Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliadau 2 a 4

ATODLEN 1Gwybodaeth sydd iʼw chynnwys mewn datganiad o ddiben gan ddarparwr awdurdod lleol

Rhaid iʼr datganiad o ddiben a lunnir gan ddarparwr awdurdod lleol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw a phrif gyfeiriad yr awdurdod lleol,

(b)enw rheolwr yr awdurdod lleol,

(c)datganiad o ystod anghenion y plant y maeʼr gwasanaeth iʼw ddarparu ar eu cyfer,

(d)sut y maeʼr gwasanaeth iʼw ddarparu i ddiwallu anghenion plant ac iʼw cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol,

(e)manylion strwythur rheoli a staffio’r gwasanaeth,

(f)manylion y cyfleusterau aʼr cyfarpar a fydd ar gael i rieni maeth iʼw cynorthwyo i ddiwallu anghenion plant am ofal a chymorth ac iʼw cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol,

(g)manylion y trefniadau a wnaed i gefnogi anghenion diwylliannol, ieithyddol a chrefyddol plant,

(h)manylion y trefniadau a wnaed i ddarparu cymorth i blant mewn perthynas âʼu cyfeiriadedd rhywiol aʼu hunaniaeth o ran rhywedd,

(i)manylion y trefniadau a wnaed ar gyfer ymgynghori â phlant ynghylch gweithredu gwasanaeth maethuʼr awdurdod lleol,

(j)manylion ynghylch sut y bydd yr awdurdod lleol yn diwallu anghenion iaith a chyfathrebu plant, gan gynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rheoliad 37

ATODLEN 2Y cofnodion sydd iʼw cadw gan ddarparwyr awdurdodau lleol

1.  Cofnod syʼn dangos mewn cysylltiad â phob plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth—

(a)dyddiad lleoliʼr plentyn;

(b)cynllun gofal a chymorth y plentyn;

(c)y cytundeb gofal maeth mewn cysylltiad âʼr plentyn;

(d)enw a chyfeiriad y rhieni maeth;

(e)y dyddiad y daeth lleoliad y plentyn yno i ben;

(f)cyfeiriad y plentyn cyn y lleoliad;

(g)cyfeiriad y plentyn wrth iddo ymadael âʼr lleoliad;

(h)y ddarpariaeth statudol y mae neu yr oedd gofal maeth yn cael ei ddarparu iʼr plentyn odani.

2.  Cofnod oʼr holl bersonau syʼn gweithio iʼr darparwr awdurdod lleol, a hwnnwʼn gofnod y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn mewn cysylltiad â pherson syʼn dod o fewn rheoliad 29(1)—

(a)enw llawn a chyfeiriad cartref;

(b)dyddiad geni;

(c)rhyw;

(d)cymwysterau syʼn berthnasol i, a phrofiad o wneud, gwaith syʼn ymwneud â phlant;

(e)copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) mewn cysylltiad â’r person;

(f)copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad âʼr person;

(g)pa un a ywʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr awdurdod lleol at ddibenion gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau, neu heblaw o dan gontract, neu a yw wedi ei gyflogi gan rywun ac eithrioʼr darparwr awdurdod lleol;

(h)pa un a ywʼr person yn gweithioʼn llawnamser neuʼn rhan-amser, ac, os ywʼn rhan-amser, nifer yr oriau syʼn cael eu gweithio ar gyfartaledd bob wythnos;

(i)y dyddiadau y maeʼr person yn dechrau cael ei gyflogi felly ac yn peidio â chael ei gyflogi felly;

(j)y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth;

(k)cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person; ac

(l)cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ddiweddaraf y person ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.

3.  Cofnod o bob damwain ddifrifol ac anaf difrifol syʼn digwydd i blant tra bônt wedi eu lleoli gyda rhieni maeth.

4.  Cofnod o’r holl gwynion a wneir o dan y polisi cwyno y mae’r darparwr awdurdod lleol yn ei roi yn ei le, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr awdurdod lleol mewn cysylltiad ag unrhyw gwynion o’r fath.

5.  Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw atgyfeiriadau diogelu, aʼr canlyniad.

6.  Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw achos o ddefnyddio rheolaeth neu ataliaeth gan rieni maeth ar blentyn.

Rheoliadau 2 a 29

ATODLEN 3

RHAN 1Gwybodaeth a dogfennaeth sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau syʼn gweithio mewn gwasanaethau maethu

1.  Prawf o bwy ywʼr person gan gynnwys ffotograff diweddar.

2.  Pan foʼn ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997(1), copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys a ddyroddir o dan adran 113A oʼr Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan foʼn gymwys, âʼr wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(2) (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).

3.  Pan foʼn ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys a ddyroddir o dan adran 113B oʼr Ddeddf honno ynghyd, pan foʼn gymwys, â gwybodaeth addasrwydd syʼn ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) oʼr Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd syʼn ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) oʼr Ddeddf honno).

4.  Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diwethaf, os oes un.

5.  Pan fo person wedi gweithioʼn flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, iʼr graddau y boʼn rhesymol ymarferol, oʼr rheswm pam y daeth y gyflogaeth neuʼr swydd i ben.

6.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

7.  Pan foʼn berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru.

8.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

9.  Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff oʼr fath.

RHAN 2Dehongli Rhan 1

10.  At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 o’r Atodlen hon—

(a)os nad ywʼr person y maeʼr dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—

(i)os yʼi dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr awdurdod lleol yn unol â rheoliad 29(3) neu (6), a

(ii)os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers iʼr dystysgrif gael ei dyroddi;

(b)os ywʼr person y maeʼr dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, maeʼr dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd yʼi dyroddwyd.

(2)

2006 p. 47. Mae adrannau newydd 30A a 30B i’w rhoi yn lle adrannau 30 i 32 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 fel y’i deddfwyd yn wreiddiol o ganlyniad i amnewidiadau a wnaed gan adran 72(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012. Mae adran 72(1) i’w chychwyn ar ddiwrnod sydd i’w bennu.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill