Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

4.  Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—

(a)ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—

(i)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£12.70” rhodder “£13.10”;

(ii)yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£4.20” rhodder “£4.35”;

(iii)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£200.00” rhodder “£205.00”;

(iv)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£200.00”, “£346.00” ac “£8.40” rhodder “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” yn y drefn honno;

(v)yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£346.00”, “£430.00” a “£10.60” rhodder “£355.00”, “£440.00” a “£10.95” yn y drefn honno;

(vi)yn is-baragraff (8)(a) ar ôl “lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm” mewnosoder “a phan na fo’r annibynnydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;

(vii)yn lle is-baragraff (9) rhodder—

(9) Wrth gymhwyso is-baragraff (2) mae’r canlynol i’w diystyru o incwm wythnosol gros yr annibynnydd—

(a)unrhyw lwfans gweini, lwfans byw i’r anabl, taliad annibyniaeth bersonol, neu TALlA a dderbynnir gan yr annibynnydd;

(b)unrhyw daliad a wneir o dan ymddiriedolaeth, neu gan ymddiriedolaeth, a sefydlir at ddiben rhoi cymorth a chynhorthwy i bersonau anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd cymysgedd a oedd yn cynnwys y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, ac a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.;

(b)ym mharagraff 10(1) (ystyr “incwm”: pensiynwyr)—

(i)yn lle paragraff (j)(xiii) rhodder—

(xiii)taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014(1);;

(ii)yn lle paragraff (m) rhodder—

(m)pensiwn a delir gan lywodraeth i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol;;

(c)ym mharagraff 11 (cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr)—

(i)yn is-baragraff (3A)—

(aa)ym mharagraff (a) yn lle “ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio” rhodder “ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd”;

(bb)yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—

(b)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd; neu

(c)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o gyflogaeth yn newid, y diwrnod y mae enillion y ceisydd yn newid, er mwyn ei gwneud yn ofynnol ailgyfrifo o dan y paragraff hwn, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd.;

(ii)yn is-baragraff (4A)—

(aa)ym mharagraff (a) yn lle “ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio” rhodder “ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd”;”;

(bb)yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—

(b)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd; neu

(c)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o gyflogaeth yn newid, y diwrnod y mae enillion y ceisydd o gyflogaeth yn newid a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd.;

(d)ym mharagraff 19 (trin costau gofal plant: pensiynwyr)—

(i)yn lle is-baragraff (8)(l) rhodder—

(1) gan berson sydd wedi ei gyflogi, neu sy’n gweithredu o dan gontract ar gyfer gwasanaethau, i ddarparu gofal a chymorth gan y darparwr gwasanaeth cymorth cartref, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;;

(ii)yn is-baragraff (11)(c) ar ôl “galluedd cyfyngedig yr aelod arall ar gyfer gwaith” y tro cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder “neu oherwydd y byddai’r aelod arall o’r cwpl yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources