dan erthygl 5 neu 18 neu y gwaherddir ei symud yng Nghymru o dan erthygl 20.

Camau y caiff arolygydd eu cymryd

33.—(1Os oes gan arolygydd sail resymol dros amau bod unrhyw bla planhigion a reolir neu ddeunydd heintiedig yn bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol mewn unrhyw fangre, caiff yr arolygydd, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol, fynd i’r fangre a chymryd camau yn y fangre neu yn rhywle arall i—

(a)difa unrhyw bla planhigion a reolir;

(b)atal unrhyw bla planhigion a reolir rhag lledaenu;

(c)difa unrhyw ddeunydd heintiedig; neu

(d)trin unrhyw ddeunydd heintiedig.

(2Rhaid i arolygydd sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o’i awdurdod i weithredu, os gofynnir iddo wneud hynny.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fangre a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf fel annedd breifat, oni bai bod rhybudd o 24 awr wedi ei roi i’r meddiannydd.

(4Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar unrhyw hawl mynediad a roddir drwy warant a ddyroddir gan ynad heddwch.

(5Caiff arolygydd ddod ag unrhyw bersonau eraill, gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd, gydag ef, a chaiff ddod ag unrhyw gyfarpar a cherbydau i’r fangre, y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.

(6Caiff person sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (5)—

(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb yr arolygydd;

(b)dod ag unrhyw gyfarpar neu gerbyd i’r fangre y mae’r person yn ystyried ei fod yn angenrheidiol;

(c)cyflawni gwaith yn y fangre yn y modd y’i cyfarwyddir gan arolygydd.

(7Rhaid i berson sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (5), os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’i awdurdod a roddwyd yn y cyswllt hwnnw gan Weinidogion Cymru.

(8Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “pla planhigion a reolir” (“controlled plant pest”) yw—

(i)pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1 neu yng ngholofn 3 o Atodlen 2; neu

(ii)pla planhigion nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer, ond y mae’r arolygydd yn ystyried, mewn cysylltiad ag ef, fod perygl ar ddyfod bod y pla planhigion yn lledaenu neu’n cael ei ledaenu ym Mhrydain Fawr;

(b)ystyr “deunydd heintiedig” (“infected material”) yw—

(i)deunydd perthnasol sy’n cario neu wedi ei heintio â phla planhigion a reolir, neu a allai fod yn cario neu fod wedi ei heintio â phla planhigion a reolir; neu

(ii)deunydd perthnasol nad yw’n cario nac wedi ei heintio â phla planhigion, ond y mae’r arolygydd yn ystyried, mewn cysylltiad ag ef, fod perygl ar ddyfod bod y pla planhigion yn lledaenu neu’n cael ei ledaenu.

Darpariaethau amrywiol ynglŷn â hysbysiadau

34.—(1Caiff hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) neu (4) o erthygl 32 bennu un gofyniad neu ragor, neu ofynion eraill.

(2Rhaid i unrhyw ofyniad a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (1), (4) neu (6) o erthygl 32 gael ei gyflawni yn y modd ac o fewn unrhyw gyfnod rhesymol a bennir gan yr arolygydd yn yr hysbysiad.

(3Rhaid i unrhyw driniaeth, ailallforio, difa neu waredu sy’n ofynnol gan hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 32 gael ei gynnal gan y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, neu rhaid i’r person hwnnw drefnu iddo gael ei gynnal, er boddhad arolygydd, o’r man neu yn y man a bennir yn yr hysbysiad.

(4Ni chaniateir i unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol y mae’n ofynnol gan hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 32 iddo gael ei symud i fan a bennir yn yr hysbysiad gael ei symud i’r man dynodedig ac eithrio yn y modd a bennir yn yr hysbysiad.

(5Caiff arolygydd ddiwygio neu dynnu yn ôl hysbysiad a gyflwynwyd gan arolygydd o dan y Gorchymyn hwn drwy hysbysiad pellach.

(6Caiff hysbysiad o dan baragraff (5) fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal cyflwyno neu ledaenu unrhyw bla planhigion neu ailheintio neu ailheigio gan y pla planhigion y mae’r hysbysiad gwreiddiol yn ymwneud ag ef.

(7Caiff unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rhan hon ddiffinio drwy gyfeirio at fap neu gynllun neu fel arall hyd a lled y fangre y cyfeirir ati yn yr hysbysiad.

(8Caiff arolygydd, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog neu unrhyw berson arall yr ymddengys ei fod â gofal am y fangre y mae hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 32 yn ymwneud â hi—

(a)hysbysu Gweinidogion Cymru am unrhyw newid ym meddiannaeth y fangre, a dyddiad y newid ac enw’r meddiannydd newydd; a

(b)rhoi gwybod i feddiannydd newydd y fangre am gynnwys yr hysbysiad.

Cyflwyno hysbysiadau

35.—(1Rhaid i hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn sydd i’w gyflwyno i fasnachwr planhigion cofrestredig gael ei gyflwyno drwy—

(a)ei ddanfon yn bersonol; neu

(b)ei adael ar gyfer y masnachwr, neu ei anfon ato drwy’r post, yng nghyfeiriad mangre gofrestredig y masnachwr neu, os oes gan y masnachwr fwy nag un cyfeiriad yn y gofrestr, ym mhrif gyfeiriad y masnachwr yn y gofrestr.

(2Caniateir i hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn sydd i’w gyflwyno i unrhyw berson arall gael ei gyflwyno drwy—

(a)ei ddanfon yn bersonol; neu

(b)ei adael ar ei gyfer, neu ei anfon ato drwy’r post, yn ei gartref neu ei fan gwaith hysbys diwethaf.

(3Os yw hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn i’w gyflwyno i’r meddiannydd neu i berson arall sydd â gofal am y fangre, ac na ellir dod o hyd i gartref neu gyfeiriad hysbys diwethaf y person hwnnw ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno’r hysbysiad i’r person hwnnw drwy ei gyfeirio at “y meddiannydd” a’i adael wedi ei osod yn weladwy ar wrthrych yn y fangre am gyfnod o saith niwrnod.

(4Caniateir cyflwyno hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn—

(a)yn achos corff corfforaethol (ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig), i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff hwnnw;

(b)yn achos partneriaeth (ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, ond gan gynnwys partneriaeth Albanaidd), i bartner neu berson sy’n llywio neu’n rheoli busnes y bartneriaeth yng nghyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth; neu

(c)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, i aelod o’r bartneriaeth yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r bartneriaeth.

(5At ddibenion paragraff (4), prif swyddfa cwmni sy’n gofrestredig y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu bartneriaeth sy’n cyflawni busnes y tu allan i’r Deyrnas Unedig yw ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa yn y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth ynglŷn â chydymffurfio â hysbysiadau

36.  Caiff hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn ei gwneud yn ofynnol i’r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo roi gwybod i’r arolygydd ar unwaith a gydymffurfiwyd â gofynion yr hysbysiad ac, os gwnaed hynny, ddarparu manylion y camau a gymerwyd i gydymffurfio â’r gofynion hynny i’r arolygydd.

Methu â chydymffurfio â hysbysiad

37.—(1Os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir i’r person hwnnw o dan y Gorchymyn hwn, caiff arolygydd fynd i unrhyw fangre yr effeithir arni ar bob adeg resymol i gymryd unrhyw gamau, neu i beri cymryd unrhyw gamau, y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r hysbysiad neu i unioni canlyniadau’r methiant i’w cyflawni.

(2Rhaid i arolygydd sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o’i awdurdod i weithredu, os gofynnir iddo wneud hynny.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fangre a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf fel annedd breifat, oni bai bod rhybudd o 24 awr o’r bwriad i fynd i’r fangre wedi ei roi i’r meddiannydd.

(4Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar unrhyw hawl mynediad a roddir drwy warant a ddyroddir gan ynad heddwch.

(5Caiff arolygydd sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddod ag unrhyw bersonau eraill, gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd, gydag ef, a chaiff ddod ag unrhyw gyfarpar a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.

(6Caiff person sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (5)—

(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb yr arolygydd;

(b)dod ag unrhyw gyfarpar neu gerbyd i’r fangre y mae’r person yn ystyried ei fod yn angenrheidiol;

(c)cyflawni gwaith yn y fangre yn y modd y’i cyfarwyddir gan yr arolygydd.

(7Rhaid i berson sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (5), os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’i awdurdod a roddwyd yn y cyswllt hwnnw gan Weinidogion Cymru.

(8Pan fo arolygydd yn cymryd unrhyw gamau o dan baragraff (1), caiff Gweinidogion Cymru adennill, fel dyled gan y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, yr holl gostau rhesymol yr aed iddynt wrth gymryd y camau hynny.

(9Yn yr erthygl hon, ystyr “mangre yr effeithir arni” (“affected premises”) yw unrhyw fangre y gall unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef fod yn bresennol ynddi neu arni.

Hawl mynediad a roddir drwy warant a ddyroddir gan ynad heddwch

38.—(1Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i arolygydd fynd i fangre o dan erthygl 31, 33 neu 37, gan ddefnyddio grym rhesymol os oes angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—

(a)bod sail resymol dros fynd i’r fangre honno; a

(b)y bodlonir unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (2).

(2Yr amodau yw—

(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd;

(b)y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i’r fangre;

(c)bod angen mynd i’r fangre ar fyrder;

(d)bod y fangre heb ei meddiannu neu’r meddiannydd yn absennol dros dro.

(3Mae gwarant yn ddilys am un mis.

(4Rhaid i arolygydd sy’n mynd i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr ydoedd cyn iddo fynd iddi.

RHAN 7Rhywogaethau mochlysaidd penodol: plannu a rheoli plâu planhigion perthnasol

Darpariaethau amrywiol ar gyfer rhywogaethau mochlysaidd penodol

39.—(1Ni chaiff unrhyw berson blannu yn fwriadol unrhyw datws neu unrhyw datws a gynhyrchir o’r tatws hynny, sydd wedi eu tyfu mewn trydedd wlad, ac eithrio’r Swistir, na pheri neu ganiatáu yn fwriadol iddynt gael eu plannu.

(2Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw datws yn fwriadol na pheri neu ganiatáu yn fwriadol iddynt gael eu plannu oni bai—

(a)eu bod yn tarddu mewn llinell uniongyrchol o ddeunydd tatws sydd wedi ei gael o dan raglen a gymeradwywyd yn swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir;

(b)y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Pydredd coch tatws mewn profion swyddogol gan ddefnyddio’r dulliau a nodir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/57/EC; ac

(c)y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Pydredd cylch tatws mewn profion swyddogol gan ddefnyddio’r dulliau a nodir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 93/85/EEC.

(3Mae’r canlynol yn cael effaith mewn perthynas â rheoli plâu planhigion penodol—

(a)Atodlen 13 (mesurau arbennig ar gyfer rheoli Clefyd y ddafaden tatws);

(b)Atodlen 14 (mesurau arbennig ar gyfer rheoli Llyngyr tatws);

(c)Atodlen 15 (mesurau arbennig ar gyfer rheoli Pydredd cylch tatws); a

(d)Atodlen 16 (mesurau arbennig ar gyfer rheoli Pydredd coch tatws).

(4Pan gadarnheir bod Pydredd coch tatws yn bresennol ar sampl a gymerwyd yn unol ag Erthyglau 2 a 5 o Gyfarwyddeb 98/57/EC, caiff arolygydd ddarnodi parth yn unol ag Erthygl 5(1)(a)(iv) neu 5(1)(c)(iii) o’r Gyfarwyddeb honno er mwyn atal y pla planhigion hwnnw rhag lledaenu.

RHAN 8Trwyddedau

Trwyddedau i gyflawni gweithgareddau a waherddir gan y Gorchymyn hwn

40.—(1Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Gorchymyn hwn, caniateir cyflwyno unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol i Gymru, neu ei gadw, ei storio, ei blannu, ei symud neu ei waredu fel arall yng Nghymru, a chaniateir gwneud unrhyw beth arall a waherddir gan y Gorchymyn hwn o dan awdurdod trwydded a roddir gan Weinidogion Cymru—

(a)drwy arfer unrhyw randdirymiad a ganiateir gan Gyfarwyddeb 2000/29/EC; neu

(b)at ddibenion treialu neu ddibenion gwyddonol neu ar gyfer gwaith ar ddetholiadau amrywogaethol, mewn perthynas â phla planhigion cwarantin domestig.

(2Rhaid i drwydded a roddir o dan baragraff (1)(b) fod yn ysgrifenedig a chaniateir iddi gael ei rhoi—

(a)yn ddarostyngedig i amodau;

(b)am gyfnod amhenodol neu am gyfnod penodedig.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “pla planhigion cwarantin domestig” (“domestic quarantine plant pest”) yw pla planhigion nad yw o ddisgrifiad a restrir yn Atodiad I neu II i Gyfarwyddeb 2000/29/EC, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr.

Trwyddedau at ddibenion treialu neu ddibenion gwyddonol neu ar gyfer gwaith ar ddetholiadau amrywogaethol a ganiateir gan Gyfarwyddeb 2008/61/EC

41.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy drwydded, awdurdodi cyflwyno, symud neu gadw unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol ar gyfer unrhyw weithgaredd at ddibenion treialu neu ddibenion gwyddonol ac ar gyfer gwaith ar ddetholiadau amrywogaethol, pan fyddai cyflwyno, symud neu gadw’r pla planhigion neu’r deunydd perthnasol at unrhyw ddiben o’r fath wedi ei wahardd gan y Gorchymyn hwn fel arall, os yw Gweinidogion Cymru—

(a)wedi cael cais am drwydded sy’n cynnwys yr wybodaeth a nodir yn Erthygl 1(2) o Gyfarwyddeb 2008/61/EC; a

(b)wedi eu bodloni bod yr amodau cyffredinol a nodir yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno yn cael eu bodloni mewn perthynas â’r cais.

(2Rhaid i drwydded a roddir o dan baragraff (1) fod yn ysgrifenedig a rhaid iddi gynnwys—

(a)unrhyw amodau a osodir yn Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb 2008/61/EC sy’n berthnasol i unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol sy’n destun y gweithgareddau y mae’r drwydded yn ymwneud â hwy; a

(b)unrhyw amodau eraill sy’n pennu mesurau cwarantin o dan baragraff 2(a) o Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno neu fesurau cwarantin pellach o dan baragraff 2(b) o Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno a bennir gan Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru ddirymu trwydded a roddir o dan baragraff (1) pan ganfyddir, er boddhad Gweinidogion Cymru, nad yw’r trwyddedai wedi bodloni neu gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r drwydded a osodir o dan baragraff (2)(b).

(4Ar ôl i unrhyw weithgareddau y mae’r drwydded a roddir o dan baragraff (1) yn ymwneud â hwy ddod i ben, rhaid i’r trwyddedai, oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi ei awdurdodi fel arall o dan baragraff (5)—

(a)difa neu sterileiddio unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol a oedd yn destun y gweithgareddau ac unrhyw ddeunydd perthnasol arall sydd wedi dod i gysylltiad ag unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol o’r fath, neu a allai fod wedi ei halogi ganddo; a

(b)sterileiddio neu lanhau mewn unrhyw fodd a bennir gan Weinidogion Cymru, y fangre a’r cyfleusterau y cyflawnwyd y gweithgareddau ynddynt.

(5Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi’r trwyddedai i ymatal rhag difa unrhyw ddeunydd perthnasol o dan baragraff (4)(a) os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei fod wedi bod yn destun mesurau cwarantin priodol ac y canfuwyd, mewn unrhyw fodd a bennir gan Weinidogion Cymru, ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion a bennir yn Atodlen 1 ac yng ngholofn 3 o Atodlen 2 a rhag plâu planhigion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn peri risg.

(6At ddiben paragraff (2), mae cyfeiriadau at y “responsible official body” yn Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb 2008/61/EC, ac Atodiad I iddi, i’w cymryd fel pe baent yn cyfeirio at Weinidogion Cymru.

(7Yn yr erthygl hon, ystyr “mesurau cwarantin priodol” (“appropriate quarantine measures”) yw—

(a)yn achos deunydd perthnasol y mae mesurau cwarantin wedi eu pennu ar ei gyfer yn Rhan A o Atodiad III i Gyfarwyddeb 2008/61/EC, y mesurau hynny; a

(b)yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol arall, unrhyw fesurau cwarantin, gan gynnwys profi, a bennir gan Weinidogion Cymru.

RHAN 9Hysbysiadau, darparu a chyfnewid gwybodaeth

Hysbysu am bresenoldeb, neu achos o amau presenoldeb, plâu planhigion penodol

42.—(1Rhaid i’r meddiannydd neu berson arall sydd â gofal am fangre sy’n dod yn ymwybodol neu’n amau bod unrhyw bla planhigion hysbysadwy yn bresennol yn y fangre, neu unrhyw berson arall sydd, wrth gyflawni ei ddyletswyddau neu ei fusnes, yn dod yn ymwybodol neu’n amau bod pla planhigion hysbysadwy yn bresennol mewn unrhyw fangre, hysbysu Gweinidogion Cymru neu arolygydd ar unwaith ei fod yn bresennol neu yr amheuir ei fod yn bresennol.

(2Caniateir i hysbysiad o dan baragraff (1) gael ei roi ar lafar yn gyntaf, ond rhaid iddo gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “pla planhigion hysbysadwy” (“notifiable plant pest”) yw—

(a)pla planhigion, ac eithrio pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 17—

(i)sydd o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1;

(ii)sydd o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 3 o Ran A o Atodlen 2;

(iii)sydd o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 3 o Ran B o Atodlen 2 ac sy’n bresennol ar ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod mewn cysylltiad â’r pla planhigion hwnnw yng ngholofn 2 o Ran B o Atodlen 2, neu yr ymddengys i arolygydd ei fod wedi bod mewn cysylltiad â deunydd perthnasol o’r fath; neu

(iv)er nad yw o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1 na 2, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr;

(b)pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 17—

(i)sy’n isrywogaeth neu’n fath sy’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac a ganfuwyd ym mangre masnachwr planhigion cofrestredig;

(ii)sy’n isrywogaeth neu’n fath nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac a ganfuwyd mewn unrhyw fangre; neu

(iii)a bennir hefyd yng ngholofn 3 o Ran A o Atodlen 2 ac sy’n bresennol ar ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod mewn cysylltiad â’r pla planhigion hwnnw yng ngholofn 2 o Ran A o Atodlen 2, neu yr ymddengys i arolygydd ei fod wedi bod mewn cysylltiad â deunydd perthnasol o’r fath.

(4Os yw Gweinidogion Cymru yn dod yn ymwybodol o bresenoldeb Xylella fastidiosa (Wells et al.) neu o amheuaeth ei fod yn bresennol, mewn unrhyw fan neu ardal yng Nghymru, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod unrhyw berson sydd â phlanhigion a allai fod wedi eu heintio â Xylella fastidiosa (Wells et al.) o dan ei reolaeth yn cael ei hysbysu ar unwaith—

(a)ei fod yn bresennol neu yr amheuir ei fod yn bresennol;

(b)am y canlyniadau posibl sy’n codi o’i bresenoldeb neu’r amheuaeth ei fod yn bresennol; ac

(c)am y mesurau sydd i’w cymryd o ganlyniad i hynny.

Hysbysu am y tebygolrwydd y bydd plâu planhigion neu ddeunydd perthnasol yn mynd i barth rhydd, neu eu bod yn bresennol yno

43.—(1Rhaid i’r awdurdod cyfrifol am barth rhydd yng Nghymru hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith am unrhyw eitem hysbysadwy y mae’n gwybod neu’n amau—

(a)ei fod yn debygol o fynd i’r parth rhydd; neu

(b)ei fod yn bresennol yn y parth rhydd ac nad yw wedi ei glirio o ofal o dan y Ddeddf Dollau.

(2Caniateir i hysbysiad o dan baragraff (1) gael ei roi ar lafar yn gyntaf, ond rhaid iddo gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

(3Yn yr erthygl hon—

(a)mae i “parth rhydd” yr un ystyr ag a roddir i “free zone” yn y Ddeddf Dollau;

(b)ystyr “eitem hysbysadwy” (“notifiable item”) yw—

(i)pla planhigion sydd o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1 neu yng ngholofn 3 o Atodlen 2;

(ii)pla planhigion, er nad yw wedi ei bennu yn Atodlen 1 na 2, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr; neu

(iii)deunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 3 sy’n tarddu o wlad a bennir yn y cofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno;

(c)mae i “yr awdurdod cyfrifol” yr un ystyr ag a roddir i “the responsible authority” yn y Ddeddf Dollau.

Yr wybodaeth sydd i’w rhoi

44.—(1Caiff arolygydd neu unrhyw un arall o swyddogion Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i berson priodol roi i’r arolygydd neu’r swyddog, o fewn yr amser a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw wybodaeth y gall y person feddu arni o ran—

(a)y planhigion a dyfwyd neu’r cynhyrchion a gafodd eu storio ar unrhyw adeg yn y fangre y mae hysbysiad wedi ei gyflwyno mewn cysylltiad â hi o dan y Gorchymyn hwn;

(b)unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol y cyfeirir ato ym mharagraff (4)(b); ac

(c)y personau sydd wedi bod, neu’n debygol o fod wedi bod, â’r pla planhigion neu’r deunydd perthnasol y cyfeirir ato ym mharagraff (4)(b) yn eu meddiant neu o dan eu gofal.

(2Rhaid i’r amser y mae’n ofynnol i’r wybodaeth gael ei rhoi i’r arolygydd neu’r swyddog arall o’i fewn fod yn rhesymol.

(3Rhaid i berson priodol gyflwyno unrhyw drwydded, datganiad swyddogol, tystysgrif, pasbort planhigion, cofnod, anfoneb neu ddogfen arall sy’n ymwneud â phla planhigion neu unrhyw ddeunydd perthnasol a bennir yn yr hysbysiad i’w archwilio gan yr arolygydd neu’r swyddog arall.

(4Yn yr erthygl hon, ystyr “person priodol” (“appropriate person”) yw—

(a)person sy’n berchen ar y fangre, meddiannydd y fangre neu berson arall sydd â gofal am y fangre y mae hysbysiad wedi ei gyflwyno mewn cysylltiad â hi o dan y Gorchymyn hwn;

(b)person sydd, neu sydd wedi bod, neu y mae gan yr arolygydd neu’r swyddog amheuaeth resymol ei fod, neu ei fod wedi bod, yn meddu ar y canlynol neu â gofal am y canlynol—

(i)pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1 neu yng ngholofn 3 o Atodlen 2;

(ii)pla planhigion, er nad yw wedi ei bennu yn Atodlen 1 na 2, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr;

(iii)unrhyw ddeunydd perthnasol sy’n cario pla planhigion y cyfeirir ato ym mharagraff (i) neu (ii), neu sydd wedi ei heintio ag ef; neu

(iv)unrhyw ddeunydd perthnasol y mae’r arolygydd neu’r swyddog yn gwybod neu’n amau ei fod wedi ei lanio yng Nghymru neu ei allforio o Gymru; neu

(c)person sydd, fel arwerthwr, gwerthwr neu fel arall, wedi gwerthu, wedi cynnig ar gyfer ei werthu neu wedi gwaredu fel arall bla planhigion y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i) neu (ii).

Pŵer i rannu gwybodaeth at ddibenion y Gorchymyn

45.—(1Caiff Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ddatgelu unrhyw wybodaeth y maent yn meddu arni i Weinidogion Cymru at ddibenion y Gorchymyn hwn.

(2Nid yw paragraff (1) yn rhagfarnu unrhyw bŵer arall sydd gan y Comisiynwyr i ddatgelu gwybodaeth.

(3Ni chaiff unrhyw berson, gan gynnwys un o weision y Goron, ddatgelu unrhyw wybodaeth a gafwyd gan y Comisiynwyr o dan baragraff (1)—

(a)os yw’r wybodaeth yn ymwneud â pherson y mae ei fanylion adnabod wedi eu pennu yn y datgeliad, neu y gellir eu casglu o’r datgeliad;

(b)os yw’r datgeliad at ddiben heblaw’r un a bennir ym mharagraff (1); ac

(c)os nad yw’r Comisiynwyr wedi rhoi eu cydsyniad i’r datgeliad ymlaen llaw.

RHAN 10Troseddau

Troseddau

46.—(1Mae person yn cyflawni trosedd os ydyw, heb esgus rhesymol, y mae’n rhaid i’r person ei brofi—

(a)yn torri neu’n methu â chydymffurfio ag—

(i)erthygl 6(1);

(ii)erthygl 9;

(iii)erthygl 10(1) neu (2);

(iv)erthygl 16(2), (3) neu (4);

(v)erthygl 17(6);

(vi)erthygl 19(1);

(vii)erthygl 20;

(viii)erthygl 21;

(ix)erthygl 24(3) neu (4);

(x)erthygl 26;

(xi)erthygl 27(2);

(xii)erthygl 28(1) neu (3);

(xiii)erthygl 39(1) neu (2);

(xiv)erthygl 41(4);

(xv)erthygl 42(1);

(xvi)erthygl 43(1);

(xvii)erthygl 45(3); neu

(xviii)paragraffau 5, 8, 9 neu 11 o Atodlen 14;

(b)yn torri neu’n methu â chydymffurfio â darpariaeth neu amod mewn hysbysiad a gyflwynir i’r person, neu mewn trwydded neu unrhyw gyfarwyddyd a roddir, o dan y Gorchymyn hwn; neu

(c)yn fwriadol yn rhwystro arolygydd neu unrhyw berson a awdurdodir gan arolygydd wrth iddo arfer y pwerau a roddir i’r arolygydd gan y Gorchymyn hwn neu oddi tano.

(2Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, at ddiben sicrhau y dyroddir pasbort planhigion, pasbort planhigion amnewid, tystysgrif ffytoiechydol, tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio neu drwydded o dan y Gorchymyn hwn—

(a)yn gwneud datganiad ffug yn fwriadol neu’n ddi-hid o ran manylyn perthnasol; neu

(b)yn fwriadol yn methu â datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol.

(3Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person—

(a)yn dyroddi pasbort planhigion mewn modd anonest;

(b)yn newid pasbort planhigion mewn modd anonest; neu

(c)yn ailddefnyddio pasbort planhigion mewn modd anonest.

(4Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan baragraff (1)(a)(xvii) brofi bod y person yn credu’n rhesymol—

(a)bod y datgeliad yn gyfreithlon; neu

(b)bod yr wybodaeth ar gael i’r cyhoedd eisoes a hynny mewn modd cyfreithlon.

(5Os profir bod trosedd o dan y Gorchymyn hwn wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu ei bod wedi ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg yn y corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,

bydd y person, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(6At ddibenion paragraff (5), mae “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yn cynnwys aelod o’r corff corfforaethol.

(7Pan fo trosedd o dan y Gorchymyn hwn yn cael ei chyflawni gan bartneriaeth Albanaidd ac y profir ei bod wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu ei bod wedi ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae’r partner, yn ogystal â’r bartneriaeth, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(8Pan fo unrhyw berson yn cyflawni trosedd o dan y Gorchymyn hwn o ganlyniad i weithred neu anwaith rhyw berson arall, caniateir i’r person arall hwnnw gael ei gyhuddo a’i euogfarnu o’r drosedd honno yn rhinwedd y paragraff hwn pa un a ddygir achos am y drosedd yn erbyn y person a grybwyllir gyntaf ai peidio.

Cosbau

47.—(1Mae person sy’n euog o drosedd o dan y Gorchymyn hwn (ac eithrio trosedd o dan erthygl 46(1)(a)(xvii)) yn agored o’i euogfarnu’n ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan erthygl 46(1)(a)(xvii) yn agored—

(a)o’i euogfarnu ar dditiad, i gyfnod o garchar nad yw’n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i’r ddau;

(b)o’i euogfarnu’n ddiannod, i gyfnod o garchar nad yw’n hwy na thri mis, i ddirwy nad yw’n uwch na’r uchafswm statudol neu i’r ddau.

RHAN 11Amrywiol

Y Ddeddf Dollau

48.  Mae darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn gymwys heb ragfarnu’r Ddeddf Dollau.

Dirymu a darpariaethau trosiannol

49.—(1Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(28) a’r Gorchmynion a bennir yn Atodlen 18 wedi eu dirymu.

(2Bydd unrhyw hysbysiad a ddyroddwyd, neu unrhyw drwydded, awdurdodiad neu gymeradwyaeth arall a roddwyd o dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 ac sy’n cael effaith pan ddaw’r Gorchymyn hwn i rym yn parhau mewn grym fel pe bai wedi ei ddyroddi neu ei rhoi neu ei roi o dan y Gorchymyn hwn.

(3Mae cofnodion sydd ar y gofrestr a gedwir o dan erthygl 25(1) o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 yn union cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym i’w trin fel pe baent wedi eu cofnodi ar y gofrestr o dan erthygl 25(1) o’r Gorchymyn hwn.

Hannah Blythyn

Gweinidog yr Amgylchedd o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

9 Hydref 2018

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill