- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Gwnaed
21 Tachwedd 2018
Yn dod i rym
22 Tachwedd 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 22 o Ddeddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018(1) (“y Ddeddf”).
Yn unol â pharagraff 1(2) o Atodlen 2 i’r Ddeddf, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â datganiad sy’n nodi barn Gweinidogion Cymru ynghylch a ddylai’r weithdrefn yn is-baragraffau (6) i (14) o baragraff 1 o Atodlen 2 fod yn gymwys i’r offeryn hwn.
Yn unol â pharagraff 1(3) o Atodlen 2 i’r Ddeddf, gosodwyd datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n esbonio pam y mae angen darpariaeth i addasu deddfwriaeth sylfaenol.
Yn unol â pharagraff 1(6) o Atodlen 2 i’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i—
(a)unrhyw sylwadau,
(b)unrhyw benderfyniadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac
(c)unrhyw argymhellion gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft,
a wneir yn ystod y cyfnod o 60 o ddiwrnodau o ran y rheoliadau drafft(2).
Yn unol â pharagraff 1(7) o Atodlen 2 i’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi gosod datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru—
(a)sy’n datgan a gyflwynwyd unrhyw sylwadau, a
(b)sydd, os cyflwynwyd unrhyw sylwadau, yn rhoi manylion y sylwadau hynny.
Yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 2 i’r Ddeddf, cymeradwywyd drafft o’r rheoliadau drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Tachwedd 2018.
2. Mae Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 wedi ei diddymu.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
21 Tachwedd 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diddymu Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”) ac maent wedi eu gwneud o dan adran 22 o’r Ddeddf. Mae adran 22 o’r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiddymu, drwy reoliadau, y Ddeddf neu unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Ymgymerwyd ag asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Ddeddf. Roedd yr asesiad effaith rheoleiddiol hwnnw yn cynnwys asesiad o’r opsiwn i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i wella Bil yr UE (Ymadael) i adlewyrchu’r setliad datganoli yn well. Gan fod y Rheoliadau hyn yn adlewyrchu’r opsiwn hwnnw, ceir gwybodaeth am effaith y Rheoliadau hyn yn yr asesiad effaith rheoleiddiol hwnnw. Mae’r asesiad effaith rheoleiddiol ar gael ar: http://www.assembly.wales/laid%20documents/pri-ld11449-em/pri-ld11449-em-w.pdf.
Mae paragraff 1(16) yn darparu mai’r cyfnod o “60 o ddiwrnodau” mewn perthynas ag unrhyw reoliadau drafft yw’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y rheoliadau drafft eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae paragraff 1(17) yn darparu nad oes unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw amser pan yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys