- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
61.—(1) Mae grant myfyriwr anabl yn grant sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys ag anabledd i gynorthwyo gyda gwariant ychwanegol mewn cysylltiad â chostau byw y mae’n ofynnol i’r myfyriwr fynd iddynt mewn cysylltiad â’r cwrs presennol oherwydd anabledd y myfyriwr.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae “anabledd” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 61 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
62.—(1) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant myfyriwr anabl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol—
(a)os oes gan y myfyriwr anabledd, a
(b)os nad yw’r myfyriwr yn dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r eithriadau ym mharagraff (2).
(2) Yr eithriadau yw—
Eithriad 1
Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—
(a)bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a
(b)bod y myfyriwr cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.
[F1Eithriad 2
Yr unig baragraff neu baragraffau o Atodlen 2 y mae’r myfyriwr cymwys yn dod o’i fewn neu o’u mewn yw un neu ragor o baragraffau 1(3), 6(1), 6A(1), 6C neu 6D.]
Eithriad 3
Mae’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser ac mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—
(a)bwrsari gofal iechyd, neu
(b)lwfans gofal iechyd yr Alban,
a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).
Eithriad 4
Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs mynediad graddedig carlam, ac eithrio blwyddyn gyntaf y cwrs.
Eithriad 5
[F2Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—
(a) na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu
(b) na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.]
Eithriad 6
Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae rheoliad 44(2) yn gymwys iddi).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 62(2) wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 123
F2Geiriau yn rhl. 62 wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/708), rhl. 9
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 62 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
63.—(1) Swm y grant myfyriwr anabl y mae myfyriwr yn cymhwyso i’w gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm—
(a)y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol, ond
(b)nad yw’n fwy na swm cyfanredol y terfynau sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r Achosion a restrir ym mharagraff (2).
[F3(2) Yr Achosion a’r terfynau yw—
Achos 1
Gwariant sy’n ofynnol ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn Achos 2).
Terfyn o £31,831 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs.
Achos 2
Gwariant ychwanegol yr eir iddo—
(a)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol mewn sefydliad, a
(b)o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs presennol, am unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis).
Wedi ei gyfyngu i’r gwariant gwirioneddol yr eir iddo at y diben hwn.]
Diwygiadau Testunol
F3Rhl. 63(2) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 9
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 63 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys