Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

3.  Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—

(a)yn y man priodol mewnosoder—

(i)ystyr “cynllun gwaed cymeradwy” (“approved blood scheme”) yw—

(a)

cynllun a sefydlir neu a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu ymddiriedolaeth a sefydlir gyda chyllid a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, at y diben o roi digollediad mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei heintio gan gynhyrchion gwaed halogedig; neu

(b)

cynllun a sefydlir o dan adrannau 1 i 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) ac a weinyddir gan Ymddiriedolaeth Felindre(2) at y diben o wneud taliadau a rhoi cymorth i unigolion sydd wedi eu heintio â Hepatitis C, HIV neu’r ddau, drwy waed halogedig neu gynhyrchion gwaed halogedig a ddefnyddir gan y GIG, neu mewn cysylltiad â hynny;;

(ii)ystyr “Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain” yw’r cwmni sy’n dwyn yr enw “the London Emergencies Trust” (rhif 09928465) a ymgorfforwyd ar 23 Rhagfyr 2015 a’r elusen gofrestredig sy’n dwyn yr enw hwnnw (rhif 1172307) a sefydlwyd ar 28 Mawrth 2017;;

(iii)ystyr “aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith” (“member of the work-related activity group”) yw person sydd â galluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith, neu berson a drinnir felly, o dan naill ai—

(a)

Rhan 5 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(3) ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 30 o’r Rheoliadau hynny; neu

(b)

Rhan 4 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013(4) ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 26 o’r Rheoliadau hynny;;

(iv)ystyr “Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban” yw’r cynllun sy’n dwyn yr enw “the Scottish Infected Blood Support Scheme” a weinyddir gan yr Asiantaeth Gwasanaethau Cyffredin (a gyfansoddwyd gan adran 10 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr Alban) 1978(5);;

(v)ystyr “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” yw’r elusen gofrestredig sy’n dwyn yr enw “the We Love Manchester Emergency Fund” (rhif 1173260) a sefydlwyd ar 30 Mai 2017;;

(b)yn lle’r diffiniad o “cartref gofal” (“care home”) rhodder—

mewn perthynas â “cartref gofal” (“care home”)—

(a)

yn Lloegr mae iddo’r ystyr a roddir i “care home” gan adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(6);

(b)

ei ystyr yng Nghymru yw man lle y darperir gwasanaeth cartref gofal, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(7), i oedolion yn gyfan gwbl neu’n bennaf;

(c)

yn yr Alban mae iddo’r ystyr a roddir i “care home service” gan baragraff 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010(8); a

(d)

yng Ngogledd Iwerddon mae iddo’r ystyr a roddir i “nursing home” gan erthygl 11 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003(9) neu’r ystyr a roddir i “residential care home” gan erthygl 10 o’r Gorchymyn hwnnw;;

(c)yn lle’r diffiniad o “lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd” (“main phase employment and support allowance”) rhodder—

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd” (“main phase employment and support allowance”), ac eithrio yn Rhan 1 o Atodlen 7, yw lwfans cyflogaeth a chymorth pan fo—

(a)cyfrifo’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r ceisydd yn cynnwys elfen o dan adran 2(1)(b) neu 4(2)(b) o Ddeddf Diwygio Lles 2007; neu

(b)y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith;;

(d)yn y diffiniad o “person cymwys” (“qualifying person”), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder, “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”.

(2)

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth GIG Felindre o dan erthygl 2 o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 (O.S. 1993/2838, diwygiwyd gan O.S. 1999/826).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources