Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Erthygl 39(3)

ATODLEN 16Pydredd coch tatws

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “blwyddyn dyfu gyntaf” (“first growing year”), yn achos mesurau sydd i’w cymryd mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig, yw’r flwyddyn dyfu gyntaf yn dilyn y flwyddyn dyfu pryd y dynodir y man cynhyrchu yn halogedig at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(ii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw planhigion (gan gynnwys cloron), ac eithrio gwir hadau, Solanum tuberosum L. neu blanhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Solanum lycopersicum L;

ystyr “gwrthrych” (“object”) yw unrhyw beiriant, cerbyd, llestr, storfa neu wrthrych arall, gan gynnwys deunydd pecynnu;

ystyr “halogedig” (“contaminated”) yw wedi ei ddynodi’n halogedig gan arolygydd at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(ii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

ystyr “halogedig o bosibl” (“possibly contaminated”) yw wedi ei bennu’n halogedig o bosibl gan arolygydd at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(iii) neu (c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

ystyr “hysbysiad” (“notice”), yn Rhan A, yw hysbysiad o dan erthygl 32;

ystyr “tatws hadyd ardystiedig” (“certified seed potatoes”) yw tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig fel y’u diffinir gan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau Tatws Hadyd.

RHAN AMesurau arbennig ar gyfer rheoli Pydredd coch tatws

Deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrychau sy’n halogedig neu’n halogedig o bosibl â Phydredd coch tatws

2.  Ni chaiff unrhyw berson blannu yn fwriadol, neu beri neu ganiatáu yn fwriadol i gael eu plannu—

(a)unrhyw ddeunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau; neu

(b)unrhyw ddeunydd sy’n halogedig o bosibl sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.

3.  Caiff hysbysiad ei gwneud yn ofynnol—

(a)bod deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn destun unrhyw fesur sy’n cydymffurfio â phwynt 1 o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(b)bod deunydd sy’n halogedig o bosibl sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn cael ei ddefnyddio neu ei waredu yn unol â phwynt 2 o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(c)bod gwrthrych halogedig neu wrthrych sy’n halogedig o bosibl yn cael ei—

(i)gwaredu drwy ei ddinistrio; neu

(ii)glanhau a’i ddiheintio er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws.

4.  Ni chaniateir trin unrhyw beth a lanheir ac a ddiheintir yn unol â pharagraff 3(c)(ii) yn halogedig mwyach at ddibenion Cyfarwyddeb 98/57/EC.

Mesurau y caniateir eu gwneud yn ofynnol mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig

5.  Caiff arolygydd gyflwyno’r hysbysiadau a ganlyn mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig sydd mewn parth a ddarnodir gan arolygydd o dan erthygl 39(4)—

(a)yn achos cae halogedig neu uned gynhyrchu cnwd dan orchudd halogedig, hysbysiad sy’n cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu neu hysbysiad sy’n cynnwys yr ail set o fesurau dileu;

(b)yn achos cae nad yw’n halogedig a, phan fo’r arolygydd wedi ei fodloni bod y risg o blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws wedi ei dileu, hysbysiad sy’n cynnwys y drydedd set o fesurau dileu.

6.  Y set gyntaf o fesurau dileu yw—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am o leiaf bedair blynedd dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu unrhyw blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol ac unrhyw blanhigion eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws;

(b)gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae neu’r uned yn ystod y cyfnod hwnnw—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws;

(ii)planhigion tomatos neu hadau tomatos;

(iii)gan ystyried bioleg Pydredd coch tatws, planhigion cynhaliol eraill neu blanhigion o’r rhywogaeth Brassica lle ceir risg bod Pydredd coch tatws yn goroesi;

(iv)cnydau lle ceir risg o ledaenu Pydredd coch tatws;

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned yn ystod y tymor cnydio tatws cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, ar yr amod y canfuwyd bod y cae neu’r uned yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomato gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, am o leiaf y ddwy flwyddyn dyfu olynol cyn plannu; a

(d)gofyniad bod rhaid cymhwyso cylch cylchdroi priodol yn y tymhorau cnydio tatws neu domatos dilynol, a rhaid i’r cylch hwnnw fod yn ddwy flynedd o leiaf pan fo tatws i’w plannu i gynhyrchu hadau.

7.  Yr ail set o fesurau dileu yw—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am bum mlynedd dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws;

(b)gofyniad—

(i)yn ystod tair blwyddyn gyntaf y blynyddoedd tyfu hynny, bod y cae neu’r uned yn cael ei gadw neu ei chadw—

(aa)yn fraenar;

(bb)gyda chnydau grawnfwyd, os yw’r arolygydd wedi ei fodloni nad oes unrhyw risg o ledaenu Pydredd coch tatws;

(cc)yn dir pori parhaus gan dorri’r borfa yn fyr neu bori’r tir yn ddwys yn fynych; neu

(dd)fel glaswellt ar gyfer cynhyrchu hadau;

(ii)mai dim ond planhigion nad ydynt yn cynnal Pydredd coch tatws ac nad oes unrhyw risg y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned; a

(iii)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn ystod y tymor cnydio tatws neu domatos cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw.

8.  Y drydedd set o fesurau dileu yw—

(a)gofyniad mai dim ond y planhigion tatws a’r planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am y flwyddyn dyfu gyntaf—

(i)tatws hadyd ardystiedig ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta;

(ii)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC, ar gyfer cynhyrchu ffrwythau;

(b)gofyniad mai dim ond y tatws a ganlyn y caniateir eu plannu yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf os yw tatws i’w plannu i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y flwyddyn honno—

(i)tatws hadyd ardystiedig;

(ii)tatws hadyd a brofwyd yn swyddogol ar gyfer absenoldeb Pydredd coch tatws ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig;

(c)gofyniad mai dim ond y planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf os yw planhigion tomatos i’w plannu i gynhyrchu planhigion neu ffrwythau yn y flwyddyn honno—

(i)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC;

(ii)os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig;

(d)yn achos tatws, gofyniad mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd dan reolaeth swyddogol o datws hadyd ardystiedig y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta;

(e)yn achos tomatos, gofyniad mai dim ond planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC neu, os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol ar gyfer cynhyrchu planhigion neu ffrwythau; ac

(f)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad hyd at ddiwedd y flwyddyn dyfu a bennir yn yr hysbysiad er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, ac unrhyw blanhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws.

9.  Caiff hysbysiad mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig—

(a)ei gwneud yn ofynnol, am gyfnod penodedig, bod rhaid i’r holl beiriannau a chyfleusterau storio yn y man cynhyrchu a ddefnyddir i gynhyrchu tatws neu domatos gael eu glanhau a, phan fo’n briodol, eu diheintio er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws;

(b)gwahardd unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu neu bennu sut y mae’n rhaid cynnal unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu at ddiben atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

10.  Caiff y mesurau y caniateir eu pennu mewn hysbysiad o dan baragraff 5 neu 9 gael eu cynnwys mewn hysbysiad gyda mesurau priodol eraill.

Mesurau ychwanegol sy’n gymwys mewn perthynas ag unedau cynhyrchu cnwd dan orchudd

11.  Pan fo’n bosibl amnewid yr holl gyfrwng tyfu mewn uned gynhyrchu cnwd dan orchudd halogedig, ni chaiff unrhyw berson blannu yn yr uned unrhyw gloron, planhigion tatws na gwir hadau tatws, planhigion tomatos na hadau tomatos na phlanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws heb awdurdodiad ysgrifenedig arolygydd.

12.  Ni chaiff arolygydd roi awdurdodiad o dan baragraff 11 oni bai—

(a)y cydymffurfiwyd â’r holl fesurau i ddileu Pydredd coch tatws a bennir mewn hysbysiad mewn perthynas â’r man cynhyrchu lle y mae’r uned wedi ei lleoli;

(b)bod y cyfrwng tyfu yn yr uned wedi ei newid yn llwyr; ac

(c)bod yr uned a’r holl gyfarpar a ddefnyddir yn yr uned wedi eu glanhau a’u diheintio i ddileu Pydredd coch tatws a symud ymaith yr holl ddeunydd planhigion cynhaliol.

13.  Caiff awdurdodiad o dan baragraff 11—

(a)mewn perthynas â chynhyrchu tatws, bennu mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu gloron bychain neu ficro-blanhigion sy’n deillio o ffynonellau a brofwyd yn swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu;

(b)mewn perthynas â chynhyrchu tomatos, bennu mai dim ond hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC neu, os cânt eu lluosogi yn llystyfol, blanhigion tomatos a gynhyrchwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC ac a dyfir o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu;

(c)gwahardd unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu;

(d)pennu sut y mae’n rhaid cynnal unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu at ddiben atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

RHAN BDarnodi parthau rheoli Pydredd coch tatws

14.  Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo arolygydd wedi darnodi parth mewn perthynas ag achos o gadarnhau bod Pydredd coch tatws wedi ei ganfod o dan erthygl 39(4).

15.  Caiff Gweinidogion Cymru bennu, drwy hysbysiad—

(a)am ba mor hir y mae’r parth i barhau i fod wedi ei ddarnodi;

(b)y mesurau sy’n gymwys yn y parth sydd wedi ei ddarnodi.

16.  Mewn perthynas â hysbysiad o dan baragraff 15—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled y parth sydd wedi ei ddarnodi;

(c)rhaid iddo bennu, mewn perthynas â phob mesur, pa un a yw’n gymwys yn gyffredinol neu i grynhofa dŵr wyneb yn y parth sydd wedi ei ddarnodi;

(d)rhaid iddo bennu’r dyddiad y mae pob mesur yn cael effaith;

(e)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn dull sy’n briodol i’w ddwyn i sylw’r cyhoedd; ac

(f)caniateir ei ddiwygio, ei atal dros dro neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad pellach.

17.  Rhaid trin unrhyw fangre sy’n rhannol o fewn parth sydd wedi ei ddarnodi ac yn rhannol y tu allan i barth sydd wedi ei ddarnodi fel pe bai o fewn y parth hwnnw at ddibenion yr Atodlen hon, ac eithrio pan na fo’r rhan sydd y tu allan i’r parth sydd wedi ei ddarnodi yng Nghymru.

18.  Mae hysbysiad a gyhoeddir yn unol â pharagraff 16 i’w drin fel pe bai wedi ei gyflwyno i—

(a)unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am unrhyw fangre o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi;

(b)unrhyw berson—

(i)sydd â hawl i ddefnyddio unrhyw ddŵr wyneb halogedig;

(ii)sydd ag unrhyw ddŵr wyneb halogedig mewn mangre o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi y mae’r person yn ei meddiannu neu â gofal amdani; ac

(c)unrhyw berson sy’n gweithredu peiriannau neu’n cyflawni unrhyw weithgarwch arall mewn perthynas â chynhyrchu tatws neu domatos o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi.

19.  Caiff Gweinidogion Cymru bennu mewn hysbysiad o dan baragraff 15—

(a)bod rhaid glanhau a, phan fo’n briodol, ddiheintio unrhyw beiriannau neu storfeydd mewn mangre o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi a ddefnyddir i dyfu, i storio neu i drafod cloron tatws neu domatos o fewn y parth, neu unrhyw fangre o fewn y parth y gweithredir peiriannau o dan gontract ar gyfer cynhyrchu tatws neu domatos ohoni, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy bod Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu;

(b)yn achos cnydau tatws, mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfir o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu;

(c)bod rhaid trafod tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu ar wahân i’r holl datws eraill mewn mangre o fewn y parth neu fod rhaid gweithredu system lanhau a, phan fo’n briodol, ddiheintio rhwng trafod tatws hadyd a thatws bwyta;

(d)yn achos cnydau tomatos, mai dim ond planhigion tomatos a dyfir o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC neu, os cânt eu lluosogi yn llystyfol, blanhigion tomatos a gynhyrchir o hadau o’r fath ac a dyfir o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu;

(e)ni chaniateir defnyddio dŵr wyneb halogedig ar gyfer dyfrhau na chwistrellu deunydd planhigion penodedig a, phan fo’n berthnasol, blanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws, heb awdurdodiad ysgrifenedig ymlaen llaw gan arolygydd;

(f)os yw gollyngiadau gwastraff hylifol wedi eu halogi, rhaid gwaredu unrhyw wastraff o fangre brosesu neu becynnu diwydiannol yn y parth sy’n trafod deunydd planhigion penodedig o dan oruchwyliaeth arolygydd.

20.  Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond pennu—

(a)y mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraff 19(a) i (d) pan fo’r parth wedi ei ddarnodi at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(iv) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(b)y mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraff 19(e) ac (f) pan fo’r parth wedi ei ddarnodi at ddibenion Erthygl 5(1)(c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill