Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Dyletswyddau rheolwyr awdurdodau lleol

Goruchwylio digonolrwydd adnoddau

46.—(1Rhaid i reolwr yr awdurdod lleol adrodd i’r darparwr awdurdod lleol am ddigonolrwydd yr adnoddau sydd ar gael i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â gofynion y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i adroddiadau o’r fath gael eu gwneud yn chwarterol.

Adroddiadau eraill i’r darparwr awdurdod lleol

47.  Rhaid i reolwr yr awdurdod lleol, yn ddi-oed, adrodd i’r darparwr awdurdod lleol—

(a)am unrhyw bryderon ynghylch darparu’r gwasanaeth,

(b)am unrhyw newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff y gwasanaeth ei reoli neu ei ddarparu, ac

(c)am unrhyw bryderon nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

Ymgysylltu â phlant ac eraill

48.—(1Rhaid i reolwr yr awdurdod lleol roi trefniadau addas yn eu lle ar gyfer cael safbwyntiau—

(a)unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr awdurdod lleol,

(b)rhieni unrhyw blentyn o’r fath, oni bai bod hyn yn amhriodol neu’n anghyson â llesiant y plentyn,

(c)rhieni maeth, a

(d)staff sy’n cael eu cyflogi yn y gwasanaeth,

ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir a sut y gellir gwella hyn.

(2Rhaid i reolwr yr awdurdod lleol adrodd am y safbwyntiau a geir i’r darparwr awdurdod lleol er mwyn i’r safbwyntiau hyn allu cael eu hystyried gan y darparwr wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle i gofnodi cwynion

49.  Rhaid i reolwr yr awdurdod lleol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle i gofnodi cwynion.

Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle ar gyfer cadw cofnodion

50.  Rhaid i reolwr yr awdurdod lleol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle mewn perthynas â chadw cofnodion, sy’n cynnwys systemau ar gyfer sicrhau bod y cofnodion y mae rhaid iddynt gael eu cadw o dan reoliad 37 yn gywir ac yn gyflawn.

Dyletswydd i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn gyfredol

51.  Rhaid i reolwr yr awdurdod lleol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r darparwr yn cael eu cadw’n gyfredol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

Adolygiad o ansawdd y gofal

52.—(1Rhaid i reolwr yr awdurdod lleol roi trefniadau addas yn eu lle i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.

(2Rhaid i’r system a sefydlir o dan baragraff (1) wneud darpariaeth i ansawdd y gofal a’r cymorth gael ei adolygu mor aml ag sy’n ofynnol ond o leiaf bob chwe mis.

Cymorth ar gyfer codi pryderon

53.  Rhaid i reolwr yr awdurdod lleol sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu chwiban y darparwr awdurdod lleol a bod y trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill