- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3. Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—
(a)yn y man priodol mewnosoder—
“(i)ystyr “cynllun gwaed cymeradwy” (“approved blood scheme”) yw—
cynllun a sefydlir neu a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu ymddiriedolaeth a sefydlir gyda chyllid a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, at y diben o roi digollediad mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei heintio gan gynhyrchion gwaed halogedig; neu
cynllun a sefydlir o dan adrannau 1 i 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) ac a weinyddir gan Ymddiriedolaeth Felindre(2) at y diben o wneud taliadau a rhoi cymorth i unigolion sydd wedi eu heintio â Hepatitis C, HIV neu’r ddau, drwy waed halogedig neu gynhyrchion gwaed halogedig a ddefnyddir gan y GIG, neu mewn cysylltiad â hynny;”;
“(ii)ystyr “Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain” yw’r cwmni sy’n dwyn yr enw “the London Emergencies Trust” (rhif 09928465) a ymgorfforwyd ar 23 Rhagfyr 2015 a’r elusen gofrestredig sy’n dwyn yr enw hwnnw (rhif 1172307) a sefydlwyd ar 28 Mawrth 2017;”;
“(iii)ystyr “aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith” (“member of the work-related activity group”) yw person sydd â galluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith, neu berson a drinnir felly, o dan naill ai—
“(iv)ystyr “Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban” yw’r cynllun sy’n dwyn yr enw “the Scottish Infected Blood Support Scheme” a weinyddir gan yr Asiantaeth Gwasanaethau Cyffredin (a gyfansoddwyd gan adran 10 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr Alban) 1978(5);”;
“(v)ystyr “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” yw’r elusen gofrestredig sy’n dwyn yr enw “the We Love Manchester Emergency Fund” (rhif 1173260) a sefydlwyd ar 30 Mai 2017;”;
(b)yn lle’r diffiniad o “cartref gofal” (“care home”) rhodder—
“mewn perthynas â “cartref gofal” (“care home”)—
yn Lloegr mae iddo’r ystyr a roddir i “care home” gan adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(6);
ei ystyr yng Nghymru yw man lle y darperir gwasanaeth cartref gofal, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(7), i oedolion yn gyfan gwbl neu’n bennaf;
yn yr Alban mae iddo’r ystyr a roddir i “care home service” gan baragraff 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010(8); a
yng Ngogledd Iwerddon mae iddo’r ystyr a roddir i “nursing home” gan erthygl 11 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003(9) neu’r ystyr a roddir i “residential care home” gan erthygl 10 o’r Gorchymyn hwnnw;”;
(c)yn lle’r diffiniad o “lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd” (“main phase employment and support allowance”) rhodder—
“ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd” (“main phase employment and support allowance”), ac eithrio yn Rhan 1 o Atodlen 7, yw lwfans cyflogaeth a chymorth pan fo—
(a)cyfrifo’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r ceisydd yn cynnwys elfen o dan adran 2(1)(b) neu 4(2)(b) o Ddeddf Diwygio Lles 2007; neu
(b)y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith;”;
(d)yn y diffiniad o “person cymwys” (“qualifying person”), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder, “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”.
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth GIG Felindre o dan erthygl 2 o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 (O.S. 1993/2838, diwygiwyd gan O.S. 1999/826).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys