Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Morgludiant Rhyngwladol) (Cymru) 2018

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Morgludiant Rhyngwladol) (Cymru) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016; ac

ystyr “rhestr nwyon tŷ gwydr y DU” (“UK greenhouse gas inventory”) yw adroddiad blynyddol y DU i Gynhadledd y Partïon a gyflwynir o dan erthyglau 4 a 12 o Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd a lofnodwyd yn Efrog Newydd ar 9 Mai 1992.

Allyriadau o hedfan rhyngwladol sydd i’w priodoli i Gymru

3.  Rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso Atodlen 1 i gyfrifo pa allyriadau nwyon tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol sy’n allyriadau Cymru at ddibenion adran 34(2) o’r Ddeddf ar gyfer —

(a)y flwyddyn sy’n flwyddyn waelodlin ar gyfer y nwy hwnnw, a

(b)pob blwyddyn galendr rhwng 2016-2050.

Allyriadau o forgludiant rhyngwladol sydd i’w priodoli i Gymru

4.  Rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso Atodlen 2 i gyfrifo pa allyriadau nwyon tŷ gwydr o forgludiant rhyngwladol sy’n allyriadau Cymru at ddibenion adran 34(2) o’r Ddeddf ar gyfer —

(a)y flwyddyn sy’n flwyddyn waelodlin ar gyfer y nwy hwnnw; a

(b)pob blwyddyn galendr rhwng 2016-2050.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

5 Rhagfyr 2018

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill