- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
15 Chwefror 2018
Yn dod i rym
2 Ebrill 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 80(1)(b) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 187(2)(n) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Ebrill 2018.
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2016” (“the 2016 Regulations”) yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016(2).
3. Yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau 2016, mewnosoder y canlynol yn y lle priodol—
“mae i “gwasanaeth cymorth cartref” (“domiciliary support service”) yr un ystyr ag a roddir yn adran 2(1)(h) o’r Ddeddf a pharagraff 8 o Atodlen 1 iddi, yn ddarostyngedig i reoliad 3(1) o Reoliadau 2017;”;
“ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017(3);”.
4. Mae rheoliad 3 (pennu gweithwyr gofal cymdeithasol) o Reoliadau 2016 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a)ar ddiwedd paragraff (2)(c), yn lle “.” rhodder “;”; a
(b)ar ôl paragraff (2)(c) mewnosoder—
“(d)sydd—
(i)wedi eu cyflogi (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr), neu
(ii)wedi eu cymryd ymlaen o dan gontract am wasanaethau,
gan ddarparwr gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, mae i’r termau “cyflogai”, “cyflogaeth”(4) a “gweithiwr” yr un ystyron ag “employee”, “employment” a “worker” yn adran 230(1), (5) a (3) yn y drefn honno o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(5).”
Huw Irranca-Davies
Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Chwefror 2018
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016.
Mae adran 80(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i Ofal Cymdeithasol Cymru gadw cofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad a bennir gan Weinidogion Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu disgrifiad ychwanegol o weithwyr gofal cymdeithasol y mae rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru gadw cofrestr mewn cysylltiad â hwy, sef y rheini sydd wedi eu cyflogi neu wedi eu cymryd ymlaen gan wasanaeth cymorth cartref rheoleiddiedig i ddarparu gofal a chymorth i bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraff 8 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Mae adran 230(5) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 hefyd yn diffinio’r term “employed” drwy gyfeirio at ystyr “employment”.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys