Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 1074 (Cy. 224)

Y Diwydiant Dŵr, Cymru

Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018

Gwnaed

10 Hydref 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

15 Hydref 2018

Yn dod i rym

7 Ionawr 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 32 a 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(1), a pharagraffau 4(a), 7(4)(b) ac (c) a 23(4)(a) o Atodlen 3 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Ionawr 2019.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Atodlen 3” (“Schedule 3”) yw Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.

(2Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriad at “gwaith adeiladu(2)” i’w ddehongli fel cyfeiriad at waith adeiladu sydd â goblygiadau o ran draenio(3).

Gwaith adeiladu nad yw i gael ei drin fel pe bai goblygiadau iddo o ran draenio

3.—(1Nid yw gwaith adeiladu a fyddai, oni bai am yr erthygl hon, â goblygiadau o ran draenio i’w drin fel pe bai goblygiadau iddo o ran draenio os caiff ei wneud o dan yr amgylchiadau ym mharagraff (2).

(2Mae’r amgylchiadau fel a ganlyn—

(a)pan fo gwaith adeiladu yn cael ei wneud gan fwrdd draenio mewnol drwy arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf Draenio Tir 1991(4);

(b)pan fo gwaith adeiladu yn cael ei wneud at ddiben adeiladu, neu mewn cysylltiad ag adeiladu—

(i)ffordd y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod priffyrdd ar ei chyfer;

(ii)rheilffordd gan Network Rail.

(3Yn yr erthygl hon—

mae i “awdurdod priffyrdd” yr ystyr a roddir i “highway authority” yn adran 1 o Ddeddf Priffyrdd 1980(5);

mae i “bwrdd draenio mewnol” yr ystyr a roddir i “internal drainage board” yn adran 1 o Ddeddf Draenio Tir 1991;

ystyr “Network Rail” yw Network Rail Infrastructure Limited (Rhif Cwmni 02904587) y mae ei swyddfa gofrestredig yn 1 Eversholt Street, Llundain, NW1 2DN;

mae i “rheilffordd” yr un ystyr ag a roddir i “railway” yn adran 67(1) o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992(6).

Eithriadau i’r gofyniad i gael cymeradwyaeth: caniatâd cynllunio heb fod yn ofynnol

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw’r gofyniad i gael cymeradwyaeth o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 yn gymwys i waith adeiladu pan na fo’n ofynnol cael caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith adeiladu(7).

(2Nid yw’r eithriad ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo’r gwaith adeiladu yn cynnwys adeiladu adeilad neu strwythur arall ar ddarn o dir sy’n mesur 100 metr sgwâr neu fwy.

Eithriadau i’r gofyniad i gael cymeradwyaeth: caniatâd cynllunio gofynnol

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw’r gofyniad i gael cymeradwyaeth o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 yn gymwys i unrhyw waith adeiladu, cyn 7 Ionawr 2019—

(a)a gafodd ganiatâd cynllunio neu y tybir iddo gael caniatâd cynllunio mewn cysylltiad ag ef (pa un ai yw’n ddarostyngedig i unrhyw amod o ran mater a gedwir yn ôl ai peidio), neu

(b)yr oedd awdurdod cynllunio lleol wedi cael cais dilys am ganiatâd cynllunio mewn cysylltiad ag ef, ond nad oedd wedi penderfynu arno’n derfynol erbyn y dyddiad hwnnw.

(2Nid yw’r eithriad ym mharagraff (1) yn gymwys i waith adeiladu y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer cyn 7 Ionawr 2019—

(a)os rhoddwyd y caniatâd yn ddarostyngedig i amod o ran mater a gedwir yn ôl, a

(b)os na wneir cais am gymeradwyaeth ar gyfer y mater a gedwir yn ôl o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 7 Ionawr 2019.

(3At ddibenion y Gorchymyn hwn, ceir cais dilys am ganiatâd cynllunio cyn 7 Ionawr 2019 os cafodd ei wneud cyn y dyddiad hwnnw a’i fod yn cydymffurfio â Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(8).

(4Yn yr erthygl hon—

mae i “awdurdod cynllunio lleol” yr ystyr a roddir i “local planning authority” yn adran 1(1B) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(9);

mae i “mater a gedwir yn ôl” yr ystyr a roddir i “reserved matter” yn adran 92(1) o’r Ddeddf honno.

Eithriadau i’r gofyniad i gael cymeradwyaeth: arwynebedd adeiladu o lai na 100 metr sgwâr

6.—(1Nid yw’r gofyniad i gael cymeradwyaeth o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 yn gymwys—

(a)pan fo gwaith adeiladu yn cynnwys—

(i)adeiladu un tŷ annedd, a

(ii)darn o dir lle y gwneir y gwaith adeiladu sy’n mesur llai na 100 metr sgwâr, neu

(b)yn achos unrhyw fath arall o waith adeiladu, pan fo’r darn o dir lle y gwneir y gwaith adeiladu yn mesur llai na 100 metr sgwâr.

(2Mae’r erthygl hon yn gymwys pa un a yw caniatâd cynllunio yn ofynnol ai peidio ar gyfer y gwaith adeiladu.

Penderfynu ar archiadau i fabwysiadu

7.—(1Y cyfnod y mae’n rhaid i gorff cymeradwyo(10) system ddraenio benderfynu ar archiad i fabwysiadu’r system ddraenio o’i fewn yw—

(a)8 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl iddo gael yr archiad, neu

(b)unrhyw gyfnod estynedig y cytunwyd arno gan y corff cymeradwyo a’r datblygwr(11) cyn diwedd y cyfnod yn is-baragraff (a).

(2Tybir bod corff cymeradwyo sy’n methu â phenderfynu ar archiad o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) wedi gwrthod yr archiad.

(3Yn yr erthygl hon—

ystyr “archiad i fabwysiadu” (“request to adopt”) yw archiad yn unol â pharagraff 23(2)(b) o Atodlen 3;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, nac yn ŵyl banc, o fewn yr ystyr a roddir i “bank holiday” yn adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(12), neu ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru.

Hannah Blythyn

Gweinidog yr Amgylchedd, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

10 Hydref 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r gofyniad i gael cymeradwyaeth ar gyfer systemau draenio cynaliadwy, ac archiadau i’w mabwysiadu, o dan Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29) (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 3 yn darparu nad yw mathau penodol o waith adeiladu i’w trin fel pe bai oblygiadau iddynt o ran draenio.

Mae erthygl 4(1) yn darparu bod gwaith adeiladu nad oes angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer yn cael ei eithrio rhag y gofyniad ym mharagraff 7 (gofyniad i gael cymeradwyaeth) o Atodlen 3 i’r Ddeddf. Mae erthygl 4(2) yn darparu nad yw’r eithriad yn gymwys pan fo gan y gwaith adeiladu arwynebedd o 100 metr sgwâr neu fwy.

Mae erthygl 5(1) yn darparu, pan fo angen caniatâd cynllunio mewn perthynas â gwaith adeiladu, a bod y caniatâd yn cael ei roi, neu pan fo awdurdod cynllunio yn cael cais dilys am ganiatâd cynllunio ar gyfer gwaith adeiladu cyn 7 Ionawr 2019 (dyddiad dod i rym y Gorchymyn hwn), nid yw’r gofyniad i gael cymeradwyaeth yn gymwys.

Mae erthygl 5(1) wedi ei hamodi gan erthygl 5(2), sy’n darparu nad yw’r eithriad yn erthygl 5(1) yn gymwys pan fo caniatâd cynllunio wedi ei roi yn ddarostyngedig i fater a gedwir yn ôl, ac nad yw cais am gymeradwyaeth ar gyfer y mater a gedwir yn ôl yn cael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 7 Ionawr 2019.

Mae erthygl 6 yn darparu bod gwaith adeiladu sy’n cynnwys adeiladu un tŷ annedd, neu fath arall o adeilad, ar arwynebedd o 100 metr sgwâr neu lai, pa un a oes angen caniatâd cynllunio ai peidio, wedi ei eithrio o’r gofyniad i gael cymeradwyaeth.

Mae erthygl 7(1) yn darparu bod rhaid i gorff cymeradwyo benderfynu ar archiad i fabwysiadu system ddraenio o fewn 8 wythnos o gael yr archiad, neu unrhyw gyfnod hwy y cytunwyd arni gan y corff cymeradwyo a’r datblygwr, cyn i’r cyfnod cychwynnol o 8 wythnos ddod i ben.

Mae erthygl 7(2) yn darparu y tybir bod methiant corff cymeradwyo i benderfynu ar archiad o fewn y cyfnod a bennir yn erthygl 7(1) yn archiad a wrthodir.

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol, o ran Cymru, o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

2010 p. 29. Diwygiwyd Atodlen 3 gan adrannau 21(3), 88(a) ac 88(b) o Ddeddf Dŵr 2014 (p. 21) ac O.S. 2012/1659 a 2013/755 (Cy. 90).

(2)

Diffinnir “construction work” ym mharagraff 7(2)(a) o Atodlen 3.

(3)

Diffinnir “drainage implications” ym mharagraff 7(2)(b) o Atodlen 3.

(5)

1980 p. 66. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC) gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mae swyddogaethau CCC yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(7)

Diffinnir “planning permission” ym mharagraff 8(4) o Atodlen 3.

(9)

1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 1(1B) gan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19).

(10)

Diffinnir “approving body” ym mharagraff 6 o Atodlen 3.

(11)

Diffinnir “developer” mewn perthynas ag archiad i fabwysiadu ym mharagraff 23(2)(b) o Atodlen 3.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill