Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/12/2020.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Adnoddau Dŵr, Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Y Diwydiannau Da Byw
Anifeiliaid, Cymru
Iechyd Anifeiliaid
Lles Anifeiliaid
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Y Diwydiant Dŵr, Cymru
Dŵr, Cymru
Garddwriaeth, Cymru
Gwastraff, Cymru
Hadau, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Pysgodfeydd Môr, Cymru
Cadwraeth Pysgod Môr
Rhyddid Gwybodaeth, Cymru
Gwnaed
20 Tachwedd 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
23 Tachwedd 2018
Yn dod i rym
17 Rhagfyr 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
(a)adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”)(1) a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliadau 2, 5, 15, 16, 36 and 37;
(b)adran 58B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2), i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoliadau 2 a 5;
(c)adrannau 103(1) i (3), (7), 104(4) a (6) o Ddeddf Dŵr 2003(3), i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliad 15;
(d)adrannau 33A a 219(2)(f) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(4), i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliad 16;
(e)adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(5), i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliadau 36 a 37.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(6) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf 1972 mewn perthynas ag—
(a)ansawdd dŵr a fwriedir at ddibenion domestig neu i’w ddefnyddio mewn menter cynhyrchu bwyd(7);
(b)mesurau sy’n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli pecynnu a gwastraff pecynnu(8);
(c)atal, lleihau a rheoli gwastraff(9);
(d)atal halogi tir ac adfer tir halogedig(10);
(e)rheoli perygl llifogydd(11);
(f)mesurau sy’n ymwneud ag adnoddau dŵr(12);
(g)diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol(13);
(h)y polisi amaethyddol cyffredin(14);
(i)y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd(15);
(j)mesurau sy’n ymwneud â rheoli a rheoleiddio achosion o ryddhau’n fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, gosod yr organeddau hynny ar y farchnad a’u symud ar draws ffiniau(16);
(k)polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(17);
(l)y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd(18).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn rheoliadau 11, 17(2), 17(3), 18(2)(a), 18(2)(b), 18(3), 23, 37(2)(a) a 37(4) fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Rhagfyr 2018.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
2.—(1) Mae Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 1994(19) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a)yn y diffiniad o “the Directive”, ar ôl “treatment,” mewnosoder “as last amended by Regulation (EC) No 1137/2008 of the European Parliament and of the Council(20),”;
(b)yn y geiriau ar ôl y diffiniad o “Wales”, ar ôl “used” mewnosoder “in these Regulations and”.
(3) Yn Atodlen 1, yn Rhan 1, ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “the concentration” hyd at “Member States” rhodder “50 mg/l of nitrates in 95% of the samples”.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
3. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Dŵr Yfed (Ymgymeriadau) (Cymru a Lloegr) 2000(21), ar ôl “human consumption)” mewnosoder “, as last amended by Commission Directive (EU) 2015/1787(22),”.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
4.—(1) Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002(23) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
F1(2) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3) Yn lle rheoliad 13(4)(c) rhodder—
“(c)unrhyw berson, neu unrhyw aelod o bwyllgor diogelwch addasu genetig, y mae’n rhaid cael cyngor ganddo o dan reoliad 8 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 2014(24),”.
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 4(2) wedi ei dirymu (31.12.2020 yn union cyn diwrnod ymadael) gan Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019 (O.S. 2019/1492), rhlau. 1(2), 4(1); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
5. Yn rheoliad 18(6) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(25), yn lle’r geiriau o “applies to a decision notice” hyd at y diwedd rhodder “does not apply”.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
6.—(1) Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(26) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 12(3), yn lle “Rheoliad y Cyngor 259/93/EEC(27)” rhodder “Rheoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 14 Mehefin 2006 ar drawslwytho gwastraff(28)”.
(3) Yn Atodlen 7, ym mharagraff 1(b), yn lle’r geiriau o “yr Atodiad” hyd at “1994” rhodder “Atodiad 1A i Reoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar drawslwytho gwastraff”.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
7. Yn rheoliad 3(b)(ii) o Reoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006(29), ar ôl “polisi dŵr” mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU(30)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
8.—(1) Mae Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009(31) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 20, cyn paragraff (1), mewnosoder—
“(A1) Pan fo gweithredwr cyfrifol wedi cael hysbysiad oddi wrth yr awdurdod gorfodi o dan reoliad 18, rhaid iddo, yn ddi-oed, canfod mesurau adfer posibl yn unol ag Atodlen 4, a chyflwyno’r mesurau hynny yn ysgrifenedig i’r awdurdod gorfodi i’w cymeradwyo ganddo.”
(3) Yn Atodlen 1, yn lle paragraff 5 rhodder—
“5.—(1) Nid yw difrod i rywogaeth a warchodir neu gynefin naturiol a difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol ag—
(a)Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994(32);
(b)Rheoliadau Gweithgarwch Petrolewm Alltraeth (Cadwraeth Cynefinoedd) 2001(33);
(c)Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(34);
(d)Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017(35);
(e)Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017(36).
(2) Nid yw difrod i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys, yn achos safle nad yw’n safle Ewropeaidd, difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(37).
(3) Yn is-baragraff (2), mae i “safle Ewropeaidd” yr un ystyr ag a roddir i “European site” yn rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.”
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
9.—(1) Mae Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2011(38) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5(3), yn y diffiniad o “tystysgrif CITES” (“CITES certificate”), ar ôl “fasnach ynddynt” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/160(39),”.
(3) Yn rheoliad 6(2), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2015/870(40)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
10. Yn erthygl 3(4) o Orchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011(41)—
(a)yn is-baragraff (b), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17(EU)(42)”;
(b)yn is-baragraff (c), ar ôl “polisi dŵr” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU”;
(c)ar ôl is-baragraff (c) hepgorer “a”;
(d)yn is-baragraff (ch), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17/EU”.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
11. Yn Atodlen 1 i Reoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012(43), ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “clinical waste”, ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “Council Directive” hyd at y diwedd rhodder “Regulation (EC) No 1272/2008 of the European Parliament and of the Council on classification, labelling and packaging of substances and mixtures(44), as amended from time to time,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
12. Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013(45), ar ôl “water policy” mewnosoder “, as last amended by Commission Directive 2014/101/EU”.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
13.—(1) Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013(46) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6, yn y diffiniad o “rhanddirymiad” (“derogation”), hepgorer “a Phenderfyniad y Comisiwn 2013/781/EU”.
(3) Yn rheoliad 11(2)(b), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/1787(47)”.
(4) Yn rheoliad 22(2)(a)(ii), ar y diwedd mewnosoder “, neu Reoliad (EU) 1305/2013(48)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 13 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
14. Yn Atodlen 10 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016(49), ym mharagraff 5—
(a)yn is-baragraff (4), yn lle’r geiriau o “Regulation” hyd at y diwedd rhodder “Regulation (EU) 2017/852 of the European Parliament and of the Council on mercury(50)”;
(b)hepgorer is-baragraff (5).
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 14 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
15. Yn rheoliad 9 o Reoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 2017(51), yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) In paragraph (1), an abstraction of more limited extent does not include—
(a)a Qn95 hands-off flow constraint on a licence where the licensed abstraction is from a body of inland waters or a body of groundwater where the recent actual flow or quantitative status of the source of supply does not support good ecological potential, good ecological status or good quantitative status, or
(b)75% of Qn99 hands-off flow constraint on a licence where the licenced abstraction is from a body of inland waters or a body of groundwater where the recent actual flow or quantitative status of the source of supply supports good ecological potential, good ecological status or good quantitative status.”
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 15 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
16.—(1) Mae Rheoliadau Tynnu Dŵr a’i Gronni (Esemptiadau) 2017(52) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a)yn lle’r diffiniad o “the 2010 Regulations” rhodder—
““the 2017 Regulations” means the Conservation of Habitats and Species Regulations 2017(53);”;
(b)yn y diffiniad o “conservation site”—
(i)ym mharagraff (a), yn lle “regulation 10(5) of the 2010 Regulations” rhodder “regulation 12(5) of the 2017 Regulations”;
(ii)ym mharagraff (b), yn lle “regulation 11 of the 2010 Regulations” rhodder “regulation 13 of the 2017 Regulations”;
(iii)ym mharagraff (c), yn lle “regulations 12A and 12B, respectively, of the 2010 Regulations” rhodder “regulations 15 and 16, respectively, of the 2017 Regulations”;
(c)yn y diffiniad o “protected species”, ym mharagraff (a), yn lle “regulation 40(1) of, and Schedule 2 to, the 2010 Regulations” rhodder “regulation 42(1) of, and Schedule 2 to, the 2017 Regulations”.
(3) Yn rheoliad 14(1)(b), yn lle “regulation 99(2) of the 2010 Regulations” rhodder “regulation 102(2) of the 2017 Regulations”.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Rhl. 16 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
17.—(1) Mae Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004(54) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”), yn lle “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/62/EC” rhodder “, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
(3) Yn rheoliad 5(2)(b), yn lle “Gyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC” rhodder “Gyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar y amgylchedd(55), fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Rhl. 17 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
18.—(1) Mae Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015(56) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1—
(a)yn Rhan 1, colofn 1, adran ‘P’, ar ôl “Reoliad (EC) Rhif 440/2008” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;
(b)yn Rhan 4—
(i)ym mharagraff 11(1), ar ôl “chyflenwyr erosol”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;
(ii)ym mharagraff 13(a), ar ôl “gwrteithiau” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;
(iii)ym mharagraffau 14 ac 16(b), ar ôl “Reoliad (EC) Rhif 2003/2003”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
(3) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6(a), yn lle “Erthygl 3(1)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1102/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wahardd allforio mercwri metelaidd a chyfansoddion a chymysgeddau penodol mercwri a storio mercwri metelaidd yn ddiogel” rhodder “Erthygl 13(1) o Reoliad (EU) 2017/852 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fercwri, ac sy’n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1102/2008(57), fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Rhl. 18 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
19.—(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016(58) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1, ym mharagraffau 9 a 10, yn lle “Atodiad IIA i Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC” rhodder “Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor(59), fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997(60)”.
(3) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2, yn rhes 3(g) o golofn 2 o’r tabl, ym mharagraff (ii), yn lle “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010” rhodder “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016(61)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Rhl. 19 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
20.—(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017(62) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1, ym mharagraffau 9 a 10, yn lle “Atodiad IIA i Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC” rhodder “Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997,”.
(3) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2, yn rhes 3(g) o golofn 2 o’r tabl, ym mharagraff (ii), yn lle “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010” rhodder “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016”.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Rhl. 20 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
21.—(1) Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995(63) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5(d)(i), yn lle “the Vegetable Seeds Regulations 1993(64)” rhodder “the Seed Marketing (Wales) Regulations 2012(65)”.
(3) Yn rheoliad 8(4), yn lle “the Vegetable Seeds Regulations 1993” rhodder “the Seed Marketing (Wales) Regulations 2012”.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Rhl. 21 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
22.—(1) Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 1999(66) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a)hepgorer y diffiniad o “Directive 77/93/EEC”;
(b)yn y diffiniad o “Directive 98/56/EC”, ar y diwedd mewnosoder “, as last amended by Regulation (EU) No 652/2014 of the European Parliament and of the Council(67)”;
(c)ar ôl y diffiniad o “Directive 98/56/EC” mewnosoder—
““Directive 2000/29/EC” means Council Directive 2000/29/EC on protective measures against the introduction into the Community of organisms harmful to plants or plant products and against their spread within the Community(68);”.
(3) Yn rheoliad 9(2), yn lle “Council Directive 77/93/EEC” rhodder “Directive 2000/29/EC”.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Rhl. 22 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
23. Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009(69), yn lle’r diffiniad o “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) rhodder—
“Ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin ar gyfer marchnadoedd cynhyrchion amaethyddol(70), fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Rhl. 23 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
24. Yn rheoliad 3 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(71)—
(a)yn y diffiniad o “y Penderfyniad” (“the Decision”), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/320(72)”;
(b)yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2016/317(73)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Rhl. 24 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
25.—(1) Mae Gorchymyn Mewnforio Embryonau, Ofa a Semen 1980(74) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2—
(a)ym mharagraff (a), yn lle “the Animal Health Act 1981(75)” rhodder “the Act”;
(b)ym mharagraff (b), yn lle “section 84(3)(a) and (b)” rhodder “section 88(1) and (3)”.
(3) Yn erthygl 3, yn y diffiniad o “the Act”, yn lle “the Diseases of Animals Act 1950(76)” rhodder “the Animal Health Act 1981”.
(4) Hepgorer erthygl 9.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Rhl. 25 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
26.—(1) Mae Gorchymyn Mewnforio Cynhyrchion Anifeiliaid a Chynhyrchion Dofednod 1980(77) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2—
(a)yn y geiriau cyn paragraff (a), yn lle “the Animal Health Act 1981 (“the 1981 Act”)” rhodder “the Act”;
(b)ym mharagraffau (a) a (b), yn lle “the 1981 Act” rhodder “the Act”.
(3) Yn erthygl 3, yn y diffiniad o “the Act”, yn lle “the Diseases of Animals Act 1950” rhodder “the Animal Health Act 1981”.
(4) Hepgorer erthygl 10.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Rhl. 26 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
27.—(1) Mae Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003(78) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3(1)—
(a)yn y lle priodol, mewnosoder—
“ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC” (“Council Directive 2005/94/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ar fesurau’r Gymuned i reoli ffliw adar(79);”;
(b)yn y diffiniad o “diheintio” (“disinfect”), yn lle “Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978(80)” rhodder “Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 2007(81)”.
(3) Yn erthygl 6(4), yn lle “Atodiad III o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC(82)” rhodder “Erthygl 50 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC”.
(4) Yn Atodlen 1—
(a)yn Rhan 1, ym mharagraff 6, yn lle “erthygl 4.2(e) o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC, ac Atodiad I iddi” rhodder “Erthygl 7(2)(f) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ac Atodiad 3 iddi”;
(b)yn Rhan 2, ym mharagraff 11, yn lle “Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC” rhodder “Atodiad 6 i Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC”.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Rhl. 27 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
28.—(1) Mae Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 2006(83) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 8(a), yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.
(3) Yn erthygl 43(1)(b)(ii), yn lle’r geiriau o “regulation 9” hyd at y diwedd rhodder “the Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 2011(84)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Rhl. 28 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
29.—(1) Mae Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006(85) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2, yn y diffiniad o “border inspection post”, yn lle’r geiriau o “Schedule 2” hyd at y diwedd rhodder “regulation 11 of the Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 2011”.
(3) Yn erthygl 3—
(a)ym mharagraff (4), yn lle “the Specified Animal Pathogens Order 1998(86)” rhodder “the Specified Animal Pathogens (Wales) Order 2008(87)”;
(b)ym mharagraff (5), yn lle’r geiriau o “Regulation 19” hyd at y diwedd rhodder “Article 6 of Commission Implementing Regulation (EU) No 139/2013 laying down animal health conditions for imports of certain birds into the Union and the quarantine conditions thereof(88)”.
(4) Yn erthygl 4(7), yn lle “Department for Agriculture and Rural Development of Northern Ireland” rhodder “Department of Agriculture, Environment and Rural Affairs, Northern Ireland”.
(5) Yn erthygl 66(5)(a), yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.
(6) Yn erthygl 71(3)—
(a)yn is-baragraff (a), yn lle “section 8(2) of the Medicines Act 1968(89)” rhodder “regulation 17 of the Human Medicines Regulations 2012(90)”;
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “Regulation 5 of the Veterinary Medicines Regulations 2005(91)” rhodder “regulation 5 of the Veterinary Medicines Regulations 2013(92)”;
(c)yn is-baragraff (d), yn lle “the Specified Animal Pathogens Order 1998” rhodder “the Specified Animals Pathogens (Wales) Order 2008”.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Rhl. 29 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
30. Yn rheoliad 5(2)(b) o Reoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006(93), yn lle “reoliad 8(3) o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005” rhodder “reoliad 3(2)(b) o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013”.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Rhl. 30 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
31.—(1) Mae Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 2006(94) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 12—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)ar ôl is-baragraff (a) hepgorer “or”;
(ii)hepgorer is-baragraff (b);
(b)hepgorer paragraff (2).
(3) Yn erthygl 17(1)(a), yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Rhl. 31 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
32. Yn erthygl 18(1)(a) o Orchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006(95), yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Rhl. 32 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
33. Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007(96)—
(a)yn is-baragraff (a), yn lle’r geiriau o “Cyfarwyddebau 91/630/EEC(97)” hyd at y diwedd rhodder “Cyfarwyddeb 2008/120/EC sy’n gosod safonau gofynnol ar gyfer gwarchod moch(98)”;
(b)ar ôl is-baragraff (b), hepgorer “ac”;
(c)yn is-baragraff (c), yn lle’r geiriau o “Cyfarwyddebau 91/629/EEC(99)” hyd at y diwedd rhodder “Cyfarwyddeb 2008/119/EC sy’n gosod safonau gofynnol ar gyfer gwarchod lloi(100)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Rhl. 33 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
34. Yn rheoliad 17 o Reoliadau’r Tafod Glas (Cymru) 2008(101), yn lle “Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2011(102)” rhodder “Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013”.
Gwybodaeth Cychwyn
I34Rhl. 34 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
35.—(1) Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Cymru) 2009(103) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2, yn y lle priodol, mewnosoder—
“ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012” (“Commission Regulation (EU) No 200/2012”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012 dyddiedig 8 Mawrth 2012 ynghylch targed yr Undeb ar gyfer lleihau nifer yr achosion o Salmonella enteritidis a Salmonella typhimurium mewn heidiau o frwyliaid, fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor (104).”
(3) Yn erthygl 3, yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012;”.
(4) Yn erthygl 5(1)—
(a)yn lle “Reoliad (EC) Rhif 646/2007” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012”;
(b)yn lle “phwynt 3.1” rhodder “phwynt 2.2.4”;
(c)yn lle “express post” rhodder “express mail”.
(5) Yn erthygl 8, yn lle “Reoliad (EC) Rhif 646/2007” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012”.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Rhl. 35 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
36.—(1) Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Dyrcwn (Cymru) 2010(105) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2(2)—
(a)yn lle is-baragraff (a) rhodder—
“(a)Rheoliad (EU) Rhif 1190/2012 yn gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1190/2012 ynghylch targed yr Undeb ar gyfer lleihau nifer yr achosion o Salmonella enteritidis a Salmonella typhimurium mewn heidiau o dyrcwn, fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor(106), fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, ”;
(b)hepgorer is-baragraff (b).
(3) Yn erthygl 4(1)—
(a)yn lle “Reoliad (EC) Rhif 584/2008” rhodder “Reoliad (EU) Rhif 1190/2012”;
(b)yn lle “phwynt 3.1” rhodder “phwynt 2.2.4”.
(4) Yn erthygl 7, yn lle “Reoliad (EC) Rhif 584/2008” rhodder “Reoliad (EU) Rhif 1190/2012, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
Gwybodaeth Cychwyn
I36Rhl. 36 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
37. Yn Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(107), yn Rhan 2, ym mharagraff 9(1), yn lle’r geiriau o “Rheoliad y Comisiwn” hyd at y diwedd rhodder “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 139/2013 sy’n gosod amodau iechyd anifeiliaid ar gyfer mewnforio adar penodol i mewn i’r Undeb, a’r amodau cwarantin ar eu cyfer(108)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I37Rhl. 37 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
38. Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau Dodwy (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2005(109);
(b)Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2006(110).
Gwybodaeth Cychwyn
I38Rhl. 38 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
39. Yn erthygl 2 o Orchymyn Trwyddedu Pysgod Môr 1992(111), yn y diffiniad o “length”, yn lle’r geiriau o “Council Regulation” hyd at y diwedd rhodder “Regulation (EU) 2017/1130 of the European Parliament and of the Council defining characteristics for fishing vessels(112)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I39Rhl. 39 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
20 Tachwedd 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ran Cymru i nifer o ddarnau o is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd, cynllunio a materion gwledig.
Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 18(6) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (O.S. 2004/3391) i derfynu cymhwysiad adran 53 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 32) (eithrio rhag dyletswydd i gydymffurfio â hysbysiad o benderfyniad neu hysbysiad gorfodi) i’r Rheoliadau hynny. Mae hyn yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys yn R (on the application of Evans) and another v Attorney General [2015] UKSC 21 bod dyroddi unrhyw dystysgrif o dan reoliad 18(6) mewn cysylltiad â gwybodaeth amgylcheddol yn anghydnaws ag Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 2003/4/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fynediad y cyhoedd at wybodaeth amgylcheddol (OJ Rhif L 41, 14.2.2003, t. 26).
Mae rheoliad 8 yn diwygio rheoliad 20 o Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/995 (Cy. 81)) (“Rheoliadau 2009”) i’w gwneud yn ofynnol i weithredwyr ganfod mesurau adfer posibl a’u cyflwyno i’r awdurdod gorfodi. Mae rheoliad 8 hefyd yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau 2009 i sicrhau y caiff Cyfarwyddeb 2004/35/EC (OJ Rhif L 143, 30.4.2004, t. 56) ei throsi’n briodol. Mae’r diwygiad yn mynd i’r afael â difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol sydd hefyd yn Safle Ewropeaidd (fel y’i diffinnir yn rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (O.S. 2017/1012)). Mae’r diwygiad yn darparu nad yw difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69) (“Deddf 1981”) wedi ei eithrio’n awtomatig rhag cwmpas Rheoliadau 2009. Bydd difrod o’r fath yn parhau i gael ei eithrio os rhoddwyd yr awdurdodiad o dan Ddeddf 1981 yn unol â deddfwriaeth sy’n trosi Cyfarwyddeb y Cyngor 92/42/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt (OJ Rhif L 206, 22.7.1992, t. 7).
Mae rheoliad 15 yn diwygio Rheoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 2017 (O.S. 2017/1047) i gywiro gwall yn y disgrifiad o ba amgylchiadau y mae’n gymwys i roi trwydded tynnu dŵr fwy cyfyngedig oddi tanynt na’r drwydded y gwnaed cais amdani.
Mae’r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau amrywiol eraill i ddeddfwriaeth ym meysydd amaethyddiaeth, iechyd a lles anifeiliaid, diogelu’r amgylchedd, pysgodfeydd môr, hadau, cynllunio gwlad a thref, gwastraff a dŵr, yn enwedig diwygio cyfeiriadau sydd wedi dyddio at ddeddfwriaeth Ewropeaidd mewn deddfwriaeth ddomestig.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.
2006 p. 32. Mewnosodwyd adran 58B gan adran 20(1) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4). Mae wedi ei diddymu yn rhagolygol gan baragraffau 27 a 34 o Atodlen 3 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) o ddyddiad sydd i’w benodi. Mae adran 58B yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth gan ddefnyddio pwerau yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 fel pe baent yn un o Weinidogion y Goron neu’n un o adrannau’r llywodraeth a ddynodwyd gan Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan y ddarpariaeth honno, ar yr amod y byddai deddfwriaeth o’r fath o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel arall. Mae adrannau 107 a 108A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ynghyd â pharagraff 171 o Ran 2 o Atodlen 7A i’r Ddeddf honno, yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud cyfreithiau mewn perthynas â gwybodaeth y caniateir i’r cyhoedd ei gweld a gedwir gan y Cynulliad, Comisiwn y Cynulliad, Llywodraeth Cymru neu unrhyw Awdurdod Cyhoeddus Cymreig, oni bai bod yr wybodaeth wedi ei ddarparu gan un o Weinidogion y Goron neu un o adrannau’r llywodraeth ac yn cael ei chadw’n gyfrinachol. Mae i “Awdurdod Cyhoeddus Cymreig” yr un ystyr ag a roddir i “Welsh Public Authority” yn adran 83 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36), ond nid yw’n cynnwys awdurdod a gedwir yn ôl o fewn yr ystyr a roddir i “reserved authority” ym mharagraff 8 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
2003 p. 37. Trosglwyddwyd y pŵer a oedd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud Rheoliadau o dan adran 103(7) i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
1991 p. 57. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 33A a 219(2), i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2(1) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidogion o dan adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn rhinwedd O.S. 2004/3044. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Yn rhinwedd adran 59(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas ag unrhyw fater, neu at unrhyw ddiben, os ydynt wedi eu dynodi mewn perthynas â’r mater hwnnw neu at y diben hwnnw.
O.S. 2004/3328. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2004/3328 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.
O.S. 2005/850, y mae diwygiad iddo nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2005/850 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.
O.S. 2007/193, y mae diwygiad iddo nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2007/193 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.
O.S. 2003/2901. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2003/2901 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.
O.S. 2001/2555. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2001/2555 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.
O.S. 2008/1792, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2003/2901, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2003/2901 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.
O.S. 1994/2841, a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/755 (Cy. 90); mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ L Rhif 311, 21.11.2008, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2014/32/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 96, 29.3.2014, t. 149).
O.S. 2000/1297, a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/996; mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 260, 7.10.2015, t. 6.
O.S. 2002/3188 (Cy. 304), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2014/1663, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2004/3391, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2005/1806 (Cy. 138), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 30, 6.2.1993, t. 1, fel y’i diddymwyd gan Reoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 190, 12.7.2006, t. 1).
OJ Rhif L 190, 12.7.2006, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2015/2002 (OJ Rhif L 294, 11.11.2015, t. 1).
O.S. 2006/2989 (Cy. 278), a ddiwygiwyd gan O.S. 2012/283 (Cy. 47).
OJ Rhif L 311, 31.10.2014, t. 32.
O.S. 2009/995 (Cy. 81), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
1994/2716, a ddiwygiwyd gan baragraff 233(1) o Atodlen 22 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25); O.S. 1996/525; 1997/3055; 2000/192 a 1973; 2003/2155; 2005/3389; 2006/1282; 2007/1843 a 3538; 2008/2172; 2009/6, 1307, 2438 a 3160; a pharagraff 4(1) o Atodlen 11 i Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23); ac a ddirymwyd (o ran Cymru a Lloegr) gan O.S. 2010/490.
O.S. 2001/1754, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/77 a 1842; a 2010/1513.
OJ Rhif L 27, 1.2.2017, t. 1.
OJ Rhif L 142, 6.6.2015, t. 3.
O.S. 2011/2829 (Cy. 302) ), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 158, 10.6.2013, t. 193.
O.S. 2012/811, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 353, 31.12.2008, t. 1.
O.S. 2013/1675, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2013/2506 (Cy. 245), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 260, 7.10.2015, t. 6.
OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 487.
O.S. 2016/1154, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 137, 24.5.2017, t. 1.
OJ Rhif L 26, 28.1.2012, t. 1.
O.S. 2015/1597 (Cy. 196), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 137, 24.5.2017, t. 1.
OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t. 3.
OJ Rhif L 150, 14.6.2017, t. 1.
O.S.1995/2652, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/2190 (Cy. 174); mae offerynnau diwygio eraill, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.
O.S.1993/2008, a ddirymwyd o ran Cymru gan O.S. 2005/3035 (Cy. 223).
O.S. 2012/245 (W. 39), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t. 1.
OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 2017/1920 (OJ Rhif L 271, 20.10.2017, t. 34).
O.S. 2009/1551 (Cy. 151), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/3270 (Cy. 320); mae offerynnau diwygio eraill, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.
OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 671.
O.S. 2016/106 (Cy. 52), a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/596 (Cy. 39).
OJ Rhif L 60, 5.3.2016, t. 88.
OJ Rhif L 60, 5.3.2016, t. 72.
O.S. 1980/12, a ddiwygiwyd gan O.S. 1994/2920; mae offerynnau diwygio eraill, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.
1950 p. 36, a ddiddymwyd gan Atodlen 6 i Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
O.S. 1980/14, a ddiwygiwyd gan O.S. 1982/948; mae offerynnau diwygio eraill, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2003/1079 (Cy. 148), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 10, 14.1.2006, t. 16, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/73/EC (OJ Rhif L 219, 14.8.2008, t. 40).
O.S. 1978/32, a ddirymwyd o ran Cymru gan O.S. 2007/2803 (Cy. 236).
OJ Rhif L 167, 22.6.1992, t. 1, fel y’i diddymwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC (OJ Rhif L 10, 14.1.2006, t. 16).
O.S. 2006/179 (Cy. 30), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2011/2379 (Cy. 252), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2006/2927 (Cy. 262), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 1998/463, a ddirymwyd o ran Cymru gan O.S. 2008/1270 (Cy. 129).
O.S. 2008/1270 (Cy. 129), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 47, 20.2.2013, t. 1.
1968 p. 67; diddymwyd adran 8 gan O.S. 2012/1916.
O.S. 2012/1916, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2005/2745, a ddirymwyd gan O.S. 2006/2407.
O.S. 2013/2033, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2006/2932 (Cy. 265), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2006/3309 (Cy. 299), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2006/3310 (Cy. 300), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2007/3070 (Cy. 264), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 340, 11.12.1991, t. 33, fel y’i diddymwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/120/EC (OJ Rhif L 47, 18.2.2009, t. 5).
OJ Rhif L 47, 18.2.2009, t. 5.
OJ Rhif L 340, 11.12.1991, t. 28, fel y’i diddymwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/119/EC (OJ Rhif L 10, 15.1.2009, t. 7).
OJ Rhif L 10, 15.1.2009, t. 7.
O.S. 2008/1090 (Cy. 116), a ddiwygiwyd gan O.S. 2012/2403 (Cy. 257); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2011/2159, a ddirymwyd gan O.S. 2013/2033.
OJ Rhif L 71, 9.3.2012, t. 31.
OJ Rhif L 340, 13.12.2012, t. 29.
O.S. 2011/2379 (Cy. 252), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 47, 20.2.2013, t. 1.
O.S. 1992/2633, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/2291, mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 169, 30.6.2017, t. 1.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: