Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007

14.—(1Mae Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn y diffiniad sy’n dechrau gyda “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41””—

(aa)yn lle “, “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”)” rhodder “a Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375”)”;

(bb)hepgorer “a “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”)”;

(ii)yn y diffiniad o “mewnforyn trydedd wlad”, yn lle “y mae tâl yn daladwy mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 54 o Reoliadau Cynhyrchion sy’n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007” rhodder “y mae Rhan 3 o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(2) yn gymwys mewn cysylltiad ag ef”;

(b)ym mharagraff (2)(a), hepgorer “neu 7”.

(3Yn yr Atodlen—

(a)yn y diffiniad o “Rheoliad 853/2004”, yn lle “, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005” rhodder “a Rheoliad 2074/2005”;

(b)yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 854/2004” rhodder—

ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i’w bwyta gan bobl(3) fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2015/1375;;

(c)yn y diffiniad o “Rheoliad 882/2004”, hepgorer “a Rheoliad 2076/2005”;

(d)yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 2074/2005” rhodder—

ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy’n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n rhanddiddymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(4).;

(e)yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 2075/2005” rhodder—

ystyr “Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig(5).;

(f)hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 2076/2005”.

(1)

O.S. 2007/3462 (Cy. 307), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 206, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2015/2285 (OJ Rhif L 323, 9.12.2015, t. 2).

(4)

OJ Rhif 338, 22.12.2005, t. 27, fel y’i cywirwyd gan y Corigendwm a nodir yn OJ Rhif L 214, 9.8.2013, t. 11 ac fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/1973 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion pysgodfeydd a ddaliwyd gan gychod sy’n cyhwfan baner Aelod Wladwriaeth ac a gyflwynir i’r Undeb wedi iddynt gael eu trosglwyddo mewn trydydd gwledydd ac yn sefydlu tystysgrif iechyd enghreifftiol ar gyfer y cynhyrchion hynny (OJ Rhif L 281, 31.10.2017, t. 21).

(5)

OJ Rhif L 212, 11.8.2015, t. 7.